LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • kl pen. 15 tt. 140-149
  • Magu Teulu Sy’n Anrhydeddu Duw

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Magu Teulu Sy’n Anrhydeddu Duw
  • Gwybodaeth Sy’n Arwain i Fywyd Tragwyddol
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • TŴLS AR GYFER PRIODAS HAPUS
  • MAGU PLANT YN ÔL Y WYBODAETH O DDUW
  • ENNILL “MEDRUSRWYDD”
  • Gwneud Priodas Gristnogol yn Llwyddiannus
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2016
  • Priodas—Rhodd gan Dduw Cariadus
    “Cadwch Eich Hunain yng Nghariad Duw”
  • Gallwch Fod yn Deulu Hapus
    Beth Allwn Ni ei Ddysgu o’r Beibl?
Gwybodaeth Sy’n Arwain i Fywyd Tragwyddol
kl pen. 15 tt. 140-149

Pennod 15

Magu Teulu Sy’n Anrhydeddu Duw

1-3. Pam mae rhai yn methu â datrys problemau sy’n dod o fod yn briod ac yn rhieni, a sut gall y Beibl helpu?

CODI eich tŷ eich hun! Dyma brynu darn o dir gan wybod yn union pa fath dŷ ’rydych am ei adeiladu. Ond ofer fyddai’r cyfan heb fod gennych chi’r tŵls a’r sgiliau i wneud y gwaith.

2 Mae llawer yn cychwyn ar eu bywyd priodasol yn breuddwydio am deulu delfrydol hapus, ond ’does ganddyn’ nhw mo’r tŵls na’r sgiliau i lwyddo yn eu priodas. Yn fuan wedi dydd y briodas mae agweddau negyddol yn dod i’r amlwg wrth i’r ddau ddechrau eu brifo’i gilydd gyda geiriau cas. Wedyn’ pan mae’r babi cynta’n cyrraedd mae’n amlwg nad oes ganddyn’ nhw mo’r adnoddau i fod yn rhieni da chwaith.

3 Mae’n dda fod y Beibl yn medru’n helpu ni. Mae’r egwyddorion sydd ynddo fel tŵls i sicrhau codi teulu hapus. (Diarhebion 24:3) Gadewch inni weld sut.

TŴLS AR GYFER PRIODAS HAPUS

4. Pam medrwn ni ddisgwyl i broblemau ddod ar ôl priodi, a beth ydi safonau’r Beibl ar ein cyfer?

4 Fedr dim un cwpl sy’ newydd briodi ddisgwyl y byddan’ nhw’n cyd-fynd ym mhob peth, oherwydd mae pawb ohonom yn wahanol o ran gwneuthuriad emosiynol, profiadau plentyndod a chefndir teulu. Mae’n naturiol felly y bydd problemau’n codi. Ond sut bydd y problemau ’ma’n cael eu trin? Wel, fel mae adeiladwyr sy’n codi tŷ yn gweithio yn ôl y cynlluniau a’r cyfarwyddiadau, mae’r Beibl yn rhoi safonau Duw inni ar gyfer codi teulu hapus. Beth am i ni edrych ar rai ohonyn’ nhw.

5. Sut mae’r Beibl yn dangos mor bwysig ydi cadw’n deyrngar mewn priodas?

5 Teyrngarwch. D’wedodd Iesu: “Yr hyn a gysylltodd Duw, ni ddylai dyn ei wahanu.”a (Mathew 19:6) Ac fe ’sgrifennodd yr apostol Paul: “Bydded priodas mewn parch gan bawb, a’r gwely yn ddihalog; oherwydd bydd Duw yn barnu puteinwyr a godinebwyr.” (Hebreaid 13:4) Felly fe ddylai pobl briod sylweddoli mai cyflawni’u dyletswydd i Jehofah ydi parhau’n ffyddlon i’w cymar.—Genesis 39:7-9.

6. Sut gall aros yn deyrngar fod o help i gadw priodas i fynd?

6 Mae cadw’n deyrngar yn rhoi urddas a diogelwch i briodas. Mae gŵr a gwraig sy’n ffyddlon i’w gilydd yn barod i’w cynnal ei gilydd trwy unrhyw sefyllfa. (Pregethwr 4:9-12) Mor wahanol ydi’r rhai sy’n troi cefn ar y briodas pan mae pethau’n dechrau mynd yn anodd! Maen’ nhw’n dychryn wrth feddwl eu bod nhw wedi priodi rhywun sy’ ddim yn eu siwtio nhw, ac mai’r ateb ydi priodi rhywun arall. Ond fyddai hyn ddim yn rhoi cyfle i’r naill gymar na’r llall aeddfedu’n emosiynol. Yr hyn sy’n digwydd wedyn ydi fod y cymar anffyddlon yn creu’r un problemau gyda’i bartner newydd. I egluro: y peth rhesymol i’w wneud pan mae’r to’n dechrau gollwng ydi ei drwsio, nid symud i dŷ arall. Yn debyg i hyn, ’dyw newid cymar ddim yn datrys y problemau sy’n gallu gweu eu ffordd i mewn i briodas. Pan mae problemau’n codi, gwnewch eich gorau i gadw’r briodas rhag chwalu. Yn lle rhedeg i ffwrdd o sefyllfa anodd gweithiwch yn galed i gadw’r briodas i fynd. Bydd ymddwyn yn deyrngar at eich cymar yn dangos fod eich undod priodasol yn rhywbeth gwerth ei amddiffyn, ei gynnal a’i goleddu.

7. Pam ei bod yn anodd weithiau i ŵr a gwraig priod sgwrsio a thrafod â’i gilydd, ond sut gall gwisgo’r “natur ddynol newydd” helpu?

7 Cyfathrebu. “Drysir cynlluniau pan nad oes ymgynghori,” ydi geiriau dihareb yn y Beibl. (Diarhebion 15:22) Ac eto, mae ambell gwpl priod yn ei ffeindio hi’n anodd sgwrsio a thrafod pethau efo’i gilydd. Pam? Am fod dull cyfathrebu pob un ohonom ni’n wahanol. Dyna pam mae cymaint o bobl yn camddeall ei gilydd ac yn siomi’i gilydd. Efallai fod gan y ffordd y cawsom ni’n magu rywbeth i’w wneud â hyn. Er enghraifft, mae rhai yn dod o gartre’ lle ’roedd y rhieni’n ffraeo o hyd. Ar ôl tyfu i fyny a phriodi, ’dydyn nhw ddim yn gwybod sut i siarad yn garedig ac yn gariadus gyda’i cymar. Er hynny, ’does dim rhaid i’ch cartre’ chi ddirywio i fod yn dŷ ‘llawn cynnen.’ (Diarhebion 17:1) Mae’r Beibl yn pwysleisio gwisgo’r “natur ddynol newydd” nid suro, codi twrw a dweud pethau cas.—Effesiaid 4:22-24, 31.

8. Be’ fedr eich helpu chi pan fyddwch yn anghytuno â’ch cymar?

8 Be’ fedrwch chi’i wneud pan fyddwch chi’n anghytuno? Cyn gwylltio, peth da fyddai gwrando ar gyngor Diarhebion 17:14: “Ymatal di cyn i’r gynnen lifo allan.” Beth am i chi a’ch cymar roi’r gorau i drafod nes eich bod chi wedi cael amser i feddwl dros y peth. (Pregethwr 3:1, 7) Gwnewch eich gore’ i “fod yn gyflym i wrando, ond yn araf i lefaru, ac yn araf i ddigio.” (Iago 1:19) Eich nod ydi gwella’r sefyllfa, nid ennill y ddadl. (Genesis 13:8, 9) Dewiswch eiriau a ffordd o siarad fydd yn eich helpu chi a’ch cymar i ymbwyllo. (Diarhebion 12:18; 15:1, 4; 29:11) Yn lle dal dig gofynnwch am help, ymostyngwch eich dau i gyfathrebu â Duw mewn gweddi.—Effesiaid 4:26, 27; 6:18.

9. Pam medrwn ni ddweud fod cyfathrebu yn cychwyn yn y galon?

9 Yn ôl dihareb yn y Beibl: “Y mae meddwl [“calon,” BCL] y doeth yn gwneud ei eiriau’n ddeallus, ac yn ychwanegu dysg at ei ymadroddion.” (Diarhebion 16:23) Mae’n amlwg felly fod cyfathrebu da yn cychwyn gyda’r galon, nid gyda’r geg. Beth ydi’ch agwedd chi at eich cymar? Mae’r Beibl yn annog Cristnogion i ddangos ‘cydymdeimlad’ at eu brodyr. (1 Pedr 3:8) Fedrwch chi wneud ymdrech i ddangos hyn pan mae pryderon yn pwyso’n drwm ar eich cymar priodas? Os medrwch, bydd hyn yn help i chi gynnal eich cymar.—Eseia 50:4.

10, 11. Sut gall gŵr priod ymddwyn yn ôl cyngor 1 Pedr 3:7?

10 Anrhydedd a pharch. Dyma gyngor i bob gŵr priod o Gristion: “Byddwch yn ystyriol yn eich bywyd priodasol; rhowch y parch [“anrhydedd,” BC-Lan, 1908, troednodyn] dyladwy i’r wraig, gan mai hi yw’r llestr gwannaf.” (1 Pedr 3:7) Mae rhoi anrhydedd i’r wraig yn golygu cydnabod ei gwerth hi. I’r gŵr sy’n byw gyda’i wraig “yn ystyriol” [“yn ôl gwybodaeth,” BCL] mae ei theimladau hi, ei chryfderau hi, ei gallu hi, a’i hurddas yn bwysig iddo. Fe ddylai hefyd fod yn awyddus i ddysgu sut mae Jehofah yn ystyried gwragedd, a sut mae e’n dymuno iddyn’ nhw gael eu trin.

11 D’wedwch fod gennych chi yn eich cartre’ lestr arbennig iawn, un defnyddiol ond hynod ddelicet. Sut byddech chi’n ei drin? Gyda gofal mawr, wrth gwrs. Wel, mewn ffordd debyg, y gair ddefnyddiodd Pedr oedd y “llestr gwannaf,” ac fe ddylai hyn berswadio’r gŵr o Gristion fod angen iddo ymddwyn yn dyner iawn at ei gariad, ei wraig.

12. Sut medrith gwraig briod ddangos ei bod hi’n parchu’i gŵr?

12 Ond pa gyngor sy’ gan y Beibl i’r wraig? Fe ’sgrifennodd Paul, “Y mae’r wraig hithau i barchu ei gŵr.” (Effesiaid 5:33) Fel mae angen ar y wraig i deimlo fod ei gŵr yn ei charu hi’n fawr ac yn ei hanrhydeddu, mae’n llesol i’r gŵr wybod fod ei wraig yn ei barchu. Fydde’r wraig sy’n parchu’i gŵr byth yn sôn wrth eraill am ei wendidau, boed e’n Gristion neu beidio, nac yn amddifadu’i gŵr o’i urddas drwy ei feirniadu a’i fychanu o flaen eraill.—1 Timotheus 3:11; 5:13.

13. Sut medrwch chi fynegi’ch teimladau mewn ffordd heddychlon?

13 ’Dyw hyn ddim yn golygu na chaiff y wraig ddweud sut mae’n teimlo. Os oes rhywbeth yn pwyso arni, mi fedr hi sôn amdano gyda pharch. (Genesis 21:9-12) Mae’n llawer iawn gwell i’r gŵr a’r wraig sgwrsio a siarad â’i gilydd mewn ffordd garedig a thawel yn hytrach na thaflu cyhuddiadau sy’n brifo y naill at y llall.—Mathew 7:12; Colosiaid 4:6; 1 Pedr 3:3, 4.

14. Be’ ddylech chi’i wneud os nad oes awydd gan eich cymar i weithredu egwyddorion y Beibl yn eich priodas?

14 Fel ’rydym ni wedi gweld, mae egwyddorion y Beibl yn medru’n helpu ni i adeiladu priodas hapus. Ond beth os nad oes gan eich cymar chi ddiddordeb yn y Beibl? Mi fydd y ffaith eich bod chi yn gweithredu yn ôl y wybodaeth o Dduw yn llesol iawn. Fe ’sgrifennodd Pedr: “Chwi wragedd priod, byddwch ddarostyngedig i’ch gwŷr; ac yna, os oes rhai sy’n gwrthod credu gair Duw, fe’u henillir hwy trwy ymarweddiad eu gwragedd, heb i chwi ddweud yr un gair, wedi iddynt weld eich ymarweddiad pur a duwiolfrydig.” (1 Pedr 3:1, 2) Wrth gwrs, byddai hyn yr un mor berthnasol os y wraig sydd yn gwrthod ymateb i’r Beibl. Y peth pwysig ydi fod egwyddorion y Beibl yn eich gwneud chi yn well cymar priodas. Mi fedr y wybodaeth o Dduw hefyd eich gwneud chi’n well rhiant.

MAGU PLANT YN ÔL Y WYBODAETH O DDUW

15. Sut gall sgiliau gwael wrth fagu plant gael eu trosglwyddo i’r genhedlaeth nesa’ a sut mae’n bosib’ gwella hyn?

15 Cymerwch ’nawr eich bod yn berchen ar lif a morthwyl—ydi hyn yn eich gwneud chi’n saer medrus? Nac ydi, wrth gwrs. Mewn ffordd debyg, os oes plant gennym ’dyw hi ddim yn dilyn ein bod ni’n rhieni da. Oeddech chi’n gwybod fod rhieni’n tueddu i roi i’w plant blentyndod tebyg i’r un gawson’ nhw pan oedden’ nhw’n fach? Dyna sut mae camgymeriadau sy’n dod i’r amlwg wrth fagu un genhedlaeth yn cael eu trosglwyddo i’r un nesa’. Mae hen ddihareb Hebraeg yn dweud: “Y tadau fu’n bwyta grawnwin surion, ond ar ddannedd y plant y mae dincod.” Er hynny, mae’r Ysgrythur yn dangos nad oes rhaid i berson ddilyn y cwrs mae ei rieni wedi’i osod iddo. Mi fedr e ddewis un gwahanol a rhodio yn ôl deddfau Jehofah.—Eseciel 18:2, 14, 17.

16. Pam ei bod hi’n bwysig cynnal eich teulu, a be’ mae hyn yn ei olygu?

16 Mae Jehofah yn disgwyl i rieni sy’n Gristnogion ofalu am eu plant a rhoi cyfarwyddyd addas iddyn’ nhw. Fe ’sgrifennodd Paul: “Os nad yw dyn yn darparu ar gyfer ei berthnasau, ac yn arbennig ei deulu ei hun, y mae wedi gwadu’r ffydd ac y mae’n waeth nag anghredadun.” (1 Timotheus 5:8) Dyna eiriau cry’! Mae darparu’n dda’n golygu gofalu am anghenion corfforol, ysbrydol ac emosiynol eich plant; dyma gyfrifoldeb a braint pob oedolyn duwiol. Mae’r Beibl yn rhoi egwyddorion i helpu rhieni greu awyrgylch hapus i’w plant. Dowch inni ystyried rhai ohonyn’ nhw.

17. Be’ sy’ ei angen i sicrhau fod eich plant yn derbyn cyfraith Duw yn bersonol yn eu calonnau?

17 Gosod esiampl dda. Dyma oedd y gorchymyn i’r Israeliaid fel rhieni: “Yr wyt i’w hadrodd [geiriau Duw] i’th blant, ac i sôn amdanynt pan fyddi’n eistedd yn dy dŷ ac yn cerdded ar y ffordd, a phan fyddi’n mynd i gysgu ac yn codi.” ’Roedd rhieni i ddysgu safonau Duw i’w plant. Ond yn rhagflaenu’r ddeddf hon ’roedd y siars: “Y mae’r geiriau hyn yr wyf yn eu gorchymyn iti heddiw i fod yn dy galon” di. (Deuteronomium 6:6, 7) Ni all rhieni roi rhywbeth nad ydi e ddim ganddyn’ nhw i’w roi. Mae’n rhaid i orchmynion Duw fod wedi’u hargraffu ar eich calon chi yn gynta’—dim ond wedyn y bydd hi’n bosib’ eu hysgrifennu nhw ar galonnau’ch plant.—Diarhebion 20:7; cymharer Luc 6:40.

18. Wrth gymeradwyo’i Fab, sut roddodd Jehofah esiampl dda i rieni?

18 Dangoswch eich bod yn eu caru’n fawr. Pan gafodd Iesu ei fedyddio d’wedodd Jehofah: “Ti yw fy Mab, yr Anwylyd; ynot ti yr wyf yn ymhyfrydu.” (Luc 3:22) Dyma Jehofah yn cydnabod ei Fab, yn ei gymeradwyo o flaen pawb ac yn cadarnhau Ei fod yn ei garu e. Yn ddiweddarach fe dd’wedodd Iesu bod ei Dad wedi’i “garu cyn seilio’r byd.” (Ioan 17:24) Felly, fel rhieni duwiol, dangoswch eich cariad at eich plant drwy wneud pethau efo nhw a sgwrsio gyda nhw’n aml. Cofiwch bob amser fod “cariad yn adeiladu.”—1 Corinthiaid 8:1.

19, 20. Be’ mae disgyblu plant yn deg yn ei olygu, a sut gall rhieni ddysgu oddi wrth esiampl Jehofah?

19 Disgyblaeth. Mae’r Beibl yn pwysleisio mor bwysig ydi dangos cariad wrth ddisgyblu. (Diarhebion 1:8) Os bydd rhieni’n osgoi eu cyfrifoldeb o ddysgu’u plant heddiw bydd canlyniadau trist yn eu disgwyl nhw ’fory. Yr un pryd, rhaid i rieni beidio â disgyblu’n ormodol. Fel d’wedodd Paul: “Chwi dadau, peidiwch â bod yn galed ar eich plant, rhag iddynt ddigalonni.” (Colosiaid 3:21) Dylai rhieni osgoi bod wrthi byth a beunydd yn dweud y drefn wrth eu plant, neu’n tynnu sylw bob munud at sut medran’ nhw wella, neu’n bychanu’u hymdrechion nhw o hyd.

20 Mae Jehofah Dduw, ein Tad nefol, yn dangos inni’r ffordd orau i ddisgyblu. ’Dyw e byth yn cywiro’n ormodol. “Disgyblaf di mewn barn,” hynny ydi, yn deg, oedd ei eiriau i’w bobl. (Jeremeia 46:28) Fe ddylai rhieni efelychu Jehofah yn hyn o beth. Mae disgyblaeth sy’n mynd y tu hwnt i hyn neu sy’n drymach na sydd ei angen ar gyfer cywiro yn sicr o ddigalonni plentyn.

21. Sut gall rhieni benderfynu ydi eu disgyblaeth nhw’n cael yr effaith iawn?

21 Sut gall rhieni wybod ydi’r ddisgyblaeth maen’ nhw’n ei rhoi yn gweithio? Medran’ nhw sylwi ar yr effaith mae hi’n ei gael. Nod disgyblu ydi dysgu. Mae’ch plentyn i fod i ddeall pam mae e’n cael ei ddisgyblu. Mae’n bwysig hefyd fod rhieni’n dangos consýrn am hir effaith eu ffordd nhw o gywiro. Mae’n gas gan bob plentyn ei ddisgyblu. (Hebreaid 12:11) Ond ddylai disgyblaeth byth godi ofn ar blentyn, na’i adael ar ei ben ei hun, na rhoi’r argraff iddo ei fod yn anobeithiol o ddrwg. Cyn i Jehofah gywiro’i bobl fe dd’wedodd: “Paid ag ofni, . . . canys yr wyf fi gyda thi.” (Jeremeia 46:28) Yn wir, wrth gosbi, mae’n rhaid i chi’r rhieni gefnogi’ch plentyn mewn cariad, ac fe ddylai’r plentyn synhwyro hyn.

ENNILL “MEDRUSRWYDD”

22, 23. Sut mae dod yn fedrus i fagu teulu hapus?

22 Diolch i Jehofah am ddarparu’r tŵls ar gyfer magu teulu hapus. Ond mae’n rhaid inni ddod i arfer â’r tŵls hyn a’u defnyddio yn y ffordd iawn. Fel mae’n bosib’ camddefnyddio tŵls ac adeiladu tŷ sy’n anniogel, efallai eich bod chi’n sylweddoli ’nawr bod ’na fannau lle medrwch chi wella yn eich gwaith o godi teulu. Mae’n debyg y bydd gwneud y newidiadau angenrheidiol yn anodd, ond codwch eich calon a dilyn cyngor y Beibl: “Y mae’r doeth yn gwrando ac yn cynyddu mewn dysg, a’r deallus yn ennill medrusrwydd.”—Diarhebion 1:5.

23 Mi fedrwch chi ennill medrusrwydd drwy barhau i dderbyn y wybodaeth o Dduw. Rhowch sylw i’r egwyddorion yn y Beibl sy’n berthnasol i fywyd teulu, a bod yn barod i wneud newidiadau ble mae angen. Sylwch sut mae Cristnogion aeddfed yn gosod esiampl dda fel cymheiriaid priodas a rhieni. Sgwrsiwch gyda nhw. Yn fwy na dim, ewch â’ch consýrn am unrhyw beth at Jehofah mewn gweddi. (Salm 55:22; Philipiaid 4:6, 7) Mae e’n gallu’ch helpu chi i fwynhau bywyd teulu hapus, bywyd teulu sy’n ei anrhydeddu e.

[Troednodyn]

a Un sefyllfa yn unig sydd yn rhoi sail Ysgrythurol i ysgaru a chaniatáu ail briodi—“puteindra” sef perthynas rywiol y tu allan i’r briodas.—Mathew 19:9.

RHOI PRAWF AR EICH GWYBODAETH

Sut mae teyrngarwch, cyfathrebu, anrhydedd, a pharch yn cyfrannu at wneud priodas hapus?

Sut gall rhieni ddangos i’w plant eu bod nhw’n eu caru’n fawr?

Be’ ydi disgyblaeth dda?

[Llun-tudalen lawn ar dudalen 147]

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu