TRYSORAU O AIR DUW | 1 THESALONIAID 1-5
“Calonogwch Eich Gilydd, a Daliwch Ati i Helpu’ch Gilydd”
Mae gan bob Cristion y gallu i galonogi eraill. Er enghraifft, rydyn ni’n annog ein cyd-Gristnogion wrth fynychu’r cyfarfodydd a mynd ar y weinidogaeth yn rheolaidd, efallai “trwy fawr ymdrech” oherwydd iechyd gwael neu anawsterau eraill. (1The 2:2, BC) Hefyd, gan baratoi o flaen llaw ac efallai gwneud ymchwil, gallwn gysuro ein cyd-addolwyr gyda geiriau calonogol.
Ble gelli di ddod o hyd i wybodaeth ddefnyddiol a fydd yn dy helpu i annog rhywun sy’n wynebu her benodol?
Pwy yn y gynulleidfa rwyt ti eisiau ei galonogi?