LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • yc gwers 4 tt. 10-11
  • Gwnaeth ei Thad a Jehofa yn Hapus

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Gwnaeth ei Thad a Jehofa yn Hapus
  • Dysgu Eich Plant
  • Erthyglau Tebyg
  • Mae Bod yn Ffyddlon yn Plesio Duw
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2016
  • Addewid Jefftha
    Storïau o’r Beibl
  • Jefftha—Dyn Ysbrydol
    Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2021
  • Mae Pobl Ffyddlon yn Cadw Eu Haddewidion i Jehofa
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2024
Gweld Mwy
Dysgu Eich Plant
yc gwers 4 tt. 10-11
Jefftha yn treulio amser gyda’i ferch pan oedd hi’n eneth fach

GWERS 4

Gwnaeth ei Thad a Jehofa yn Hapus

Jefftha yn gweddïo ar Jehofa wrth i’r Israeliaid ymladd yn erbyn eu gelynion

Pa addewid mae Jefftha yn ei wneud i Jehofa?

Jefftha yn cofleidio ei ferch sydd wedi dod i’w groesawu yn ôl o’r rhyfel

Er nad oedd yn hawdd, fe wnaeth merch Jefftha yr hyn a addawodd ei thad

Weli di’r ferch yn y llun?— Merch dyn o’r enw Jefftha yw hi. Nid yw’r Beibl yn dweud beth oedd ei henw, ond rydyn ni’n gwybod ei bod hi wedi gwneud ei thad a Jehofa yn hapus. Gad inni ddysgu amdani hi a’i thad, Jefftha.

Dyn da oedd Jefftha a threuliodd lawer o amser yn dysgu ei ferch am Jehofa. Roedd hefyd yn ddyn cryf ac yn arweinydd da. Felly, gofynnodd yr Israeliad iddo eu harwain nhw i ymladd yn erbyn eu gelynion.

Gweddïodd Jefftha ar Dduw am ei help i ennill. Fe wnaeth Jefftha addewid i Jehofa. Petai’n ennill y rhyfel, byddai’n rhoi i Jehofa y person cyntaf a ddaeth allan o’r tŷ. Byddai’r person yma yn treulio gweddill ei oes yn nhabernacl Duw. Dyna lle roedd pobl yn addoli Duw yn y dyddiau hynny. Wel, enillodd Jefftha y rhyfel! Pan gyrhaeddodd adref, pwy ddaeth allan o’r tŷ yn gyntaf?—

Ie, merch Jefftha, ei unig ferch! A nawr roedd rhaid i Jefftha ei hanfon i ffwrdd. Roedd hyn yn ei wneud yn drist iawn. Ond cofia, roedd wedi gwneud addewid i Jehofa. Dywedodd ei ferch ar unwaith: ‘Fy Nhad, rydych chi wedi addo i Jehofa, rhaid i chi gadw eich addewid.’

Merch Jefftha yn casglu pren ar gyfer y tabernacl; mae ei ffrindiau wedi dod i’w gweld hi

Aeth ffrindiau merch Jefftha i’w gweld hi bob blwyddyn

Roedd merch Jefftha yn drist hefyd. Yn y tabernacl, doedd hi ddim yn cael priodi na chael plant. Ond yn fwy na dim, roedd hi eisiau cadw addewid ei thad a gwneud Jehofa yn hapus. Roedd hyn yn bwysicach iddi hi na phriodi a chael plant. Symudodd allan o’i thŷ a byw gweddill ei hoes yn y tabernacl.

Wyt ti’n meddwl ei bod hi wedi plesio Jehofa a’i thad trwy’r hyn a wnaeth hi?— Do, fe wnaeth! Os wyt ti’n ufudd ac os wyt ti’n caru Jehofa, fe elli di fod fel merch Jefftha. Byddi di hefyd yn gwneud dy rieni a Jehofa yn hapus iawn.

DARLLENA YN DY FEIBL

  • Deuteronomium 6:4-6

  • Barnwyr 11:30-40

  • 1 Corinthiaid 7:32-34

CWESTIYNAU:

  • Pwy oedd Jefftha? Pa addewid wnaeth ef?

  • Pam roedd yn anodd i ferch Jefftha wneud yr hyn a addawodd ei thad?

  • Beth oedd merch Jefftha eisiau gwneud yn fwy na dim byd arall?

  • Sut medri di fod fel merch Jefftha?

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu