Cân 32
Byddwn Gadarn, Diysgog!
1. Ledled y ddaear mae terfysg a gwae,
Pryder a wna i galonnau dristáu.
Cwbl ddi-sigl a chadarn rhaid bod,
Cadw yn ffyddlon yw’n nod.
(CYTGAN)
Sefyll yn gadarn a wnawn,
Rhag hudol fyd, pell yr awn.
Ymborth gawn yng Ngair Duw; Troediwn y ffordd uniawn.
2. Baglu a wnawn os y’n denir gan fyd
Fyn ein camarwain a’n hawlio’n ddi-hid.
Glynwn wrth eiriau addewid ddi-ffael.
Noddfa a gawn hawdd ei chael.
(CYTGAN)
Sefyll yn gadarn a wnawn,
Rhag hudol fyd, pell yr awn.
Ymborth gawn yng Ngair Duw; Troediwn y ffordd uniawn.
3. Rhown i’n Penarglwydd addoliad o’n bron,
Yn ei wasanaeth cyfrannwn yn llon.
Taenwn efengyl tangnefedd di-drai,
Buan daw terfyn ar wae.
(CYTGAN)
Sefyll yn gadarn a wnawn,
Rhag hudol fyd, pell yr awn.
Ymborth gawn yng Ngair Duw; Troediwn y ffordd uniawn.
(Gweler hefyd Luc 21:9; 1 Pedr 4:7.)