Cân 49 (114)
Ffyddlon Gariad Duw
(Eseia 55:1-3)
1. Ffyddlon yw cariad Duw!
Cymorth gawn i hapus fyw.
Aberth cariad, drudfawr rodd
Dalodd Iesu o’i wirfodd.
Rhodd Duw cyfiawn o fawr fudd,
Bywyd bythol, hapus, rydd.
(Cytgan)
2. Ffyddlon yw cariad Duw!
Ei weithredoedd oll ŷnt wiw.
I Grist rhoddodd orsedd gref
—Llywodraethu mae o’r nef,
Yn ei Deyrnas llawenhawn,
Ei gyfamod sydd gyflawn.
(Cytgan)
3. Teyrngar Dduw, cariad yw!
Hedd gaiff addfwyn ddynolryw.
Rhoddodd in was ffyddlon, call,
I gyhoeddi yn ddi-ball
Enw Duw Jehofah’n hy.
Cyfiawnhau wna’i glod a’i fri.
(Cytgan)
4. Teyrngar Dduw, cariad yw!
Efelychwn hyn wrth fyw.
At yr addfwyn beunydd awn;
Traethu Gair Duw cyfiawn wnawn.
Rhaid pregethu’n ddewr a llon
Dros holl diroedd daear gron.
(CYTGAN)
Dewch, chwi oll sychedig rai,
Profwch ddyfroedd disglair, byw.
Yfwch nawr, sychedig rai;
Gwelwch diriondeb Duw.