LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • bm rhan 4 t. 7
  • Duw yn Gwneud Cyfamod ag Abraham

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Duw yn Gwneud Cyfamod ag Abraham
  • Y Beibl—Beth Yw Ei Neges?
  • Erthyglau Tebyg
  • Roedd yn Ffrind i Jehofa
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2016
  • Profi Ffydd Abraham
    Storïau o’r Beibl
  • Wyt Ti’n Edrych Ymlaen at “y Ddinas Sy’n Aros am Byth”?
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2020
  • Abraham—Ffrind i Dduw
    Storïau o’r Beibl
Y Beibl—Beth Yw Ei Neges?
bm rhan 4 t. 7
Abraham yn syllu ar y sêr

RHAN 4

Duw yn Gwneud Cyfamod ag Abraham

Abraham yn ufuddhau i Dduw mewn ffydd, a Jehofa yn addo ei fendithio a gwneud i’w deulu dyfu’n genedl

ROEDD tua 350 o flynyddoedd wedi mynd heibio ers y Dilyw. Roedd y patriarch Abraham yn byw yn Ur, dinas lewyrchus mewn ardal sydd yn Irac heddiw. Roedd gan Abraham ffydd eithriadol. Ond rhoddwyd prawf ar ei ffydd.

Dywedodd Jehofa wrth Abraham am adael gwlad ei febyd a symud i wlad estron, Canaan. Ufuddhaodd Abraham ar unwaith a mynd â’i deulu i gyd, gan gynnwys ei wraig Sara a’i nai Lot. Ar ôl taith hir, fe ddaethon nhw i Ganaan lle’r oedden nhw’n byw mewn pebyll. Yn ei gyfamod ag Abraham, fe addawodd Jehofa y byddai’n gwneud cenedl fawr o’i ddisgynyddion. Byddai teuluoedd y byd i gyd yn cael eu bendithio drwy Abraham a byddai ei ddisgynyddion yn meddiannu gwlad Canaan.

Aeth Abraham a Lot yn gyfoethog, ac roedden nhw’n berchen ar niferoedd helaeth o ddefaid a gwartheg. Gadawodd Abraham i Lot ddewis pa dir oedd yn well ganddo. Dewisodd Lot y tir ffrwythlon ar wastadedd yr Iorddonen a mynd i fyw ger dinas Sodom. Ond, roedd dynion Sodom yn anfoesol ac yn pechu’n ddifrifol yn erbyn Jehofa.

Yn ddiweddarach, fe wnaeth Jehofa Dduw gadarnhau y byddai plant Abraham mor niferus â sêr y nefoedd. Rhoddodd Abraham ei ffydd yn yr addewid hwnnw. Ond, doedd gan ei wraig annwyl Sara ddim plant eto. Yna, pan oedd Abraham yn 99 mlwydd oed a Sara’n tynnu at ei 90, fe ddywedodd Duw wrth Abraham y byddai ef a Sara’n cael mab. Yn union fel yr oedd Duw wedi ei addo, fe gafodd Sara fab o’r enw Isaac. Roedd gan Abraham blant eraill, ond trwy Isaac y byddai’r Gwaredwr a addawyd yn Eden yn dod.

Yn y cyfamser, roedd Lot a’i deulu yn byw yn Sodom ond doedd Lot ddim yn ymddwyn fel trigolion anfoesol y ddinas. Pan benderfynodd Jehofa ddinistrio Sodom, fe anfonodd angylion at Lot i’w rybuddio. Fe wnaeth yr angylion annog Lot a’i deulu i ffoi o’r ddinas ac i beidio ag edrych yn ôl. Yna glawiodd Duw dân a brwmstan (neu sylffwr) ar y dinasoedd drwg Sodom a Gomorra, gan ddifa pob un o’u trigolion. Dihangodd Lot a’i ddwy ferch. Ond edrychodd gwraig Lot yn ei hôl. Efallai ei bod hi’n dyheu am y pethau roedd hi wedi eu gadael ar ôl. Am iddi fod yn anufudd, fe gollodd ei bywyd.

​—Yn seiliedig ar Genesis 11:10–19:38.

  • Pam symudodd Abraham i Ganaan?

  • Pa gyfamod a wnaeth Jehofa gydag Abraham?

  • Pam gwnaeth Jehofa ddinistrio Sodom a Gomorra?

DUW CYFAMODAU

Yng nghyfnod y Beibl, roedd cyfamod yn gytundeb neu’n addewid ffurfiol. Drwy gyfres o gyfamodau, fe ddatgelodd Jehofa sut y byddai’n cyflawni’r addewid a wnaeth yn Eden ynglŷn â Gwaredwr. Roedd y cyfamod ag Abraham yn dangos mai drwy ei linach ef y byddai’r Addawedig yn dod. Byddai cyfamodau eraill yn y dyfodol yn taflu goleuni ar bwy fyddai’r Un hwnnw.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu