LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • w25 Mawrth tt. 14-19
  • Efelycha Sêl Iesu yn y Gwaith Pregethu

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Efelycha Sêl Iesu yn y Gwaith Pregethu
  • Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2025
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • FE GANOLBWYNTIODD AR EWYLLYS JEHOFA
  • FE DALODD SYLW I BROFFWYDOLIAETHAU’R BEIBL
  • FE DDIBYNNODD AR JEHOFA AM GEFNOGAETH
  • FE ARHOSODD YN HYDERUS
  • Sut i Gael Mwy o Lawenydd yn y Weinidogaeth
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2024
  • Gad i Dy Gariad Dy Gymell i Bregethu!
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2024
  • Gwrandewch am yr Atebion i’r Cwestiynau Hyn
    Rhaglen Cynulliad y Gylchdaith Gyda Chynrychiolwr y Gangen 2025-2026
  • Bydda’n Ostyngedig Pan Nad Wyt Ti’n Deall Rhywbeth
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2025
Gweld Mwy
Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2025
w25 Mawrth tt. 14-19

ERTHYGL ASTUDIO 11

CÂN 57 Pregethu i Bob Math o Bobl

Efelycha Sêl Iesu yn y Gwaith Pregethu

“[Anfonodd] yr Arglwydd . . . nhw allan o’i flaen mewn parau i mewn i bob dinas a phob lle roedd ef ei hun am fynd.”—LUC 10:1.

PWRPAS

Pedair ffordd gallwn ni efelychu Iesu wrth bregethu’n selog.

1. Beth sy’n gwneud pobl Jehofa’n wahanol i Gristnogion eraill?

MAE gan weision Jehofa sêla dros bregethu’r newyddion da, a dyma beth sy’n eu gwneud nhw’n wahanol i bobl eraill sy’n honni eu bod nhw’n Gristnogion. (Titus 2:14) Ar adegau, efallai byddi di’n teimlo nad oes gen ti lawer o sêl ar gyfer y weinidogaeth. Efallai dy fod ti’n teimlo’r un fath ag un henuriad gweithgar a wnaeth gyfaddef: “Weithiau, does gen i ddim awydd i bregethu.”

2. Pam gall pregethu’n selog fod yn anodd ar adegau?

2 Weithiau rydyn ni’n mwynhau gwneud pethau eraill yn ein gwasanaeth i Jehofa yn fwy na’r gwaith pregethu. Pam? Oherwydd pan ydyn ni’n adeiladu, helpu ein brodyr a’n chwiorydd ar ôl trychinebau, neu’n calonogi ein brodyr a’n chwiorydd, mae hynny’n gwneud inni deimlo’n dda a gallwn ni weld canlyniadau ein gwaith yn syth. Pan ydyn ni’n gweithio gyda’n brodyr, rydyn ni’n gweithio mewn heddwch ac rydyn ni’n dangos cariad tuag at ein gilydd. Rydyn ni’n gwybod bod ein brodyr yn ddiolchgar am beth rydyn ni’n ei wneud ar eu cyfer nhw. Ar y llaw arall, efallai ein bod ni wedi bod yn pregethu am flynyddoedd yn yr un ardal, heb gael ymateb da. Efallai byddwn ni’n cwrdd â phobl sy’n gwrthod ein neges. Hefyd, rydyn ni’n gwybod byddwn ni’n cael ein herlid wrth i’r diwedd agosáu. (Math. 10:22) Sut gallwn ni gadw, neu hyd yn oed gynyddu, ein sêl yn ein gweinidogaeth?

3. Beth rydyn ni’n ei ddysgu am Iesu o’r eglureb yn Luc 13:​6-9?

3 Wrth efelychu esiampl Crist, rydyn ni’n dysgu llawer am sêl yn y weinidogaeth. Pan oedd Iesu ar y ddaear, fe weithiodd yn galed ac yn ddi-baid i bregethu i bobl. Yn wir, wrth i amser fynd heibio, gweithiodd yn galetach byth yn y weinidogaeth. (Darllen Luc 13:​6-9.) Fel y gweithiwr yn y winllan a oedd yn chwilio am ffrwyth ar y goeden ffigys am dair blynedd heb gael dim, treuliodd Iesu tua thair blynedd yn pregethu i’r Iddewon heb gael ymateb positif gan y mwyafrif ohonyn nhw. Ond heb os, ni wnaeth Iesu stopio pregethu. Roedd yn debyg i’r gweithiwr yn y winllan, a oedd yn gobeithio byddai ffrwyth yn dod ar y goeden. Yn hytrach na rhoi’r gorau iddi, rhoddodd Iesu fwy o ymdrech i mewn i gyrraedd eu calonnau.

4. Pa bedwar peth gallwn ni ei ddysgu o esiampl Iesu?

4 Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod sut dangosodd Iesu sêl, yn enwedig yn y chwe mis olaf o’i weinidogaeth. (Gweler y nodyn astudio “After these things” ar Luc 10:1.) Mae dysgu o’r hyn a ddywedodd Iesu a’r hyn roedd yn ei wneud yn ein helpu ni i aros yn selog yn y weinidogaeth heddiw. Gad inni edrych ar bedwar peth gallwn ni ei ddysgu o Iesu: (1) Fe wnaeth ganolbwyntio ar ewyllys Jehofa, (2) talodd sylw i broffwydoliaethau yn y Beibl, (3) dibynnodd ar Jehofa am gefnogaeth, a (4) arhosodd yn hyderus y byddai rhai yn gwrando arno ef.

FE GANOLBWYNTIODD AR EWYLLYS JEHOFA

5. Sut dangosodd Iesu ei fod yn canolbwyntio ar ewyllys Duw?

5 Pregethodd Iesu’r “newyddion da am Deyrnas Dduw” yn selog oherwydd hwn oedd y gwaith roedd ei dad wedi ei roi iddo i’w wneud. (Luc 4:43) I Iesu, pregethu oedd y gwaith mwyaf pwysig yn ei fywyd. Hyd yn oed tuag at ddiwedd ei weinidogaeth “fe deithiodd o ddinas i ddinas ac o bentref i bentref” yn dysgu. (Luc 13:22) Hefyd, gweithiodd yn galed i hyfforddi mwy o ddisgyblion i bregethu gydag ef.—Luc 10:1.

6. Pa gysylltiad sydd rhwng y gwaith pregethu a’n haseiniadau eraill? (Gweler hefyd y llun.)

6 Heddiw, pregethu’r newyddion da ydy’r gwaith pwysicaf mae Jehofa ac Iesu eisiau inni ei wneud. (Math. 24:14; 28:​19, 20) Mae ’na gysylltiad agos rhwng pregethu ac aseiniadau theocrataidd eraill. Er enghraifft, rydyn ni’n adeiladu addoldai ac mae rhai yn gwasanaethu yn y Bethel i gefnogi’r gwaith pregethu. Ar ôl i drychineb daro, rydyn ni’n helpu ein brodyr a’n chwiorydd i ailgychwyn eu rwtîn ysbrydol sy’n cynnwys y gwaith pregethu. Pan ydyn ni’n sylweddoli pa mor bwysig yw’r gwaith pregethu ac yn cofio mai hwn ydy’r prif waith mae Jehofa eisiau inni ei wneud, mae hyn yn ein hysgogi ni i gael rhan reolaidd yn y weinidogaeth. Mae János, henuriad o Hwngari, yn dweud: “Rydw i’n atgoffa fy hun na fedr unrhyw waith theocrataidd arall gymryd lle’r gwaith pregethu; hwn ydy ein haseiniad mwyaf pwysig.”

Collage: 1. Brawd yn gweithio ar brosiect adeiladu theocrataidd. 2. Brawd arall yn ei gartref yn gweithio i’r Bethel o bell. 3. Yn hwyrach ymlaen, mae’r brodyr yn gweithio gyda’i gilydd yn y weinidogaeth.

Heddiw, y prif waith mae Jehofa ac Iesu eisiau inni ei wneud ydy’r gwaith pregethu (Gweler paragraff 6)


7. Pam mae Jehofa eisiau inni barhau i bregethu? (1 Timotheus 2:​3, 4)

7 Gallwn ni gryfhau ein sêl am y weinidogaeth drwy ddysgu i deimlo dros bobl yn yr un ffordd â Jehofa. Mae Jehofa eisiau i gymaint o bobl â phosib ddysgu’r gwir amdano. (Darllen 1 Timotheus 2:​3, 4.) Mae Jehofa’n ein hyfforddi ni sut i siarad am y newyddion da oherwydd ei fod yn achub bywydau. Er enghraifft, mae’r llyfryn Caru Pobl—Gwneud Disgyblion yn rhoi awgrymiadau ymarferol i’n helpu ni i ddechrau sgyrsiau â phobl gyda’r nod o wneud disgyblion. Hyd yn oed os dydy pobl ddim yn ymateb nawr, efallai byddan nhw’n cael y cyfle i wneud hynny cyn diwedd y trychineb mawr. Efallai bydd beth rydyn ni’n ei ddweud nawr yn eu cymell nhw i ymateb yn y dyfodol. Ond mae hyn ond yn bosib os ydyn ni’n dal ati i bregethu.

FE DALODD SYLW I BROFFWYDOLIAETHAU’R BEIBL

8. Sut gwnaeth proffwydoliaethau’r Beibl effeithio ar y ffordd defnyddiodd Iesu ei amser?

8 Roedd Iesu’n deall sut byddai proffwydoliaethau’r Beibl yn cael eu cyflawni. Roedd yn gwybod byddai ei weinidogaeth ond yn para am dair blynedd a hanner. (Dan. 9:​26, 27) Roedd ef hefyd yn ymwybodol o’r proffwydoliaethau am sut a phryd byddai’n marw. (Luc 18:​31-34) Oherwydd hyn, defnyddiodd Iesu ei amser yn y ffordd orau bosib. O ganlyniad, fe wnaeth bregethu’n selog er mwyn gorffen y gwaith roedd ganddo i’w wneud.

9. Sut mae deall proffwydoliaethau’r Beibl yn ein cymell ni i bregethu’n selog?

9 Gall ein dealltwriaeth ni o broffwydoliaethau Beiblaidd ein cymell ni i bregethu’n selog. Bydd y system hon yn dod i ben cyn bo hir. Rydyn ni’n sylweddoli bod y pethau sy’n digwydd yn y byd heddiw ac agweddau pobl yn adlewyrchu beth ddywedodd y Beibl am y dyddiau olaf. Wrth inni weld y Grym Byd Eingl-Americanaidd yn cystadlu yn erbyn Rwsia a’i chynghreiriaid, rydyn ni’n deall sut mae hyn yn cyflawni’r broffwydoliaeth am frenin y de a brenin y gogledd yn adeg “y diwedd.” (Dan. 11:40) Rydyn ni hefyd yn deall bod traed y ddelw sy’n cael ei disgrifio yn Daniel 2:​43-45 yn cynrychioli’r Grym Byd Eingl-Americanaidd. Drwy astudio’r proffwydoliaethau hyn yn y Beibl, rydyn ni’n hollol sicr bydd Teyrnas Dduw yn dinistrio llywodraethau dynol yn fuan iawn. Mae’n amlwg bod diwedd y system hon yn agos iawn, felly mae mor bwysig inni wneud y gorau o’r amser sydd gynnon ni i bregethu’r newyddion da yn selog.

10. Ym mha ffyrdd eraill gall proffwydoliaethau’r Beibl ein helpu ni i bregethu’n selog?

10 Mae proffwydoliaethau’r Beibl hefyd yn rhoi neges inni rydyn ni’n awyddus i’w rhannu ag eraill. “Mae addewidion calonogol Jehofa am ddyfodol gwell yn fy nghymell i i rannu’r gwir ag eraill,” meddai Carrie, chwaer sy’n gwasanaethu yng Ngweriniaeth Dominica. Mae hi’n dweud: “Pan ydw i’n gweld y problemau mae pobl yn delio â nhw, rydw i’n sylweddoli bod yr addewidion hyn nid ar fy nghyfer i yn unig ond hefyd ar eu cyfer nhw.” Mae proffwydoliaethau’r Beibl hefyd yn ein hannog ni i beidio â dal yn ôl yn y gwaith pregethu oherwydd ein bod ni’n gwybod mai Jehofa sydd y tu ôl iddo. Mae Leila, sy’n byw yn Hwngari, yn dweud: “Mae Eseia 11:​6-9 yn fy nghymell i i rannu’r newyddion da hyd yn oed gyda’r rhai sydd ddim yn edrych fel byddan nhw’n dangos diddordeb. Rydw i’n gwybod gall unrhyw un newid gyda help Jehofa.” Ac mae Christopher, brawd o Sambia, yn dweud: “Fel rhagfynegodd Marc 13:​10, mae’r newyddion da yn cael ei gyhoeddi ledled y byd ac mae’n fraint i gael rhan yng nghyflawniad y broffwydoliaeth hon.” Pa broffwydoliaethau Beiblaidd sy’n dy gymell di i barhau i bregethu?

FE DDIBYNNODD AR JEHOFA AM GEFNOGAETH

11. Pam roedd rhaid i Iesu ddibynnu ar Jehofa am help i barhau i bregethu’n selog? (Luc 12:​49, 53)

11 Dibynnodd Iesu ar Jehofa am gefnogaeth er mwyn parhau i bregethu’n selog. Er bod Iesu wedi dewis ei eiriau yn ofalus, roedd ef yn gwybod byddai’r newyddion da am y Deyrnas yn gwneud pobl yn grac, a byddai eraill yn ei wrthwynebu’n ffyrnig. (Darllen Luc 12:​49, 53.) O ganlyniad i’w waith pregethu, ceisiodd yr arweinwyr crefyddol ei ladd mwy nag unwaith. (Ioan 8:59; 10:​31, 39) Ond fe wnaeth barhau i bregethu oherwydd ei fod yn gwybod bod Jehofa gydag ef. Fe ddywedodd: “Dydw i ddim ar fy mhen fy hun, ond mae’r Tad a wnaeth fy anfon i gyda mi. . . . Ni wnaeth ef fy ngadael i ar fy mhen fy hun, oherwydd rydw i bob amser yn gwneud y pethau sy’n ei blesio.”—Ioan 8:​16, 29.

12. Sut gwnaeth Iesu helpu ei ddisgyblion i baratoi er mwyn pregethu yn ystod erledigaeth?

12 Gwnaeth Iesu atgoffa ei ddisgyblion eu bod nhw’n gallu dibynnu ar Jehofa am gefnogaeth. Fe roddodd y sicrwydd iddyn nhw drosodd a throsodd y byddai Jehofa’n ei helpu nhw hyd yn oed wrth wynebu erledigaeth. (Math. 10:​18-20; Luc 12:​11, 12) Felly fe wnaeth eu hannog nhw i fod yn ofalus. (Math. 10:16; Luc 10:3) Fe ddywedodd wrthyn nhw am beidio â gorfodi eraill i wrando ar eu neges. (Luc 10:​10, 11) Ac fe ddywedodd wrthyn nhw am ffoi rhag erledigaeth. (Math. 10:23) Er bod Iesu’n selog ac yn ymddiried yn Jehofa, ni wnaeth ef roi ei hun mewn sefyllfaoedd peryglus yn ddi-angen.—Ioan 11:​53, 54.

13. Pam gelli di fod yn sicr y bydd Jehofa’n dy helpu di?

13 Mae llawer yn gwrthwynebu ein gwaith heddiw, felly mae angen help Jehofa arnon ni er mwyn parhau i bregethu’n selog. (Dat. 12:17) Sut gelli di fod yn sicr y bydd Jehofa’n dy gefnogi di? Ystyria weddi Iesu yn Ioan pennod 17. Gofynnodd Iesu i Jehofa wylio dros yr apostolion, a gwnaeth Jehofa ateb ei weddi. Mae llyfr Actau yn dangos bod Duw wedi helpu’r apostolion i bregethu’n selog er gwaethaf erledigaeth. Yn ei weddi, gwnaeth Iesu hefyd ofyn i Jehofa wylio dros y rhai a fyddai’n ymateb i’r apostolion ac yn ymarfer ffydd. Mae hynny’n dy gynnwys di. Dydy Jehofa ddim wedi stopio ateb gweddi Iesu, bydd Ef yn dy helpu di yn union fel y gwnaeth helpu’r apostolion.—Ioan 17:​11, 15, 20.

14. Sut rydyn ni’n gwybod y byddwn ni’n gallu parhau i bregethu’n selog? (Gweler hefyd y llun.)

14 Wrth i’r diwedd agosáu, efallai bydd pregethu’r newyddion da yn selog yn dod yn anoddach, ond byddwn ni’n cael yr help sydd ei angen arnon ni. (Luc 21:​12-15) Fel Iesu a’i ddisgyblion, rydyn ni’n gadael i bobl benderfynu drostyn nhw eu hunain a ydyn nhw am wrando neu beidio ac rydyn ni’n osgoi dadlau â nhw. Hyd yn oed mewn gwledydd lle mae ein gwaith wedi ei wahardd, mae’r brodyr wedi llwyddo i bregethu’r newyddion da gan eu bod nhw’n dibynnu ar Jehofa ac nid ar eu cryfder eu hunain. Fel rhoddodd Jehofa nerth i’w weision yn y ganrif gyntaf, heddiw mae’n rhoi nerth inni fel bod y gwaith pregethu yn gallu ‘cael ei gyflawni’n llwyr’ yn y ffordd mae Ef yn dymuno. (2 Tim. 4:17) Gelli di fod yn hollol sicr y byddi di’n gallu parhau i bregethu’n selog os wyt ti’n dibynnu ar Jehofa.

Hyd yn oed pan mae ein gwaith wedi ei wahardd, mae cyhoeddwyr selog yn ofalus wrth chwilio am ffyrdd i rannu eu ffydd (Gweler paragraff 14)b


FE ARHOSODD YN HYDERUS

15. Beth sy’n dangos bod gan Iesu agwedd bositif yn ei weinidogaeth?

15 Roedd Iesu’n hyderus byddai rhai yn gwrando ar y newyddion da. Roedd gwybod hyn yn helpu Iesu i aros yn frwdfrydig wrth bregethu. Er enghraifft, tua blwyddyn ar ôl i Iesu ddechrau pregethu fe welodd fod llawer yn barod i wrando ar y newyddion da ac fe gymharodd y bobl hyn â chaeau a oedd yn barod i’w cynaeafu. (Ioan 4:35) Tua blwyddyn wedyn, dywedodd wrth ei ddisgyblion: “Mae’r cynhaeaf yn fawr.” (Math. 9:​37, 38) Ac yn nes ymlaen pwysleisiodd unwaith eto: “Mae’r cynhaeaf yn fawr . . . Erfyniwch ar Feistr y cynhaeaf i anfon gweithwyr i’w gynhaeaf.” (Luc 10:2) Roedd gan Iesu agwedd bositif gan wybod y byddai rhai pobl yn ymateb i’r neges ac roedd ef mor hapus pan oedden nhw’n gwneud hynny.—Luc 10:21.

16. Sut gwnaeth eglurebau Iesu gyfleu agwedd bositif am y weinidogaeth? (Luc 13:​18-21) (Gweler hefyd y llun.)

16 Gwnaeth Iesu helpu ei ddisgyblion i gadw agwedd bositif drwy eu hatgoffa nhw y byddai’r gwaith pregethu yn cael canlyniadau da. Er enghraifft, ystyria ddau o’i eglurebau. (Darllen Luc 13:​18-21.) Defnyddiodd Iesu hedyn mwstard i ddysgu y byddai neges y Deyrnas yn lledaenu mewn ffordd anhygoel ac ni fyddai neb yn gallu ei stopio rhag tyfu. Fe ddefnyddiodd eglureb am lefain i ddangos sut byddai neges y Deyrnas yn lledaenu ledled y byd a sut byddai’n achosi newidiadau nad oedd yn amlwg yn syth. Gwnaeth Iesu helpu ei ddisgyblion i weld y byddai’r neges roedden nhw’n ei phregethu yn cael llwyddiant.

Dwy chwaer yn sefyll wrth ymyl troli llenyddiaeth ar stryd brysur. Mae llawer o bobl yn cerdded heibio heb stopio.

Fel Iesu, rydyn ni’n aros yn hyderus y bydd rhai yn ymateb i’r gwaith pregethu (Gweler paragraff 16)


17. Pa resymau sydd gynnon ni dros fod yn hyderus am y gwaith pregethu?

17 Pan ydyn ni’n meddwl am sut mae’r gwaith pregethu yn helpu gymaint o bobl ar draws y byd, mae hyn yn ein hysgogi ni i ddal ati. Bob blwyddyn, mae miliynau o bobl sydd â diddordeb yn mynychu’r Goffadwriaeth ac yn astudio’r Beibl gyda ni. Mae cannoedd ar filoedd o bobl yn cael eu bedyddio ac yn ymuno â ni yn y gwaith pregethu. Dydyn ni ddim yn gwybod faint o bobl fydd yn ymateb i’n gwaith pregethu yn y dyfodol, ond rydyn ni’n gwybod bod Jehofa’n casglu tyrfa fawr a fydd yn goroesi’r trychineb mawr. (Dat. 7:​9, 14) Mae Jehofa, Meistr y cynhaeaf, yn hyderus y bydd llawer o bobl yn gwrando ar y newyddion da yn y dyfodol, felly mae gynnon ni reswm da i ddal ati.

18. Beth rydyn ni eisiau i eraill ei sylwi amdanon ni?

18 Mae disgyblion Iesu yn wastad wedi bod yn adnabyddus am bregethu’n selog. Pan welodd y bobl pa mor ddewr a pha mor frwdfrydig oedd yr apostolion, gwnaethon nhw “sylweddoli eu bod nhw wedi bod gyda Iesu.” (Act. 4:13) Heddiw, pan mae pobl yn ein gweld ni yn y weinidogaeth, rydyn ni eisiau iddyn nhw sylwi ein bod ni’n efelychu esiampl selog Iesu.

SUT GALLWN NI AROS YN SELOG DRWY EFELYCHU’R FFORDD ROEDD IESU’N . . .

  • teimlo am y weinidogaeth?

  • dibynnu ar Jehofa?

  • aros yn hyderus?

CÂN 58 Chwilio am Bobl Sy’n Ceisio Heddwch

a ESBONIAD: Yn yr erthygl hon, mae “sêl” yn cyfeirio at y ffordd mae Cristnogion yn addoli Jehofa yn awyddus ac yn frwdfrydig.

b DISGRIFIAD O’R LLUN: Mae brawd yn tystiolaethu’n ofalus i ddyn wrth orsaf betrol.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu