LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • w25 Mai tt. 20-25
  • Enw Jehofa—Beth Mae’n Ei Olygu i Iesu

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Enw Jehofa—Beth Mae’n Ei Olygu i Iesu
  • Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2025
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • “RYDW I WEDI RHOI GWYBOD IDDYN NHW AM DY ENW DI”
  • “DY ENW DY HUN, ENW RWYT TI WEDI EI ROI I MI”
  • “DAD, GOGONEDDA DY ENW”
  • “RYDW I’N ABERTHU FY MYWYD”
  • “RYDW I WEDI . . . GORFFEN Y GWAITH RWYT TI WEDI EI ROI I MI”
  • Enw Jehofa—Beth Mae’n Ei Olygu i Ni
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2025
  • ‘Molwch Enw Jehofa’
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2024
  • Beth Rydyn Ni’n Ei Ddysgu o Aberth Iesu
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2025
  • “Dewiswch Drostoch Chi’ch Hunain . . . Pwy Rydych Chi am Ei Wasanaethu”
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2025
Gweld Mwy
Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2025
w25 Mai tt. 20-25

ERTHYGL ASTUDIO 22

CÂN 15 Molwch Gyntaf-anedig Jehofa!

Enw Jehofa—Beth Mae’n Ei Olygu i Iesu

“Rydw i wedi rhoi gwybod iddyn nhw am dy enw di ac fe fydda i’n parhau i wneud hynny.”—IOAN 17:26.

PWRPAS

Sut mae Iesu wedi hysbysebu enw Jehofa, ei sancteiddio, a’i gyfiawnhau.

1-2. (a) Beth wnaeth Iesu ar y noson cyn iddo gael ei roi i farwolaeth? (b) Pa gwestiynau byddwn ni’n eu hystyried yn yr erthygl hon?

ROEDD yn hwyr ar nos Iau, Nisan 14, 33 OG, ac roedd Iesu ar fin cael ei fradychu, ei farnu, ei gondemnio, ei arteithio, a’i roi i farwolaeth. Roedd Iesu newydd orffen pryd o fwyd arbennig gyda’i apostolion ffyddlon mewn uwch ystafell. Ar ôl hynny, rhoddodd Iesu rai geiriau o anogaeth iddyn nhw. Yna, cyn gadael yr uwch ystafell, cymerodd Iesu’r amser i ddweud gweddi bwysig iawn. Gallwn ni ddarllen y weddi hon yn Ioan pennod 17.

2 Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n ystyried rhai o’r pethau gallwn ni eu dysgu o weddi Iesu. Beth oedd yn bwysig iddo, a beth oedd yn ei boeni cyn iddo farw? Gad inni drafod yr atebion i’r cwestiynau hyn.

“RYDW I WEDI RHOI GWYBOD IDDYN NHW AM DY ENW DI”

3. Beth ddywedodd Iesu am enw Jehofa a beth roedd yn ei olygu? (Ioan 17:​6, 26)

3 Yn ei weddi, dywedodd Iesu: “Rydw i wedi rhoi gwybod iddyn nhw am dy enw di.” Mae’n amlwg bod hyn yn bwysig iawn i Iesu oherwydd fe ddywedodd hynny ddwywaith. (Darllen Ioan 17:​6, 26.) Beth roedd yn ei olygu? A oedd ef wedi datgelu iddyn nhw enw nad oedden nhw’n gwybod amdano? Roedd disgyblion Iesu yn Iddewon, felly roedden nhw’n gyfarwydd ag enw Duw, Jehofa, yn barod. Roedd enw Jehofa yn yr Ysgrythurau Hebraeg bron i 7,000 o weithiau. Felly doedd Iesu ddim yn dysgu enw personol Duw iddyn nhw, ond yn hytrach, roedd yn cyfeirio at beth roedd yr enw yn ei gynrychioli. Roedd Iesu wedi rhoi gwybod am y person y tu ôl i enw Jehofa, gan gynnwys ei fwriadau, ei weithredoedd, a’i rinweddau, mewn ffordd nad oedd neb arall yn gallu ei wneud.

4-5. (a) Sut gall enw person ddod yn fwy gwerthfawr inni? Eglura. (b) Sut daeth disgyblion Iesu i adnabod Jehofa’n well?

4 I egluro, dychmyga fod ’na henuriad yn dy gynulleidfa o’r enw Dafydd sy’n llawfeddyg ac rwyt ti wedi ei adnabod am flynyddoedd lawer. Un diwrnod rwyt ti’n profi argyfwng meddygol. Rwyt ti’n mynd yn syth i’r ysbyty lle mae’r brawd yn gweithio, ac mae’n defnyddio ei brofiad i achub dy fywyd. Nawr bob tro rwyt ti’n clywed ei enw, mae’n dy atgoffa di o beth mae ef wedi ei wneud drostot ti. Nawr, mae Dafydd yn fwy na henuriad rwyt ti wedi ei adnabod am gyfnod hir yn unig, ef ydy’r un a wnaeth achub dy fywyd!

5 Mewn ffordd debyg, roedd disgyblion Iesu’n gwybod enw Jehofa yn barod. Ond daeth Ei enw yn fwy gwerthfawr iddyn nhw o ganlyniad i weinidogaeth Iesu. Pam gallwn ni ddweud hynny? Oherwydd roedd Iesu’n adlewyrchu personoliaeth ei dad ym mhob gair a gweithred. Felly pan oedd y disgyblion yn gwrando ar ffordd Iesu o ddysgu ac yn gweld sut roedd yn trin eraill, roedden nhw’n gallu dod i adnabod Jehofa’n well.—Ioan 14:9; 17:3.

“DY ENW DY HUN, ENW RWYT TI WEDI EI ROI I MI”

6. Ym mha ystyr gwnaeth Jehofa roi Ei enw i Iesu? (Ioan 17:​11, 12)

6 Gweddïodd Iesu dros ei ddisgyblion drwy ddweud: “Gwylia drostyn nhw o achos dy enw dy hun, enw rwyt ti wedi ei roi i mi.” (Darllen Ioan 17:​11, 12.) A ydy hyn yn golygu byddai Iesu yna’n cael ei alw’n Jehofa? Nac ydy. Sylwa yn ei weddi, pan gyfeiriodd Iesu at enw Jehofa, fe ddywedodd, “dy enw dy hun.” Ni wnaeth enw personol Iesu newid i enw Jehofa. Felly beth roedd Iesu’n ei olygu pan ddywedodd fod enw Duw wedi cael ei roi iddo? Yn gyntaf, roedd Jehofa wedi anfon Iesu i siarad ar ei ran ac i’w gynrychioli. Roedd Iesu wedi dod yn enw ei Dad a chyflawnodd gwyrthiau yn yr enw hwnnw. (Ioan 5:43; 10:25) Yn ail, mae enw Iesu’n golygu “Jehofa Yw Achubiaeth.” Yn wir, mae’r enw dwyfol wedi ei gynnwys o fewn enw Iesu ei hun.

7. Eglura sut roedd yn bosib i Iesu siarad yn enw Jehofa.

7 I egluro, gall llysgennad siarad yn enw arweinydd oherwydd ei fod yn ei gynrychioli. Felly, mae gan eiriau’r llysgennad yr un awdurdod â geiriau’r arweinydd. Yn yr un ffordd, roedd Iesu’n cynrychioli Jehofa ac yn siarad â phobl yn Ei enw.—Math. 21:9; Luc 13:35.

8. Ym mha ffordd gwnaeth Iesu weithredu yn enw Jehofa cyn iddo ddod i’r ddaear? (Exodus 23:​20, 21)

8 Mae’r Beibl yn galw Iesu “y Gair” oherwydd bod Jehofa wedi ei ddefnyddio i ddweud wrth angylion a phobl yr hyn roedd Duw eisiau iddyn nhw ei wybod a’i wneud. (Ioan 1:​1-3) Mae’n debyg mai Iesu oedd yr angel a gafodd ei anfon gan Jehofa i ofalu am yr Israeliaid tra oedden nhw yn yr anialwch. Pan orchmynnodd Jehofa i’r Israeliaid ufuddhau i’r angel, fe ddywedodd: “Gan ei fod yn dod yn fy enw i.”a (Exodus 23:​20, 21, NWT.) Fe ddywedodd Jehofa hyn oherwydd bod Iesu’n ei gynrychioli ac ef yw’r prif berson sy’n amddiffyn ac yn sancteiddio enw ei Dad.

“DAD, GOGONEDDA DY ENW”

9. Pa mor bwysig oedd enw Jehofa i Iesu? Esbonia.

9 Fel rydyn ni wedi trafod, enw Jehofa oedd y peth pwysicaf i Iesu cyn iddo hyd yn oed ddod i’r ddaear. Does dim syndod bod popeth roedd Iesu’n ei wneud tra oedd ar y ddaear yn dangos hynny. Tuag at ddiwedd ei weinidogaeth, fe ofynnodd i Jehofa: “Dad, gogonedda dy enw.” Yn syth, ymatebodd Jehofa o’r nefoedd â llais pwerus: “Rydw i wedi ei ogoneddu ac fe fydda i’n ei ogoneddu eto.”—Ioan 12:28.

10-11. (a) Sut gwnaeth Iesu ogoneddu enw Jehofa? (Gweler hefyd y llun.) (b) Pam mae’n rhaid i enw Jehofa gael ei sancteiddio a’i amddiffyn?

10 Gwnaeth Iesu hefyd ogoneddu enw Duw. Sut felly? Un ffordd oedd drwy ddatgelu i eraill rinweddau a gweithredoedd anhygoel ei Dad. Ond, roedd gogoneddu Ei enw yn cynnwys mwy na hynny. Roedd angen i enw Jehofa gael ei sancteiddio a’i amddiffyn. Dangosodd Iesu pa mor bwysig oedd hyn pan ddysgodd ei ddilynwyr y weddi enghreifftiol. Fe ddywedodd: “Ein Tad yn y nefoedd, gad i dy enw gael ei sancteiddio.”—Math. 6:9.

11 Pam mae’n rhaid i enw Jehofa gael ei sancteiddio a’i amddiffyn? Oherwydd yn ôl yng ngardd Eden, gwnaeth Satan y Diafol amharchu a phardduo enw Jehofa. Roedd Satan yn honni bod Jehofa’n gelwyddog a’i fod yn dal rhywbeth da yn ôl oddi wrth Adda ac Efa. (Gen. 3:​1-5) Drwy wneud hynny, awgrymodd Satan bod ffordd Jehofa o wneud pethau yn anghywir. Roedd ei gamgyhuddiad yn ymosodiad uniongyrchol ar enw da Jehofa. Yn nyddiau Job, gwnaeth Satan honni bod y rhai sy’n gwasanaethu Jehofa ond yn gwneud hynny oherwydd y bendithion sy’n dod oddi wrtho Ef. Aeth yr enllibiwr hwnnw ymlaen i ddweud nad ydy’r un person yn caru Jehofa digon i barhau i’w wasanaethu Ef yn wyneb treialon. (Job 1:​9-11; 2:4) Roedd angen i amser fynd heibio er mwyn profi pwy oedd yn wir yn gelwyddog, Jehofa neu Satan.

Iesu’n rhoi’r Bregeth ar y Mynydd i dyrfa fawr o bobl.

Gwnaeth Iesu ddysgu i’w ddilynwyr y pwysigrwydd o sancteiddio enw Duw (Gweler paragraff 10)


“RYDW I’N ABERTHU FY MYWYD”

12. Beth roedd Iesu’n barod i’w wneud oherwydd ei gariad at enw Jehofa?

12 Oherwydd ei gariad at Jehofa, roedd Iesu eisiau gwneud popeth yn ei allu i sancteiddio a chefnogi enw Jehofa. Fe ddywedodd: “Rydw i’n aberthu fy mywyd.” (Ioan 10:​17, 18) Yn wir, roedd yn barod i farw dros enw Jehofa.b Gwnaeth y bobl berffaith gyntaf, Adda ac Efa, gefnu ar Jehofa ac ochri gyda Satan. Ond, roedd Iesu’n fodlon dod i lawr i’r ddaear ac i brofi ei gariad at Jehofa. Gwnaeth Iesu hyn drwy fod yn berffaith ffyddlon i’w Dad. (Heb. 4:15; 5:​7-10) Fe wnaeth aros yn ffyddlon drwy gydol ei fywyd, hyd at farwolaeth ar stanc dienyddio. (Heb. 12:2) Drwy wneud hyn, fe brofodd ei gariad at Jehofa a’i enw.

13. Pam roedd Iesu yn y sefyllfa orau i brofi Satan yn gelwyddog? (Gweler hefyd y llun.)

13 Drwy gydol ei fywyd, profodd Iesu y tu hwnt i unrhyw amheuaeth mai Satan sy’n gelwyddog, nid Jehofa! (Ioan 8:44) Roedd Iesu’n adnabod Jehofa’n llawer gwell nag unrhyw un a oedd erioed wedi bodoli. Os oedd ’na unrhyw wirionedd i gyhuddiadau Satan yn erbyn Jehofa, byddai Iesu wedi bod yn ymwybodol o hynny. Ond arhosodd Iesu’n gadarn wrth amddiffyn enw da Jehofa. Hyd yn oed pan oedd yn ymddangos fel bod Jehofa wedi cefnu arno, roedd Iesu’n fodlon marw yn lle troi ei gefn ar ei Dad cariadus.—Math. 27:46.c

Iesu’n hongian ar stanc dienyddio.

Drwy gydol ei fywyd, profodd Iesu y tu hwnt i unrhyw amheuaeth mai Satan sy’n gelwyddog, nid Jehofa! (Gweler paragraff 13)


“RYDW I WEDI . . . GORFFEN Y GWAITH RWYT TI WEDI EI ROI I MI”

14. Sut gwnaeth Jehofa wobrwyo Iesu am ei ffyddlondeb?

14 Ar y noson cyn iddo farw, roedd Iesu’n gallu dweud mewn gweddi: “Rydw i wedi . . . gorffen y gwaith rwyt ti wedi ei roi imi i’w wneud.” Roedd yn trystio y byddai Jehofa’n ei wobrwyo am ei ffyddlondeb. (Ioan 17:​4, 5) Roedd Iesu’n llygad ei le i ymddiried yn ei Dad. Ni wnaeth Jehofa adael i Iesu aros yn y bedd. (Act. 2:​23, 24) Cafodd Iesu ei atgyfodi i safle uwch yn y nefoedd. (Phil. 2:​8, 9) Mewn amser, fe ddechreuodd reoli fel Brenin ar Deyrnas Dduw. Beth byddai’r Deyrnas yn ei gyflawni? Mae ail ran y weddi enghreifftiol yn rhoi’r ateb inni: “Gad i dy Deyrnas ddod. Gad i dy ewyllys ddigwydd ar y ddaear, fel y mae yn y nef.”—Math. 6:10.

15. Beth arall bydd Iesu’n ei wneud?

15 Yn y dyfodol agos, bydd Iesu’n brwydro yn erbyn gelynion Duw ac yn dinistrio’r rhai drwg yn ystod Armagedon. (Dat. 16:​14, 16; 19:​11-16) Yn fuan ar ôl hynny bydd Satan yn cael ei daflu “i mewn i’r dyfnder” lle bydd yn hollol anweithredol. (Dat. 20:​1-3) Bydd Iesu’n adfer heddwch a dod â dynolryw i berffeithrwydd yn ystod ei Deyrnasiad Mil Blynyddoedd. Bydd yn atgyfodi’r meirw ac yn troi’r holl ddaear yn baradwys. Bydd pwrpas Jehofa yn cael ei gyflawni!—Dat. 21:​1-4.

16. Beth bydd yn cael ei gyflawni erbyn diwedd y Teyrnasiad Mil Blynyddoedd?

16 Sut bydd bywyd ar ôl i’r Teyrnasiad Mil Blynyddoedd orffen? Ni fydd pechod nac amherffeithrwydd yn bodoli bellach. Ni fydd rhaid i bobl ofyn am faddeuant am eu pechodau ar sail aberth Iesu, ac ni fydd angen am offeiriaid nac am archoffeiriad er mwyn i bobl gael perthynas â Jehofa. Hefyd, “bydd y gelyn olaf, marwolaeth, [wedi] cael ei ddinistrio.” Bydd y beddau yn wag oherwydd bydd y meirw wedi cael eu hatgyfodi. Bydd pawb ar y ddaear yn berffaith.—1 Cor. 15:​25, 26.

17-18. (a) Beth fydd yn digwydd ar ddiwedd y Teyrnasiad Mil Blynyddoedd? (b)  Beth bydd Iesu’n ei wneud pan ddaw’r amser i’w deyrnasiad ddod i ben? (1 Corinthiaid 15:​24, 28) (Gweler hefyd y llun.)

17 Beth arall fydd yn digwydd ar ôl y Teyrnasiad Mil Blynyddoedd? Rhywbeth arbennig iawn. Ni fydd unrhyw un yn cwestiynu sancteiddrwydd enw Jehofa eto. Pam? Cofia fod Satan wedi honni yng ngardd Eden bod Jehofa’n gelwyddog ac yn rheoli dros y ddynoliaeth yn ddigariad. Ers yr adeg honno, mae ei enw wedi cael ei sancteiddio drosodd a throsodd gan y rhai sy’n ei anrhydeddu a’i barchu. Felly ar ddiwedd y Teyrnasiad Mil Blynyddoedd, bydd enw da Jehofa yn cael ei gyfiawnhau yn llwyr. Bydd ef wedi profi tu hwnt i unrhyw amheuaeth ei fod yn Dad nefol cariadus.

18 O’r diwedd, bydd pawb yn gwybod bod popeth a ddywedodd Satan am Jehofa yn gelwydd. Beth bydd Iesu’n ei wneud pan ddaw’r amser i’w deyrnasiad ddod i ben? A fydd ef yn dilyn esiampl Satan ac yn gwrthryfela yn erbyn Jehofa? Na fydd! (Darllen 1 Corinthiaid 15:​24, 28.) Bydd Iesu’n trosglwyddo’r Deyrnas yn ôl i’w Dad a darostwng ei hun o dan reolaeth Jehofa. Yn wahanol i Satan, mae Iesu’n fodlon rhoi popeth i Jehofa oherwydd ei gariad tuag ato.

Iesu yn y nef, yn rhoi ei goron i Jehofa.

Mae Iesu’n fodlon rhoi’r Deyrnas yn ôl i Jehofa ar ddiwedd y Teyrnasiad Mil Blynyddoedd (Gweler paragraff 18)


19. Beth mae enw Jehofa’n ei olygu i Iesu?

19 Does dim syndod bod Jehofa’n hapus i roi ei enw i Iesu. Mae Iesu wedi profi ei fod yn cynrychioli ei Dad yn berffaith. Felly beth mae enw Jehofa’n ei olygu i Iesu? Yn syml, popeth! Roedd yn barod i farw dros yr enw hwnnw, ac fe fydd yn hapus i drosglwyddo popeth yn ôl i Jehofa ar ddiwedd ei Deyrnasiad Mil Blynyddoedd. Sut gallwn ni efelychu esiampl Iesu? Byddwn ni’n trafod yr ateb i’r cwestiwn hwnnw yn yr erthygl nesaf.

SUT BYDDET TI’N ATEB?

  • Sut gwnaeth Iesu roi gwybod am enw Jehofa i’w ddisgyblion?

  • Ym mha ystyr roedd enw Jehofa wedi cael ei roi i Iesu?

  • Beth roedd Iesu’n fodlon ei wneud dros enw Jehofa, a pham?

CÂN 16 Moliannwch Jehofa am ei Fab Eneiniog

a Ar adegau, mae angylion hefyd wedi cynrychioli Jehofa wrth iddyn nhw gyflwyno negeseuon yn ei enw. Dyna pam mae ’na rai achosion yn y Beibl lle mae angylion yn cael eu cyfeirio atyn nhw fel Jehofa ei hun. (Gen. 18:​1-33) Er bod yr Ysgrythurau’n dweud bod Moses wedi derbyn y Gyfraith oddi wrth Jehofa, mae adnodau eraill yn datgelu bod Jehofa wedi defnyddio angylion i drosglwyddo’r Gyfraith.—Lef. 27:34; Act. 7:​38, 53; Gal. 3:19; Heb. 2:​2-4.

b Gwnaeth marwolaeth Iesu hefyd agor y ffordd i’r ddynoliaeth gael bywyd tragwyddol.

c Gweler “Cwestiynau Ein Darllenwyr” yn rhifyn Ebrill 2021, tt. 30-31 o’r Tŵr Gwylio.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu