Cân 59 (139)
Rhowch Sylw i’r Newyddion am y Deyrnas
(Eseia 55:7)
1. Newyddion sydd am Deyrnas sy’n llesol fywhau.
Yr Iesu di-fai, teyrnasu y mae.
‘Eich Gelyn â i’r pydew, ac arno bydd cau.
O! ffowch o afael creulon cyfundrefn lawn gwae.’
(Cytgan)
2. Jehofah Dduw—dymuno’ch adferiad y mae:
‘Chwi lariaidd-rai, cewch nawr lawenhau.’
Teyrnasiad nerthol Crist dros y ddae’r, yn ddiau,
Wna’n sicir na fydd achos fyth mwy i dristáu.
(Cytgan)
3. ‘Fy Nuw, dymunaf addo ufudd-dod di-drai.’
Mor llawen y rhai gaiff fyw yn ddi-wae.
Fe geidw Duw y ffyddlon, cânt ato nesáu;
Fe geisiant nawr y Deyrnas ac ynddi barhau.
(CYTGAN)
Ni chaiff bwriad yr anwir amlhau,
Clywch, rai drygionus—‘Gadewch eich llwybrau ffôl.
Dychwelwch nawr at Dduw sy’n maddau’n helaeth
Ac yn barod i drugarhau.’