Hydref
Dydd Mercher, Hydref 1
Mae’r doethineb sy’n dod oddi uchod . . . yn barod i ufuddhau.—Iago 3:17.
A wyt ti’n ei chael hi’n anodd ufuddhau ar adegau? Roedd hi’n anodd i’r Brenin Dafydd, felly gweddïodd ar Dduw: “Gwna fi’n awyddus i fod yn ufudd i ti.” (Salm 51:12) Roedd Dafydd yn caru Jehofa. Ond ar adegau, roedd hi’n dal yn anodd i Dafydd fod yn ufudd, ac rydyn ni’n cael yr un drafferth. Pam? Yn gyntaf, rydyn ni wedi etifeddu’r tueddiad i fod yn anufudd. Yn ail, mae Satan yn ceisio ein perswadio ni i wrthryfela, fel y gwnaeth ef. (2 Cor. 11:3) Yn drydydd, mae agwedd wrthryfelgar y byd o’n cwmpas ni drwy’r amser, “yr ysbryd sydd nawr ar waith ym meibion anufudd-dod.” (Eff. 2:2) Mae’n gofyn am ymdrech i frwydro yn erbyn ein tueddiadau amherffaith ac yn erbyn pwysau’r Diafol a’i fyd. Mae’n rhaid inni weithio’n galed i fod yn ufudd i Jehofa ac i’r rhai y mae Ef wedi rhoi awdurdod iddyn nhw. w23.10 6 ¶1
Dydd Iau, Hydref 2
Rwyt ti wedi cadw’r gwin da hyd y foment hon.—Ioan 2:10.
Beth gallwn ni ei ddysgu o wyrth Iesu’n troi’r dŵr yn win? Mae’n esiampl wych inni o ran dangos gostyngeiddrwydd. Doedd Iesu ddim yn brolio am y wyrth; yn wir, doedd Iesu byth yn brolio am beth roedd yn ei gyflawni. Yn hytrach roedd yn ostyngedig, ac wastad yn rhoi’r clod i’w Dad. (Ioan 5:19, 30; 8:28) Os ydyn ni’n efelychu Iesu ac yn aros yn ostyngedig, fyddwn ni ddim yn brolio am beth rydyn ni’n ei gyflawni. Dylen ni frolio am ein Duw rhyfeddol, nid amdanon ni ein hunain. (Jer. 9:23, 24) Dylen ni roi pob clod iddo ef. Wedi’r cwbl, a allwn ni wneud unrhyw beth da heb help Jehofa? (1 Cor. 1:26-31) Pan fyddwn ni’n ostyngedig, does dim rhaid inni gymryd y clod am bopeth da rydyn ni’n ei wneud i helpu eraill. Mae’n ddigon inni wybod bod Jehofa yn gweld ac yn gwerthfawrogi popeth rydyn ni’n ei wneud. (Cymhara Mathew 6:2-4; Heb. 13:16) Yn sicr, byddwn ni’n plesio Jehofa os ydyn ni’n efelychu Iesu drwy fod yn ostyngedig.—1 Pedr 5:6. w23.04 4 ¶9; 5 ¶11-12
Dydd Gwener, Hydref 3
[Gofalwch] nid yn unig am eich lles eich hunain, ond hefyd am les pobl eraill.—Phil. 2:4.
O dan ysbrydoliaeth, gwnaeth yr Apostol Paul annog Cristnogion i ofalu am les pobl eraill. Sut gallwn ni roi hyn ar waith yn ystod cyfarfodydd? Drwy gofio bod eraill, fel ninnau, eisiau cymryd rhan. Meddylia am hyn. Pan fyddi di’n cael sgwrs gyda dy ffrindiau, a fyddet ti’n siarad gymaint nes eu bod nhw’n methu cael gair i mewn? Na fyddet siŵr! Rwyt ti eisiau iddyn nhw rannu yn y sgwrs. Yn yr un modd, yn ein cyfarfodydd rydyn ni eisiau calonogi ein brodyr a’n chwiorydd, ac un o’r ffyrdd gorau o wneud hynny ydy drwy adael iddyn nhw fynegi eu ffydd. (1 Cor. 10:24) Felly cadwn ein sylwadau yn gryno. Drwy wneud hynny bydd eraill yn cael cyfle i gymryd rhan. Hyd yn oed pan fyddi di’n rhoi sylwad cryno, paid â siarad am ormod o bwyntiau. Petaset ti’n sôn am bopeth sydd yn y paragraff, fydd ’na ddim lle i eraill gael dweud rhywbeth. w23.04 23 ¶11-13
Dydd Sadwrn, Hydref 4
Rydw i’n gwneud pob peth er mwyn y newyddion da, imi eu rhannu ag eraill.—1 Cor. 9:23.
Mae’n rhaid inni gofio pa mor bwysig ydy parhau i helpu eraill, yn enwedig yn ein gweinidogaeth Gristnogol. Mae’n rhaid inni fod yn hyblyg yn ein gweinidogaeth. Rydyn ni’n cyfarfod â phobl sydd â daliadau ac agweddau gwahanol ac sydd yn dod o wahanol gefndiroedd. Roedd yr apostol Paul yn hyblyg, a gallwn ni ddysgu o’i esiampl. Penododd Iesu Paul fel “apostol i’r cenhedloedd.” (Rhuf. 11:13) Yn y rôl honno, pregethodd Paul i Iddewon, Groegiaid, ysgolheigion, y werin bobl, a brenhinoedd. Er mwyn cyffwrdd calonnau gymaint o bobl wahanol, daeth Paul yn “gaethwas i bawb.” (1 Cor. 9:19-22) Gwnaeth ef dalu sylw i ddiwylliant, cefndir, a daliadau ei wrandawyr ac roedd yn hyblyg yn y ffordd roedd yn siarad â nhw. Gallwn ninnau hefyd fod yn effeithiol yn ein gweinidogaeth os byddwn ni’n hyblyg ac yn ceisio meddwl am y ffordd orau medrwn ni helpu pob unigolyn. w23.07 23 ¶11-12
Dydd Sul, Hydref 5
Does dim angen i gaethwas yr Arglwydd gweryla, ond dylai fod yn dyner tuag at bawb.—2 Tim. 2:24.
Cryfder yw addfwynder, nid gwendid. Mae’n cymryd cryfder mewnol i aros yn dawel ein hysbryd wrth wynebu sefyllfa heriol. Mae addfwynder yn un rhan o “ffrwyth yr ysbryd.” (Gal. 5:22, 23) Roedd y gair Groeg sy’n cael ei gyfieithu “addfwynder” yn cael ei ddefnyddio i ddisgrifio ceffyl gwyllt sy’n cael ei dawelu. Ar ôl hynny, mae’n dawel ond yn dal yn gryf. Fel pobl amherffaith, sut gallwn ni ddatblygu addfwynder ond ar yr un pryd aros yn gryf? Dydyn ni ddim yn gallu gwneud hynny yn ein nerth ein hunain. Mae’n rhaid inni ofyn i Dduw i’n helpu ni i ddatblygu’r rhinwedd hyfryd hon. Mae llawer o Dystion wedi profi ei bod hi’n bosib i ymateb yn addfwyn pan mae gwrthwynebwyr wedi eu herio nhw, ac mae hyn wedi creu argraff dda ar eraill.—2 Tim. 2:24, 25. w23.09 15 ¶3
Dydd Llun, Hydref 6
Rôn i’n gweddïo amdano, ac mae Duw wedi ateb fy ngweddi!—1 Sam. 1:27.
Mewn gweledigaeth syfrdanol, gwelodd yr apostol Ioan 24 henuriad yn y nefoedd yn addoli Jehofa. Roedden nhw’n clodfori Duw, gan ddweud ei fod yn deilwng “i dderbyn y gogoniant a’r anrhydedd a’r grym.” (Dat. 4:10, 11) Mae gan angylion ffyddlon lawer iawn o resymau i roi clod ac anrhydedd i Jehofa. Maen nhw’n byw yn y nef gydag ef ac wedi dod i’w adnabod yn dda. Ac wrth wylio’r pethau mae Jehofa’n eu gwneud, maen nhw’n gweld ei rinweddau ac yn cael eu hysgogi i’w glodfori. (Job 38:4-7) Rydyn ninnau hefyd eisiau rhoi clod i Jehofa yn ein gweddïau, drwy ddweud wrtho beth rydyn ni’n ei garu ac yn ei werthfawrogi amdano. Wrth iti ddarllen ac astudio’r Beibl, ceisia nodi rhinweddau Jehofa sy’n apelio yn arbennig atat ti. (Job 37:23; Rhuf. 11:33) Yna dyweda wrth Jehofa sut rwyt ti’n teimlo am y rhinweddau hynny. Gallwn hefyd roi clod iddo am weithredu ar ein rhan ni ac ar ran ein holl frodyr a chwiorydd.—1 Sam. 2:1, 2. w23.05 3-4 ¶6-7
Dydd Mawrth, Hydref 7
[Cerddwch] yn deilwng o Jehofa —Col. 1:10.
Ym 1919 collodd Babilon Fawr ei gafael ar bobl Dduw. Y flwyddyn honno, dechreuodd y “gwas ffyddlon a chall” weithredu, fel bod rhai diffuant yn gallu dechrau teithio ar hyd “y Ffordd Sanctaidd.” (Math. 24:45-47; Esei. 35:8) Gallai pawb a ddechreuodd ar hyd y ffordd honno fod yn ddiolchgar am waith paratoi’r rhai a aeth o’u blaenau. Oherwydd y gwaith hwnnw roedd hi’n bosib iddyn nhw ddysgu mwy am Jehofa a’i bwrpasau. (Diar. 4:18) Roedd hynny’n golygu eu bod nhw’n gallu byw yn unol â safonau Jehofa. Ond mae Jehofa wedi helpu ei bobl i wneud y newidiadau angenrheidiol dros amser, yn hytrach na disgwyl iddyn nhw wneud popeth ar unwaith. Byddwn ni i gyd mor hapus pan fydd popeth rydyn ni’n ei wneud yn plesio ein Duw! Mae angen gwaith cynnal a chadw rheolaidd ar bob ffordd. Dydy’r “Ffordd Sanctaidd” ddim yn wahanol. Mae’r gwaith arni wedi parhau ers 1919 er mwyn i fwy o bobl allu gadael Babilon Fawr. w23.05 17 ¶15; 19 ¶16
Dydd Mercher, Hydref 8
Ni wna i byth dy adael di.—Heb. 13:5.
Mae’r Corff Llywodraethol yn bersonol wedi hyfforddi helpwyr i wahanol bwyllgorau’r Corff Llywodraethol. Mae’r helpwyr ffyddlon hyn nawr yn ysgwyddo llawer o gyfrifoldebau mawr y gyfundrefn. Maen nhw wedi paratoi’n dda ar gyfer edrych ar ôl defaid Crist. Pan fydd yr un olaf o’r eneiniog yn cael ei gymryd i’r nefoedd tuag at ddiwedd y trychineb mawr, bydd addoliad pur yn parhau i fodoli ar y ddaear. Diolch i arweiniad Iesu Grist, bydd addolwyr Duw ddim yn colli curiad. Yn wir, yn ystod yr amser hwn, bydd Gog o dir Magog, cynghrair ymosodol o genhedloedd, yn ymladd yn erbyn pobl Jehofa. (Esec. 38:18-20) Ond bydd yr ymosodiad byr hwn yn ffaelu’n llwyr, ac ni fydd yn stopio pobl Dduw rhag addoli Jehofa. Bydd yn siŵr o’u hachub nhw! Mewn gweledigaeth, gwelodd yr apostol Ioan “dyrfa fawr” o ddefaid eraill, ac mae’r rhain “yn dod allan o’r trychineb mawr.” (Dat. 7:9, 14) Felly, byddan nhw’n cael eu cadw’n ddiogel! w24.02 5-6 ¶13-14
Dydd Iau, Hydref 9
Peidiwch â diffodd tân yr ysbryd.—1 Thes. 5:19
Beth sy’n rhaid inni ei wneud i dderbyn ysbryd glân? Gallwn ni weddïo amdano, astudio Gair Duw, a chymryd rhan yng ngweithgareddau’r gyfundrefn. Bydd gwneud hynny yn ein helpu ni i feithrin “ffrwyth yr ysbryd.” (Gal. 5:22, 23) Mae Duw ond yn rhoi ei ysbryd i’r rhai sy’n aros yn lân yn y ffordd maen nhw’n meddwl ac ymddwyn. Petasen ni’n parhau i feddwl am bethau aflan, a gweithredu ar y meddyliau hynny byddai Duw yn stopio rhoi ei ysbryd inni. (1 Thes. 4:7, 8) I barhau i dderbyn ysbryd glân, mae’n rhaid inni hefyd osgoi “dirmygu proffwydoliaethau.” (1 Thes. 5:20) Yn yr adnod hon, mae “proffwydoliaethau” yn cyfeirio at negeseuon mae Jehofa’n eu cyflwyno drwy ei ysbryd glân. Mae hynny’n cynnwys rhai sy’n sôn am ddydd Jehofa, a pha mor agos rydyn ni at y diwedd. Rhaid inni beidio â meddwl na fydd Armagedon yn dod yn ein hamser ni. Yn hytrach, drwy aros yn brysur yn gwneud “gweithredoedd o ddefosiwn duwiol” ac aros yn lân, rydyn ni’n dangos ein bod ni’n disgwyl i ddydd Jehofa ddod yn fuan.—2 Pedr 3:11, 12. w23.06 12 ¶13-14
Dydd Gwener, Hydref 10
Ofn yr ARGLWYDD yw dechrau doethineb.—Diar. 9:10, BCND.
Beth dylen ni ei wneud os ydy llun pornograffig yn dod i fyny ar ein dyfais electronig yn annisgwyl? Dylen ni droi oddi wrtho yn syth. Beth all ein helpu ni i wneud hynny? Cofia mai’r peth mwyaf gwerthfawr sydd gynnon ni ydy ein perthynas â Jehofa. Mewn gwirionedd, gall lluniau sydd ddim hyd yn oed yn cael eu hystyried yn bornograffi godi chwantau anfoesol ynon ni. Felly, drwy gadw’n glir o’r rheini hefyd, rydyn ni’n osgoi cymryd y cam cyntaf tuag at anfoesoldeb. (Math. 5:28, 29) Mae henuriad o’r enw David o Wlad Thai yn dweud: “Dw i’n gofyn i fy hun: ‘Hyd yn oed os dydy’r lluniau ddim yn bornograffig, a fydd Jehofa’n hapus os ydw i’n dal ati i edrych arnyn nhw?’ Mae meddwl fel ’na yn fy helpu i fod yn ddoeth.” Bydd ofni brifo Jehofa yn ein helpu ni i fod yn ddoeth. Ofn Duw yw “dechrau doethineb.” w23.06 23 ¶12-13
Dydd Sadwrn, Hydref 11
Ewch, fy mhobl! Ewch i’ch ystafelloedd.—Esei. 26:20.
Gallai’r “ystafelloedd” hyn gyfeirio at ein cynulleidfaoedd. Mae Jehofa yn addo y bydd yn ein hamddiffyn ni yn ystod y trychineb mawr os ydyn ni’n dal ati i wasanaethu’n unedig gyda’n brodyr a’n chwiorydd. Felly mae’n rhaid inni heddiw wneud mwy na goddef ein brodyr a’n chwiorydd. Mae’n rhaid inni eu caru nhw. Efallai dyna fydd y gwahaniaeth rhwng byw a marw. Bydd “dydd mawr” Jehofa yn amser anodd i bawb ar y ddaear. (Seff. 1:14, 15) Bydd pobl Jehofa hefyd yn dioddef. Ond os ydyn ni’n paratoi nawr, byddwn ni’n gallu cadw ein pennau a helpu eraill. Bydd dyfalbarhad yn ein helpu ni i ddod dros unrhyw broblem. Pan fydd ein brodyr a’n chwiorydd yn dioddef, byddwn ni’n gwneud ein gorau i ddangos tosturi a’u helpu nhw. Ac os ydyn ni’n dysgu i garu ein brodyr a’n chwiorydd nawr, byddwn ni’n siŵr o ddangos cariad atyn nhw yn y dyfodol. Yna byddwn ni’n derbyn y rhodd gan Jehofa o fyw am byth mewn byd heb unrhyw drychinebau, a bydd pob problem yn y gorffennol.—Esei. 65:17. w23.07 7 ¶16-17
Dydd Sul, Hydref 12
Bydd [Jehofa] yn eich gwneud chi’n gryf, bydd ef yn eich gosod chi ar sylfaen gadarn.—1 Pedr 5:10.
Mae Gair Duw yn aml yn disgrifio dynion ffyddlon fel rhai pwerus. Ond roedd hyd yn oed y rhai cryf yn eu plith ddim yn wastad yn teimlo’n gryf. Er enghraifft, weithiau roedd y Brenin Dafydd yn teimlo ei fod yn “gadarn fel y graig,” ond ar adegau eraill, roedd yn ‘ofni am ei fywyd.’ (Salm 30:7) Er bod Samson yn bwerus tu hwnt pan oedd yn cael ei symud gan ysbryd Duw, roedd yn sylweddoli heb help Duw, fe fyddai “mor wan ag unrhyw ddyn arall.” (Barn. 14:5, 6; 16:17) Mae’r dynion ffyddlon hyn ond yn gryf achos bod Jehofa wedi rhoi pŵer iddyn nhw. Roedd yr apostol Paul angen pŵer oddi wrth Jehofa. (2 Cor. 12:9, 10) Roedd gan Paul broblemau iechyd. (Gal. 4:13, 14) Weithiau, roedd yn stryglo i wneud y peth cywir. (Rhuf. 7:18, 19) Hefyd, roedd yn becso a ddim yn siŵr beth i’w wneud. (2 Cor. 1:8, 9) Er hynny, pan oedd Paul yn wan, fe ddaeth yn bwerus. Sut? Rhoddodd Jehofa’r pŵer roedd Paul ei angen er mwyn wynebu ei dreialon. w23.10 12 ¶1-2
Dydd Llun, Hydref 13
Mae’r ARGLWYDD yn edrych ar sut berson ydy rhywun go iawn. —1 Sam. 16:7.
Os wyt ti’n teimlo’n ddi-werth weithiau, cofia fod Jehofa wedi dy ddenu di ato. (Ioan 6:44) Mae Duw yn gweld ein rhinweddau da ac yn ein hadnabod yn well nag ydyn ni’n ein hadnabod ein hunain. (2 Cron. 6:30) Felly, gallwn ni drystio Jehofa pan mae’n dweud ein bod ni’n werthfawr iddo. (1 Ioan 3:19, 20) Efallai rwyt ti’n dal yn teimlo’n euog am bethau wnest ti cyn dysgu’r gwir. (1 Pedr 4:3) A wyt ti weithiau’n teimlo fydd Jehofa byth yn maddau iti? Os felly, dwyt ti ddim ar dy ben dy hun. Ers adeg y Beibl hyd heddiw, mae llawer o weision ffyddlon Jehofa wedi brwydro yn erbyn eu gwendidau a theimladau o euogrwydd. Er enghraifft, roedd yr apostol Paul yn teimlo’n ofnadwy wrth feddwl am ei amherffeithion. (Rhuf. 7:24) Er bod Paul wedi edifarhau a chael ei fedyddio, roedd yn dal yn cyfeirio ato’i hun fel y “lleiaf o’r apostolion” a’r ‘pechadur gwaethaf.’—1 Cor. 15:9; 1 Tim. 1:15. w24.03 27 ¶5-6
Dydd Mawrth, Hydref 14
Dyma fe’n gwrando ar eu cyngor nhw, [ac yn] troi cefn ar deml yr ARGLWYDD.—2 Cron. 24:17, 18.
Un wers rydyn ni’n ei dysgu oddi wrth y Brenin Jehoas yw bod angen inni ddewis ffrindiau sy’n caru Jehofa ac sydd eisiau ei wneud yn hapus. Bydd ffrindiau fel hyn yn ein helpu ni i wneud penderfyniadau da. Mae’n bosib inni fod yn ffrindiau â phobl ifanc a phobl mewn oed. Cofia roedd Jehoas yn llawer iau na’i ffrind Jehoiada. Gofynna iti dy hun: ‘A ydy fy ffrindiau yn fy helpu i gryfhau fy ffydd yn Jehofa? A ydyn nhw’n fy annog i fyw yn unol â safonau Duw? A ydyn nhw’n siarad am Jehofa a’i wirioneddau? A ydyn nhw’n parchu safonau Duw? A ydyn nhw’n dweud wrtho i bethau dw i eisiau eu clywed yn unig, neu a ydyn nhw’n fy nghywiro i pan fydd angen?’ (Diar. 27:5, 6, 17) Yn wir, os nad ydy dy ffrindiau’n caru Jehofa, pam byddet ti eisiau bod yn ffrindiau gyda nhw? Ond os ydy dy ffrindiau’n caru Jehofa, cadwa nhw fel ffrindiau oherwydd byddan nhw’n dy helpu di.—Diar. 13:20. w23.09 9 ¶6-7
Dydd Mercher, Hydref 15
Fi ydy’r Alffa a’r Omega.—Dat. 1:8.
Alffa ydy llythyren gyntaf yr wyddor Roeg, ac omega ydy’r olaf. Drwy ddisgrifio ei hun fel yr “Alffa a’r Omega,” mae Jehofa yn dweud pan mae’n dechrau rhywbeth, bydd bob amser yn ei orffen. Dywedodd Jehofa wrth Adda ac Efa: “Dw i eisiau i chi gael plant, fel bod mwy a mwy ohonoch chi. Llanwch y ddaear a defnyddiwch ei photensial hi.” (Gen. 1:28) Pan siaradodd Jehofa am ei bwrpas am y tro cyntaf, roedd fel petai yn dweud “Alffa.” Bydd yr amser yn dod pan fydd disgynyddion perffaith a ffyddlon Adda ac Efa yn llenwi’r ddaear ac yn ei gwneud yn baradwys. Ar yr adeg honno, bydd fel petai Jehofa yn dweud “Omega.” Ar ôl gorffen y gwaith o “greu y bydysawd a phopeth sydd ynddo,” dywedodd Jehofa rywbeth i’n sicrhau y byddai ei bwrpas yn siŵr o ddod yn wir. Gwnaeth Jehofa addo y byddai’n cyflawni ei bwrpas ar gyfer dynolryw a’r ddaear ar ddiwedd y seithfed diwrnod.—Gen. 2:1-3. w23.11 5 ¶13-14
Dydd Iau, Hydref 16
Cliriwch y ffordd i’r ARGLWYDD yn yr anialwch; gwnewch briffordd syth i Dduw drwy’r diffeithwch!—Esei. 40:3.
Roedd y daith o Fabilon i Israel yn un anodd oedd yn gallu cymryd tua phedwar mis. Ond gwnaeth Jehofa addo byddai unrhyw beth a oedd yn ymddangos fel rhwystr yn cael ei glirio o’r ffordd. Er byddai’n rhaid i’r Iddewon aberthu llawer er mwyn mynd yn ôl, i’r rhai ffyddlon, roedd y bendithion yn werth yr aberth. Un o’r bendithion mwyaf fyddai cael adfer addoliad pur. Doedd dim un deml i Jehofa ym Mabilon. Doedd dim allor lle roedd Iddewon yn gallu cynnig aberthau yn ôl Cyfraith Moses, a doedd dim offeiriaid i offrymu’r aberthau hynny. Ar ben hynny, roedd ’na lawer iawn mwy o baganiaid ym Mabilon nag o bobl Jehofa. Felly roedd rhaid i’r Iddewon fyw yng nghanol y bobl hyn oedd heb unrhyw barch at Jehofa na’i safonau. Felly, roedd miloedd o Iddewon oedd yn parchu Duw yn edrych ymlaen at fynd yn ôl i’w mamwlad ac i addoli Jehofa yn y ffordd iawn. w23.05 14-15 ¶3-4
Dydd Gwener, Hydref 17
Parhewch i gerdded fel plant goleuni.—Eff. 5:8.
Er mwyn ymddwyn “fel plant goleuni,” rydyn ni angen help ysbryd glân Duw. Pam? Oherwydd mae’n her i aros yn lân yn y byd anfoesol hwn. (1 Thes. 4:3-5, 7, 8) Gall yr ysbryd glân ein helpu ni i frwydro yn erbyn meddylfryd y byd, gan gynnwys ei athroniaethau a’i safbwyntiau eraill sy’n groes i ffordd Jehofa o feddwl. Gall yr ysbryd glân hefyd ein helpu ni i feithrin “pob math o ddaioni a chyfiawnder a gwirionedd.” (Eff. 5:9) Dywedodd Iesu y byddai Jehofa’n “rhoi’r ysbryd glân i’r rhai sy’n gofyn iddo.” (Luc 11:13) Felly un ffordd o dderbyn yr ysbryd glân yw drwy weddïo. Hefyd, gallwn ni ei dderbyn drwy foli Jehofa yn ein cyfarfodydd Cristnogol. (Eff. 5:19, 20) Bydd dylanwad da’r ysbryd glân yn ein helpu ni i fyw mewn ffordd sy’n plesio Jehofa. w24.03 23-24 ¶13-15
Dydd Sadwrn, Hydref 18
Daliwch ati i ofyn, a bydd yn cael ei roi ichi; daliwch ati i geisio, a byddwch chi’n darganfod; daliwch ati i gnocio, a bydd y drws yn cael ei agor ichi.—Luc 11:9.
Oes angen mwy o amynedd arnat ti? Os felly, gweddïa amdano. Mae amynedd yn rhan o ffrwyth yr ysbryd. (Gal. 5:22, 23) Felly gallwn ni weddïo am ysbryd glân a gofyn i Jehofa am help i feithrin ei ffrwyth. Os ydyn ni’n wynebu sefyllfa sy’n profi ein hamynedd, rydyn ni’n ‘dal ati i ofyn’ am yr ysbryd glân i’n helpu ni i fod yn amyneddgar. (Luc 11:13) Gallwn ni hefyd ofyn am help Jehofa i weld y sefyllfa o’i safbwynt ef. Ac ar ôl gweddïo, mae’n rhaid inni wneud ein gorau i fod yn amyneddgar bob dydd. Os ydyn ni’n dal ati i weddïo am amynedd a gwneud ein gorau i’w ddatblygu, bydd Jehofa yn ein helpu ni i feithrin y rhinwedd hon hyd yn oed os nad oedden ni’n berson amyneddgar o’r blaen. Mae meddwl yn ddwfn am esiamplau o’r Beibl hefyd yn helpu. Mae ’na lawer o esiamplau yn y Beibl o bobl a oedd yn dangos amynedd. Drwy feddwl am yr hanesion hyn, gallwn ni ddysgu sut i fod yn amyneddgar. w23.08 22-23 ¶10-11
Dydd Sul, Hydref 19
Gollyngwch eich rhwydi er mwyn dal pysgod.—Luc 5:4.
Fe wnaeth Iesu atgoffa’r apostol Pedr bod Jehofa yn ei gefnogi. Unwaith eto fe wnaeth Iesu achosi i Pedr a’r apostolion ddal llawer o bysgod. (Ioan 21:4-6) Mae’n rhaid bod y wyrth hon wedi atgoffa Pedr y byddai Jehofa yn gallu darparu ar gyfer ei anghenion materol. Efallai roedd Pedr yn cofio Iesu yn dweud y byddai Jehofa yn gofalu am y rhai oedd yn ‘ceisio yn gyntaf y Deyrnas.’ (Math. 6:33) Ac felly gwnaeth Pedr roi ei weinidogaeth yn gyntaf yn hytrach na’i fusnes pysgota. Ar ddiwrnod Pentecost 33 OG, pregethodd yn llawn hyder, gan helpu miloedd i dderbyn y newyddion da. (Act. 2:14, 37-41) Yna fe wnaeth helpu’r Samariaid a phobl y Cenhedloedd i ddysgu am Iesu Grist a’i ddilyn. (Act. 8:14-17; 10:44-48) Yn bendant, roedd Jehofa yn defnyddio Pedr mewn ffordd ryfeddol i ddod â phobl o bob math i mewn i’r gynulleidfa. w23.09 20 ¶1; 23 ¶11
Dydd Llun, Hydref 20
Rhaid i chi ddweud beth oedd y freuddwyd a beth mae’n ei olygu. Os na wnewch chi bydd eich cyrff chi’n cael eu rhwygo’n ddarnau.—Dan 2:5.
Tua dwy flynedd ar ôl i’r Babiloniaid ddinistrio Jerwsalem, cafodd y Brenin Nebwchadnesar o Fabilon freuddwyd arswydus am ddelw fawr. Roedd yn bygwth lladd ei ddynion doeth i gyd, gan gynnwys Daniel, os nad oedden nhw’n gallu dehongli’r freuddwyd iddo. (Dan. 2:3-5) Roedd yn rhaid i Daniel weithredu’n gyflym neu byddai llawer o bobl yn colli eu bywydau. Aeth Daniel a “gofyn i’r brenin roi ychydig amser iddo, a byddai’n esbonio iddo beth oedd ystyr y freuddwyd.” (Dan. 2:16) Roedd hynny’n cymryd dewrder a ffydd. Does dim cofnod o Daniel yn dehongli breuddwydion cyn hynny. Gofynnodd i’w ffrindiau “weddïo y byddai Duw y nefoedd yn drugarog, ac yn dweud wrthyn nhw beth oedd ystyr ddirgel y freuddwyd.” (Dan. 2:18) Atebodd Jehofa eu gweddïau. Gyda help Duw, llwyddodd Daniel i ddehongli breuddwyd Nebwchadnesar. Cafodd bywydau Daniel a’i ffrindiau eu harbed. w23.08 3 ¶4
Dydd Mawrth, Hydref 21
Bydd yr un sydd wedi dyfalbarhau hyd y diwedd yn cael ei achub. —Math. 24:13.
Ystyria’r buddion o fod yn amyneddgar. Rydyn ni’n hapusach ac yn dawelach ein meddwl pan ydyn ni’n amyneddgar. Felly, gall amynedd wella ein hiechyd corfforol ac emosiynol. Bydd ein perthynas ag eraill yn gwella pan fyddwn ni’n amyneddgar â nhw. Bydd ein cynulleidfa yn dod yn fwy unedig. Os bydd rhywun yn ein pryfocio, bydd bod yn araf i ddigio yn atal y sefyllfa rhag mynd yn waeth. (Salm 37:8; Diar. 14:29) Ond yn bennaf oll, rydyn ni’n efelychu ein Tad nefol ac yn nesáu ato yn fwy byth. Mae amynedd yn wir yn rhinwedd sydd yn fuddiol i bob un ohonon ni! Er nad ydy hi’n wastad yn hawdd i fod yn amyneddgar, gyda help Jehofa, gallwn ni barhau i feithrin y rhinwedd hon. Ac wrth inni ddisgwyl yn amyneddgar am y byd newydd, gallwn ni fod yn sicr bydd Jehofa yn edrych ar ôl y rhai sy’n ei ofni, a’r “rhai sy’n disgwyl wrth ei ffyddlondeb.” (Salm 33:18, BCND) Gad inni i gyd fod yn benderfynol o barhau i wisgo amynedd. w23.08 22 ¶7; 25 ¶16-17
Dydd Mercher, Hydref 22
Mae ffydd ar ei phen ei hun, heb weithredoedd, yn farw.—Iago 2:17.
Dywedodd Iago, er bod dyn yn gallu dweud bod ganddo ffydd, a oedd ei weithredoedd yn profi hynny? (Iago 2:1-5, 9) Soniodd Iago hefyd am rywun a oedd yn gweld brawd neu chwaer heb lawer o ddillad neu fwyd ond gwnaeth ddim byd i’w helpu nhw. Hyd yn oed petasai’r person hwnnw’n dweud bod ganddo ffydd, ni fyddai ei weithredoedd yn cefnogi hynny, felly, byddai ei ffydd yn ddiwerth. (Iago 2:14-17) Cyfeiriodd Iago at Rahab fel esiampl dda o roi ffydd ar waith. (Iago 2:25, 26) Roedd Rahab wedi clywed am Jehofa ac wedi cydnabod ei fod yn cefnogi’r Israeliaid. (Jos. 2:9-11) Dangosodd Rahab ei ffydd drwy ei gweithredoedd—gwnaeth hi amddiffyn dau ysbïwr o Israel pan oedd eu bywydau mewn peryg. O ganlyniad, er nad oedd hi’n Iddewes, cafodd y wraig amherffaith hon ei galw’n gyfiawn, yn union fel Abraham. Mae ei hesiampl yn pwysleisio’r pwysigrwydd o gael gweithredoedd i gefnogi ein ffydd. w23.12 5 ¶12-13
Dydd Iau, Hydref 23
[Boed] ichi gael eich gwreiddio a’ch sefydlu ar y sylfaen gadarn.—Eff. 3:17.
Fel Cristnogion, rydyn ni eisiau mwy na dealltwriaeth sylfaenol o’r Beibl yn unig. Gyda help ysbryd glân Duw, rydyn ni’n awyddus i ddysgu “hyd yn oed pethau dwfn Duw.” (1 Cor. 2:9, 10) Beth am ddechrau prosiect astudio fydd yn dy helpu di i agosáu at Jehofa? Er enghraifft, gelli di ddysgu am sut dangosodd Jehofa ei gariad tuag at ei weision yn y gorffennol, a sut mae hynny’n profi ei fod yn dy garu di hefyd. Gelli di gymharu’r ffordd roedd Jehofa eisiau i’r Israeliaid addoli â’r drefn Gristnogol heddiw. Neu efallai gelli di astudio manylion y proffwydoliaethau gwnaeth Iesu eu cyflawni yn ystod ei fywyd ar y ddaear a’i weinidogaeth. Gelli di fwynhau astudio pynciau o’r fath gan ddefnyddio’r Watch Tower Publications Index neu Llawlyfr Cyhoeddiadau Tystion Jehofa. Gall cloddio’n ddyfnach i’r Beibl gryfhau dy ffydd a dy helpu di i ‘ddod i wybod am Dduw.’—Diar. 2:4, 5. w23.10 18-19 ¶3-5
Dydd Gwener, Hydref 24
Uwchlaw popeth, dangoswch gariad dwfn tuag at eich gilydd, oherwydd mae cariad yn gorchuddio nifer mawr o bechodau.—1 Pedr 4:8.
Yma, mae’r gair “dwfn” yn llythrennol yn golygu “wedi ei estyn allan.” Mae ail ran yr adnod yn disgrifio’r effaith gall cariad dwfn ei chael. Mae’n gorchuddio pechodau ein brodyr. Dychmyga fod gen ti fwrdd sy’n llawn marciau ac amherffeithion. Gelli di gymryd lliain a’i estyn dros y bwrdd i orchuddio’r marciau i gyd. Mewn ffordd debyg, os ydyn ni’n teimlo cariad dwfn tuag at ein brodyr a’n chwiorydd, mae fel ein bod ni’n gorchuddio, neu’n maddau, ‘nifer mawr o’u pechodau.’ Dylai ein cariad tuag at ein brodyr a’n chwiorydd fod yn ddigon cryf i allu maddau amherffeithion ein cyd-gredinwyr—hyd yn oed petasai hynny’n hynod o anodd. (Col. 3:13) Pan ydyn ni’n llwyddo i faddau i eraill, rydyn ni’n dangos bod ein cariad ni’n gryf ac ein bod ni eisiau plesio Jehofa. w23.11 11-12 ¶13-15
Dydd Sadwrn, Hydref 25
A dyma [Shaffan yn] darllen ohoni i’r brenin.—2 Cron. 34:18.
Pan oedd y Brenin Joseia yn oedolyn, dechreuodd atgyweirio’r deml. Yn ystod y gwaith, fe wnaethon nhw “ffeindio sgrôl o’r Gyfraith roddodd yr ARGLWYDD i Moses.” Wrth wrando arni’n cael ei darllen, penderfynodd y brenin wneud newidiadau ar unwaith ac ufuddhau i beth roedd hi’n ei ddweud. (2 Cron. 34:14, 19-21.) A fyddet ti’n hoffi darllen y Beibl yn rheolaidd? Os wyt ti’n trio gwneud hynny, sut mae’n mynd? Wyt ti’n cadw cofnod o adnodau sy’n gallu dy helpu di? Pan oedd Joseia tua 39 oed, fe wnaeth gamgymeriad a wnaeth gostio ei fywyd. Yn lle troi at Jehofa am arweiniad, roedd yn ymddiried ynddo ef ei hun. (2 Cron. 35:20-25) Beth ydy’r wers i ni? Ni waeth beth yw ein hoedran neu ba mor hir rydyn ni wedi bod yn astudio’r Beibl, mae’n rhaid inni ddal ati i chwilio am Jehofa. Mae hynny’n cynnwys gweddïo’n rheolaidd am ei arweiniad, astudio ei Air a gwrando ar gyngor Cristnogion aeddfed. Yna byddwn ni’n llai tebygol o wneud camgymeriadau drwg, a byddwn ni’n hapusach.—Iago 1:25. w23.09 12 ¶15-16
Dydd Sul, Hydref 26
Mae Duw yn gwrthwynebu’r rhai ffroenuchel, ond mae’n rhoi caredigrwydd rhyfeddol i’r rhai gostyngedig.—Iago 4:6.
Mae’r Beibl yn sôn am nifer o ferched arbennig a oedd yn caru Jehofa ac yn ei wasanaethu. Roedden nhw yn “ymddwyn mewn ffordd gytbwys” ac “yn ffyddlon ym mhob peth.” (1 Tim. 3:11) Hefyd, gall chwiorydd weld esiamplau o sut i fod yn Gristnogion aeddfed yn eu cynulleidfaoedd eu hunain. Os wyt ti’n chwaer ifanc, ceisia efelychu chwiorydd aeddfed ysbrydol. Sylwa ar eu rhinweddau deniadol; yna, meddylia sut gelli di ddysgu o’u hesiampl. Rhan bwysig o fod yn aeddfed yn ysbrydol yw gostyngeiddrwydd. Os ydy dynes yn ostyngedig, bydd hi’n gallu mwynhau perthynas agos â Jehofa ac eraill. Er enghraifft, bydd dynes sy’n caru Jehofa yn dewis dilyn yr hyn sydd wedi ei ysgrifennu yn 1 Corinthiaid 11:3, lle mae Jehofa yn esbonio pwy sydd gan y cyfrifoldeb o arwain y gynulleidfa ac arwain y teulu. w23.12 18-19 ¶3-5
Dydd Llun, Hydref 27
Dylai gwŷr garu eu gwragedd fel eu cyrff eu hunain.—Eff. 5:28.
Mae Jehofa yn disgwyl i ŵr garu ei wraig a gofalu am ei hanghenion corfforol, emosiynol, ac ysbrydol. Bydd datblygu’r gallu i feddwl, cael parch tuag at ferched, a bod yn ddibynadwy yn dy helpu di i fod yn gymar da. Ar ôl iti briodi, efallai byddi di’n dod yn dad. Beth gelli di ei ddysgu gan Jehofa am fod yn dad da? (Eff. 6:4) Gwnaeth Jehofa ddweud yn hollol agored i Iesu ei fod yn ei garu a’i fod wedi ei blesio. (Math. 3:17) Os wyt ti’n cael plant, cofia i ddweud wrthyn nhw yn aml dy fod ti’n eu caru nhw. Rho ddigon o ganmoliaeth iddyn nhw am y da y maen nhw’n ei wneud. Mae tadau sy’n efelychu Jehofa yn helpu eu plant i ddod yn Gristnogion aeddfed. Gelli di baratoi ar gyfer y cyfrifoldeb hwn drwy ofalu am eraill yn y gynulleidfa ac yn dy deulu a dangos dy werthfawrogiad a dy gariad atyn nhw’n aml.—Ioan 15:9. w23.12 29 ¶17-18
Dydd Mawrth, Hydref 28
[Jehofa] sy’n rhoi sicrwydd . . . bob amser.—Esei. 33:6.
