Cân 30
Dechrau Teyrnasu Jehofa
1. Dydd gorfoleddus a ddaeth. Hir ddisgwyl fu, amser maith.
Gosod yn Seion wnaeth Jah, Gonglfaen.
Duw Iôr, teyrnasu y mae trwy gyfrwng Teyrnas ddi-fai
Crist ei Anwylyd; ef yw’r bywiol, clodfawr faen.
(CYTGAN)
Beth ddoi di, Deyrnas deg Jehofa?
Byd o gyfiawnder, byd heb wae.
Beth arall, Deyrnas deg Jehofa?
Bywyd tragwyddol, hedd di-drai.
Canwn glod fawr Iôr, Penarglwydd;
Ffyddlon yw, ein caru mae.
2. Gorseddwyd Brenin clodwiw, o feibion dae’r tecaf yw.
Byd anfoes Satan—ei ddifa Crist wna.
Daw Harmagedon yn glou, tystio a wnawn ac ymroi;
Traethwn am Deyrnas a weinydda ’wyllys Jah.
(CYTGAN)
Beth ddoi di, Deyrnas deg Jehofa?
Byd o gyfiawnder, byd heb wae.
Beth arall, Deyrnas deg Jehofa?
Bywyd tragwyddol, hedd di-drai.
Canwn glod fawr Iôr, Penarglwydd;
Ffyddlon yw, ein caru mae.
3. Rhyfeddod! Rhoddwyd i ni fawr Lywodraethwr o fri.
Yn enw Duw daw; ymgrymwn, nesawn.
Egyr uchelbyrth tŷ Dduw; cân foliant daear a glyw:
‘Teyrnasoedd byd a aeth yn eiddo Crist uniawn!’
(CYTGAN)
Beth ddoi di, Deyrnas deg Jehofa?
Byd o gyfiawnder, byd heb wae.
Beth arall, Deyrnas deg Jehofa?
Bywyd tragwyddol, hedd di-drai.
Canwn glod fawr Iôr, Penarglwydd;
Ffyddlon yw, ein caru mae.
(Gweler hefyd 2 Sam. 7:22; Dan. 2:44; Dat. 7:15.)