Cynnwys
3 Gwasanaethu o’u Gwirfodd—yn Nhwrci
WYTHNOS 28 AWST, 2017–3 MEDI, 2017
Mae’r erthygl hon yn trafod sut y gallwn ni ddefnyddio ein pethau materol i wneud ffrindiau yn y nefoedd. (Luc 16:9) Mae hefyd yn egluro sut i osgoi bod yn gaethweision i’r byd masnachol trachwantus, a sut gallwn ni wneud ein gorau i wasanaethu Jehofa.
WYTHNOS 4-10 MEDI, 2017
Sut gall Cristion ddelio gyda’r sioc o golli rhywun annwyl mewn marwolaeth? Mae Jehofa’n rhoi cysur mawr drwy gyfrwng Iesu Grist, yr Ysgrythurau, a’r gynulleidfa Gristnogol. Bydd yr erthygl hon yn dangos sut medrwn ni gael cysur, a sut i gysuro pobl eraill sy’n galaru.
WYTHNOS 11-17 MEDI, 2017
17 “Haleliwia!”—Pam Clodfori Jehofa?
Dro ar ôl tro, mae Salm 147 yn annog pobl Dduw i glodfori Jehofa. Pam roedd y salmydd eisiau i Dduw gael ei glodfori gymaint? Mae’r erthygl hon yn ateb y cwestiwn hwnnw, ac yn esbonio pam y dylen ni deimlo’r un ffordd.
WYTHNOS 18-24 MEDI, 2017
22 Boed Iddo Ddod â Dy Gynlluniau Di i Gyd yn Wir
Mae llawer o frodyr a chwiorydd selog yn dechrau gwasanaethu Duw’n llawn-amser. Wyt ti eisiau gwneud yr un peth? Mae’r erthygl hon yn rhoi cyngor da o’r Ysgrythurau a fydd yn dy helpu i gynllunio ar gyfer dyfodol hapus a llwyddiannus.