LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • bm rhan 6 t. 9
  • Ffyddlondeb Job

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Ffyddlondeb Job
  • Y Beibl—Beth Yw Ei Neges?
  • Erthyglau Tebyg
  • Yn Ffyddlon Trwy’r Cwbl
    Efelychu Eu Ffydd
  • Gobeithia yn Jehofa
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2022
  • Fe Wnaeth Jehofa Leddfu ei Boen
    Efelychu Eu Ffydd
  • Arhosodd Job yn Ffyddlon o Dan Brawf
    Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr ar Gyfer y Cyfarfodydd—2016
Y Beibl—Beth Yw Ei Neges?
bm rhan 6 t. 9
Job â chornwydydd ar ei gorff

RHAN 6

Ffyddlondeb Job

Satan yn cyhuddo Job, ond mae’n aros yn ffyddlon i Jehofa

PETAI rhywun yn cael ei brofi i’r eithaf, a fyddai’n aros yn ffyddlon i Dduw mewn sefyllfa lle nad oes manteision amlwg i’w cael o fod yn ufudd? Mae hanes Job yn codi’r cwestiwn hwnnw, ac yn ei ateb.

Pan oedd yr Israeliaid yn dal yn yr Aifft, roedd Job, perthynas i Abraham, yn byw mewn gwlad a elwir heddiw yn Arabia. Bryd hynny, daeth yr angylion at ei gilydd o flaen Duw yn y nef, ac roedd Satan yn eu plith. Dywedodd Jehofa wrth yr angylion fod ganddo hyder mawr yn ei was teyrngar Job. Yn wir, fe ddywedodd Jehofa nad oedd neb ar y ddaear mor ffyddlon ac uniawn â Job. Ond honnodd Satan fod Job yn gwasanaethu Duw oherwydd bod Duw yn ei fendithio ac yn ei warchod. Honnodd Satan y byddai Job yn melltithio Duw petai’n colli popeth oedd ganddo.

Angylion yn y nef wedi ymgynnull o flaen Duw gyda Satan yn eu plith

Caniataodd Jehofa i Satan brofi Job. Oherwydd yr hyn wnaeth Satan, collodd Job ei gyfoeth, ei blant, a’i iechyd. Doedd Job ddim yn gwybod mai Satan oedd y tu ôl i hyn i gyd, ac ni fedrai ddeall pam roedd Duw yn gadael iddo ddioddef gymaint. Ond, ni wnaeth Job erioed droi yn erbyn Duw.

Daeth tri chyfaill ffals i weld Job. Mewn cyfres o areithiau sy’n llenwi tudalennau yn llyfr Job, roedden nhw’n dadlau bod Duw yn cosbi Job am bechodau cudd. Aethon nhw mor bell â honni nad yw Duw yn cael pleser yn ei weision nac yn ymddiried ynddyn nhw. Gwrthododd Job eu dadl afresymol, a datgan yn hyderus y byddai’n aros yn ffyddlon hyd angau!

Ond, roedd Job yn poeni’n ormodol am ei gyfiawnhau ei hun. Nesaf, siaradodd y dyn ifanc Elihu. Ceryddodd Job am beidio â gweld bod cyfiawnhau sofraniaeth Jehofa yn llawer pwysicach na chyfiawnhau dyn. Cafodd cyfeillion ffals Job hefyd eu ceryddu’n llym gan Elihu.

Yna, fe siaradodd Jehofa Dduw â Job a rhoi cyngor iddo. Tynnodd sylw Job at ryfeddodau’r greadigaeth i ddangos pa mor fach yw dyn o’i gymharu â mawredd Duw. Fe syrthiodd Job ar ei fai. Ac yntau “mor dosturiol a thrugarog,” fe wnaeth Jehofa adfer iechyd Job, a rhoi iddo ddwywaith gymaint ei gyfoeth gynt, yn ogystal â’i fendithio gyda deg o blant. (Iago 5:11) Roedd Satan wedi honni na fyddai neb ar y ddaear yn aros yn ffyddlon i Dduw dan brawf, ond roedd ffydd Job yn profi bod Satan yn anghywir.

​—Yn seiliedig ar lyfr Job.

  • Pa gwestiwn gododd Satan ynglŷn â Job?

  • Drwy aros yn ffyddlon i Jehofa, beth wnaeth Job ei brofi?

Y CWESTIWN MAWR

Gŵr cywir a duwiol oedd Job a doedd neb ar y ddaear yn debyg iddo. Drwy honni bod Job yn gwasanaethu Jehofa Dduw am resymau hunanol, roedd Satan yn awgrymu bod yr un peth yn wir am bob creadur deallus. Roedd Satan yn taflu amheuon ar deyrngarwch dyn i Jehofa. Mae hyn yn rhan o’r cwestiwn mawr a ofynnodd Satan yn Eden: ‘Pa hawl sydd gan Jehofa i fod yn Benarglwydd?’ Mae llyfr Job yn dangos bod dynion ac angylion sy’n aros yn ffyddlon i Dduw yn tystio bod sofraniaeth Jehofa yn gyfiawn.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu