Cân 15 (35)
Ffordd Ragorach Cariad
1. Cymell arnom mae Duw cariad
Ffordd ragorach fyth o fyw.
Caru Duw raid, a chymydog,
A llefaru geiriau gwiw.
Ofer ffydd a holl wybodaeth,
Proffwydoliaeth a phob dawn,
Os byw fyddwn heb wir gariad.
Gweithio heb wneud lles a wnawn.
2. Oriau lawer ’fallai roddwn
Yn y gwaith pregethu’r Gair.
Eto, ymdrech ofer fyddai
Heb gymhellion cariad taer.
Cariad sydd yn gymwynasgar,
Nid yw’n ceisio’r eiddo’i hun;
Nid yw byth yn cenfigennu,
Dilyn wna ffordd Duw, nid dyn.
3. Cariad sydd yn hirymarhous,
Ac â’r gwir yn llawenhau.
Yn dal ati mae i’r eithaf,
Credu, goddef a pharhau.
Ffydd a gobaith a gwir gariad,
Aros mae’r tri hyn yn awr.
Ond rhagorach, dwyfol gariad,
Rhinwedd bythol o fudd mawr.