Fel gweision ffyddlon Jehofa, rydyn ni’n wynebu treialon ac afiechydon sy’n gyffredin i bawb. Efallai byddwn ni’n dioddef erledigaeth gan rai sy’n casáu pobl Dduw. Er nad ydy Jehofa yn ein gwarchod ni rhag pob anhawster, mae’n addo ein helpu ni. (Esei. 41:10) Gyda’i help, gallwn ni gadw’n llawen, gwneud penderfyniadau da, a chadw’n ffyddlon iddo yn wyneb unrhyw beth. Mae Jehofa yn addo rhoi inni beth mae’r Beibl yn ei alw’n “heddwch Duw.” (Phil. 4:6, 7) Mae’r heddwch hwn yn cyfeirio at dawelwch meddwl ac emosiynol sy’n dod o berthynas agos â Jehofa. Mae’r heddwch hwn “y tu hwnt i bob deall” ac yn fwy grymus nag y gallwn ni ei ddychmygu. Wyt ti erioed wedi profi heddwch meddwl o’r fath ar ôl gweddïo’n daer ar Jehofa? Dyna ydy “heddwch Duw.” w24.01 20 ¶2; 21 ¶4
Dydd Mercher, Hydref 29
Fy enaid, bendithia’r ARGLWYDD! Y cwbl ohono i, bendithia’i enw sanctaidd!—Salm 103:1.
Mae cariad tuag at Dduw yn ysgogi pobl ffyddlon i foli ei enw gyda chalon lawn. Roedd y Brenin Dafydd yn deall bod moli enw Jehofa yn golygu moli Jehofa ei hun. Pan ydyn ni’n clywed ei enw, mae’n ein hatgoffa ni o’i bersonoliaeth, ei rinweddau prydferth, a’i weithredoedd rhyfeddol. Roedd Dafydd eisiau trin enw ei Dad yn sanctaidd a’i foli. Roedd eisiau gwneud hyn gyda phopeth oedd ganddo—hynny ydy, gyda’i holl galon. Yn debyg, cymerodd y Lefiaid y blaen yn moli Jehofa a gwnaethon nhw gydnabod yn ostyngedig na fyddai eu geiriau byth yn gallu mynegi’r moliant y mae enw sanctaidd Jehofa yn ei haeddu. (Neh. 9:5) Yn sicr, byddai Jehofa wedi bod yn hapus iawn yn derbyn eu moliant gostyngedig o’r galon. w24.02 9 ¶6
Dydd Iau, Hydref 30
Pa bynnag gynnydd rydyn ni wedi ei wneud, gadewch inni ddal ati i gerdded mewn ffordd drefnus ar yr un llwybr hwn.—Phil. 3:16.
Os dwyt ti ddim yn llwyddo i gyrraedd nod oedd yn amhosib iti, fydd Jehofa ddim yn meddwl llai ohonot ti. (2 Cor. 8:12) Os wyt ti’n llithro’n ôl, dysga o’r profiad. Paid ag anghofio beth rwyt ti eisoes wedi ei gyflawni. Mae’r Beibl yn dweud: “Dydy Duw ddim yn anghyfiawn, felly ni fydd yn anghofio am eich gwaith.” (Heb. 6:10) Felly ddylet tithau ddim anghofio chwaith. Meddylia am yr amcanion rwyt ti wedi eu cyrraedd yn barod. Efallai bod hynny’n cynnwys dod yn ffrind i Jehofa, siarad ag eraill amdano, neu gael dy fedyddio. Yn union fel rwyt ti wedi llwyddo i gyrraedd amcanion ysbrydol yn y gorffennol, gelli di ddal ati i wneud cynnydd tuag at y nod sydd gen ti ar hyn o bryd. Gyda help Jehofa gelli di gyrraedd dy nod. Wrth iti barhau i weithio tuag at dy nod ysbrydol, sylwa ar sut mae Jehofa’n dy helpu di ac yn dy fendithio ar hyd y ffordd. (2 Cor. 4:7) Ac os nad wyt ti’n rhoi’r gorau iddi, byddi di’n derbyn hyd yn oed mwy o fendithion.—Gal. 6:9. w23.05 31 ¶16-18
Dydd Gwener, Hydref 31
Mae’r Tad ei hun yn eich caru chi, gan eich bod chi wedi fy ngharu i ac wedi credu fy mod i wedi dod i gynrychioli Duw.—Ioan 16:27.
Mae Jehofa wrth ei fodd yn dweud wrth y rhai mae’n eu caru faint maen nhw wedi ei blesio. Mae’r Beibl yn cofnodi dau achlysur pan wnaeth Jehofa hynny gyda’i Fab annwyl. (Math. 3:17; 17:5) Hoffet ti glywed Jehofa’n dweud ei fod yn hapus gyda ti? Dydy Jehofa ddim yn siarad gyda ni yn llythrennol o’r nefoedd, ond gallwn ni “glywed” ei lais trwy dudalennau ei Air. Er enghraifft, gallwn ni wneud hyn wrth inni ddarllen geiriau Iesu yn yr Efengylau. Roedd Iesu yn efelychu ei Dad yn berffaith. Felly, bob tro rydyn ni’n darllen am Iesu yn dweud bod ei ddilynwyr wedi ei blesio, gallwn ni ddychmygu Jehofa yn dweud yr un peth wrthon ni. (Ioan 15:9, 15) Dydy treialon ddim yn golygu ein bod ni wedi colli ffafr Duw. Maen nhw’n rhoi cyfle inni ddangos cymaint rydyn ni’n caru ac yn trystio Jehofa.—Iago 1:12. w24.03 28 ¶10-11