LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • T-22 tt. 2-6
  • Pwy Sy’n Rheoli’r Byd?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Pwy Sy’n Rheoli’r Byd?
  • Pwy Sy’n Rheoli’r Byd?
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • Cyflwr y Byd yn Rhoi Cliw
  • Rheolwyr y Byd yn Cael eu Datgelu
  • Gwrthwynebu Ysbrydion Drwg
  • Gwrthsefyll Pwerau Ysbrydol Drygionus
    Gwybodaeth Sy’n Arwain i Fywyd Tragwyddol
  • Sut Mae Ysbryd-Greaduriaid yn Effeithio Arnon Ni?
    Beth Mae’r Beibl yn ei Wir Ddysgu?
  • Beth Yw Pwrpas Duw ar Gyfer y Ddaear?
    Beth Mae’r Beibl yn ei Wir Ddysgu?
  • Gwrthsafa’r Diafol a’i Gynllwynion
    “Cadwch Eich Hunain yng Nghariad Duw”
Gweld Mwy
Pwy Sy’n Rheoli’r Byd?
T-22 tt. 2-6

Pwy Sy’n Rheoli’r Byd?

“Duw, wrth gwrs!” fyddai ateb llawer o bobl. Ond, mae’n arwyddocaol nad yw’r Beibl yn dweud yn unman mai Iesu Grist neu ei Dad yw gwir reolwyr y byd hwn. I’r gwrthwyneb, dywedodd Iesu: “Y mae tywysog y byd hwn i gael ei fwrw allan.” Ychwanegodd: “Y mae tywysog y byd hwn yn dod. Nid oes ganddo ddim gafael arnaf fi.”—Ioan 12:31; 14:30; 16:11.

Felly, mae rheolwr y byd hwn yn gwrthwynebu Iesu. Pwy all hwn fod?

Cyflwr y Byd yn Rhoi Cliw

Er gwaethaf pob ymdrech gan bobl ddiffuant, dioddef fu hanes y byd erioed. Mae llawer yn teimlo fel y diweddar olygydd David Lawrence a ddywedodd: “‘Heddwch ar y ddaear’—dyna ddymuniad pawb bron. ‘Ewyllys da i bawb’— dyna fel mae’r rhan fwyaf o bobl yn teimlo tuag at ei gilydd. Felly, beth sydd wedi mynd o’i le? Gyda phawb yn hiraethu am heddwch, pam mae rhyfel yn fygythiad o hyd?”

Mae hyn yn ymddangos fel anghysondeb. Yn naturiol mae pobl yn dymuno byw mewn heddwch, ond yn aml iawn, maen nhw’n casáu ac yn lladd ei gilydd a hynny yn y ffyrdd mwyaf milain. Mae bodau dynol wedi dyfeisio siambrau nwy, gwersylloedd crynhoi, gynnau tân, bomiau napalm, i enwi ond rhai o’r dulliau erchyll sydd wedi eu defnyddio i boenydio a lladd.

Ydych chi’n credu bod pobl, sy’n hiraethu am heddwch a hapusrwydd, yn llwyr gyfrifol am y drygioni sydd yn y byd? Beth ydy’r grym sy’n gyrru dynion i gyflawni’r fath bethau erchyll? Ydych chi erioed wedi gofyn, a oes yna ryw bŵer drwg anweladwy sy’n dylanwadu ar bobl a gwneud iddyn nhw ymddwyn mor dreisgar?

Rheolwyr y Byd yn Cael eu Datgelu

Does dim angen dyfalu oherwydd mae’r Beibl yn dangos yn glir fod rhywun deallus ac anweladwy yn rheoli unigolion a chenhedloedd. Dywed fod “yr holl fyd yn gorwedd yng ngafael yr Un drwg.” Ac mae’r Beibl yn ei enwi fel y “Diafol a Satan, yr un sy’n twyllo’r holl fyd.”—1 Ioan 5:19; Datguddiad 12:9.

Pan gafodd Iesu ei “demtio gan y diafol,” doedd Iesu ddim yn amau nad oedd Satan yn rheoli’r byd. Mae’r Beibl yn esbonio: “Cymerodd y diafol ef i fynydd uchel iawn, a dangos iddo holl deyrnasoedd y byd a’u gogoniant, a dweud wrtho, ‘Y rhain i gyd a roddaf i ti, os syrthi i lawr a’m haddoli i.’ Yna dywedodd Iesu wrtho, ‘Dos ymaith, Satan’.”—Mathew 4:1, 8-10.

Meddyliwch am hyn. Fe wnaeth Satan demtio Iesu drwy gynnig iddo “holl deyrnasoedd y byd.” A fyddai cynnig Satan wedi bod yn demtasiwn i Iesu os nad oedd Satan yn rheolwr ar y teyrnasoedd hyn? Na fyddai. Sylwch, wnaeth Iesu ddim gwadu nad Satan oedd piau llywodraethau’r byd. Yn sicr, dyna fyddai Iesu wedi ei wneud petai Satan heb yr hawl i gynnig y llywodraethau hyn iddo. Yn amlwg felly, Satan yw rheolwr anweledig y byd! Yn wir, mae’r Beibl yn ei ddisgrifio fel “duw’r oes bresennol.” (2 Corinthiaid 4:4) Ond, sut daeth rhywun cynddrwg â Satan i fod mor bwerus?

Yn wreiddiol, angel wedi ei greu gan Dduw oedd yr un a drodd yn Satan. Ond fe aeth yn genfigennus o awdurdod Duw. Fe heriodd hawl Duw i reoli. I’r diben hwn, defnyddiodd sarff fel llefarydd i dwyllo’r ddynes gyntaf, Efa, ac fe lwyddodd Satan i’w pherswadio hi a’i gŵr Adda i ufuddhau iddo ef yn hytrach nag i Dduw. (Genesis 3:1-6; 2 Corinthiaid 11:3) Mynnodd hefyd ei fod yn gallu troi pob un o blant Adda ac Efa yn erbyn Duw yn y dyfodol. Felly, fe roddodd Duw amser i Satan geisio profi ei bwynt, ond dydy Satan ddim wedi llwyddo.—Job 1:6-12; 2:1-10.

Diddorol yw nodi nad yw Satan yn rheoli’r byd ar ei ben ei hun. Fe lwyddodd i berswadio angylion eraill i wrthryfela yn erbyn Duw. Fe wnaethon nhw ochri gyda Satan a dod yn gythreuliaid. Mae’r Beibl yn sôn amdanyn nhw wrth annog Cristnogion i “sefyll yn gadarn yn erbyn cynllwynion y diafol. Nid â meidrolion yr ydym yn yr afael, ond â . . . llywodraethwyr tywyllwch y byd hwn, â phwerau ysbrydol drygionus yn y nefolion leoedd.”—Effesiaid 6:11, 12.

Gwrthwynebu Ysbrydion Drwg

Mae rheolwyr anweledig y byd yn ceisio camarwain y ddynolryw i gyd, a rhwystro pobl rhag addoli Duw. Un ffordd y mae ysbrydion drwg yn gwneud hyn yw trwy hyrwyddo’r syniad o fywyd ar ôl marwolaeth, er bod gair Duw yn dangos yn glir nad yw’r meirw yn gwybod dim. (Genesis 2:17; 3:19; Eseciel 18:4; Salm 146:3, 4; Pregethwr 9:5, 10) Gall ysbrydion drwg ddynwared llais rhywun sydd wedi marw, a siarad â theulu neu ffrindiau’r ymadawedig, naill ai drwy gyfryngwr ysbrydion neu drwy “lais” o’r byd anweledig. Mae’r “llais” yn honni bod yn llais yr ymadawedig, ond mewn gwirionedd cythraul ydyw!

Felly, os ydych chi’n digwydd clywed “llais” o’r fath, peidiwch â chael eich twyllo. Gwrthodwch wrando, ac ymateb fel Iesu: “Dos ymaith, Satan.” (Mathew 4:10; Iago 4:7) Peidiwch â gadael i ddiddordeb yn y goruwchnaturiol eich denu chi i ymwneud ag ysbrydion drwg. Ysbrydegaeth yw hynny, ac mae Duw yn rhybuddio ei addolwyr rhag pob agwedd arni. Mae’r Beibl yn dweud na ddylai neb “arfer dewiniaeth, . . . ymwneud ag ysbrydion a bwganod, nac ymofyn â’r meirw.”—Deuteronomium 18:10-12; Galatiaid 5:19-21; Datguddiad 21:8.

Gan fod ysbrydegaeth yn dod â rhywun dan ddylanwad y cythreuliaid, mae’n bwysig peidio â chael eich tynnu i mewn, ni waeth pa mor gyffrous y mae’n ymddangos. Ymhlith y gwahanol ffurfiau ar ysbrydegaeth y mae darllen crisial, defnyddio bwrdd Ouija, canfyddiad allsynhwyraidd (ESP), darllen dwylo, ac astroleg. Mae cythreuliaid hefyd yn medru creu synau a ffenomena eraill mewn adeiladau sy’n diriogaeth iddyn nhw.

Ar ben hynny, mae ysbrydion drwg yn manteisio ar y duedd sydd ynon ni i bechu, drwy hybu llenyddiaeth, ffilmiau, a rhaglenni teledu sy’n llawn ymddygiad rhywiol anfoesol a gwyrdroëdig. Mae’r cythreuliaid yn gwybod bod myfyrio ar syniadau anfoesol yn gwneud argraff ar y meddwl a all wneud i bobl ymddwyn yn anfoesol fel y cythreuliaid eu hunain.—Genesis 6:1,  2; 1 Thesaloniaid 4:3-8; Jwdas 6.

Mae’n debyg y bydd llawer yn wfftio’r syniad mai ysbrydion drwg sy’n rheoli’r byd. Ond nid syndod yw hyn oherwydd mae’r Beibl yn dweud: “Y mae Satan yntau yn ymrithio fel angel goleuni.” (2 Corinthiaid 11:14) Twyll mwyaf Satan yw ei fod wedi argyhoeddi llawer o bobl nad yw ef na’i gythreuliaid yn bodoli o gwbl. Ond peidiwch â chael eich twyllo! Mae’r Diafol a’i gythreuliaid yn bodoli, ac mae’n rhaid i chi ddal ati i’w gwrthsefyll.—1 Pedr 5:8, 9.

Da yw dweud bod diwedd Satan a’i luoedd yn agosáu! Mae’r Beibl yn addo: “Y mae’r byd [gan gynnwys y cythreuliaid sy’n ei reoli] . . . yn mynd heibio, ond y mae’r sawl sy’n gwneud ewyllys Duw yn aros am byth.” (1 Ioan 2:17) Bydd cael gwared ar y fath ddylanwad drwg yn rhyddhad mawr i bawb! Felly, gadewch inni wneud ewyllys Duw a chael byw am byth yn y byd newydd a chyfiawn y mae Duw yn ei addo.—Salm 37:9-11, 29; 2 Pedr 3:13; Datguddiad 21:3, 4.

[Llun ar dudalen 4]

Os nad oedd Satan yn berchen ar holl deyrnasoedd y byd, sut roedd yn bosibl iddo eu cynnig nhw i Iesu?

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu