LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • rq gwers 5 tt. 10-11
  • Beth Yw Pwrpas Duw ar gyfer y Ddaear?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Beth Yw Pwrpas Duw ar gyfer y Ddaear?
  • Beth Mae Duw yn ei Ofyn Gennym Ni?
  • Erthyglau Tebyg
  • Beth Yw Bwriad Duw ar Gyfer y Ddaear?
    Newyddion Da Oddi Wrth Dduw!
  • “Mi Welwn Ni Chi ym Mharadwys!”
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2018
  • Beth Yw Pwrpas Duw ar Gyfer y Ddynoliaeth?
    Beth Allwn Ni ei Ddysgu o’r Beibl?
  • Duw yn Addo Paradwys
    Storïau o’r Beibl
Gweld Mwy
Beth Mae Duw yn ei Ofyn Gennym Ni?
rq gwers 5 tt. 10-11

Gwers 5

Beth Yw Pwrpas Duw ar gyfer y Ddaear?

Pam creodd Jehofah y ddaear? (1, 2)

Pam nad yw’r ddaear yn baradwys ’nawr? (3)

Beth fydd yn digwydd i bobl ddrygionus? (4)

Yn y dyfodol, beth fydd Iesu yn ei wneud dros y cleifion? yr oedrannus? y meirw? (5, 6)

Er mwyn cael bod yn gyfrannog o fendithion y dyfodol, beth sydd angen i chwi ei wneud? (7)

1. Fe greodd Jehofah y ddaear hon fel y gallai bodau dynol fwynhau byw arni am byth. ’Roedd e am i bobl gyfiawn, hapus, breswylio ar y ddaear yn wastadol. (Salmau 115:16; Eseia 45:18) Ni ddinistrir y ddaear byth; fe fydd hi’n para yn dragywydd.—Salmau 104:5; Pregethwr 1:4.

2. Cyn i Dduw greu dyn, fe ddewisodd E un rhan fach o’r ddaear a’i gwneud hi’n baradwys brydferth. Gardd Eden y galwodd E hi. Dyma lle rhoddodd e’r dyn a’r ddynes cynta’, Adda ac Efa. Bwriadodd Duw iddyn’ nhw gael plant a llenwi’r holl ddaear. Yn raddol fe fydden’ nhw wedi gwneud y ddaear gyfan yn baradwys.—Genesis 1:28; 2:8, 15.

3. Fe bechodd Adda ac Efa drwy dorri deddf Duw yn fwriadol. Felly anfonodd Jehofah nhw allan o ardd Eden. Fe gollwyd paradwys. (Genesis 3:1-6, 23) Ond nid yw Jehofah wedi anghofio ei bwrpas ar gyfer y ddaear hon. Mae e’n addo ei gwneud hi’n baradwys lle bydd bodau dynol yn byw am byth. Sut bydd e’n gwneud hyn?—Salmau 37:29.

4. Cyn y gall y ddaear hon ddod yn baradwys, mae’n rhaid symud ymaith pobl ddrygionus. (Salmau 37:38) Fe fydd hyn yn digwydd yn Armagedon, sef rhyfel Duw i roi terfyn ar ddrygioni. Yn nesaf, fe fydd Satan yn cael ei garcharu am 1,000 o flynyddoedd. Mae hyn yn golygu na fydd ’na rai drygionus ar ôl i ddifetha’r ddaear. Dim ond pobl Dduw fydd yn goroesi.—Datguddiad 16:14, 16; 20:1-3.

5. Yna fe fydd Iesu Grist yn teyrnasu’n Frenin dros y ddaear hon am 1,000 o flynyddoedd. (Datguddiad 20:6) Yn raddol fe fydd e’n tynnu pechod ymaith o’n meddyliau a’n cyrff ni. Fe fyddwn ni’n dod yn fodau dynol perffaith yn union fel ’roedd Adda ac Efa cyn iddyn’ nhw bechu. Wedyn ’fydd ’na ddim rhagor o waeledd, henaint, a marwolaeth. Fe iacheir y cleifion, ac fe fydd hen bobl yn dod yn ifanc eto.—Job 33:25; Eseia 33:24; Datguddiad 21:3, 4.

6. Yn ystod Teyrnasiad Mil Blynyddoedd Iesu, fe fydd bodau dynol ffyddlon yn gweithio i droi’r holl ddaear yn baradwys. (Luc 23:43) Hefyd, fe fydd miliynau o rai marw yn cael eu hatgyfodi i fywyd dynol ar y ddaear. (Actau 24:15) Os gwnânt yr hyn y mae Duw yn ei ofyn ganddyn’ nhw, fe fyddan’ nhw’n parhau i fyw ar y ddaear am byth. Oni wnânt, fe gânt eu difa am byth.—Ioan 5:28, 29; Datguddiad 20:11-15.

7. Fel hyn y bydd pwrpas gwreiddiol Duw ar gyfer y ddaear yn llwyddo. Hoffech chi fod â chyfran yn y bendithion hyn i’r dyfodol? Os felly, mae’n rhaid i chi barhau i ddysgu am Jehofah ac ufuddhau i’w ofynion. Fe fydd mynychu cyfarfodydd lleol yn Neuadd y Deyrnas Tystion Jehofah yn eich helpu chi i wneud hynny.—Eseia 11:9; Hebreaid 10:24, 25.

[Llun ar dudalen 10]

Coll paradwys

[Lluniau ar dudalen 11]

Wedi Armagedon, fe wneir y ddaear yn baradwys

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu