GWERS 2
Allech Chi Fyth Gael Gwell Ffrind na Duw
Pa brofiad gwell allech chi’i gael na dod yn ffrind i Dduw? Mi fydd Duw yn dangos i chi sut mae bod yn hapus a diogel, ac yn eich rhyddhau rhag credu pethau gau a gwneud drygioni. Gyda help Gwrandäwr gweddi fe gewch fwynhau tawelwch meddwl a hyder. (Salm 71:5; 73:28) Mewn amser anodd fe fydd Duw yn barod i’ch cynnal. (Salm 18:18) Mae Duw hefyd yn cynnig rhoi bywyd tragwyddol i chi.—Rhufeiniaid 6:23.
Wrth i chi ddod yn agos at Dduw mi fydd ffrindiau Duw yn dod yn annwyl i chi. Mi ddôn’ hwythau’n ffrind-iau i chi hefyd—mor agos â brodyr a chwiorydd. Mi fyddan’ nhw’n barod iawn i’ch annog a’ch helpu chi i ddod i ‘nabod Duw.
Mae Duw yn llawer uwch na ni ym mhob ffordd. Mae’n bwysig inni gydnabod hyn wrth inni geisio ennill ei gyfeillgarwch. Nid cyfeillgarwch rhwng dau ffrind tebyg ydi cyfeillgarwch gyda Duw, gan ei fod yn llawer hŷn na ni, yn ddoethach a mwy nerthol. Ganddo fe mae’r hawl i lywodraethu’n Frenin drosom. Felly os ydym am fod yn ffrind iddo, mae’n rhaid inni wrando arno a gwneud yr hyn mae’n ei ddweud. Bydd hyn bob amser er ein lles.—Eseia 48:18.