LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • T-31 tt. 1-4
  • Sut Rydych Chi’n Teimlo am y Dyfodol?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Sut Rydych Chi’n Teimlo am y Dyfodol?
  • Sut Rydych Chi’n Teimlo am y Dyfodol?
  • Erthyglau Tebyg
  • Beth Yw Teyrnas Dduw?
    Beth yw Teyrnas Dduw?
  • A Fydd Pobl yn Dioddef am Byth?
    A Fydd Pobl yn Dioddef am Byth?
  • Pwy Sy’n Rheoli’r Byd?
    Pwy Sy’n Rheoli’r Byd?
  • A Fydd y Meirw yn Cael Byw Eto?
    A Fydd y Meirw yn Cael Byw Eto?
Gweld Mwy
Sut Rydych Chi’n Teimlo am y Dyfodol?
T-31 tt. 1-4

Sut Rydych Chi’n Teimlo am y Dyfodol?

A fydd pethau . . .

  • yn aros yr un fath?

  • yn mynd yn waeth?

  • yn gwella?

MAE’R BEIBL YN DWEUD:

“Bydd [Duw] yn sychu pob deigryn o’u llygaid nhw. Fydd dim marwolaeth o hyn ymlaen, dim galaru, dim wylo, dim poen. Mae’r pethau oedd o’r blaen wedi mynd.”—Datguddiad 21:4, beibl.net.

MAE HYNNY’N GOLYGU

Gwaith sy’n werth ei wneud.—Eseia 65:21-23.

Diwedd ar salwch a dioddefaint.—Eseia 25:8; 33:24.

Bywyd tragwyddol a hapus yng nghwmni teulu a ffrindiau.—Salm 37:11, 29.

Dyn a dynes yn edrych tua’r dyfodol yn llawn gobaith; merch yn dyfrio planhigion; adeiladwyr yn codi tŷ

OND ALLWN NI GREDU BETH MAE’R BEIBL YN EI DDWEUD?

Gallwn, am o leiaf ddau reswm:

  • Mae gan Dduw’r gallu i wireddu ei addewidion. Yn y Beibl, Jehofa Dduw yn unig sy’n cael ei alw’n “Hollalluog” oherwydd does dim terfyn ar ei allu. (Datguddiad 15:3) Felly, nid yw’n anodd i Dduw gadw ei air a newid y byd er gwell. Fel mae’r Beibl yn dweud, “mae Duw’n gallu gwneud popeth!”—Mathew 19:26.

  • Mae Duw eisiau gwireddu ei addewidion. Er enghraifft, mae Jehofa yn edrych ymlaen yn fawr at yr amser pan fydd yn codi’r meirw yn fyw.—Job 14:14, 15.

    Mae’r Beibl hefyd yn dangos bod Mab Duw, Iesu, wedi iacháu pobl o’u salwch. Pam y gwnaeth hynny? Oherwydd dyna roedd Iesu eisiau ei wneud. (Marc 1:40, 41) Pan oedd Iesu yn helpu pobl mewn angen, roedd yn adlewyrchu cymeriad ei Dad yn berffaith.—Ioan 14:9.

    Felly, gallwn fod yn hollol sicr fod Jehofa a Iesu eisiau inni gael dyfodol hapus!—Salm 72:12-14; 145:16; 2 Pedr 3:9.

CWESTIWN I FEDDWL AMDANO

Rhywun yn pwyntio at adnod yn y Beibl

Sut bydd Duw yn newid y byd?

Mae’r Beibl yn ateb y cwestiwn hwnnw yn MATHEW 6:9, 10 ac yn DANIEL 2:44.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu