LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • w25 Awst tt. 2-7
  • Sut Mae Jehofa’n Ein Helpu Ni i Ddyfalbarhau

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Sut Mae Jehofa’n Ein Helpu Ni i Ddyfalbarhau
  • Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2025
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • GWEDDI
  • GAIR DUW
  • EIN CYD-GREDINWYR
  • EIN GOBAITH
  • Cofia Mai Jehofa Yw’r “Duw Byw”
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2024
  • Bydda’n Ostyngedig Pan Nad Wyt Ti’n Deall Rhywbeth
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2025
  • Llythyr a All Ein Helpu Ni i Ddyfalbarhau yn Ffyddlon i’r Diwedd
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2024
  • Mae Jehofa’n “Iacháu y Rhai Sydd Wedi Torri eu Calonnau”
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2024
Gweld Mwy
Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2025
w25 Awst tt. 2-7

ERTHYGL ASTUDIO 32

CÂN 38 Bydd Ef yn Dy Gryfhau

Sut Mae Jehofa’n Ein Helpu Ni i Ddyfalbarhau

“Bydd Duw pob caredigrwydd rhyfeddol . . . yn eich gwneud chi’n gryf, bydd ef yn eich gosod chi ar sylfaen gadarn.”—1 PEDR 5:10.

PWRPAS

Y pethau mae Jehofa wedi eu darparu i’n helpu ni i ddyfalbarhau a sut gallwn ni wneud y gorau ohonyn nhw.

1. Pam mae’n rhaid inni ddangos dyfalbarhad, a phwy fydd yn ein helpu ni? (1 Pedr 5:10)

YN Y dyddiau olaf anodd hyn, mae’n rhaid i bobl Jehofa ddangos dyfalbarhad. Mae rhai yn dioddef oherwydd salwch hirdymor. Mae eraill yn galaru ar ôl colli anwylyn. Mae eraill yn profi gwrthwynebiad gan eu teulu neu gan swyddogion y llywodraeth. (Math. 10:​18, 36, 37) Beth bynnag rwyt ti’n ei wynebu, bydda’n sicr gall Jehofa dy helpu di i ddyfalbarhau.—Darllen 1 Pedr 5:10.

2. O le rydyn ni’n cael ein gallu i ddyfalbarhau?

2 Dyfalbarhad ydy’r gallu i ddal ati ac i gadw ein gobaith wrth wynebu heriau, erledigaeth, treialon, neu demtasiynau. Fel Cristnogion, mae ein gallu i ddyfalbarhau yn dod, nid o’n nerth ein hunain, ond oddi wrth Jehofa, yr un sy’n gallu rhoi inni’r “grym sydd y tu hwnt i’r arferol.” (2 Cor. 4:7) Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod pedwar peth mae Jehofa wedi eu rhoi inni er mwyn ein helpu ni i ddyfalbarhau. Byddwn ni hefyd yn gweld sut gallwn ni wneud y gorau o bob un ohonyn nhw.

GWEDDI

3. Pam gallwn ni ddweud bod gweddi yn ffordd wyrthiol o gyfathrebu?

3 Mae Jehofa wedi darparu gwyrth anhygoel a all ein helpu ni i ddyfalbarhau. Mae wedi ei gwneud hi’n bosib inni gyfathrebu ag ef er gwaethaf ein cyflwr pechadurus. (Heb. 4:16) Meddylia am hyn: Gallwn ni weddïo ar Jehofa am unrhyw beth ac ar unrhyw amser. Mae’n gallu ein clywed ni mewn unrhyw iaith ac o unrhyw leoliad, hyd yn oed os ydyn ni mewn lle unig neu yn y carchar. (Jona 2:​1, 2; Act. 16:​25, 26) Pan ydyn ni’n pryderu gymaint nes bod mynegi ein teimladau’n rhy anodd inni, mae Jehofa’n dal yn gallu deall beth rydyn ni eisiau ei ddweud. (Rhuf. 8:​26, 27) Yn wir, mae gweddi yn ffordd wyrthiol o gyfathrebu!

4. Pam gallwn ni ddweud bod ein gweddïau am ddyfalbarhad yn unol ag ewyllys Jehofa?

4 Yn ei Air, mae Jehofa’n ein hannog ni gan ddweud “beth bynnag rydyn ni’n gofyn amdano yn ôl ei ewyllys, mae’n ein clywed ni.” (1 Ioan 5:14) A allwn ni ofyn i Jehofa am help i ddyfalbarhau? Wrth gwrs! Byddai gwneud hynny’n unol â’i ewyllys. Pam gallwn ni ddweud hynny? Pan ydyn ni’n dyfalbarhau yn ystod treialon, mae Jehofa’n gallu ymateb i’r un sy’n ei wawdio, Satan y Diafol. (Diar. 27:11) Yn ogystal â hynny, mae’r Beibl yn dweud bod Jehofa’n awyddus “i ddangos ei nerth ar ran y rhai sy’n ffyddlon iddo â’u holl galonnau.” (2 Cron. 16:9) Felly gallwn ni fod yn siŵr bod gan Jehofa’r nerth a’r awydd i’n helpu ni i ddyfalbarhau.—Esei. 30:18; 41:10; Luc 11:13.

5. Sut gall gweddi roi heddwch meddwl inni? (Eseia 26:3)

5 Mae’r Beibl yn dweud “bydd heddwch Duw sydd y tu hwnt i bob deall yn gwarchod [ein] calonnau [a’n] meddyliau” pan ydyn ni’n erfyn ar Jehofa am ein pryderon. (Phil. 4:7) Ystyria beth mae hynny’n ei olygu. Mae pobl sydd ddim yn gwasanaethu Jehofa yn wynebu anawsterau, ac efallai bydden nhw’n trio dulliau gwahanol i gael heddwch meddwl. Er enghraifft, mae rhai yn trio math o fyfyrdod i wagio eu meddyliau, gan gynnwys meddyliau pryderus. Ond mae gwagio’r meddwl yn beryglus yn ysbrydol. (Cymhara Mathew 12:​43-45.) Hefyd, mae’r heddwch sy’n dod o Jehofa pan ydyn ni’n gweddïo arno yn llawer uwch nag unrhyw fath o heddwch gall rhywun ei gael drwy wagio ei feddwl. Pan ydyn ni’n gweddïo ar Jehofa, rydyn ni’n dangos ein bod ni’n dibynnu arno’n llwyr ac mae’n ein helpu ni i fod yn “hollol dawel [ein] meddwl.” (Darllen Eseia 26:3.) Un ffordd mae Jehofa’n gwneud hynny ydy trwy ein helpu ni i gofio adnodau sy’n ein cysuro ni. Mae’r gwirioneddau hyn yn tawelu ein meddyliau a’n calonnau oherwydd ein bod ni’n gwybod bod Jehofa’n gofalu amdanon ni ac eisiau inni lwyddo.—Salm 62:​1, 2.

6. Sut gelli di wneud y gorau o weddi? (Gweler hefyd y llun.)

6 Beth gelli di ei wneud? Wrth iti wynebu her, “rho dy feichiau trwm” i Jehofa a gweddïo am ei heddwch. (Salm 55:22) Gweddïa hefyd am y doethineb sydd ei angen arnat ti er mwyn gwybod beth i’w wneud. (Diar. 2:​10, 11) Yn ogystal â dy erfyniadau am ddyfalbarhad, paid ag anghofio i ddiolch i Jehofa yn dy weddïau. (Phil. 4:6) Edrycha am dystiolaeth bod Jehofa’n dy gynnal di yn ystod dy dreial, a rho ddiolch iddo am ei gefnogaeth. Paid â gadael i dy dreial dy ddallu di i’r bendithion sydd gen ti yn barod.—Salm 16:​5, 6.

Brawd hŷn yn eistedd yn ei gartref yn y gaeaf yn gweddïo. Mae ’na Feibl yn agored ar ei lin, ac mae ’na botel o feddyginiaeth ar y bwrdd wrth ei ymyl.

Pan wyt ti’n gweddïo, rwyt ti’n siarad â Jehofa. Pan wyt ti’n darllen y Beibl, mae Jehofa’n siarad â ti (Gweler paragraff 6)b


GAIR DUW

7. Sut gall astudio’r Beibl ein helpu ni i ddyfalbarhau?

7 Mae Jehofa wedi rhoi ei Air i’n helpu ni i ddyfalbarhau ac mae’n cynnwys llawer o adnodau sy’n sicrhau bod gynnon ni gefnogaeth Jehofa. Ystyria un esiampl. Mae Mathew 6:8 yn dweud: “Mae eich Tad yn gwybod beth sydd ei angen arnoch chi cyn ichi hyd yn oed ofyn iddo.” Daeth y geiriau hyn oddi wrth Iesu, ac mae’n adnabod Jehofa’n llawer gwell nag y mae unrhyw un arall. Felly, does gynnon ni ddim rheswm i feddwl nad ydy Jehofa’n gofalu amdanon ni yn ystod treialon. Mae’r Beibl yn llawn addewidion hyfryd a all rhoi’r nerth sydd ei angen arnon ni er mwyn dyfalbarhau.—Salm 94:19.

8. (a) Rho enghraifft o egwyddor Feiblaidd sy’n gallu ein helpu ni i ddyfalbarhau. (b) Beth all ein helpu ni i gofio egwyddorion Beiblaidd pan fydd angen?

8 Gall egwyddorion Beiblaidd ein helpu ni i ddyfalbarhau oherwydd eu bod nhw’n cynnwys doethineb ymarferol a all ein helpu ni i wneud penderfyniadau da. (Diar. 2:​6, 7) Er enghraifft, mae’r Beibl yn ein hannog ni i gymryd un dydd ar y tro yn hytrach na phoeni gormod am beth allai ddigwydd yfory. (Math. 6:34) Os ydyn ni wedi dod i’r arfer o ddarllen yr Ysgrythurau a myfyrio arnyn nhw, byddwn ni’n fwy tebygol o gofio egwyddorion sy’n berthnasol i’n sefyllfa.

9. Sut gall hanesion bywyd yn y Beibl gryfhau ein hyder bod Jehofa’n ein helpu ni?

9 Mae’r Beibl hefyd yn cynnwys hanesion bywyd pobl gyffredin a wnaeth ymddiried yn Jehofa a derbyn ei gefnogaeth. (Heb. 11:​32-34; Iago 5:17) Pan ydyn ni’n myfyrio ar yr hanesion hyn, rydyn ni’n adeiladu ein hyder bod Jehofa’n “ein cadw ni’n saff ac yn rhoi nerth i ni. Mae e bob amser yna i’n helpu pan mae trafferthion.” (Salm 46:1) Wrth inni ystyried bywydau ffyddlon gweision Jehofa o’r gorffennol, rydyn ni’n cael ein cymell i efelychu eu ffydd a’u dyfalbarhad.—Iago 5:​10, 11.

10. Sut gelli di wneud y gorau o Air Duw?

10 Beth gelli di ei wneud? Darllena’r Beibl bob dydd, a chadwa restr o adnodau sy’n wir yn dy helpu di. Mae llawer hefyd wedi ffeindio bod darllen testun y dydd yn ffordd effeithiol iawn o ddechrau’r dydd gyda rhywbeth calonogol o’r Beibl. Dyna beth helpodd chwaer o’r enw Mariea pan gafodd eu rhieni eu diagnosio â chanser ac roedd hi’n gofalu amdanyn nhw hyd at ddiwedd eu bywydau. Mae hi’n dweud: “Bob bore roeddwn i’n darllen y testun yn Chwilio’r Ysgrythurau Bob Dydd ac yn myfyrio arno. Roedd y rwtîn hwn yn llenwi fy meddwl â rhywbeth ysbrydol a oedd yn fy helpu i i ganolbwyntio ar rywbeth pwysicach na fy hun na’r sefyllfa boenus roeddwn i’n ei hwynebu.”—Salm 61:2.

EIN CYD-GREDINWYR

11. Pam mae gwybod nad ydyn ni ar ein pennau ein hunain wrth wynebu treialon yn ein calonogi ni?

11 Mae Jehofa wedi rhoi inni frodyr a chwiorydd Cristnogol i’n helpu ni i ddyfalbarhau. Mae’n dod â chysur inni i wybod “bod yr holl frawdoliaeth drwy’r byd i gyd yn dioddef yr un math o bethau.” (1 Pedr 5:9) Yn wir, ni waeth pa sefyllfa rydyn ni’n ei hwynebu, gallwn ni fod yn sicr bod eraill wedi wynebu rhywbeth tebyg ac wedi llwyddo i ddyfalbarhau. Mae hynny’n golygu ein bod ni’n gallu dyfalbarhau hefyd!—Act.14:22.

12. Sut gall cyd-gredinwyr ein helpu ni, a beth gallwn ni ei wneud ar eu cyfer nhw? (2 Corinthiaid 1:​3, 4)

12 Wrth inni ddyfalbarhau, gall ein cyd-gredinwyr ein hannog ni. Roedd hynny’n wir yn achos yr apostol Paul. Yn aml, roedd yn diolch i’r rhai a oedd wedi ei helpu tra oedd ef o dan arestiad tŷ a chyfeirio atyn nhw wrth eu henwau. Cafodd Paul gysur, anogaeth, a help ymarferol oddi wrthyn nhw. (Phil. 2:​25, 29, 30; Col. 4:​10, 11) Efallai byddwn ni’n profi rhywbeth tebyg heddiw. Pan mae ’na angen am help arnon ni i ddyfalbarhau, mae ein brodyr a’n chwiorydd yno inni; a phan mae ’na angen arnyn nhw am gefnogaeth, rydyn ni yno iddyn nhw.—Darllen 2 Corinthiaid 1:​3, 4.

13. Beth a wnaeth helpu chwaer o’r enw Maya i ddyfalbarhau?

13 Cafodd Maya, chwaer yn Rwsia, ei chalonogi’n fawr iawn gan y frawdoliaeth. Yn 2020, gwnaeth yr heddlu chwilio ei chartref, ac yn nes ymlaen fe gafodd hi ei rhoi ar dreial am rannu ei ffydd ag eraill. “Yn ystod amser pan oeddwn i wedi blino’n lân yn emosiynol, gwnaeth y brodyr a’r chwiorydd fy ffonio i, ysgrifennu ata i, a chadarnhau eu cariad tuag ata i,” meddai Maya. “Roeddwn i’n wastad yn gwybod fy mod i’n rhan o deulu mawr a chariadus. Ond ers 2020, mae hyn wedi bod yn fwy amlwg byth imi.”

14. Sut gallwn ni elwa o gefnogaeth ein cyd-gredinwyr wrth inni ddyfalbarhau? (Gweler hefyd y llun.)

14 Beth gelli di ei wneud? Wrth iti ddyfalbarhau, arhosa’n agos at dy frodyr a dy chwiorydd. Paid ag oedi rhag gofyn am help gan yr henuriaid. Maen nhw’n gallu bod fel “cysgod rhag y gwynt, a lloches rhag y storm.” (Esei. 32:2) Cofia fod dy gyd-gredinwyr yn mynd trwy adegau anodd hefyd. Bydd gwneud rhywbeth caredig i rywun mewn angen yn dy helpu di i gadw agwedd bositif a chytbwys wrth iti ddal ati drwy dy dreial dy hun.—Act. 20:35.

Y brawd hŷn o’r llun cynt, yn eistedd yn ei gartref yn y gwanwyn yn sgwrsio’n braf gyda chwpl a’u dwy ferch ifanc. Wrth ei ymyl y mae ei ffon ac ychydig o boteli o feddyginiaeth. Mae un o’r merched yn dangos llun mae hi wedi ei dynnu o’r Baradwys.

Arhosa’n agos at dy frodyr a dy chwiorydd (Gweler paragraff 14)c


EIN GOBAITH

15. Sut mae gobaith am y dyfodol wedi helpu pobl ffyddlon, gan gynnwys Iesu? (Hebreaid 12:2)

15 Mae Jehofa wedi rhoi inni obaith cadarn i’n helpu ni i ddyfalbarhau. (Rhuf. 15:13) Cofia sut gwnaeth gobaith helpu Iesu i ddal ati yn ystod diwrnod anoddaf ei fywyd ar y ddaear. (Darllen Hebreaid 12:2.) Roedd Iesu’n gwybod byddai ei ffyddlondeb yn helpu i sancteiddio ac i anrhydeddu enw Jehofa. Roedd Iesu hefyd yn edrych ymlaen at fod gyda’i Dad eto, ac mewn amser, at wasanaethu gyda’i frodyr yn y Deyrnas nefol. Mewn ffordd debyg, mae ein gobaith o fyw am byth ym myd newydd Duw yn ein helpu ni i ddyfalbarhau unrhyw galedi rydyn ni’n ei brofi ym myd Satan.

16. Sut gwnaeth gobaith helpu un chwaer i ddyfalbarhau, a beth gwnest ti ei ddysgu o’i heriau?

16 Ystyria sut gwnaeth y gobaith am y Deyrnas helpu chwaer yn Rwsia o’r enw Alla, ar ôl i’w gŵr gael ei roi yn y carchar tra oedd yn aros am ei dreial. Ar ôl i hyn ddigwydd, dywedodd Alla: “Mae gweddïo am ein gobaith a myfyrio arno yn fy helpu i i beidio â digalonni gormod. Rydw i’n deall bod y pethau hyn yn mynd i ddod i ben. Bydd Jehofa’n fuddugol, a byddwn ninnau hefyd.”

17. Sut gallwn ni ddangos ein diolchgarwch am y gobaith mae Jehofa wedi ei roi inni? (Gweler hefyd y llun.)

17 Beth gelli di ei wneud? Cymera amser i feddwl am y gobaith hyfryd mae Jehofa wedi ei addo ar gyfer y dyfodol. Ceisia weld dy hun ym myd newydd Duw a’r holl fendithion fydd gynnon ni. Yna, byddwn ni’n gweld mai “dros dro ac ysgafn” ydy unrhyw dreial rydyn ni’n ei wynebu. (2 Cor. 4:17) Hefyd, gwna beth elli di i rannu dy ffydd ag eraill. Dychmyga pa mor anodd ydy hi iddyn nhw ddelio â byd Satan heb wybod unrhyw beth am bwrpas Duw ar gyfer y dyfodol. Gelli di ennyn eu diddordeb yng ngobaith y Deyrnas gyda hyd yn oed sgwrs fer.

Y brawd hŷn yn eistedd yn ei gartref yn yr hydref ac yn meddwl am y llun o’r Baradwys sydd ar ei dabled. Wrth ei ymyl y mae ffrâm gerdded a sawl potel o feddyginiaeth.

Cymera amser i feddwl am y dyfodol hyfryd mae Jehofa wedi addo inni (Gweler paragraff 17)d


18. Pam gallwn ni ymddiried yn addewidion Jehofa?

18 Ar ôl i Job lwyddo i ddyfalbarhau trwy lawer o dreialon, fe ddywedodd wrth Jehofa: “Dw i’n gwybod dy fod ti’n gallu gwneud unrhyw beth; does dim modd rhwystro dy gynlluniau di.” (Job 42:2) Fel roedd Job wedi dysgu, does ’na ddim byd sy’n gallu rhwystro Jehofa rhag cyflawni ei bwrpas. Gall y ffaith honno ein cryfhau ni wrth inni ddyfalbarhau. I egluro, dychmyga ddynes sydd wedi digalonni oherwydd bod nifer o ddoctoriaid wedi methu gwella ei salwch. Ond pan mae doctor profiadol yn dod o hyd i’r broblem ac yn esbonio sut byddai’n trin y salwch, mae hi’n dechrau teimlo’n hapusach, er na fydd hi’n cael ei hiacháu yn syth. Mae nawr yn haws iddi ddyfalbarhau gan wybod y bydd hi’n gwella. Mewn ffordd debyg, mae ein sicrwydd bod y Baradwys am ddod yn rhoi hyder inni ddyfalbarhau.

19. Beth mae’n rhaid inni ei wneud er mwyn dyfalbarhau?

19 Fel rydyn ni wedi gweld, mae Jehofa’n defnyddio gweddi, ei Air, ein cyd-gredinwyr, a’n gobaith i’n helpu ni i ddyfalbarhau yn ystod treialon. Os ydyn ni’n gwneud y gorau o’r darpariaethau hyn, bydd Jehofa’n ein helpu ni i wynebu unrhyw dreial hyd at yr amser pan fydd byd Satan a dioddefaint wedi diflannu.—Phil. 4:13.

SUT MAE JEHOFA’N DEFNYDDIO’R CANLYNOL I’N HELPU NI I DDYFALBARHAU?

  • Gweddi a’i Air?

  • Ein cyd-gredinwyr?

  • Ein gobaith?

CÂN 33 Bwrw Dy Faich ar Jehofa

a Newidiwyd rhai enwau yn yr erthygl hon.

b DISGRIFIAD O’R LLUN: Brawd hŷn yn dyfalbarhau’n ffyddlon drwy bob tymor.

c DISGRIFIAD O’R LLUN: Brawd hŷn yn dyfalbarhau’n ffyddlon drwy bob tymor.

d DISGRIFIAD O’R LLUN: Brawd hŷn yn dyfalbarhau’n ffyddlon drwy bob tymor.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu