GWERS 29
Beth Sy’n Digwydd ar ôl Inni Farw?
Ydych chi erioed wedi colli rhywun rydych chi’n ei garu? Yn ystod amser mor anodd, efallai y byddwch chi’n gofyn: ‘Beth sy’n digwydd ar ôl inni farw? Oes ’na obaith y byddwn ni’n gweld ein hanwyliaid eto?’ Yn y wers hon a’r wers nesaf, ystyriwch atebion calonogol y Beibl.
1. Beth sy’n digwydd ar ôl inni farw?
Cymharodd Iesu farwolaeth â chwsg. Nid yw rhywun sy’n cysgu’n drwm yn ymwybodol o’r hyn sy’n digwydd o’i gwmpas. Sut mae marwolaeth yn debyg i gwsg? Ar ôl i rywun farw, nid yw’n teimlo poen. Nid yw’n teimlo’n unig, ni waeth faint oedd yn caru ei deulu a’i ffrindiau. Mae’r Beibl yn dweud: “Dydy’r meirw’n gwybod dim byd!”—Darllenwch Pregethwr 9:5.
2. Sut mae gwybod y gwir am farwolaeth yn ein helpu ni?
Mae gan lawer o bobl ofn marw—a hyd yn oed ofn y meirw! Ond mae’r Beibl yn rhoi cysur inni. Dywedodd Iesu: “Fe fydd y gwir yn eich rhyddhau chi.” (Ioan 8:32) Yn wahanol i’r hyn y mae llawer o grefyddau yn ei honni, nid yw’r Beibl yn dweud bod yr enaid yn parhau i fyw ar ôl marwolaeth. Felly, nid oes neb yn dioddef ar ôl marw. Gan nad yw’r meirw yn gwybod dim, ni allan nhw wneud niwed inni. Felly, nid oes angen inni addoli na cheisio plesio’r meirw, na dweud gweddïau drostyn nhw chwaith.
Mae rhai yn dweud eu bod nhw’n gallu siarad â’r meirw. Ond mae hynny’n amhosib. Fel rydyn ni eisoes wedi dysgu, “dydy’r meirw’n gwybod dim byd.” Mewn gwirionedd, mae’r rhai sy’n meddwl eu bod nhw’n siarad ag anwyliaid sydd wedi marw yn siarad â’r cythreuliaid sy’n cogio eu bod nhw’n bobl sydd wedi marw. Felly, mae gwybod y gwir am farwolaeth yn ein hamddiffyn ni rhag y cythreuliaid. Mae Jehofa yn ein rhybuddio ni am geisio siarad â’r meirw oherwydd y mae’n gwybod y bydd unrhyw gysylltiad â’r cythreuliaid yn gwneud niwed inni.—Darllenwch Deuteronomium 18:10-12.
CLODDIO’N DDYFNACH
Dysgwch fwy am beth mae’r Beibl yn ei ddweud am farwolaeth, ac am sut i gryfhau eich ffydd mewn Duw cariadus sydd ddim yn cosbi’r meirw.
3. Dysgwch am gyflwr y meirw
Ledled y byd, mae gan bobl farn wahanol ar beth sy’n digwydd ar ôl inni farw. Wrth gwrs, nid yw’n bosib i’r holl gredoau hynny fod yn wir.
Beth mae pobl yn eich ardal chi yn ei gredu am gyflwr y meirw?
I weld beth mae’r Beibl yn ei ddysgu, gwyliwch y FIDEO.
Darllenwch Pregethwr 3:20, ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:
Yn ôl yr adnod hon, beth sy’n digwydd i rywun ar ôl iddo farw?
Ydy hi’n bosib bod rhan ohono yn parhau i fyw?
Mae’r Beibl yn sôn am farwolaeth Lasarus, ffrind agos i Iesu. Wrth ichi ddarllen Ioan 11:11-14, sylwch ar sut mae Iesu yn cyfeirio at gyflwr Lasarus. Yna trafodwch y cwestiynau hyn:
Sut roedd Iesu yn disgrifio marwolaeth?
Beth mae’r disgrifiad hwnnw yn ei ddangos am gyflwr y meirw?
Ydych chi’n meddwl bod y ffordd mae’r Beibl yn disgrifio marwolaeth yn gwneud synnwyr?
4. Mae gwybod y gwir am farwolaeth yn ein helpu ni
Mae gwybod y gwir am farwolaeth yn ein rhyddhau ni o ofn y meirw. Darllenwch Pregethwr 9:10, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:
Ydy’r meirw yn gallu gwneud niwed inni?
Mae gwirioneddau’r Beibl hefyd yn dangos nad oes rhaid inni addoli’r meirw a cheisio eu plesio. Darllenwch Eseia 8:19, 20, BCND a Datguddiad 4:11, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:
Sut rydych chi’n meddwl mae Jehofa yn teimlo am rywun sy’n addoli’r meirw neu’n gofyn am eu help?
Mae gwybod y gwir am farwolaeth yn ein gollwng yn rhydd o draddodiadau nad ydyn nhw’n plesio Jehofa
5. Mae gwybod y gwir am farwolaeth yn rhoi cysur inni
Mae llawer o bobl yn credu y byddan nhw’n cael eu cosbi am eu pechodau ar ôl marw. Ond cysur yw gwybod nad yw neb yn dioddef ar ôl marw—hyd yn oed y rhai sydd wedi gwneud pethau drwg iawn. Darllenwch Rhufeiniaid 6:7, ac yna trafodwch y cwestiwn hwn:
Mae’r Beibl yn dweud bod pechodau’r rhai sydd wedi marw wedi cael eu maddau. Felly, ydych chi’n meddwl bod pobl sydd wedi marw yn dioddef oherwydd pechodau yn y gorffennol?
Trwy ddod i adnabod Jehofa yn well, rydyn ni’n sylweddoli na fyddai byth yn gadael i’r meirw ddioddef. Darllenwch Deuteronomium 32:4 ac 1 Ioan 4:8, ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:
A fyddai’r Duw a ddisgrifir yn yr adnodau hyn yn cosbi’r rhai sydd wedi marw?
Ydy’r gwir am farwolaeth yn rhoi cysur i chi? Pam?
BYDD RHAI YN DWEUD: “Rydw i’n poeni am beth fydd yn digwydd ar ôl imi farw.”
Pa adnodau calonogol o’r Beibl gallwch chi eu rhannu?
CRYNODEB
Pan fydd rhywun yn marw, mae ei fywyd yn dod i ben. Nid yw’r meirw yn dioddef, nac yn gallu ein niweidio ni.
Adolygu
Beth sy’n digwydd ar ôl inni farw?
Sut mae gwybod y gwir am farwolaeth yn ein helpu ni?
Sut mae gwybod y gwir am farwolaeth yn rhoi cysur inni?
DARGANFOD MWY
Dysgwch beth mae’r gair “enaid” yn y Beibl yn ei olygu.
Dysgwch a yw Duw yn defnyddio uffern i gosbi pobl ddrwg.
A oes rhaid inni ofni’r meirw?
A All Ysbrydion y Meirw Eich Helpu Neu Eich Niweidio? A Ydyn Nhw’n Bodoli? (llyfryn)
Dysgwch sut cafodd un dyn gysur ar ôl dysgu’r gwir am beth sy’n digwydd ar ôl inni farw.
“Gwnaeth Atebion Clir a Rhesymegol y Beibl Greu Argraff Arna I” (Y Tŵr Gwylio, Chwefror 1, 2015)