LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • w24 Gorffennaf tt. 20-25
  • Gwersi Pwysig o Frenhinoedd Israel

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Gwersi Pwysig o Frenhinoedd Israel
  • Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2024
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • CARU JEHOFA Â DY HOLL GALON
  • EDIFARHAU
  • ADDOLI JEHOFA YN Y FFORDD IAWN
  • Dysga o Eiriau Olaf Dynion Ffyddlon
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2024
  • Cofia Mai Jehofa Yw’r “Duw Byw”
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2024
  • Penderfyniadau Sy’n Dangos Ein Bod Ni’n Dibynnu ar Jehofa
    Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2023
  • Gwrandewch am yr Atebion i’r Cwestiynau Hyn
    Rhaglen Cynulliad y Gylchdaith Gydag Arolygwr y Gylchdaith 2025-2026
Gweld Mwy
Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2024
w24 Gorffennaf tt. 20-25

ERTHYGL ASTUDIO 30

CÂN 36 Gwarchodwn Ein Calonnau

Gwersi Pwysig o Frenhinoedd Israel

“Byddwch chi’n gweld y gwahaniaeth rhwng yr un sydd wedi byw’n iawn a’r rhai drwg, rhwng y sawl sy’n gwasanaethu Duw a’r rhai sydd ddim.”—MAL. 3:18.

PWRPAS

I ddysgu beth roedd Jehofa yn ei feddwl am frenhinoedd Israel i’n helpu ni i ddeall beth mae’n ei ddisgwyl gynnon ni heddiw.

1-2. Beth mae’r Beibl yn ei ddatgelu am rai o frenhinoedd Israel?

MAE’R Beibl yn enwi mwy na 40 o frenhinoedd Israel.a Mae’n cynnwys manylion gonest iawn am rai ohonyn nhw. Er enghraifft, roedd hyd yn oed y brenhinoedd da yn gwneud pethau drwg ar adegau. Dywedodd Jehofa am y Brenin Dafydd ei fod yn “gwneud beth sy’n iawn gen i.” (1 Bren. 14:8) Er hynny, gwnaeth Dafydd gyflawni anfoesoldeb rhywiol â dynes briod a threfnu i’w gŵr gael ei ladd mewn brwydr.—2 Sam. 11:​4, 14, 15.

2 Ar y llaw arall, fe wnaeth llawer o’r brenhinoedd anffyddlon bethau da. Ystyria Rehoboam. Gwnaeth beth oedd yn ddrwg yng ngolwg Jehofa. (2 Cron. 12:14) Ond eto, fe wnaeth Rehoboam ufuddhau i gyfarwyddiadau Duw i wahanu deg o’r llwythau oddi wrth weddill y deyrnas. Fe wnaeth hefyd gryfhau dinasoedd y genedl.—1 Bren. 12:​21-24; 2 Cron. 11:​5-12.

3. Pa gwestiwn pwysig sy’n codi, a beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?

3 Mae hyn yn codi cwestiwn pwysig. Os oedd brenhinoedd Israel yn gwneud da a drwg, sut roedd Jehofa’n penderfynu os oedden nhw’n ffyddlon neu ddim? Bydd yr ateb i’r cwestiwn hwnnw yn ein helpu ni i weld beth mae Jehofa’n ei ddisgwyl gynnon ni. Byddwn ni’n trafod tri ffactor y mae’n amlwg bod Jehofa wedi eu hystyried: eu cyflwr calon, eu hedifeirwch, a pha mor agos y gwnaethon nhw lynu wrth wir addoliad.

CARU JEHOFA Â DY HOLL GALON

4. Beth oedd un gwahaniaeth rhwng y brenhinoedd da a’r brenhinoedd drwg?

4 Roedd y brenhinoedd a oedd yn plesio Jehofa yn ei wasanaethu gyda’u holl galon.b Chwiliodd y brenin da Jehosaffat am “yr ARGLWYDD â’i holl galon.” (2 Cron. 22:9) Mae’r Beibl yn dweud am y Brenin Joseia: “Fuodd yna ddim brenin tebyg iddo o’i flaen nac ar ei ôl. Roedd wedi troi at yr ARGLWYDD â’i holl galon.” (2 Bren. 23:25) Beth am gyflwr calon y Brenin Solomon pan aeth yn hŷn? “Wnaeth e ddim aros yn gwbl ffyddlon.” (1 Bren. 11:4) Ac mae’r Beibl yn dweud am y brenin anffyddlon Abeiam: “Doedd e ddim yn gwbl ffyddlon i’r ARGLWYDD.”—1 Bren. 15:3.

5. Esbonia beth mae’n ei olygu i wasanaethu Jehofa â dy holl galon.

5 Beth mae’n ei olygu, felly, i wasanaethu Jehofa â dy holl galon? Dydy person sy’n gwasanaethu Duw â’u holl galon ddim yn ei wasanaethu oherwydd dyna ydy ei arfer yn unig. Yn hytrach, mae’n ei wasanaethu allan o gariad a defosiwn duwiol, ac mae’n cadw’r cariad hwnnw drwy weddill ei fywyd.

6. Sut gallwn ni osgoi cael calon ranedig? (Diarhebion 4:23; Mathew 5:​29, 30)

6 Sut gallwn ni efelychu’r brenhinoedd da a gwasanaethu â’n holl galon? Trwy osgoi dylanwadau drwg. Er enghraifft, gall adloniant drwg, ffrindiau drwg, a meddylfryd materol achosi i’n calon fod yn rhanedig. Os ydyn ni’n dechrau teimlo bod rhywbeth yn dechrau gwanhau ein cariad at Jehofa, dylen ni weithredu’n gyflym i gael gwared arno.—Darllen Diarhebion 4:23; Mathew 5:​29, 30.

7. Pam dylen ni osgoi dylanwadau drwg?

7 Fiw inni adael i’n calon fynd yn rhanedig. Os nad ydyn ni’n ofalus, gallen ni dwyllo ein hunain i feddwl bod gwneud mwy o bethau ysbrydol yn golygu does dim rhaid cael gwared ar y pethau drwg. I egluro, dychmyga dy fod ti allan ar ddiwrnod sy’n iasol o oer gyda gwynt main. Wrth gyrraedd adref, rwyt ti’n troi’r gwres ymlaen, ond rwyt ti’n gadael y drws ffrynt yn agored ac mae’r tŷ i gyd yn oeri mewn dim o dro. Beth ydy’r pwynt? Mae’n rhaid inni wneud mwy na chymryd bwyd ysbrydol i mewn sy’n cynhesu ein cariad at Jehofa. Mae’n rhaid inni gau’r drws ar ddylanwadau drwg, sef agweddau annuwiol ac oeraidd y byd, er mwyn iddyn nhw beidio â rhannu ein calon.—Eff. 2:2.

EDIFARHAU

8-9. Sut gwnaeth y Brenin Dafydd a’r Brenin Heseceia ymateb i gyngor? (Gweler y llun .)

8 Fel gwelon ni gynnau, pechodd y Brenin Dafydd yn ddifrifol. Ond pan wnaeth y proffwyd Nathan ddod â’r pechod i’w sylw, edifarhaodd Dafydd. (2 Sam. 12:13) Mae ei eiriau yn Salm 51 yn dangos pa mor sori oedd ef. Doedd Dafydd ddim yn gwneud sioe o edifeirwch i geisio twyllo Nathan neu i osgoi cael ei gosbi.—Salm 51:​3, 4, 17, uwchysgrif.

9 Gwnaeth y Brenin Heseceia hefyd bechu yn erbyn Jehofa. Mae’r Beibl yn dweud amdano: “Roedd e’n falch, ac roedd yr ARGLWYDD yn ddig gydag e, a gyda Jwda a Jerwsalem.” (2 Cron. 32:25) Beth wnaeth achosi balchder Heseceia? Efallai roedd yn meddwl gormod ohono’i hun oherwydd ei gyfoeth, y ffaith ei fod wedi cael buddugoliaeth dros yr Asyriaid, neu ei fod wedi cael ei iacháu o salwch. Efallai balchder oedd y rheswm iddo frolio am ei gyfoeth i’r Babiloniaid. Fe wnaeth y proffwyd Eseia ei geryddu am hynny. (2 Bren. 20:​12-18) Ond fel Dafydd, fe wnaeth Heseceia edifarhau yn ostyngedig. (2 Cron. 32:26) Ar ddiwedd y dydd, roedd Jehofa yn ei ystyried yn frenin ffyddlon a oedd yn “gwneud beth oedd yn plesio’r ARGLWYDD.”—2 Bren. 18:3.

Collage: 1. Mae’r Brenin Dafydd yn edrych i fyny’n drist wrth i Nathan siarad ag ef. 2. Mae’r Brenin Heseceia yn dal ei ben yn ei law wrth i Eseia siarad ag ef.

Edifarhaodd y Brenin Dafydd a’r Brenin Heseceia pan gafodd eu pechodau eu pwyntio allan iddyn nhw (Gweler paragraffau 8-9)


10. Sut gwnaeth y Brenin Amaseia ymateb pan gafodd ei gywiro?

10 Yn wahanol i hynny, fe wnaeth y Brenin Amaseia o Jwda beth oedd yn dda ond nid â’i holl galon. (2 Cron. 25:2) Beth aeth o’i le? Ar ôl i Jehofa ei helpu i orchfygu’r Edomiaid, ymgrymodd Amaseia o flaen eu duwiau nhw.c Yna, pan wnaeth proffwyd Jehofa ei geryddu, trodd Amaseia’n ystyfnig a gwrthod gwrando.—2 Cron. 25:​14-16.

11. Yn ôl 2 Corinthiaid 7:​9, 11, beth mae’n rhaid inni ei wneud i dderbyn maddeuant? (Gweler hefyd y lluniau.)

11 Beth rydyn ni’n ei ddysgu o’r esiamplau hyn? Mae’n rhaid inni edifarhau am ein pechodau a gwneud popeth allwn ni i beidio â’u gwneud nhw eto. Beth os ydyn ni’n derbyn cyngor gan henuriaid ar rywbeth bach iawn? Ddylen ni ddim teimlo bod Jehofa na’r henuriaid yn cefnu arnon ni. Roedd yn rhaid i frenhinoedd da Israel dderbyn cyngor. (Heb. 12:6) Pan ydyn ni’n cael ein cywiro, dylen ni (1) ymateb yn ostyngedig, (2) newid ein ffordd, a (3) dal ati i wneud ein gorau yn ein gwasanaeth i Jehofa. Os ydyn ni’n wir yn sori am ein pechodau, bydd Jehofa yn maddau inni.—Darllen 2 Corinthiaid 7:​9, 11.

Collage: 1. Mae henuriad ifanc yn siarad â brawd tra bod y brawd yn edrych ar botel a gwydr gydag alcohol ynddyn nhw. 2. Mae’r brawd yn gwneud ymchwil gan ddefnyddio’r Beibl a gwers 43 o’r llyfr “Mwynhewch Fywyd am Byth!” 3. Mae’r henuriad ifanc a’r brawd yn gweithio gyda’i gilydd yn y weinidogaeth o dŷ i dŷ.

Pan ydyn ni’n cael ein cywiro, dylen ni (1) ymateb yn ostyngedig, (2) gwneud unrhyw newidiadau angenrheidiol, a (3) gwasanaethu Jehofa â’n holl galon (Gweler paragraff 11)f


ADDOLI JEHOFA YN Y FFORDD IAWN

12. Beth oedd yn wahanol am y brenhinoedd ffyddlon?

12 Roedd y brenhinoedd a oedd yn ffyddlon yng ngolwg Jehofa yn cadw at addoliad pur, ac roedden nhw’n annog eraill i wneud yr un peth. Wrth gwrs, fel rydyn ni wedi ei weld, roedd ganddyn nhw wendidau. Ond roedden nhw’n addoli Jehofa yn unig ac yn brwydro’n galed i gael gwared ar eilunaddoliaeth o’r wlad.d

13. Pam roedd y Brenin Ahab yn anffyddlon yng ngolwg Jehofa?

13 Beth am y brenhinoedd roedd Jehofa’n eu hystyried yn anffyddlon? Doedden nhw ddim yn gwneud pethau drwg yn unig. Gwnaeth hyd yn oed y brenin drygionus Ahab ddangos rhywfaint o ostyngeiddrwydd a chywilydd am ei ran ym marwolaeth Naboth. (1 Bren. 21:​27-29) Roedd hefyd yn gyfrifol am adeiladu dinasoedd ac am rai buddugoliaethau Israel. (1 Bren. 20:​21, 29; 22:39) Ond roedd Ahab yn adnabyddus am hyrwyddo gau addoliad o dan ddylanwad ei wraig. Ni edifarhaodd byth am hyn.—1 Bren. 21:​25, 26.

14. (a) Pam roedd Jehofa yn ystyried y Brenin Rehoboam yn anffyddlon? (b) Beth oedd yn gyffredin ymysg y brenhinoedd anffyddlon?

14 Ystyria esiampl brenin anffyddlon arall—Rehoboam. Fel gwelon ni’n gynharach, fe wnaeth bethau da yn ystod ei deyrnasiad. Ond unwaith i’w frenhiniaeth gael ei sefydlu’n gadarn, fe gefnodd ar Gyfraith Jehofa. (2 Cron. 12:1) Yna, roedd yn simsanu rhwng gwir addoliad a gau addoliad. (1 Bren. 14:​21-24) Roedd y rhan fwyaf o’r brenhinoedd anffyddlon, gan gynnwys Rehoboam ac Ahab, wedi cefnogi gau addoliad mewn un ffordd neu’i gilydd. Yn amlwg, roedd glynu wrth addoliad pur yn un o brif ffactorau Jehofa wrth iddo benderfynu os oedd brenin yn dda neu ddim.

15. Pam mae addoliad pur mor bwysig i Jehofa?

15 Pam roedd y mater o addoliad mor bwysig i Jehofa? Am un peth, roedd y brenhinoedd yn gyfrifol am gymryd y blaen yn addoliad pur. Hefyd, mae gau addoliad yn arwain at anghyfiawnderau a phechodau mwy difrifol. (Hos. 4:​1, 2) Ar ben hynny, roedd y brenhinoedd a phobl y genedl wedi eu cysegru i Jehofa. Felly, mae’r Beibl yn cymharu gau addoliad â godineb. (Jer. 3:​8, 9) Mae rhywun sy’n godinebu yn pechu yn erbyn ei gymar mewn ffordd bersonol iawn. Mewn ffordd debyg, mae rhywun sydd wedi cysegru ei hun i Jehofa ac yna’n cymryd rhan mewn gau addoliad yn pechu yn erbyn Duw mewn ffordd bersonol.e—Deut. 4:​23, 24.

16. Yng ngolwg Jehofa, beth ydy’r gwahaniaeth rhwng person da a pherson drwg?

16 Beth yw’r gwersi inni? Mae’n rhaid inni fod yn benderfynol o lynu’n agos at addoliad pur ac osgoi gau addoliad. Dangosodd y proffwyd Malachi yn blwmp ac yn blaen beth sy’n gwahaniaethu person da a pherson drwg yng ngolwg Jehofa. Ysgrifennodd: “Byddwch chi’n gweld y gwahaniaeth rhwng yr un sydd wedi byw’n iawn a’r rhai drwg, rhwng y sawl sy’n gwasanaethu Duw a’r rhai sydd ddim.” (Mal. 3:18) Felly, mae’n rhaid inni fod yn benderfynol o beidio â gadael i unrhyw beth, fel ein gwendidau a’n camgymeriadau, achosi inni ddigalonni a stopio gwasanaethu Duw. Byddai stopio gwasanaethu Jehofa yn bechod difrifol ynddo’i hun.

17. Sut gall ein dewis o bwy i briodi effeithio ar ein defosiwn i Dduw?

17 Os wyt ti’n sengl ac yn meddwl am briodi, a wyt ti’n gallu gweld sut mae geiriau Malachi am wasanaethu Duw yn berthnasol wrth iti ddewis cymar? Efallai fod gan rywun rinweddau da iawn, ond os dydy’r person hwnnw ddim yn gwasanaethu Jehofa, a ydy Duw yn ei ystyried yn gyfiawn? (2 Cor. 6:14) Petasai’r ddau ohonoch chi’n priodi, a fyddai dy gymar yn ddylanwad da arnat ti mewn ffordd ysbrydol? Meddylia am hyn: Efallai fod gwragedd y Brenin Solomon wedi dangos rhai rhinweddau da. Ond doedden nhw ddim yn addoli Jehofa, ac mewn amser, gwnaethon nhw ddenu Solomon i ffwrdd o addoliad pur.—1 Bren. 11:​1, 4.

18. Beth dylai rhieni ei ddysgu i’w plant?

18 Rieni, gallwch chi ddefnyddio hanesion y brenhinoedd yn y Beibl i helpu’ch plant i addoli Jehofa yn selog. Helpwch eich plant i ddeall bod Jehofa wedi ystyried brenhinoedd yn dda neu’n ddrwg ar sail eu haddoliad. Gadewch i’ch geiriau a’ch esiampl ddysgu i’ch plant fod pethau ysbrydol, fel astudio’r Beibl, mynd i’r cyfarfodydd, a mynd ar y weinidogaeth yn cymryd blaenoriaeth dros bob gweithgaredd arall. (Math. 6:33) Os nad ydych chi’n gwneud hynny, gallai bod yn un o Dystion Jehofa olygu dim byd mwy i’ch plant na pherthyn i grefydd y teulu. Byddai meddwl felly yn gallu gwneud iddyn nhw roi pethau eraill o flaen gwir addoliad neu achosi iddyn nhw adael y gwir yn gyfan gwbl.

19. Pa obaith sydd i’r rhai sydd wedi stopio gwasanaethu Jehofa? (Gweler hefyd y blwch “Fe Elli Di Droi’n ôl at Jehofa!”)

19 Oes ’na obaith i’r rhai sydd wedi stopio gwasanaethu Jehofa? Oes, oherwydd gall ef neu hi edifarhau a dechrau addoli eto. Er mwyn gwneud hynny, efallai bydd rhaid iddo lyncu ei falchder a derbyn help gan yr henuriaid. (Iago 5:14) Bydd yn werth pob ymdrech iddo er mwyn bod yn ffrind i Jehofa eto!

Fe Elli Di Droi’n ôl at Jehofa!

Ystyria esiampl y Brenin Manasse, a wnaeth “lawer iawn o bethau drwg yng ngolwg” Jehofa. “Roedd Manasse wedi lladd lot fawr o bobl ddiniwed,” wedi cymryd rhan mewn ysbrydegaeth, a hyd yn oed aberthu ei feibion ei hun i gau dduwiau! (2 Bren. 21:​6, 16) Achosodd i genedl Jwda “wneud mwy o ddrwg” na’r cenhedloedd eraill. (2 Bren. 21:9; 2 Cron. 33:​1-6) Ond pan gafodd Manasse ei gymryd yn gaethglud i Fabilon, fe wnaeth edifarhau. A fyddai gofyn am faddeuant unwaith yn ddigon? Na fyddai. Roedd wedi arfer gwneud pethau dychrynllyd dros gyfnod hir o amser. Yn ei ofid, gwnaeth Manasse “edifarhau go iawn [“darostwng ei hun,” NWT]” a “gweddïo ar yr ARGLWYDD.” Yn yr ieithoedd gwreiddiol, mae’r berfau fan hyn yn rhoi’r syniad o weithred barhaol. Beth oedd y canlyniad? “Clywodd yr ARGLWYDD ei weddi a gwrando ar ei gais.” Gwnaeth Jehofa faddau iddo, dod ag ef yn ôl i Jerwsalem, a rhoi’r frenhiniaeth yn ôl iddo.—2 Cron. 33:​12, 13.

A fydd Jehofa’n ymateb mewn ffordd debyg i rai heddiw sydd wedi cefnu ar addoliad pur ond sy’n dangos eu bod nhw’n wir yn edifar? Bydd! Mae Eseia 55:7 yn dweud: “Rhaid i’r euog droi cefn ar eu ffyrdd drwg, a’r rhai sy’n creu helynt ar eu bwriadau—troi’n ôl at yr ARGLWYDD, iddo ddangos trugaredd; troi at ein Duw ni, achos mae e mor barod i faddau.” Felly, paid ag oedi. Cymera’r cam cyntaf tuag at ddod yn ôl i Jehofa!

20. Os ydyn ni’n efelychu’r brenhinoedd ffyddlon, sut bydd Jehofa’n teimlo amdanon ni?

20 Pa wersi rydyn ni wedi eu dysgu o frenhinoedd Israel? Gallwn ni fod fel y brenhinoedd ffyddlon os ydyn ni’n gwasanaethu Jehofa â’n holl galon. Mae’n rhaid inni ddysgu o’n camgymeriadau, edifarhau, a gwneud y newidiadau angenrheidiol. Ac rydyn ni eisiau cofio’r pwysigrwydd o lynu wrth yr unig wir Dduw a’i addoli ef yn unig. Os wyt ti’n glynu wrth Jehofa, bydd yn dy ystyried di fel rhywun sy’n gwneud beth sy’n iawn.

SUT GALLWN NI . . .

  • addoli Jehofa â’n holl galon?

  • dangos ein bod ni wedi edifarhau?

  • glynu wrth wir addoliad?

CÂN 45 Myfyrdod Fy Nghalon

a Yn yr erthygl hon, mae’r ymadrodd “brenhinoedd Israel” yn cyfeirio at y brenhinoedd oedd yn rheoli dros bobl Dduw, ni waeth os oedden nhw’n teyrnasu dros deyrnas dau lwyth Jwda, deyrnas deg llwyth Israel, neu dros y 12 llwyth.

b ESBONIAD: Mae’r Beibl yn aml yn defnyddio’r gair “calon” i ddisgrifio’r person mewnol cyfan, gan gynnwys dymuniadau, meddyliau, personoliaeth, agwedd, galluoedd, cymhellion, ac amcanion.

c Yr arfer ymysg brenhinoedd paganaidd bryd hynny oedd i addoli duwiau’r cenhedloedd roedden nhw wedi eu gorchfygu.

d Gwnaeth y Brenin Asa gyflawni pechodau difrifol. (2 Cron. 16:​7, 10) Ond, mae’r Beibl yn aml yn sôn amdano mewn geiriau ffafriol. Er ei fod wedi gwrthod cael ei gywiro ar y dechrau, mae’n bosib ei fod wedi edifarhau yn nes ymlaen. Ar y cyfan, roedd ei rinweddau da yn llawer mwy na’i gamgymeriadau. Yn bwysig, roedd Asa yn addoli Jehofa yn unig a cheisiodd gael gwared ar eilunaddoliaeth o’r deyrnas.—1 Bren. 15:​11-13; 2 Cron. 14:​2-5.

e Mae’n arwyddocaol bod y ddau orchymyn cyntaf yng Nghyfraith Moses yn gwahardd addoli unrhyw un neu unrhyw beth heblaw am Jehofa.—Ex. 20:​1-6.

f DISGRIFIAD O’R LLUN: Mae henuriad ifanc yn poeni braidd am faint o alcohol mae brawd arall yn ei yfed. Mae’r brawd yn derbyn y cyngor yn ostyngedig, yn gwneud newidiadau, ac yn dal ati i wasanaethu Jehofa â’i holl galon.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu