GWERS 4
Sut i Ddysgu am Dduw
Medrwch ddod i ‘nabod Jehofah yn well trwy ddarllen y Beibl. Flynyddoedd yn ôl dewisodd Duw ddynion arbennig i gofnodi ei feddyliau, a dyna ydi’r Beibl. Heddiw ‘rydym yn dysgu am Dduw trwy ddarllen y Beibl. Gair Duw ydi’r Beibl. Mae’n cynnwys neges Jehofah i ni. ‘Dyw Jehofah ddim yn dweud celwydd. Mae’n “amhosibl i Dduw fod yn gelwyddog.” (Hebreaid 6:18) Felly gallwn gredu’r Beibl. Mae Gair Duw yn dweud y gwir.—Ioan 17:17.
Rhodd werthfawr Duw i ni ydi’r Beibl. Yn y Beibl mae Duw, fel tad cariadus, yn sgwennu at ei blant i ddweud ei fod e’n addo troi’r ddaear yn baradwys hardd—lle hyfryd i fyw ynddo. ‘Rydym ni’n cael gwy-bod hefyd am weithgareddau Duw yn y gorffennol, yr hyn mae’n ei wneud ‘rŵan a’r hyn y bydd yn ei wneud dros ei blant ffydd-lon yn y dyfodol. Ar ben hyn mae’n cynnig help inni ymdopi â phroblemau bywyd a bod yn hapus.—2 Timotheus 3:16,17.
Mae Tystion Jehofah yn ffrindiau gyda Duw, ac mi fedran’ nhw’ch helpu chi i ddeall yr hyn mae’r Beibl yn ei ddysgu. Os hoffech chi wybod mwy am y Beibl, soniwch am y peth wrthyn’ nhw. Fydd dim eisiau i chi dalu dim. (Mathew 10:8) Ydych chi wedi bod yn eu cyfarfodydd Cristnogol? Beth am fynd. Neuadd y Deyrnas ydi enw’r adeilad lle maen’ nhw’n addoli. Mi ddowch chi yn eich blaen yn dda yno a dysgu llawer o bethau am Dduw.
Dod i ‘nabod Duw yn well drwy’r pethau mae e wedi’u gwneud. Meddyliwch am y nerth a’r grym sydd eu hangen i greu seren ddisglair fel yr haul. Mae’n rhaid fod Jehofah yn ofnadwy o nerthol a grymus i fedru gwneud hyn—a rhagor! Ond wrth sicr-hau gwres a goleuni inni bob dydd mae’r haul yn amlygu rhinwedd arall—doethineb mawr Duw y Creawdwr. Medrwn ddysgu llawer drwy fyfyrio arno’n ‘creu y nefoedd a’r ddaear.’—Genesis 1:1.
Cariad Jehofah yn amlwg yn ei greadigaeth. Meddyliwch am yr holl amrywiaeth ffrwythau sy’ ‘na ar y ddaear. Gallai Jehofah yn hawdd fod wedi cyfyngu ar ein dewis ohonyn’ nhw, ond yn ei gariad mae e’n cynnig y cyfan inni—rhai mawr a rhai bach, gwahanol o ran siâp, lliw a blas. Duw hael ydi Jehofah, ystyriol a charedig, a’i greadigaeth yn byrlymu gan gariad atom.—Salm 104:24.