ERTHYGL ASTUDIO 28
CÂN 88 Dysga Dy Ffyrdd i Mi
Pam Dylen Ni Ofyn am Gyngor?
“Mae pobl ddoeth yn derbyn cyngor.”—DIAR. 13:10.
PWRPAS
Sut i wneud y gorau o’r cyngor rydyn ni’n ei dderbyn.
1. Beth fydd yn ein helpu ni i wneud penderfyniadau doeth a fydd yn llwyddo? (Diarhebion 13:10; 15:22)
MAE pob un ohonon ni eisiau gwneud penderfyniadau doeth a fydd yn arwain at ganlyniadau da. Mae Gair Duw yn dweud wrthon ni sut wneud hynny’n llwyddiannus.—Darllen Diarhebion 13:10; 15:22.
2. Beth mae Jehofa’n addo ei wneud ar ein cyfer ni?
2 Wrth gwrs, ein Tad Jehofa yw’r person gorau i roi cyngor doeth inni. Mae’n addo i’n helpu ni gan ddweud: “Gadewch i mi roi cyngor i chi, wyneb yn wyneb.” (Salm 32:8) Mae’r adnod hon yn dangos bod Jehofa’n gwneud mwy na roi cyngor inni yn unig—mae’n dangos diddordeb personol ynon ni ac yn ein helpu ni i roi ei gyngor ar waith.
3. Beth byddwn ni’n ei ystyried yn yr erthygl hon?
3 Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n defnyddio Gair Duw i’n helpu ni i ateb pedwar cwestiwn: (1) Pa rinweddau sydd eu hangen er mwyn gwneud y gorau o gyngor? (2) Pwy a all roi cyngor da imi? (3) Sut galla i ddangos fy mod i’n agored i dderbyn cyngor? (4) Pam na ddylwn i ofyn i eraill wneud penderfyniadau drosto i?
PA RINWEDDAU SYDD EU HANGEN?
4. Pa rinweddau y mae’n rhaid inni eu cael er mwyn elwa o gyngor da?
4 Mae’n rhaid inni fod yn ostyngedig ac yn wylaidd er mwyn gwneud y gorau o gyngor da. Mae’n rhaid inni gydnabod efallai nad oes gynnon ni ddigon o brofiad neu wybodaeth i wneud penderfyniad doeth ar ein pennau ein hunain. Os nad ydyn ni’n ostyngedig ac yn wylaidd, fydd Jehofa ddim yn gallu ein helpu ni. O ganlyniad, gall unrhyw gyngor rydyn ni’n ei gael o Air Duw lifo droston ni fel dŵr dros garreg. (Mich. 6:8; 1 Pedr 5:5) Ond, drwy fod yn ostyngedig ac yn wylaidd, bydd y cyngor o’r Beibl yn suddo i mewn yn gyflym ac yn gwneud lles inni.
5. Beth allai fod wedi achosi i’r Brenin Dafydd droi’n falch?
5 Ystyria beth gallwn ni ei ddysgu o esiampl y Brenin Dafydd. Er ei fod wedi cyflawni llawer, ni wnaeth ef droi’n falch. Flynyddoedd lawer cyn iddo ddod yn frenin, roedd yn enwog am ei allu cerddorol. Fe gafodd ei ofyn i berfformio i’r brenin. (1 Sam. 16:18, 19) Ar ôl i Dafydd gael ei eneinio fel y brenin nesaf, rhoddodd Jehofa ei ysbryd glân iddo. (1 Sam. 16:11-13) Roedd yn boblogaidd ymysg ei bobl am ladd eu gelynion, gan gynnwys y cawr Goliath o Philistia. (1 Sam. 17:37, 50; 18:7) Gallai dyn balch a oedd wedi cyflawni cymaint feddwl nad oedd angen iddo wrando ar gyngor gan eraill. Ond nid un felly oedd Dafydd.
6. Sut rydyn ni’n gwybod bod Dafydd wedi croesawu cyngor? (Gweler hefyd y llun.)
6 Ar ôl iddo ddod yn frenin, cadwodd Dafydd gwmni â dynion oedd yn rhoi cyngor iddo. (1 Cron. 27:32-34) Dydy hynny ddim yn ein synnu ni, oherwydd roedd Dafydd yn wastad wedi gwrando ar gyngor da. Yn ogystal â derbyn cyngor gan ddynion, fe wnaeth hefyd ei dderbyn gan ddynes o’r enw Abigail. Ei gŵr hi oedd Nabal, dyn amharchus, anniolchgar, a hunanol. Yn ostyngedig, rhoddodd Dafydd ei chyngor da hi ar waith, ac o ganlyniad, fe wnaeth osgoi gwneud camgymeriad difrifol.—1 Sam. 25:2, 3, 21-25, 32-34.
Gwnaeth y Brenin Dafydd dderbyn y cyngor gan Abigail yn ostyngedig a’i roi ar waith (Gweler paragraff 6)
7. Pa wersi gallwn ni eu dysgu o esiampl Dafydd? (Pregethwr 4:13) (Gweler hefyd y lluniau.)
7 Mae ’na wersi gallwn ni eu dysgu gan Dafydd. Er enghraifft, efallai fod gynnon ni dalentau neu ryw faint o awdurdod. Ond, ddylen ni byth meddwl ein bod ni’n gwybod popeth ac nad oes angen cyngor arnon ni. Fel Dafydd, dylen ni fod yn barod i wrando ar gyngor da, ni waith pwy sy’n ei roi. (Darllen Pregethwr 4:13.) Drwy wneud hynny, byddwn ni’n fwy tebygol o osgoi gwneud camgymeriadau mawr a all achosi niwed i ni’n hunain neu i eraill.
Dylen ni fod yn barod i wrando ar gyngor da, ni waeth pwy sy’n ei roi (Gweler paragraff 7)c
PWY A ALL ROI CYNGOR DA IMI?
8. Pam roedd Jonathan yn gymwys i roi cyngor i Dafydd?
8 Ystyria wers arall gallwn ni ei dysgu o esiampl Dafydd. Fe wnaeth wrando ar gyngor gan bobl a oedd yn deall y broblem roedd yn ei hwynebu yn ogystal â chael perthynas dda â Jehofa. Er enghraifft, pan oedd Dafydd eisiau gwybod a fyddai’n gallu adfer ei berthynas â’r Brenin Saul, fe wnaeth wrando ar gyngor gan Jonathan, mab Saul. Pam roedd Jonathan mewn sefyllfa dda i roi cyngor? Oherwydd bod ganddo berthynas dda â Jehofa a hefyd roedd yn deall Saul i’r dim. (1 Sam. 20:9-13) Sut gallwn ni roi’r wers honno ar waith?
9. Pwy a all roi cyngor da inni? Esbonia. (Diarhebion 13:20)
9 Os ydyn ni’n chwilio am gymorth, mae’n dda i ofyn am gyngor gan rywun sydd â pherthynas dda â Jehofa ac sy’n brofiadol yn y mater dan sylw.a (Darllen Diarhebion 13:20.) Er enghraifft, petai brawd ifanc eisiau priodi, pwy fyddai’n gallu rhoi cyngor da iddo? Efallai byddai ffrind di-briod yn gallu helpu petai’n rhoi cyngor ar sail egwyddorion y Beibl. Ond, beth petai’r brawd ifanc yn gofyn i gwpl priod sy’n aeddfed yn ysbrydol ac sy’n ei adnabod yn dda? Byddai’n fwy tebygol o gael cyngor ymarferol sy’n benodol i’w sefyllfa.
10. Beth byddwn ni nawr yn ei drafod?
10 Rydyn ni wedi trafod dwy rinwedd mae’n rhaid inni eu cael yn ogystal â phwy sy’n gallu rhoi cyngor da inni. Nawr byddwn ni’n trafod pam mae’n rhaid inni fod yn agored i dderbyn cyngor ac a ddylen ni ofyn i eraill wneud penderfyniadau droston ni.
SUT GALLA I FOD YN AGORED I DDERBYN CYNGOR?
11-12. (a) Beth gallwn ni ei wneud o bryd i’w gilydd? (b) Beth a wnaeth y Brenin Rehoboam pan oedd ganddo benderfyniad pwysig i’w wneud?
11 Weithiau, gall ymddangos fel bod unigolyn yn gofyn am gyngor, ond mewn gwirionedd mae eisiau i eraill gytuno â phenderfyniad mae wedi ei wneud yn barod. Dydy unigolyn fel hyn ddim yn wir yn agored i dderbyn cyngor. Fe ddylai ddysgu o’r hyn a ddigwyddodd i’r Brenin Rehoboam.
