Pennod 2
Y Llyfr Sy’n Datgelu Gwybodaeth o Dduw
1, 2. Pam mae angen arweiniad ein Creawdwr arnom ni?
MAE’N rhesymol meddwl y byddai’n Creawdwr cariadus yn mynd ati i baratoi llyfr ar gyfer y ddynoliaeth i’w cyfarwyddo a’u harwain nhw. Ac mae’n siŵr eich bod chi’n cytuno fod angen arweiniad ar fodau dynol.
2 Ragor na 2,500 mlynedd yn ôl, fe ysgrifennodd proffwyd a hanesydd: “Ni pherthyn i’r teithiwr drefnu ei gamre.” (Jeremeia 10:23) Mae gwirionedd ei eiriau’n fwy amlwg heddiw nag erioed o’r blaen. Dyma felly, oedd sylw’r hanesydd William H. McNeill: “Argyfwng yn dilyn argyfwng; drysu trefn cymdeithas—o’r cychwyn, dyna fu hanes ymgyrch dyn ar y ddaear hon.”
3, 4. (a) Be’ ddylai’n hagwedd ni fod wrth astudio’r Beibl? (b) Be’ fydd ein trefn wrth archwilio’r Beibl?
3 Mae’r Beibl yn rhoi pob peth sy’ ei angen arnom ni i sicrhau arweiniad doeth. Mae’n wir fod llawer yn teimlo fod y Beibl yn ormod wrth edrych drwyddo am y tro cynta’. Mae e’n llyfr mawr, a rhannau ohono’n anodd eu deall. Ond petai rhywun yn rhoi dogfen gyfreithiol i chi oedd yn awgrymu beth i’w wneud er mwyn derbyn etifeddiaeth werthfawr, mae’n sicr y byddech chi’n gwneud amser i’w harchwilio hi’n ofalus. Petaech chi’n ffeindio rhai rhannau o’r ddogfen yn anodd eu deall, mae’n debyg y byddech chi’n gofyn help rhywun profiadol yn y maes. Pam na wnewch chi edrych ar y Beibl gyda’r un agwedd? (Actau 17:11) Mae mwy nag etifeddiaeth faterol yn y fantol. Fel daethom ni i ddeall yn y bennod flaenorol, mae’r wybodaeth o Dduw yn gallu arwain i fywyd tragwyddol.
4 Gadewch inni edrych drwy’r llyfr sy’n datgelu’r wybodaeth o Dduw. Yn gyntaf fe wnawn ni fwrw golwg yn fras dros y Beibl yn ei gyfanrwydd. Wedyn mi wnawn ni drafod pam mae llawer o bobl ddeallus yn credu mai Gair ysbrydoledig Duw ydi’r Beibl.
CYNNWYS Y BEIBL
5. (a) Be’ sydd yn yr Ysgrythurau Hebraeg? (b) Beth ydi cynnwys yr Ysgrythurau Groeg?
5 Yn y Beibl mae ’na 66 llyfr mewn dwy ran, yr Hen Destament a’r Testament Newydd fel maen’ nhw’n cael eu galw. Cafodd tri deg naw o lyfrau’r Beibl eu hysgrifennu mewn Hebraeg yn bennaf, a 27 mewn Groeg. Mae’r Ysgrythurau Hebraeg, Genesis i Malachi, yn sôn am y creu a 3,500 mlynedd cynta’ hanes dyn. Wrth archwilio rhan yma’r Beibl, ’rydym yn dysgu am ymwneud Duw â’r Israeliaid—o gychwyn y genedl yn yr 16eg ganrif C.C.C. ymlaen i’r 5ed ganrif C.C.C.a Mae’r Ysgrythurau Groeg, o Mathew i’r Datguddiad, yn canolbwyntio ar ddysgeidiaeth a gweithgareddau Iesu Grist a’i ddisgyblion yn ystod y ganrif gynta’ C.C.
6. Pam ddylem ni astudio’r Beibl cyfan?
6 Mae rhai yn meddwl mai ar gyfer Iddewon mae’r “Hen Destament” a’r “Testament Newydd” ar gyfer Cristnogion. Ond yn ôl 2 Timotheus 3:16, “mae pob Ysgrythur wedi ei hysbrydoli gan Dduw ac yn fuddiol.” Mae’n eglur felly fod yn rhaid astudio’r Beibl cyfan er mwyn deall yr Ysgrythurau’n iawn. A dweud y gwir, mae dwy ran y Beibl yn cadarnhau ei gilydd, ac yn gytûn wrth ddatblygu thema gyffredin.
7. Beth ydi thema’r Beibl?
7 Efallai eich bod chi wedi bod yn mynychu cyfarfodydd crefyddol ers blynyddoedd, ac wedi clywed darllen rhannau o’r Beibl droeon. Neu efallai ichi ddarllen rhannau ohono eich hun. Oeddech chi’n gwybod fod ’na linyn arian yn rhedeg drwy’r Beibl o Genesis i’r Datguddiad? Oes, mae ’na thema gyffredin yn gweu ei ffordd drwy’r Beibl. Beth ydi’r thema? Cyfiawnhau hawl brenhiniaeth Duw dros y ddynoliaeth a gwireddu ei fwriad cariadus drwy gyfrwng ei Deyrnas. Yn nes ’mlân, cawn weld yn union sut bydd Duw yn cyflawni’r bwriad hwn.
8. Beth mae’r Beibl yn ei ddangos am bersonoliaeth Duw?
8 Heblaw rhoi syniad inni am fwriad Duw, mae’r Beibl yn dangos ei bersonoliaeth e. Er enghraifft, ’rydym yn dysgu o’r Beibl fod gan Dduw deimladau a bod ein penderfyniadau ni o bwys iddo fe. (Salm 78:40, 41; Diarhebion 27:11; Eseciel 33:11) Mae Salm 103:8-14 yn dweud: “Trugarog a graslon yw’r ARGLWYDD, araf i ddigio a llawn ffyddlondeb.” Mae’n ein trin yn dosturiol wrth ‘gofio mai llwch ydym’ a’n bod ni’n dychwelyd i’r pridd wrth farw. (Genesis 2:7; 3:19) Dyna nodweddion ardderchog sydd ganddo! Onid dyma’r math o Dduw ’rydych chi eisiau ei addoli?
9. Sut mae’r Beibl yn rhoi darlun clir inni o safonau Duw, a sut bydd gwybodaeth o’r fath yn llesol inni?
9 Yn y Beibl medrwn weld yn glir beth ydi safonau Duw. Weithiau maen’ nhw’n cael eu galw’n ddeddfau. Ond ran amlaf maen’ nhw’n cael eu hamlygu fel egwyddorion sy’n cael eu dysgu ar ffurf gwersi moesol. Fe sicrhaodd Duw gofnodi rhai digwyddiadau yn hen hanes Israel er ein lles ni. Mae’r hanesion gonest hyn yn dangos be’ sy’n digwydd pan fydd pobl yn cydweithio gyda bwriad Duw, a hefyd y tristwch sy’n dilyn wrth iddyn’ nhw fynd eu ffordd eu hunain. (1 Brenhinoedd 5:4; 11:4-6; 2 Cronicl 15:8-15) Bydd darllen yr hanesion gwir hyn yn siŵr o gyffwrdd â’n calon. Wrth inni geisio dychmygu’r digwyddiadau, mi fedrwn ni ddod i ’nabod y cymeriadau’n well, gan elwa wrth ystyried esiamplau da, ac osgoi’r maglau a ddaliodd y rhai drwg. Ond mae’n rhaid ateb un cwestiwn: Sut medrwn ni fod yn sicr fod yr hyn ’rydym yn ei ddarllen yn y Beibl yn ddiamau wedi’i ysbrydoli gan Dduw?
FEDRWCH CHI YMDDIRIED YN Y BEIBL?
10. (a) Pam mae rhai yn teimlo fod y Beibl yn hen ffasiwn? (b) Beth mae 2 Timotheus 3:16, 17 yn ei ddweud wrthym ni am y Beibl?
10 Tybed wnaethoch chi sylwi fod llawer o lyfrau sy’n cynnig cyngor yn mynd allan o ffasiwn ar ôl dim ond ychydig flynyddoedd? Beth am y Beibl? Mae e’n hen iawn, ac mae tua 2,000 o flynyddoedd wedi mynd heibio oddi ar cofnodi ei eiriau olaf. Dyna pam mae rhai yn teimlo nad oes ganddo ddim o werth i’w gynnig inni heddiw. Ond os Duw ysbrydolodd y Beibl, er ei fod e’n llyfr hen iawn, fe ddylai ei gyngor fod yn gyfoes bob amser. Fe ddylai’r Ysgrythurau yn gyson fod “yn fuddiol i hyfforddi, a cheryddu, a chywiro, a disgyblu mewn cyfiawnder. Felly y darperir dyn Duw â chyflawn ddarpariaeth ar gyfer pob math o weithredoedd da.”—2 Timotheus 3:16, 17.
11-13. Pam medrwn ni ddweud fod y Beibl yn ymarferol i’n hoes ni?
11 Wrth edrych yn ofalus drwy’r Beibl ’rydym ni’n gweld fod yr egwyddorion ynddo yr un mor addas heddiw â phan ysgrifennwyd nhw, yn berthnasol i bob cenhedlaeth. Er enghraifft, mae’r Beibl yn deall natur dyn yn dda. Mae hyn i’w weld yn amlwg yn y Bregeth ar y Mynydd gan Iesu, sydd wedi’i chofnodi ym Mathew penodau 5-7. ’Roedd y diweddar Mohandas K. Gandhi, un o arweinwyr India, wedi dotio cymaint ar y bregeth nes iddo yn ôl yr hanes ddweud wrth swyddog Prydeinig: “Pan ddaw eich gwlad chi a’m gwlad innau i gytuno ar ddysgeidiaeth sylfaenol Crist yn y Bregeth ar y Mynydd, mi fyddwn ni wedi datrys nid yn unig problemau’n gwledydd ni ond rhai’r byd cyfan.”
12 Dim rhyfedd fod dysgeidiaeth Iesu yn gwneud cymaint o argraff ar bobl! Yn y Bregeth ar y Mynydd dangosodd inni sut medrwn ni gael gwir hapusrwydd. Fe eglurodd sut i gymodi ar ôl ffrae. Mae Iesu wedi rhoi cyfarwyddyd ar sut i weddïo. Eglurodd beth oedd yr agwedd fwyaf doeth at anghenion materol a rhoi inni’r Rheol Aur sy’n ein helpu ni i gadw’n perthynas ag eraill yn iach. Hefyd, ymhlith y pynciau yn y bregeth hon ’roedd sut i ’nabod twyll crefyddol a sut medrwn gael dyfodol diogel.
13 Yn y Bregeth ar y Mynydd a thrwy weddill tudalennau’r Beibl, cawn gyfarwyddyd eglur ar beth i’w wneud a beth i’w osgoi i wella’n rhan. Mae ei gyngor mor ymarferol fel bod un addysgwr wedi dweud: “Er fy mod yn gynghorwr mewn ysgol uwchradd a chennyf raddau baglor a meistr, ac wedi darllen nifer fawr o lyfrau ar iechyd meddwl a seicoleg, ffeindiais fod cyngor y Beibl ar bethau fel sicrhau llwyddiant mewn priodas, atal troseddu’r ifanc, a sut i wneud ffrindiau a pharhau’r cyfeillgarwch, yn llawer iawn gwell nag unrhyw beth ’roeddwn wedi’i ddarllen neu ei astudio yn y coleg.” Yn ogystal â bod yn ymarferol ac addas i’n hoes ni, mae’r Beibl yn llyfr y medrwch chi ddibynnu arno.
YN GYWIR AC YN DDIBYNADWY
14. Beth sy’n dangos fod y Beibl yn wyddonol gywir?
14 Er nad ydi’r Beibl yn werslyfr gwyddoniaeth, mae e’n wyddonol gywir. Er enghraifft, pan oedd llawer yn credu fod y ddaear yn fflat, fe gyfeiriodd y proffwyd Eseia at “gromen” y ddaear (Hebraeg, chugh, sydd yma’n cyfleu’r syniad “sffêr”). (Eseia 40:22) Fe gymerodd filoedd o flynyddoedd wedi amser Eseia i syniad daear gron gael ei dderbyn yn gyffredinol. Ar ben hyn, mae Job 26:7—a gafodd ei ysgrifennu fwy na 3,000 o flynyddoedd yn ôl—yn dweud fod Duw yn gosod “y ddaear ar ddim.” Mae un ysgolhaig y Beibl yn dweud: “Mae’n anodd iawn i’r rhai sy’n gwadu fod yr Ysgrythur Sanctaidd wedi’i ysbrydoli esbonio sut oedd Job yn gwybod y gwirionedd y mae seryddiaeth yn ei wneud mor amlwg, sef fod y ddaear yn hongian ohoni’i hun yn y gofod.”
15. Sut mae’r ffordd mae e wedi cael ei gofnodi yn cryfhau hyder yn y Beibl?
15 Mae’r dull cofnodi sy’n y Beibl yn cadarnhau ein hyder yn yr hen, hen lyfr hwn. Yn wahanol i chwedlau, mae digwyddiadau’r Beibl yn cael eu cysylltu gyda phobl go iawn a dyddiadau pendant. (1 Brenhinoedd 14:25; Eseia 36:1; Luc 3:1, 2) Ac o ystyried bod haneswyr yr hen amser bron yn ddieithriad yn gorliwio buddugoliaethau eu brenhinoedd a pheidio â chofnodi pan fydden’ nhw’n colli’r dydd neu unrhyw fethiant, mae’r rhai ’sgrifennodd y Beibl yn cofnodi’r cyfan yn syml ac yn onest—hyd yn oed eu pechodau mawr eu hunain.—Numeri 20:7-13; 2 Samuel 12:7-14; 24:10.
LLYFR SY’N PROFFWYDO
16. Beth ydi’r dystiolaeth bennaf mai Duw ysbrydolodd y Beibl?
16 Tystiolaeth ddiamheuol fod Duw wedi ysbrydoli’r Beibl ydi cyflawni proffwydoliaeth. Yn y Beibl mae ’na lawer o broffwydoliaethau sydd wedi’u cyflawni yn fanwl. Os, fel mae’n amlwg, nad dyn sy’n gyfrifol am hyn, be’ sydd y tu ôl i’r proffwydoliaethau? Mae’r Beibl ei hun yn dweud, “Ni ddaeth yr un broffwydoliaeth erioed trwy ewyllys dyn; ond y mae dynion, wrth gael eu symbylu gan yr Ysbryd Glân, wedi llefaru gair oddi wrth Dduw.” Yr Ysbryd Glân ydi grym gweithredol Duw. (2 Pedr 1:21) Dyma rai enghreifftiau.
17. Pa broffwydoliaethau wnaeth ragfynegi cwymp Babilon, a sut gawson’ nhw eu cyflawni?
17 Cwymp Babilon. Fe wnaeth Eseia a Jeremeia ragfynegi y byddai Babilon yn cwympo o flaen y Mediaid a’r Persiaid. Yn rhyfeddol iawn fe gofnododd Eseia ei broffwydoliaeth am y digwyddiad hwn tua 200 mlynedd cyn i Babilon gael ei choncro! Erbyn hyn mae manylion y broffwydoliaeth yn rhan o gofnod hanes: sychu Afon Ewffrates drwy ailgyfeirio’i dyfroedd i lyn artiffisial (Eseia 44:27; Jeremeia 50:38); esgeuluso diogelu drysau afonydd Babilon (Eseia 45:1); a’r concwerwr, brenin o’r enw Cyrus.—Eseia 44:28.
18. Sut ’roedd dyrchafu “brenin Groeg” a’i gwymp yn cyflawni proffwydoliaeth yn y Beibl?
18 Dyrchafu “brenin Groeg” a’i gwymp. Cafodd Daniel weledigaeth—bwch gafr yn ymosod ar hwrdd ac yn torri ei ddau gorn. Wedyn, torrwyd corn mawr y bwch gafr, a chododd pedwar corn yn ei le. (Daniel 8:1-8) Cafodd Daniel yr esboniad: “Brenhinoedd Media a Persia yw’r hwrdd deugorn a welaist. Brenin Groeg yw’r bwch blewog, a’r corn mawr rhwng ei lygaid yw’r brenin cyntaf. A’r un a dorrwyd, a phedwar yn codi yn ei le, dyma bedair brenhiniaeth yn codi o’r un genedl, ond heb feddu’r un nerth ag ef.” (Daniel 8:20-22) Daeth y broffwydoliaeth hon yn wir tua dwy ganrif yn ddiweddarach pan orchfygodd “brenin Groeg,” Alecsander Fawr, Ymerodraeth ddeugorn Medo-Persia. Bu Alecsander farw yn 323 C.C.C. a phedwar o’i gadfridogion ymhen amser yn cymryd ei le. Fodd bynnag, ’doedd dim cymhariaeth rhwng eu teyrnasoedd nhw â grym ymerodraeth Alecsander.
19. Pa broffwydoliaethau gafodd eu cyflawni yn Iesu Grist?
19 Bywyd Iesu Grist. Mae yn yr Ysgrythurau Hebraeg ugeiniau o broffwydoliaethau a gafodd eu cyflawni yng ngeni Iesu, ei weinidogaeth, ei farw, a’i atgyfodiad. Er enghraifft, ragor na 700 mlynedd cyn iddo ddigwydd, rhagfynegodd Micha y byddai’r Meseia, neu Grist, yn cael ei eni ym Methlehem. (Micha 5:2; Luc 2:4-7) Tua’r un cyfnod rhagfynegodd Eseia y byddai ’na daro’r Meseia a phoeri arno. (Eseia 50:6; Mathew 26:67) Bum can mlynedd cyn iddo ddigwydd, fe broffwydodd Sechareia fradychu’r Meseia am 30 darn arian. (Sechareia 11:12; Mathew 26:15) Mil o flynyddoedd ymlaen llaw fe ragfynegodd Dafydd amgylchiadau ynglŷn â marwolaeth Iesu’r Meseia. (Salm 22:7, 8, 18; Mathew 27:35, 39-43) A thua phum canrif ymlaen llaw, rhoddodd proffwydoliaeth Daniel fanylion am ddyfodiad y Meseia a hefyd hyd ei weinidogaeth ac amser ei farw. (Daniel 9:24-27) Dim ond sampl ydi hyn o’r proffwydoliaethau a gafodd eu cyflawni yn Iesu Grist. Fe gewch les mawr o ddarllen llawer rhagor amdano yn nes ymlaen.
20. Pa hyder gawn ni o wybod fod gan y Beibl record perffaith o broffwydoliaethau sydd eisoes wedi eu cyflawni?
20 Mae nifer eraill o broffwydoliaethau’r Beibl a gafodd eu gwneud ymhell cyn amser eu cyflawni eisoes wedi cael eu gwireddu. Efallai eich bod chi’n gofyn, ‘Ond be’ sydd gan hyn i’w wneud â’m bywyd i?’ Wel, petai rhywun yn dweud y gwir wrthych chi bob amser, fyddech chi’n sydyn yn ei amau petai ganddo rywbeth newydd i’w ddweud wrthych? Na fyddech! Mae Duw wedi dweud y gwir ar dudalennau’r Beibl. Oni ddylai hyn gadarnhau eich ymddiried yn y Beibl pan mae’n proffwydo ac yn addo paradwys i ddod ar y ddaear? Yn wir, mi fedrwn ni gael yr un hyder ag oedd gan Paul, un o ddisgyblion Iesu yn y ganrif gyntaf, pan ’sgrifennodd fod ‘Duw yn ddigelwyddog.’ (Titus 1:2) Ac wrth inni ddarllen yr Ysgrythurau a rhoi eu cyngor ar waith yn ein bywyd, byddwn yn dangos doethineb sy’ tu hwnt i gyrraedd bodau dynol ohonyn’ eu hunain, oherwydd y Beibl ydi’r llyfr sy’n datgelu’r wybodaeth o Dduw, y wybodaeth sy’n arwain i fywyd tragwyddol.
“BLYSIWCH” AM Y WYBODAETH O DDUW
21. Be’ ddylech chi’i wneud os oes rhai pethau ’rydych yn eu dysgu o’r Beibl yn ymddangos yn ormod?
21 Wrth i chi astudio’r Beibl, ’rydych yn siŵr o ddysgu pethau sy’n wahanol i’r hyn y cawsoch eich dysgu o’r blaen. Mae’n bosib’ y byddwch chi’n ffeindio nad ydi rhai o’ch arferion crefyddol mwyaf hoff chi’n plesio Duw. Fe ddowch i wybod fod gan Dduw safonau uchel ynglŷn â’r hyn sy’n iawn a’r hyn sy’n ddrwg—mor wahanol i safonau’r byd sy’n caniatáu pob dim. Bydd hyn yn ymddangos yn ormod ar y cychwyn efallai. Ond dangoswch amynedd! Chwiliwch yr Ysgrythurau’n ofalus i ddod o hyd i’r wybodaeth o Dduw. Byddwch yn barod i gydnabod hwyrach y bydd gofyn i chi addasu eich ffordd o feddwl a’ch ymddygiad wrth ymateb i’r cyngor sy’n y Beibl.
22. Pam ’rydych chi’n astudio’r Beibl, a sut medrwch chi helpu eraill i ddeall hyn?
22 Mae’n bosib’ na fydd eich ffrindiau na’ch perthnasau yn hoffi’ch gweld chi’n astudio’r Beibl, ac yn ceisio’ch rhwystro chi, ond fe dd’wedodd Iesu fel hyn: “Pob un fydd yn fy arddel i gerbron dynion, byddaf finnau hefyd yn ei arddel ef gerbron fy Nhad, yr hwn sydd yn y nefoedd. Ond pwy bynnag fydd yn fy ngwadu i gerbron dynion, byddaf finnau hefyd yn ei wadu ef gerbron fy Nhad, yr hwn sydd yn y nefoedd.” (Mathew 10:32, 33) Bydd rhai yn ofni eich bod yn dod yn aelod o ryw gwlt neu’n troi yn ffanatig. Ond y gwir amdani ydi mai ymdrechu i ’nabod Duw a’i wirionedd yn dda ac yn gywir ’rydych chi. (1 Timotheus 2:3, 4) Er mwyn helpu eraill i ddeall hyn ac osgoi dadlau, byddwch yn rhesymol gyda nhw wrth sôn am yr hyn ’rydych yn ei ddysgu. (Philipiaid 4:5) Cofiwch fod llawer yn cael eu hennill “heb i chwi ddweud yr un gair” wrth iddyn’ nhw weld prawf llesol byw bywyd yn ôl gwybodaeth o’r Beibl.—1 Pedr 3:1, 2.
23. Sut medrwch chi ‘flysio’ am y wybodaeth o Dduw?
23 Mae’r Beibl yn ein hannog ni: “Fel babanod newydd eu geni, blysiwch am laeth ysbrydol pur.” (1 Pedr 2:2) Mae babi’n dibynnu ar faeth gan ei fam ac yn mynnu cael ei fodloni. Mewn ffordd debyg, ’rydym ni’n dibynnu ar wybodaeth gan Dduw. “Blysiwch” am ei Air drwy fwrw ’mlân â’ch astudio. Yn wir, gwnewch nod i chi’ch hun o ddarllen y Beibl bob dydd. (Salm 1:1-3) Daw hyn â bendithion mawr i chi, oherwydd mae Salm 19:11 yn dweud am ddeddfau Duw: “O’u cadw y mae gwobr fawr.”
[Troednodyn]
a Ystyr C.C.C. ydi “Cyn y Cyfnod Cyffredin.” Mae C.C. yn dynodi “Cyfnod Cyffredin,” a elwir yn aml yn A.D., am Anno Domini, sy’n golygu “ym mlwyddyn yr Arglwydd.”
RHOI PRAWF AR EICH GWYBODAETH
Sut mae’r Beibl yn wahanol i bob llyfr arall?
Pam medrwch chi ymddiried yn y Beibl?
Beth sy’n profi i chi mai Gair ysbrydoledig Duw ydi’r Beibl?
[Blwch ar dudalen 14]
DEFNYDDIO’CH BEIBL
’Ddylai dod yn gyfarwydd â’r Beibl ddim bod yn rhy anodd. Defnyddiwch restr y cynnwys i ddysgu trefn a lleoliad llyfrau’r Beibl.
Er mwyn cyfeirio’n hwylus at y gwahanol rannau, mae gan y llyfrau benodau ac adnodau. Fe rannwyd y deunydd yn benodau yn ystod y 13eg ganrif, ac mae’n debygol mai argraffydd yn Ffrainc rannodd yr Ysgrythurau Groeg yn adnodau, fel ’rŷm ni’n eu ’nabod nhw heddiw. Argraffiad Ffrengig, gyhoeddwyd yn 1553, oedd y Beibl cyfan cyntaf â rhifau penodau ac adnodau ynddo.
Pan mae’r llyfr hwn yn cyfeirio at ysgrythurau, mae’r rhif cynta’ yn dynodi’r bennod, a’r nesa’ yn dynodi’r adnod. Er enghraifft, mae’r cyfeiriad “Diarhebion 2:5” yn golygu llyfr y Diarhebion, pennod 2, adnod 5. Wrth chwilio’r adnodau mae cyfeirio atyn’ nhw, fe ddowch i arfer â chael hyd i’r adnodau yn hawdd.
Y ffordd orau i ddod yn gyfarwydd â’r Beibl ydi ei ddarllen e bob dydd. I gychwyn, efallai y bydd hyn yn ymddangos yn ormod. Ond os darllenwch rywle rhwng tair a phum pennod bob dydd, fe fyddwch chi’n medru darllen y Beibl cyfan mewn blwyddyn. Beth am gychwyn heddiw?
[Blwch ar dudalen 19]
Y BEIBL—LLYFR UNIGRYW
• Mae’r Beibl “wedi ei ysbrydoli gan Dduw.” (2 Timotheus 3:16) Er mai dynion ’sgrifennodd y geiriau, Duw oedd yn cyfarwyddo’u meddyliau nhw. Oherwydd hyn “gair Duw” yn wir ydi’r Beibl.—1 Thesaloniaid 2:13.
• Fe gafodd y Beibl ei ysgrifennu dros gyfnod o 16 canrif, gan tua 40 o gyfranwyr oedd â chefndir gwahanol. Er hynny, mae’r cofnod gorffenedig mewn harmoni o’i ddechrau i’w ddiwedd.
• Mae’r Beibl wedi goroesi mwy o ddadlau nag unrhyw lyfr arall. Yn ystod y Canol Oesoedd, cafodd pobl eu llosgi wrth y stanc dim ond am fod ganddyn’ nhw gopi o’r Ysgrythurau.
• O ran gwerthiant llyfrau, y Beibl ydi’r mwyaf poblogaidd yn y byd. Mae e wedi’i gyfieithu, yn gyfan neu yn rhannol, i ragor na 2,000 o ieithoedd. Mae miloedd o filiynau o gopïau wedi cael eu hargraffu, a phrin bod ’na unman ar y ddaear lle nad oes ’na gopi.
• Mae rhan hynaf y Beibl yn mynd ’nôl i’r 16eg ganrif C.C.C. Mae hyn cyn i Rig-Veda yr Hindwiaid (tua 1300 C.C.C), a “Canon y Tair Basged” y Bwdiaid (y bumed ganrif C.C.C.), a Koran Islam (seithfed ganrif C.C.) ymddangos, a hefyd cyn Nihongi crefydd Shinto (720 C.C.).
[Llun-tudalen lawn ar dudalen 20]