Ein Gwefan Swyddogol—Yn Ddefnyddiol i Ni ac i Eraill
Rhoddodd Iesu gomisiwn inni bregethu’r newyddion da am y Deyrnas “drwy’r byd i gyd fel tystiolaeth i’r holl genhedloedd.” (Math. 24:14) Er mwyn inni fedru ‘cyflawni holl ofynion ein gweinidogaeth,’ mae’r gwefannau watchtower.org, jw-media.org, a jw.org wedi eu cyfuno yn un wefan ddiwygiedig, sef jw.org.—2 Tim. 4:5.
“Y Byd i Gyd”: Mae tua thraean o boblogaeth y byd yn defnyddio’r Rhyngrwyd. I lawer o bobl, yn enwedig pobl ifanc, y Rhyngrwyd yw’r brif ffynhonnell gwybodaeth. Gall defnyddwyr y Rhyngrwyd gael atebion cywir i gwestiynau am y Beibl ar ein gwefan. Y mae’n eu cyflwyno nhw i gyfundrefn Jehofah ac yn ei gwneud hi’n haws iddyn nhw ofyn am astudiaeth Feiblaidd. Felly, mae’n bosibl i’r newyddion da gyrraedd llefydd lle nad oes gan bobl lawer o gyfle i ddysgu am Deyrnas Dduw.
‘Yr Holl Genhedloedd’: Er mwyn tystiolaethu i’r “holl genhedloedd,” mae’n rhaid inni gyflwyno gwirionedd y Beibl mewn llawer o ieithoedd. Gall ymwelwyr i jw.org ddod o hyd i wybodaeth yn hawdd mewn tua 400 o ieithoedd, llawer mwy nag unrhyw wefan arall.
Gwnewch Ddefnydd Da Ohoni: Mae’r wefan jw.org wedi ei hailwampio nid ar gyfer y cyhoedd yn unig ond ar gyfer Tystion Jehofah hefyd. Os gallwch chi gysylltu â’r Rhyngrwyd, rydyn ni’n eich annog i ddod yn gyfarwydd â jw.org. Dyma ichi rai cynigion ar sut i’w defnyddio.
[Diagram ar dudalen 3]
(Ewch i’r cyhoeddiad i weld fformat testun cyflawn)
Triwch Hyn
1 Teipiwch www.pr418.com yn y blwch cyfeiriad ar frig tudalen porwr gwe eich cyfrifiadur.
2 Beth am ichi bori’r wefan drwy glicio ar benawdau’r gwahanol adrannau. Canfyddwch yr opsiynau yn y ddewislen a’r dolenni.
3 Ceisiwch ddefnyddio jw.org ar eich dyfeisiau symudol sydd wedi eu galluogi ar gyfer y Rhyngrwyd. Mae cynllun y tudalen yn ymaddasu ar gyfer sgriniau llai, ond mae’r wybodaeth yr un fath.