12 Etifeddodd Rehoboam frenhiniaeth Israel gan ei dad, y Brenin Solomon. Roedd y genedl wedi bod yn llwyddiannus, ond roedd y bobl yn teimlo bod Solomon wedi gofyn gormod ganddyn nhw. Daeth y bobl at Rehoboam ac erfyn arno i leihau eu llwyth gwaith. Gofynnodd Rehoboam iddyn nhw roi amser iddo i bwyso a mesur ei benderfyniad. Fe ddechreuodd yn dda, gan ofyn am gyngor gan y dynion hŷn a oedd wedi helpu Solomon. (1 Bren. 12:2-7) Ond, fe wrthododd y cyngor gan y dynion hŷn. Pam fyddai’n gwneud y fath beth? A oedd Rehoboam eisoes wedi penderfynu beth roedd yn mynd i’w wneud ac yn edrych am rywun i gytuno ag ef? Os felly, fe gafodd hyd i’r hyn roedd eisiau ei glywed gan ei ffrindiau iau. (1 Bren. 12:8-14) Rhoddodd Rehoboam ateb i’r bobl yn unol â’r cyngor hwnnw. O ganlyniad, cafodd y genedl eu rhwygo’n ddau, ac roedd gan Rehoboam broblemau o hynny ymlaen.—1 Bren. 12:16-19.
13. Sut gallwn ni wybod os ydyn ni’n cadw meddwl agored?
13 Beth gallwn ni ei ddysgu o esiampl Rehoboam? Pan ydyn ni’n gofyn am gyngor, mae’n rhaid inni gadw meddwl agored. Sut gallwn ni wybod os ydyn ni’n gwneud hynny? Gallwn ni ofyn i ni’n hunain, ‘A ydw i’n gofyn am gyngor ond yna’n ei anwybyddu oherwydd fy mod i eisiau ateb gwahanol?’ Ystyria esiampl.
14. Wrth dderbyn cyngor, beth dylen ni ei gofio? Eglura. (Gweler hefyd y llun.)
14 Dychmyga fod rhywun yn cynnig swydd sy’n talu’n dda i frawd. Ond cyn iddo ei derbyn, mae’n gofyn am gyngor gan henuriad. Mae’r brawd yn esbonio byddai’r swydd yn ei orfodi i fod i ffwrdd o’i deulu am gyfnodau hir. Mae’r henuriad yn atgoffa’r brawd bod gofalu am anghenion ysbrydol ei deulu yw ei brif gyfrifoldeb yn ôl y Beibl. (Eff. 6:4; 1 Tim. 5:8) Dychmyga fod y brawd yn gweld bai ar gyngor yr henuriad yn syth ac yna’n gofyn i frodyr eraill am y mater nes iddo gael yr ateb mae eisiau ei glywed. A ydy’r brawd yn wir yn chwilio am gyngor, neu a ydy ef wedi gwneud y penderfyniad yn barod ac yn edrych am rywun i gytuno ag ef yn unig? Mae’n rhaid inni gofio bod ein calon yn dwyllodrus. (Jer. 17:9) Weithiau, y cyngor sydd ei angen arnon ni’r fwyaf ydy’r cyngor dydyn ni ddim eisiau ei glywed.
A ydyn ni’n wir yn ceisio cyngor da, neu a ydyn ni ond yn chwilio am rywun i gytuno â ni? (Gweler paragraff 14)
A DDYLWN I OFYN I ERAILL WNEUD PENDERFYNIADAU DROSTO I?
15. Beth mae’n rhaid inni fod yn ofalus i beidio â’i wneud, a pham?
15 Mae pob un ohonon ni’n cario’r cyfrifoldeb i wneud penderfyniadau droston ni’n hunain. (Gal. 6:4, 5) Fel rydyn ni wedi trafod, bydd person doeth yn chwilio am gyngor yng Ngair Duw a gan Gristnogion aeddfed cyn penderfynu beth i’w wneud. Ond, mae’n rhaid inni fod yn ofalus i beidio â gofyn i eraill wneud penderfyniadau droston ni. Mae rhai yn gwneud hynny’n agored gan ofyn i rywun maen nhw’n ei barchu, “Beth byddet ti’n ei wneud yn fy sefyllfa i?” Mae eraill yn mynd ati mewn ffordd lai amlwg gan gopïo beth mae rhywun arall yn ei wneud heb feddwl llawer am y mater.
16. Pa sefyllfa a ddatblygodd yng Nghorinth ynglŷn â chig a oedd wedi ei offrymu i eilunod, a chyfrifoldeb pwy oedd penderfynu ei fwyta neu beidio? (1 Corinthiaid 8:7; 10:25, 26)
16 Meddylia am y sefyllfa a ddatblygodd yng nghynulleidfa Corinth yn y ganrif gyntaf ynglŷn â chig a oedd efallai wedi ei offrymu i eilunod. Ysgrifennodd Paul at y Cristnogion hynny: “Rydyn ni’n gwybod bod eilun yn ddim byd o gwbl ac mai dim ond un Duw sydd.” (1 Cor. 8:4) Wrth feddwl am y ffaith honno, penderfynodd rhai yn y gynulleidfa y bydden nhw’n gallu bwyta cig a oedd efallai wedi ei offrymu i eilun a’i werthu yn y farchnad. Penderfynodd eraill y byddai bwyta cig o’r fath yn brifo eu cydwybod. (Darllen 1 Corinthiaid 8:7; 10:25, 26.) Roedd hyn yn benderfyniad personol. Ni wnaeth Paul byth awgrymu y dylai’r Corinthiaid wneud penderfyniadau dros eraill na chopïo beth roedd eraill yn ei wneud. Roedd rhaid i bob un ohonyn nhw ‘ateb drostyn nhw eu hunain o flaen Duw.’—Rhuf. 14:10-12.
17. Beth allai ddigwydd petasen ni’n copïo beth mae eraill yn ei wneud? Rho enghraifft. (Gweler hefyd y lluniau.)
17 Sut gall sefyllfa debyg godi heddiw? Ystyria ffracsiynau gwaed. Mae’n rhaid i bob Cristion benderfynu drosto’i hun a fyddai ef neu hi yn derbyn neu’n gwrthod y ffracsiynau hyn.b Efallai ei bod hi’n anodd deall pwnc o’r fath yn llwyr, ond er mwyn ysgwyddo ein cyfrifoldeb, mae’n rhaid inni wneud penderfyniadau fel hyn. (Rhuf. 14:4) Petasen ni’n copïo beth mae rhywun arall yn ei wneud, byddwn ni’n gwanhau ein cydwybod ein hunain. Yr unig ffordd i hyfforddi a chryfhau ein cydwybod ydy drwy ei defnyddio. (Heb. 5:14) Felly, pryd dylen ni ofyn i Gristion aeddfed am gyngor? Ar ôl inni wneud ein hymchwil ein hunain ond angen help o hyd i ddeall sut mae egwyddorion y Beibl yn berthnasol i’n sefyllfa.
Dim ond ar ôl gwneud ein hymchwil ein hunain y dylen ni ofyn am gyngor (Gweler paragraff 17)
DAL ATI I OFYN AM GYNGOR
18. Beth mae Jehofa wedi ei wneud ar ein cyfer ni?
18 Mae Jehofa wedi dangos ei fod yn ein trystio ni drwy ganiatáu inni wneud penderfyniadau ein hunain. Mae wedi rhoi inni ei Air, y Beibl, ac mae wedi rhoi inni ffrindiau doeth a all ein helpu ni i resymu ar egwyddorion Beiblaidd. Drwy wneud hyn, mae Jehofa wedi dangos ei fod yn wir yn Dad cariadus inni. (Diar. 3:21-23) Sut gallwn ni ddangos iddo ein bod ni’n ddiolchgar?
19. Sut gallwn ni barhau i wneud Jehofa’n hapus?
19 Ystyria’r ffaith hon: Mae rhieni wrth eu boddau yn gweld eu plant yn aeddfedu, yn helpu eraill, ac yn dod yn weision doeth i Jehofa. Mewn ffordd debyg, mae Jehofa’n hapus pan ydyn ni’n aeddfedu’n ysbrydol, yn gofyn am gyngor, ac yn gwneud penderfyniadau sy’n ei anrhydeddu.
CÂN 127 Y Math o Berson y Dylwn Fod
a Ar adegau, gall Cristnogion ofyn i rai sydd ddim yn addoli Jehofa am gyngor ynglŷn â materion ariannol, meddygol, neu rywbeth arall.
b Am drafodaeth fanwl ar y pwnc, gweler gwers 39 pwynt 5 yn y llyfr Mwynhewch Fywyd am Byth! a’r rhan “Darganfod Mwy.”
c DISGRIFIAD O’R LLUN: Mae henuriad yn rhoi cyngor i henuriad arall am y ffordd y gwnaeth ef siarad mewn cyfarfod diweddar.