Hogi Ein Sgiliau yn y Weinidogaeth—Dechrau Sgwrs er Mwyn Tystiolaethu’n Anffurfiol
Pam Mae’n Bwysig: Wrth inni fynd o ddrws i ddrws yn y weinidogaeth, mae llawer o bobl oddi gartref. Ond efallai byddwn ni’n cael cyfle i siarad â phobl ar y bws neu’r trên, yn y feddygfa, wrth gael egwyl yn yr ysgol neu yn y gwaith ac yn y blaen. Mae Jehofa yn dymuno i bawb gael y cyfle i glywed am y Deyrnas. (1 Tim. 2:3, 4) Ond yn aml, cyn inni fedru tystiolaethu, bydd rhaid inni gymryd y cam cyntaf a dechrau sgwrs.
Rhowch Gynnig ar Hyn yn Ystod y Mis:
Ceisiwch ddechrau o leiaf un sgwrs bob wythnos gyda’r nod o dystiolaethu’n anffurfiol.