Cân 47 (112)
Byddant Yn Gwybod
(Eseciel 35:15)
1. Sen a sarhad ar d’enw sanctaidd, Dduw,
Twyllodrus waith dy holl elynion yw.
Amlyga’th Frenin dy gyfiawnder di.
Gorchfygir Satan a’i ddrygionus lu.
(Cytgan)
2. Herio mae Satan sail dy gyfiawn rym;
Dial wnei, Dduw, mewn rhyfel enbyd llym.
Yn Armagedon difa wna dy fraich
Dy Wrthwynebydd a’i ormesol faich.
(Cytgan)
3. Calonnau balch sy’n gwasgu creulon iau
Didostur ar bryderus addfwyn rai.
Yng ngwres dy ddig pan ddaw d’arswydus Ddydd,
Amlwg dy fawredd a’th sancteiddrwydd fydd.
(CYTGAN)
Byddant yn gwybod mai ti yw Jehofah;
Cyfiawn mewn barn a phob rhinweddau gwiw.
Yna cânt wybod drwy’r holl greadigaeth,
Dy fwriad sanctaidd, perffaith, sicir yw.