ERTHYGL ASTUDIO 15
CÂN 30 Fy Nhad, Fy Nuw a’m Ffrind
“Cadw’n Agos at Dduw Sydd Orau” Inni!
“Dw i’n gwybod mai cadw’n agos at Dduw sydd orau.”—SALM 73:28.
PWRPAS
Sut i ddod yn agosach at Jehofa a’r bendithion sy’n dod o wneud hynny.
1-2. (a) Beth mae’n rhaid inni wneud er mwyn datblygu perthynas agos â rhywun? (b) Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?
OES gen ti ffrind agos? Sut gwnest ti ddatblygu dy berthynas ag ef? Mae’n debyg dy fod ti wedi treulio amser gydag ef, wedi dysgu am ei brofiad bywyd, ac wedi dod i wybod beth sy’n hoff ganddo a beth sy’n gas ganddo. Rwyt ti wedi darganfod fod ganddo rinweddau arbennig rwyt ti eisiau eu hefelychu. Fe wnest ti ddod i garu dy ffrind.
2 Mae datblygu perthynas agos â ffrind yn cymryd amser ac ymdrech. Mae’r un peth yn wir wrth inni ddatblygu perthynas agos a phersonol â Jehofa. Yn yr erthygl hon byddwn ni’n trafod sut gallwn ni ddod yn agosach at Dduw a’r bendithion sy’n dod o wneud hynny. Yn gyntaf, gad inni ystyried pam mae’n beth da inni nesáu at ein Ffrind gorau, Jehofa.
3. Pam dylen ni fyfyrio ar y bendithion sy’n dod o nesáu at Jehofa? Eglura.
3 Mae’n debyg byddi di’n cytuno bod nesáu at Jehofa yn beth da. Ond, mae myfyrio ar gymaint mae’n dda inni yn gallu ein hysgogi ni i ddal ati i nesáu ato. (Salm 63:6-8) Er enghraifft, rydyn ni’n gwybod bod bwyta’n iach, gwneud ymarfer corff, cael digon o orffwys, ac yfed digon o ddŵr i gyd yn bethau da inni. Ond dydy llawer o bobl ddim yn rhoi sylw i’r pethau hyn ac felly dydyn nhw ddim mor iach ag y gallan nhw fod. Y mwyaf byddwn ni’n meddwl am y bendithion o gadw arferion sy’n dda i’n hiechyd, y mwyaf tebygol byddwn ni o wneud y pethau hynny. Yn debyg i hynny, efallai ein bod ni’n gwybod bod nesáu at Jehofa’n dda inni, ond wrth inni fyfyrio ar y bendithion sy’n dod o wneud hynny, gallwn ni gael ein hysgogi i ddal ati i nesáu at ein Ffrind.—Salm 119:27-30.
4. Pa deimladau roedd ysgrifennwr Salm 73:28 yn eu cyfleu?
4 Darllen Salm 73:28. Roedd y salmydd a ysgrifennodd Salm 73 yn Lefiad a gafodd ei benodi fel cerddor yn nheml Jehofa. Mae’n debyg ei fod wedi addoli Jehofa’n ffyddlon am nifer o flynyddoedd. Er hynny, roedd yn dal i deimlo bod angen iddo atgoffa ei hun, ac eraill, fod “cadw’n agos at Dduw” yn beth da iddyn nhw. Beth yw rhai o’r bendithion o wneud hynny?
MAE “CADW’N AGOS AT DDUW” YN EIN GWNEUD NI’N HAPUS
5. (a) Pam mae agosáu at Jehofa’n dod â hapusrwydd inni? (b) Ar sail Diarhebion 2:6-16, rho esiamplau penodol o sut gall doethineb Jehofa dy helpu a dy warchod di.
5 Bydd ein hapusrwydd yn tyfu wrth inni nesáu at Jehofa’n fwy. (Salm 65:4) Mae hyn yn wir am sawl rheswm. Am un peth, rydyn ni’n elwa pan ydyn ni’n rhoi ar waith y doethineb ymarferol sydd yn ei Air, y Beibl. Mae’r doethineb hwn yn ein gwarchod ni rhag dylanwadau drwg ac yn ein helpu ni i osgoi gwneud camgymeriadau difrifol. (Darllen Diarhebion 2:6-16.) Dyna pam mae’r Beibl yn dweud: “Y fath fendith sydd i’r sawl sy’n darganfod doethineb, ac yn llwyddo i ddeall.”—Diar. 3:13.
6. Pam gwnaeth y salmydd golli ei hapusrwydd?
6 Wrth gwrs, mae hyd yn oed ffrindiau Jehofa yn mynd trwy adegau trist weithiau. Collodd ysgrifennwr Salm 73 ei hapusrwydd pan ddechreuodd feddwl mewn ffordd negyddol. Daeth yn ddig ac yn genfigennus wrth gael y camsyniad bod pobl annuwiol yn ei chael hi’n haws. Roedd yn meddwl bod pobl dreisgar a balch yn fwy cyfoethog, yn fwy iach, ac yn osgoi dioddefaint. (Salm 73:3-7, 12) Roedd hyn yn poeni’r salmydd cymaint nes iddo amau gwerth ei ymdrechion i addoli Jehofa. Yn ei dristwch, fe ddywedodd: “Mae’n rhaid fy mod i wedi cadw fy nghalon yn lân i ddim byd, wedi bod mor ddiniwed wrth olchi fy nwylo!”—Salm 73:13.
7. Beth gallwn ni ei wneud pan ydyn ni’n teimlo’n drist? (Gweler hefyd y llun.)
7 Ni wnaeth y salmydd adael i dristwch ei lethu. Penderfynodd fynd “i mewn i deml Dduw” lle gwnaeth Jehofa gywiro ei ffordd o feddwl. (Salm 73:17-19) Mae ein Ffrind gorau, Jehofa, yn gwybod pan ydyn ni’n drist. Os ydyn ni’n gweddïo ar Jehofa am arweiniad a derbyn yr help mae’n ei roi drwy ei Air a’r gynulleidfa, byddwn ni’n cael y nerth sydd ei angen arnon ni i ddal ati er gwaethaf ein tristwch. Pan mae ein pryderon yn teimlo’n ormod inni, mae Jehofa’n ein cysuro ni.—Salm 94:19.a
Y Lefiad a ysgrifennodd Salm 73 yn sefyll yn ‘nheml Dduw’ (Gweler paragraff 7)
MAE “CADW’N AGOS AT DDUW” YN RHOI PWRPAS A GOBAITH INNI
8. Ym mha ffyrdd pwysig eraill mae nesáu at Dduw yn dda inni?
8 Mae nesáu at Dduw yn dda inni mewn dwy ffordd arall. Yn gyntaf, mae’n rhoi pwrpas i’n bywydau. Yn ail, mae’n rhoi gobaith cadarn inni am y dyfodol. (Jer. 29:11) Gad inni edrych ar y bendithion hyn yn fwy manwl.
9. Sut mae agosáu at Jehofa yn rhoi pwrpas i’n bywydau?
9 Mae agosáu at Jehofa yn rhoi pwrpas i’n bywydau. Mae llawer o bobl heddiw sy’n anwybyddu bodolaeth Duw yn meddwl nad oes ’na bwrpas i fywyd a bydd dynolryw yn dod i ben mewn amser. Ond mae astudio Gair Duw wedi profi inni “ei fod yn bodoli a’i fod yn gwobrwyo’r rhai sy’n ei geisio’n daer.” (Heb. 11:6) Hyd yn oed heddiw, mae ein bywydau yn hapusach oherwydd ein bod ni’n gwneud beth rydyn ni wedi cael ein dylunio i’w wneud, sef addoli ein Tad nefol, Jehofa.—Deut. 10:12, 13.
10. Beth mae Salm 37:29 yn ei ddatgelu am y rhai sy’n gobeithio yn Jehofa?
10 I lawer, does ganddyn nhw ddim gobaith y tu hwnt i’w bywydau heddiw, sef mynd i’r gwaith, priodi, cael plant, ac wedyn paratoi ar gyfer ymddeol. Dydyn nhw ddim yn gwybod am addewid Jehofa ar gyfer y dyfodol. Ar y llaw arall, mae gweision Jehofa yn gobeithio ynddo ef. (Salm 25:3-5; 1 Tim. 6:17) Rydyn ni’n trystio’r Duw rydyn ni wedi agosáu ato ac yn gwybod y bydd ef yn cadw ei addewidion. Mae gynnon ni gymaint i edrych ymlaen ato, yn enwedig addoli Jehofa am byth mewn Paradwys.—Darllen Salm 37:29.
11. Sut mae agosáu at Dduw yn effeithio arnon ni ac arno ef?
11 Mae agosáu at Dduw yn dda inni am sawl rheswm arall. Er enghraifft, mae Jehofa wedi addo i faddau ein pechodau os ydyn ni’n edifarhau. (Esei. 1:18) O ganlyniad, does dim rhaid inni deimlo’n euog am hen bechodau. (Salm 32:1-5) Ac mae’n bleser pur i wneud Jehofa’n hapus. (Diar. 23:15) Mae’n siŵr dy fod ti’n gallu meddwl am lawer o fendithion eraill sy’n dod o dy berthynas agos â Duw. Ond, sut gallwn ni ddal ati i agosáu at Dduw?
PARHA I ‘GADW’N AGOS AT DDUW’
12. Beth rwyt ti wedi ei wneud i ddod yn agosach at Jehofa?
12 Cyn iti gael dy fedyddio fel un o Dystion Jehofa, fe wnest ti lawer o bethau i ddod yn ffrind iddo. Rwyt ti wedi dysgu llawer o wirioneddau am Jehofa Dduw ac Iesu Grist, wedi edifarhau am dy bechodau, wedi ymarfer ffydd gref yn Nuw, ac wedi dod â dy fywyd yn unol â’i ewyllys. I ddod yn ffrind agosach i Dduw, mae’n rhaid dal ati i wneud y pethau hyn.—Col. 2:6.
13. Ym mha dair ffordd gallwn ni ddal ati i agosáu at Dduw?
13 Beth fydd yn ein helpu ni i barhau i agosáu at Jehofa? (1) Mae’n rhaid inni ddal ati i ddarllen ac astudio’r Beibl. Wrth inni wneud hyn, dylai ein nod fod i ddysgu mwy na jyst ffeithiau syml am Dduw. Yn lle hynny, dylen ni drio deall ewyllys Duw ar ein cyfer ni a chael ein harwain gan yr egwyddorion sydd yn ei Air. (Eff. 5:15-17) (2) Mae’n rhaid inni gryfhau ein ffydd drwy fyfyrio ar y dystiolaeth ddi-ben-draw am ei gariad tuag aton ni. (3) Mae’n rhaid inni hefyd barhau i gasáu’r pethau sy’n pechu Jehofa ac i osgoi cymdeithasu â phobl sy’n gwneud y pethau hynny.—Salm 1:1; 101:3.
14. Yn unol â 1 Corinthiaid 10:31, beth yw rhai o’r pethau gallwn ni eu gwneud yn ein bywyd bob dydd i blesio Jehofa? (Gweler hefyd y lluniau.)
14 Darllen 1 Corinthiaid 10:31. Mae’n hynod o bwysig ein bod ni’n gwneud y pethau sy’n plesio Jehofa. Mae hyn yn golygu gwneud mwy na mynd ar y weinidogaeth ac i’r cyfarfodydd. Dylai beth rydyn ni’n ei wneud o ddydd i ddydd blesio Jehofa. Er enghraifft, pan ydyn ni’n onest ym mhob peth ac yn rhannu beth sydd gynnon ni ag eraill, rydyn ni’n gwneud Jehofa’n hapus. (2 Cor. 8:21; 9:7) Hefyd, mae Jehofa eisiau inni ddangos ein bod ni’n trysori bywyd. Rydyn ni’n agosáu at ein Creawdwr drwy gael agwedd gytbwys tuag at fwyta ac yfed a thrwy ofalu am ein hiechyd mewn ffyrdd eraill. Pan mae Jehofa’n gweld ein bod ni’n trio ei blesio hyd yn oed mewn pethau bach, mae’n ein caru ni’n fwy byth.—Luc 16:10.
Gallwn ni blesio Jehofa drwy wneud pethau fel gyrru’n ofalus, gwneud ymarfer corff, bwyta’n iach, a bod yn lletygar (Gweler paragraff 14)
15. Sut mae Jehofa’n disgwyl inni drin eraill?
15 Mae Jehofa’n garedig i’r cyfiawn ac i’r anghyfiawn. (Math. 5:45) Mae Jehofa’n disgwyl inni fod yn garedig i eraill hefyd. Er enghraifft, mae’n ein hatgoffa ni “i beidio â lladd ar neb, i beidio â bod yn gwerylgar, . . . gan ddangos pob addfwynder tuag at bob dyn.” (Titus 3:2) Felly, dydyn ni ddim yn edrych i lawr ar bobl sydd ddim yn rhannu ein daliadau. (2 Tim. 2:23-25) Rydyn ni’n agosáu at Jehofa drwy drin eraill yn garedig drwy’r amser.
“CADW’N AGOS AT DDUW” AR ÔL GWNEUD CAMGYMERIAD
16. Sut roedd ysgrifennwr Salm 73 yn teimlo ar ôl ychydig o amser?
16 Ond beth os wyt ti’n teimlo nad wyt ti’n haeddu cariad Jehofa oherwydd camgymeriadau rwyt ti wedi eu gwneud? Paid â phoeni, gwnaeth ysgrifennwr Salm 73 deimlo’r un ffordd. Fe ddywedodd: “Bu bron i mi faglu; roeddwn i bron iawn a llithro.” (Salm 73:2) Gwnaeth ef gyfaddef ei fod wedi teimlo’n “chwerw” ac yn “afresymol” “fel anifail gwyllt” o flaen Jehofa. (Salm 73:21, 22) Ond a ddaeth ef i’r casgliad ei fod yn achos coll nad oedd yn haeddu cariad Jehofa o ganlyniad i’w gamgymeriadau?
17. (a) Beth roedd y salmydd yn ei ddeall pan oedd yn teimlo ar ei waethaf? (b) Pa wers gallwn ni ei dysgu o’i brofiad? (Gweler hefyd y lluniau.)
17 Os oedd y salmydd yn teimlo bod Jehofa wedi cefnu arno, mae’n rhaid ei fod ond wedi teimlo felly am gyfnod byr. Hyd yn oed pan oedd yn teimlo ar ei waethaf, roedd yn deall yr angen i fod yn agos at Jehofa, fel sy’n cael ei ddangos yn ei eiriau: “Ac eto, dw i’n dal gyda ti [Jehofa]; rwyt ti’n gafael yn dynn ynof fi. Ti sy’n dangos y ffordd ymlaen i mi, a byddi’n fy nerbyn ac yn fy anrhydeddu.” (Salm 73:23, 24) Dylen ni hefyd droi at Jehofa am sefydlogrwydd pan ydyn ni’n teimlo’n wan neu wedi ein digalonni. (Salm 73:26; 94:18) Hyd yn oed os ydyn ni’n gwneud camgymeriad difrifol, gallwn ni droi’n ôl at Jehofa a bod yn hollol siŵr ei fod yn barod i faddau. (Salm 86:5) Yn enwedig pan ydyn ni’n teimlo’n isel ofnadwy, mae’n hanfodol inni nesáu at Jehofa.—Salm 103:13, 14.
Pan ydyn ni’n teimlo bod ein ffydd yn wan, dylen ni nesáu at Dduw drwy dreulio mwy o amser yn gweddïo a mynychu’r cyfarfodydd yn rheolaidd (Gweler paragraff 17)
“CADW’N AGOS AT DDUW” AM BYTH
18. Pam gallwn ni barhau i nesáu at Jehofa am byth?
18 Gallwn ni nesáu at Jehofa am byth. Fyddwn ni byth yn stopio dysgu amdano. Mae’r Beibl yn dweud: “Does neb yn gallu deall” popeth am ffyrdd Jehofa, ei ddoethineb, a’i wybodaeth.—Rhuf. 11:33.
19. Beth mae’r Salmau yn ei ddweud wrthon ni am y dyfodol?
19 Mae Salm 79:13 yn dweud: “Byddwn ni, dy bobl a phraidd dy borfa, yn ddiolchgar i ti am byth ac yn dy foli di ar hyd y cenedlaethau!” Wrth iti ddal ati i nesáu at Jehofa, gelli di fod yn sicr o dderbyn bendithion tragwyddol a dweud yn hyderus: “Mae Duw’n graig ddiogel i mi bob amser.”—Salm 73:26.
CÂN 32 Saf o Blaid Jehofa!
a Os ydy rhywun yn teimlo’n bryderus neu’n drist am gyfnod hir iawn, efallai bydd angen help arno gan ddoctor. Am fwy o wybodaeth, gweler Y Tŵr Gwylio, Rhif 1 2023.