Exodus
39 Allan o’r edau las, y gwlân porffor, a’r defnydd ysgarlad, gwnaethon nhw weu dillad hardd ar gyfer gwasanaethu yn y lle sanctaidd. Gwnaethon nhw’r dillad sanctaidd ar gyfer Aaron, yn union fel roedd Jehofa wedi gorchymyn i Moses.
2 Fe wnaeth yr effod allan o aur, edau las, gwlân porffor, defnydd ysgarlad, a lliain main. 3 Gwnaethon nhw guro platiau o aur i’w gwneud nhw’n denau, eu torri’n stribedi main, a’u gwnïo i mewn gyda’r edau las, y gwlân porffor, y defnydd ysgarlad, a’r lliain main, a chafodd yr effod ei frodio. 4 Gwnaethon nhw greu ysgwyddau’r effod ac fe gafodd y darnau o ddefnydd eu cysylltu â’i gilydd ar yr ysgwyddau. 5 Ac fe gafodd belt* yr effod, a oedd wedi cael ei weu a’i wnïo i’r effod er mwyn ei glymu’n dynn yn ei le, ei wneud allan o’r un defnydd, o aur, edau las, gwlân porffor, defnydd ysgarlad, a lliain main, yn union fel roedd Jehofa wedi gorchymyn i Moses.
6 Yna gwnaethon nhw osod y gemau onics mewn aur, a cherfio enwau meibion Israel arnyn nhw, yn yr un ffordd ag y byddai rhywun yn cerfio sêl. 7 Rhoddodd y gemau ar ysgwyddau’r effod fel gemau coffa ar gyfer meibion Israel, yn union fel roedd Jehofa wedi gorchymyn i Moses. 8 Yna cafodd y darn o wisg sy’n mynd dros frest yr archoffeiriad ei frodio, fel yr effod, allan o aur, edau las, gwlân porffor, defnydd ysgarlad, a lliain main. 9 Ar ôl iddo gael ei ddyblu, roedd y darn o wisg yn sgwâr, yn rhychwant* o hyd a rhychwant o led. 10 Gwnaethon nhw osod gemau ynddo, mewn pedair rhes. Roedd y rhes gyntaf yn cynnwys rhuddem, topas, ac emrallt. 11 Roedd yr ail res yn cynnwys glasfaen, saffir, ac iasbis. 12 Roedd y drydedd res yn cynnwys yr em leshem,* agat, ac amethyst. 13 Ac roedd y bedwaredd res yn cynnwys beryl, onics, a jâd. Cawson nhw eu gosod mewn aur. 14 Roedd y gemau yn cyfateb i enwau 12 mab Israel, a chafodd yr enwau eu cerfio fel sêl, pob enw yn cynrychioli un o’r 12 llwyth.
15 Yna gwnaethon nhw greu cadwyni wedi eu plethu fel rhaffau i fynd ar y darn o wisg sy’n mynd dros frest yr archoffeiriad, fel rhaffau* wedi eu gwneud allan o aur pur. 16 A gwnaethon nhw greu dau osodiad allan o aur a dwy fodrwy aur a gosod y ddwy fodrwy ar ddwy gornel y darn o wisg. 17 Nesaf rhoddon nhw’r ddau gortyn aur drwy’r modrwyau hynny ar gorneli’r darn o wisg. 18 Yna rhoddon nhw ben arall y ddau gortyn drwy’r gosodiadau ar ysgwyddau’r effod, ar y tu blaen. 19 Nesaf gwnaethon nhw ddwy fodrwy aur a’u gosod nhw ar gorneli’r darn o wisg, ar yr ochr fewnol sy’n wynebu’r effod. 20 Yna gwnaethon nhw ddwy fodrwy arall o aur a’u rhoi nhw ar flaen yr effod, o dan y ddwy ysgwydd, yn agos at le maen nhw’n cysylltu, uwchben belt* yr effod sydd wedi cael ei weu. 21 Yn olaf, gwnaethon nhw glymu’r darn o wisg â chortyn glas, gan glymu modrwyau’r darn o wisg i fodrwyau’r effod, er mwyn ei gadw yn ei le ar yr effod, uwchben y belt* sydd wedi ei weu, yn union fel roedd Jehofa wedi gorchymyn i Moses.
22 Yna fe wnaeth greu’r gôt heb lewys sy’n mynd o dan yr effod, a gafodd ei gweu gan wehydd, allan o edau las yn unig. 23 Roedd ’na dwll yng nghanol y gôt ar gyfer y pen, fel y twll sydd yng nghôt rhyfelwr. Roedd gan y twll ymyl o’i amgylch, er mwyn iddo beidio â chael ei rwygo. 24 Yna o amgylch hem y gôt heb lewys, dyma nhw’n gwneud pomgranadau allan o edau las, gwlân porffor, a defnydd ysgarlad, wedi eu plethu â’i gilydd. 25 A gwnaethon nhw glychau o aur pur a’u rhoi nhw rhwng y pomgranadau o amgylch hem y gôt heb lewys; 26 rhoddon nhw gloch a phomgranad bob yn ail o amgylch hem y gôt heb lewys a oedd yn cael ei defnyddio er mwyn gwasanaethu, yn union fel roedd Jehofa wedi gorchymyn i Moses.
27 A gwnaethon nhw weu mentyll o liain main ar gyfer Aaron a’i feibion, 28 a’r tyrban o liain main, y penwisgoedd addurnol o liain main, y dillad isaf o liain main, 29 a’r sash o liain main, edau las, gwlân porffor, a defnydd ysgarlad wedi eu gweu gyda’i gilydd, yn union fel roedd Jehofa wedi gorchymyn i Moses.
30 Yn olaf, dyma nhw’n gwneud y plât sgleiniog allan o aur pur, yr arwydd sanctaidd o gysegriad i Dduw,* a cherfio arno yn yr un ffordd ag y byddai rhywun yn cerfio sêl: “Mae sancteiddrwydd yn perthyn i Jehofa.” 31 Gwnaethon nhw glymu cortyn arno a oedd wedi ei wneud o edau las er mwyn ei roi ar y tyrban, yn union fel roedd Jehofa wedi gorchymyn i Moses.
32 Felly cafodd holl waith y tabernacl, pabell y cyfarfod, ei gwblhau, a dyma’r Israeliaid yn gwneud popeth roedd Jehofa wedi ei orchymyn i Moses. Fe wnaethon nhw yn union felly.
33 Yna daethon nhw â’r tabernacl at Moses, y babell a’i holl offer: ei fachau, ei fframiau, ei bolion a’i golofnau a’i sylfeini;* 34 ei orchudd o grwyn hyrddod* wedi eu lliwio’n goch, ei orchudd o grwyn morloi, a’r llen ar gyfer y sgrin; 35 arch y Dystiolaeth a’i pholion a’r caead; 36 y bwrdd, ei holl offer a’r bara sydd wedi ei gyflwyno i Dduw;* 37 y canhwyllbren o aur pur, ei lampau, y rhes o lampau, a’i holl offer a’r olew ar gyfer goleuo; 38 yr allor aur, yr olew eneinio, yr arogldarth persawrus, y sgrin* ar gyfer mynedfa’r babell; 39 yr allor gopr a’i gratin copr, ei pholion a’i holl offer, y basn a’i stand; 40 y llenni sy’n hongian o amgylch y cwrt, ei golofnau a’i sylfeini,* y sgrin* ar gyfer mynedfa’r cwrt, rhaffau’r* babell a phegiau’r babell a’r holl offer ar gyfer gwasanaeth y tabernacl, ar gyfer pabell y cyfarfod; 41 y dillad hardd sydd wedi cael eu gweu ac sydd ar gyfer gwasanaethu yn y cysegr, y dillad sanctaidd ar gyfer Aaron yr offeiriad, a dillad ei feibion ar gyfer gwasanaethu fel offeiriaid.
42 Dyna sut gwnaeth yr Israeliaid yr holl waith, yn ôl popeth roedd Jehofa wedi ei orchymyn i Moses. 43 Pan edrychodd Moses ar eu holl waith, fe welodd eu bod nhw wedi gwneud yn union fel roedd Jehofa wedi gorchymyn; a gwnaeth Moses eu bendithio nhw.