Cyflwyniad
Ydych chi erioed wedi teimlo nad ydy Duw yn gwrando ar eich gweddïau? Os felly, nid ydych chi ar eich pen eich hun. Mae llawer wedi gweddïo am help, ond parhau mae eu problemau. Bydd yr erthyglau hyn yn trafod pam gallwn gredu bod Duw yn gwrando ar ein gweddïau, pam mae rhai gweddïau yn mynd heb eu hateb, a sut i weddïo a chael atebion.