LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • w25 Medi tt. 14-19
  • Dangosa Barch Tuag at Eraill

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Dangosa Barch Tuag at Eraill
  • Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2025
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • BETH MAE’N EI OLYGU I BARCHU ERAILL?
  • DANGOS PARCH TUAG AT AELODAU’R TEULU
  • DANGOS PARCH TUAG AT GYD-ADDOLWYR
  • DANGOS PARCH TUAG AT Y RHAI Y TU ALLAN I’R GYNULLEIDFA
  • Beth Sydd Wedi Digwydd i Barch?
    Deffrwch!—2024
  • Pam Dylen Ni Barchu Awdurdod?
    “Cadwch Eich Hunain yng Nghariad Duw”
  • Beth Sydd Wedi Digwydd i Barch at Eraill?
    Deffrwch!—2024
  • I Gael Priodas Hapus: Dangoswch Barch
    Help ar Gyfer y Teulu
Gweld Mwy
Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2025
w25 Medi tt. 14-19

ERTHYGL ASTUDIO 38

CÂN 120 Efelychu Addfwynder Crist

Dangosa Barch Tuag at Eraill

“Gwell yw parch nag arian ac aur.”—DIAR. 22:​1, BCND.

PWRPAS

Dysgu pam mae angen inni ddangos parch tuag at eraill a sut gallwn ni wneud hynny o dan amgylchiadau anodd.

1. Pam mae pobl yn gwerthfawrogi cael eu trin â pharch? (Diarhebion 22:1)

MAE’N debyg dy fod ti’n ei gwerthfawrogi pan fydd eraill yn dangos parch tuag atat ti. Mae parch yn un o anghenion sylfaenol bywyd ac rydyn ni’n ffynnu pan fydd eraill yn ein parchu ni. Does dim syndod felly bod y Beibl yn dweud “gwell yw parch nag arian ac aur”!—Darllen Diarhebion 22:​1, BCND.

2-3. Ym mha sefyllfaoedd dylen ni ddangos parch tuag at eraill?

2 Dydy hi ddim yn wastad yn hawdd inni ddangos parch tuag at eraill. Am un peth, allwn ni ddim peidio â gweld amherffeithion y bobl o’n cwmpas. Hefyd, yn ein dyddiau ni, mae’n gyffredin iawn i bobl fod yn amharchus. Ond mae’n rhaid inni fod yn wahanol. Pam? Oherwydd mae Jehofa eisiau inni anrhydeddu, neu ddangos parch tuag at, “ddynion o bob math.”—1 Pedr 2:17.

3 Byddwn ni’n elwa o drafod beth mae’n ei olygu i barchu eraill, a sut gallwn ni ddangos parch tuag at (1) aelodau’r teulu, (2) ein cyd-addolwyr, a (3) y rhai y tu allan i’r gynulleidfa. Byddwn ni’n canolbwyntio ar sut gallwn ni ddangos parch o dan amgylchiadau anodd.

BETH MAE’N EI OLYGU I BARCHU ERAILL?

4. Beth mae’n ei olygu i barchu eraill?

4 Sut byddi di’n diffinio parch? Mewn rhai ieithoedd, mae ’na gysylltiad rhwng y geiriau “parch” ac “anrhydedd”. Ym mha ffordd? Yn bennaf, mae “parch” yn cyfeirio at sut rydyn ni’n ystyried eraill. Pan ydyn ni’n parchu eraill, rydyn ni’n teimlo eu bod nhw’n haeddu ein sylw, efallai oherwydd yr hyn maen nhw wedi ei wneud, eu rhinweddau, neu eu statws. Ar y llaw arall, mae “anrhydedd” yn cyfeirio at sut rydyn ni’n trin eraill. Pan ydyn ni’n anrhydeddu eraill, rydyn ni’n eu trin nhw gydag urddas ac yn gwneud iddyn nhw deimlo’n werthfawr. Ond wrth gwrs, er mwyn i anrhydedd fod yn ddiffuant, mae’n rhaid iddo ddod o’r galon.—Math. 15:8.

5. Beth all ein cymell ni i ddangos parch tuag at eraill?

5 Mae Jehofa eisiau inni barchu eraill. Er enghraifft, mae’n gofyn inni barchu’r awdurdodau. (Rhuf. 13:​1, 7) Ond efallai bydd rhai yn dweud, “Rydw i’n fodlon parchu eraill cyn belled â’u bod nhw’n haeddu hynny.” Ydy hi’n iawn inni feddwl felly? Nac ydy. Rydyn ni’n deall y dylen ni barchu eraill, nid ar sail eu gweithredoedd yn unig, ond am ein bod ni’n caru Jehofa ac eisiau ei blesio.—Jos. 4:14; 1 Pedr 3:15.

6. Ydy hi’n bosib inni barchu rhywun sydd ddim yn ein parchu ni? Esbonia. (Gweler hefyd y llun.)

6 Gallai rhai ofyn, ‘Ydy hi wir yn bosib dangos parch tuag at rywun sydd ddim yn dy barchu di?’ Ydy. Ystyria rai enghreifftiau. Gwnaeth y Brenin Saul gywilyddio ei fab Jonathan o flaen eraill. (1 Sam. 20:​30-34) Ond gwnaeth Jonathan gefnogi ei dad yn barchus a brwydro ochr yn ochr ag ef nes i Saul farw. (Ex. 20:12; 2 Sam. 1:23) Gwnaeth yr Archoffeiriad Eli gyhuddo Hanna o feddwi. (1 Sam. 1:​12-14) Ond er gwaethaf hynny, siaradodd Hanna yn barchus ag Eli, er bod ei fethiant fel tad ac archoffeiriad yn amlwg i bawb yn Israel. (1 Sam. 1:​15-18; 2:​22-24) A gwnaeth dynion Athen sarhau’r apostol Paul, a’i alw’n ‘glebryn.’ (Act. 17:18) Er hynny, siaradodd Paul yn barchus â nhw. (Act. 17:22) Mae’r enghreifftiau hyn yn dangos bod cariad dwfn tuag at Jehofa a’r awydd i’w blesio yn gallu ein cymell ni i ddangos parch tuag at eraill, nid yn unig pan fydd hynny’n hawdd, ond hefyd pan fydd yn anodd. Gad inni drafod pwy sy’n haeddu ein parch a pham.

Jonathan, Saul, a milwyr Israel gyda’u cleddyfau, eu gwaywffyn, a’u tarianau ar faes y gad.

Er bod ei dad wedi ei gywilyddio, daliodd Jonathan ati i amddiffyn a chefnogi ei dad, y brenin (Gweler paragraff 6)


DANGOS PARCH TUAG AT AELODAU’R TEULU

7. Beth all ei gwneud hi’n anodd inni barchu aelodau’r teulu?

7 Yr her. Rydyn ni’n treulio llawer o amser gyda’n teuluoedd ac felly yn gwybod eu cryfderau a’u gwendidau. Efallai eu bod nhw’n sâl ac mae’n anodd inni ofalu amdanyn nhw. Neu efallai eu bod nhw’n dioddef o bryder gormodol. Efallai bydd eraill yn dweud neu’n gwneud pethau sy’n ein brifo ni. Yn hytrach na thrio creu awyrgylch braf a heddychlon yn y cartref, mae rhai yn creu helynt drwy beidio â dangos parch tuag at aelodau’r teulu. O ganlyniad, does ’na ddim undod. Fel mae arthritis yn rhwystro rhannau’r corff rhag gweithio’n esmwyth, mae amarch yn rhwystro aelodau’r teulu rhag gweithio’n unedig. Ond yn wahanol i arthritis sy’n amhosib inni ei wella, fe allwn ni stopio amarch rhag difetha undod ein teulu.

8. Pam mae’n bwysig inni barchu aelodau’r teulu? (1 Timotheus 5:​4, 8)

8 Pam dangos parch? (Darllen 1 Timotheus 5:​4, 8.) Yn ei lythyr cyntaf at Timotheus, trafododd Paul sut dylai aelodau’r teulu ofalu am anghenion ei gilydd. Esboniodd y dylen ni anrhydeddu aelodau’r teulu, nid allan o ddyletswydd yn unig, ond allan o ‘ddefosiwn duwiol.’ Mae hyn yn golygu ein bod ni’n gwneud hynny am ein bod ni’n caru Jehofa ac yn ei ystyried yn rhan o’n haddoliad. Pan ydyn ni’n dangos parch tuag at aelodau’r teulu, mewn gwirionedd rydyn ni’n dangos parch tuag at Jehofa, yr un a wnaeth sefydlu’r drefn deuluol. (Eff. 3:​14, 15; Gweler y nodiadau astudio ar 1 Timotheus 5:4.) Am reswm pwerus dros barchu aelodau’r teulu!

9. Sut gall gŵr a gwraig ddangos eu bod nhw’n parchu ei gilydd? (Gweler hefyd y lluniau.)

9 Sut i ddangos parch. Mae gŵr sy’n anrhydeddu ei wraig yn dangos ei bod hi’n werthfawr iddo pan fyddan nhw ar eu pennau eu hunain ac o flaen eraill. (Diar. 31:28; 1 Pedr 3:7) Dydy ef byth yn ei tharo hi, ei chywilyddio hi, nac yn gwneud iddi deimlo’n ddiwerth. Mae brawd o’r enw Ariel,a sy’n byw yn yr Ariannin yn dweud: “Oherwydd salwch fy ngwraig, weithiau mae hi’n dweud pethau sy’n fy mrifo i. Pan fydd hynny’n digwydd, rydw i’n trio cofio ei bod hi’n dweud pethau nad ydy hi’n eu golygu. Pan mae tensiynau’n codi, rydw i’n meddwl am 1 Corinthiaid 13:​5, sy’n fy nghymell i i siarad â hi mewn ffordd barchus yn hytrach na’i bychanu hi.” (Diar. 19:11) Mae gwraig yn anrhydeddu ei gŵr drwy siarad yn dda amdano o flaen eraill. (Eff. 5:33) Mae hi’n osgoi bod yn sarcastig, gwawdio, a galw enwau; gan sylweddoli bod pethau felly yn debyg i rwd sy’n difetha’r briodas. (Diar. 14:1) Mae chwaer yn yr Eidal sydd â gŵr sy’n brwydro gorbryder yn dweud: “Ar adegau, rydw i’n teimlo bod fy ngŵr yn poeni’n ormodol am bethau. Yn y gorffennol, roedd fy ngeiriau, a hyd yn oed fy wyneb, yn dangos diffyg parch. Ond mwya’n y byd rydw i’n treulio amser â phobl sy’n sôn am eraill mewn ffordd barchus, mwya’n y byd rydw i eisiau dangos parch tuag at fy ngŵr.”

Collage: Cwpl priod yn dangos parch tuag at ei gilydd. 1. Mae’r gŵr yn siarad yn garedig â’i wraig wrth iddyn nhw baratoi bwyd yn y gegin. 2. Mae’r wraig yn canmol ei gŵr o flaen eu hymwelwyr wrth i’r gŵr rhoi bwyd i frawd hŷn.

Pan ydyn ni’n dangos parch tuag at ein teuluoedd, rydyn ni’n anrhydeddu ein penteulu, Jehofa (Gweler paragraff 9)


10. Sut gall pobl ifanc ddangos eu bod nhw’n parchu eu rhieni?

10 Os wyt ti’n berson ifanc, dylet ti ufuddhau i’r rheolau mae dy rieni wedi eu gosod. (Eff. 6:​1-3) Siarada â dy rieni mewn ffordd barchus. (Ex. 21:17) Wrth iddyn nhw heneiddio, efallai bydd angen mwy o help ar dy rieni. Gwna dy orau i edrych ar eu holau nhw. Ystyria esiampl María. Dydy ei thad ddim yn un o Dystion Jehofa, a phan aeth yn sâl, roedd yn ei gwneud hi’n anodd i María ofalu amdano. Dywedodd hi: “Gweddïais am help, nid yn unig i deimlo parch tuag at fy nhad ond hefyd i ddangos fy mod i’n ei barchu. Sylweddolais, gan fod Jehofa’n gofyn imi anrhydeddu fy rhieni, yna wrth gwrs bydd ef yn rhoi’r nerth imi allu gwneud hynny. Ymhen amser, des i i’r casgliad fy mod i’n gallu dangos parch tuag at fy nhad er ei fod yn dal i wneud pethau’n anodd imi.“ Pan fyddwn ni’n parchu aelodau’r teulu, er gwaethaf eu gwendidau, rydyn ni’n profi ein bod ni’n parchu trefn Jehofa.

DANGOS PARCH TUAG AT GYD-ADDOLWYR

11. Beth all ei gwneud hi’n anodd inni ddangos parch tuag at ein cyd-addolwyr?

11 Yr her. Rydyn ni i gyd yn ceisio byw yn unol â safonau’r Beibl; ond ar adegau, gall ein brodyr a’n chwiorydd ein trin ni’n angharedig, ein barnu ni’n annheg, neu fynd ar ein nerfau. Os oes gynnon ni “achos i gwyno” yn erbyn un o’n cyd-addolwyr, efallai bydd yn anodd inni ei barchu. (Col. 3:13) Beth all ein helpu ni?

12. Pam mae’n bwysig inni ddangos parch tuag at ein cyd-addolwyr? (2 Pedr 2:​9-12)

12 Pam dangos parch? (Darllen 2 Pedr 2:​9-12.) Yn ei ail lythyr, ysgrifennodd Pedr fod rhai Cristnogion y ganrif gyntaf yn dweud pethau amharchus am “rai gogoneddus,” hynny yw, henuriaid Cristnogol. Beth oedd ymateb yr angylion ffyddlon a oedd yn gweld hyn yn digwydd? “Allan o barch tuag at Jehofa,” ni ddywedon nhw’r un gair drwg am y bobl hynny. Dychmyga hynny! Gwnaeth yr angylion perffaith wrthod siarad yn llym am y dynion balch hynny. Yn hytrach, gwnaethon nhw adael i Jehofa eu barnu a’u ceryddu nhw. (Rhuf. 14:​10-12; cymhara Jwdas 9.) Gallwn ni ddysgu gwers bwysig gan yr angylion. Os na ddylen ni amharchu ein gwrthwynebwyr, gymaint yn fwy y dylen ni beidio ag amharchu ein brodyr a’n chwiorydd. I’r gwrthwyneb, dylen ni fod yn ‘awyddus i’w hanrhydeddu’ nhw. (Rhuf. 12:10) Drwy wneud hyn, byddwn ni’n dangos ein bod ni’n parchu Jehofa.

13-14. Sut gallwn ni ddangos parch tuag at y rhai yn y gynulleidfa? Rho enghreifftiau. (Gweler hefyd y lluniau.)

13 Sut i ddangos parch. Dylai henuriaid geisio dysgu eraill ar sail cariad. (Philem. 8, 9) Os oes angen rhoi cyngor i rywun, dylen nhw wneud hynny mewn ffordd garedig ac nid ar adeg pan fyddan nhw’n flin. Gall chwiorydd greu awyrgylch parchus yn y gynulleidfa a helpu eraill i wneud yr un fath drwy beidio â hel clecs na sarhau eraill. (Titus 2:​3-5) Gallwn ni i gyd ddangos ein bod ni’n parchu’r henuriaid drwy gyd-weithio â nhw a thrwy ddiolch iddyn nhw am ba mor galed maen nhw’n gweithio i gynnal cyfarfodydd, i arwain y gwaith pregethu, ac i helpu’r rhai sydd wedi “cymryd cam gwag.”—Gal. 6:1; 1 Tim. 5:17.

14 Roedd chwaer o’r enw Rocío yn ei chael hi’n anodd parchu henuriad a roddodd cyngor iddi. “Teimlais ei fod wedi bod yn rhy galed arna i,” meddai. “Pan oeddwn i adref, roeddwn i’n siarad yn negyddol amdano. Er fy mod i wedi trio peidio dangos sut roeddwn i’n teimlo, ar y tu mewn roeddwn i’n amau ei gymhellion ac yn diystyru ei gyngor.” Beth helpodd Rocío? Esboniodd: “Wrth imi ddarllen y Beibl, des i ar draws 1 Thesaloniaid 5:​12, 13. Pan sylweddolais nad oeddwn i’n dangos parch tuag at y brawd hwnnw, dechreuodd fy nghydwybod fy mhoeni. Gweddïais ar Jehofa a gwneud ymchwil yn ein cyhoeddiadau er mwyn dod o hyd i wybodaeth a fyddai’n fy helpu i newid fy agwedd. Yn y pen draw, sylweddolais nid y brawd oedd y broblem, ond fy malchder fy hun. Nawr rydw i’n deall bod ’na gysylltiad rhwng gostyngeiddrwydd a fy ngallu i barchu eraill. Mae gen i le i wella o hyd, ond wrth imi wneud fy ngorau i ddangos parch, rydw i’n teimlo bod Jehofa yn gwerthfawrogi fy holl ymdrechion.”

Collage: Chwaer hŷn yn darllen ei Beibl ac yn meddwl am holl waith caled yr henuriaid. 1. Henuriad yn rhoi anerchiad o flaen y gynulleidfa. 2. Mae’n helpu brawd sydd mewn cadair olwyn. 3. Mae’n clirio eira tu allan i Neuadd y Deyrnas.

Gallwn ni i gyd ddangos ein bod ni’n parchu’r henuriaid drwy gyd-weithio â nhw a thrwy ddiolch iddyn nhw am ba mor galed maen nhw’n gweithio (Gweler paragraffau 13-14)


DANGOS PARCH TUAG AT Y RHAI Y TU ALLAN I’R GYNULLEIDFA

15. Beth all ei gwneud hi’n anodd inni barchu’r rhai y tu allan i’r gynulleidfa?

15 Yr her. Yn aml rydyn ni’n cwrdd â phobl yn y weinidogaeth sy’n malio dim am Dduw a’r Beibl. (Eff. 4:18) Mae rhai’n gwrthod gwrando ar ein neges oherwydd y ffordd cawson nhw eu magu. Efallai bydd ein cyflogwyr neu’n hathrawon yn anodd eu plesio. Neu efallai ei bod hi’n anodd inni ddelio â’n cyd-weithwyr neu â phlant eraill yn yr ysgol. Dros amser, gallwn ni golli parch tuag at y bobl hyn a stopio eu trin nhw yn y ffordd y byddwn ni’n hoffi cael ein trin.

16. Pam mae’n bwysig inni ddangos parch tuag at y rhai sydd ddim eto’n gwasanaethu Jehofa? (1 Pedr 2:12; 3:15)

16 Pam dangos parch? Cofia fod Jehofa’n talu sylw i’r ffordd rydyn ni’n trin y rhai sydd ddim yn ei wasanaethu. Gwnaeth yr apostol Pedr atgoffa Cristnogion fod eu hymddygiad da yn gallu cymell eraill i “ogoneddu Duw.” Oherwydd hynny, fe wnaeth eu hannog nhw i amddiffyn eu ffydd “gydag ysbryd addfwyn a pharch dwfn.” (Darllen 1 Pedr 2:12; 3:15.) P’un a ydy Cristnogion yn amddiffyn eu ffydd o flaen swyddogion neu eu cymdogion, dylen nhw ddangos parch tuag at eraill fel petasen nhw’n sefyll o flaen Duw. Wedi’r cwbl, mae Jehofa’n gwylio ac yn gwrando ar beth rydyn ni’n ei ddweud a’r ffordd rydyn ni’n ei ddweud. Am reswm pwerus dros ddangos parch tuag at y rhai y tu allan i’r gynulleidfa!

17. Sut gallwn ni ddangos parch tuag at y rhai y tu allan i’r gynulleidfa?

17 Sut i ddangos parch. Wrth bregethu, dydyn ni byth eisiau rhoi’r argraff ein bod ni’n edrych i lawr ar y rhai sydd ddim yn gwybod llawer am y Beibl. Yn hytrach, rydyn ni eisiau cofio eu bod nhw’n werthfawr i Dduw, a’u hystyried nhw’n uwch ’na ni. (Hag. 2:7; Phil. 2:3) Os bydd rhywun yn ein gwawdio ni am ein ffydd, dylen ni wrthod y temtasiwn i ymateb mewn ffordd ddigywilydd neu sarcastig. (1 Pedr 2:23) Os wyt ti’n dweud rhywbeth rwyt ti’n ei ddifaru, ymddiheura ar unwaith. Sut gelli di ddangos parch yn y gweithle? Gweithia’n galed a cheisia feithrin agwedd dda tuag at dy gyd-weithwyr a dy gyflogwr. (Titus 2:​9, 10) Hyd yn oed os wyt ti’n weithgar ac yn onest, efallai na fyddi di’n wastad yn plesio dynion, ond byddi di’n wastad yn plesio Duw.—Col. 3:​22, 23.

18. Pam mae’n beth da inni feithrin parch a’i ddangos tuag at eraill?

18 Mae ’na gymaint o resymau da dros feithrin parch a’i ddangos tuag at eraill! Fel rydyn ni wedi gweld, pan ydyn ni’n dangos parch tuag at ein teuluoedd, rydyn ni’n anrhydeddu ein penteulu, Jehofa. Yn yr un modd, pan ydyn ni’n dangos parch tuag at ein brodyr a’n chwiorydd yn y gynulleidfa, rydyn ni’n anrhydeddu ein Tad nefol. A phan ydyn ni’n dangos parch tuag at y rhai y tu allan i’r gynulleidfa, rydyn ni’n rhoi’r cyfle gorau iddyn nhw ogoneddu, neu anrhydeddu, ein Duw mawr. Hyd yn oed os na fydd rhai pobl byth yn ein parchu ni, mae’n beth da inni feithrin parch a’i ddangos tuag atyn nhw. Pam? Oherwydd bydd Jehofa’n ein bendithio ni. Mae’n addo: “Bydda i’n anrhydeddu’r rhai sy’n fy anrhydeddu i.”—1 Sam. 2:30.

SUT BYDDET TI’N ATEB?

  • Sut gallwn ni ddangos parch tuag at aelodau’r teulu?

  • Sut gallwn ni ddangos parch tuag at ein cyd-addolwyr?

  • Sut gallwn ni ddangos parch tuag at y rhai y tu allan i’r gynulleidfa?

CÂN 129 Dyfalbarhawn

a Newidiwyd rhai enwau.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu