LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • w25 Tachwedd tt. 2-7
  • Arhosa’n Llawen yn Dy Henaint

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Arhosa’n Llawen yn Dy Henaint
  • Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2025
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • SUT GALLAI HENAINT EFFEITHIO AR DY LAWENYDD
  • SUT I AROS YN LLAWEN
  • SUT GALL ERAILL HELPU
  • Trysora Ein Brodyr a Chwiorydd Hŷn
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2021
  • Dysga o Eiriau Olaf Dynion Ffyddlon
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2024
  • Bydda’n Ostyngedig Pan Nad Wyt Ti’n Deall Rhywbeth
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2025
  • Sut i Gael Mwy o Lawenydd yn y Weinidogaeth
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2024
Gweld Mwy
Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2025
w25 Tachwedd tt. 2-7

ERTHYGL ASTUDIO 44

CÂN 138 Prydferthwch Hwyrddydd Oes

Arhosa’n Llawen yn Dy Henaint

“Byddan nhw’n dal i roi ffrwyth pan fyddan nhw’n hen.”—SALM 92:14.

PWRPAS

Pam mae’n bwysig i rai hŷn gadw’n llawen a sut gallen nhw wneud hynny.

1-2. Sut mae Jehofa’n teimlo am rai hŷn? (Salm 92:12-14; gweler hefyd y llun.)

MAE pobl ar draws y byd yn ymateb i heneiddio mewn ffyrdd gwahanol. Er enghraifft, dychmyga’r sefyllfa hon: A wyt ti’n cofio dy flewyn gwyn cyntaf o wallt? Efallai roeddet ti eisiau ei dynnu allan cyn i neb ei weld. Ond sylweddolaist ti, na fyddai hynny’n stopio mwy rhag tyfu. Mae’r enghraifft hon yn dangos yr ymdrech mae llawer yn ei gwneud i wrthod henaint.

2 Er hynny, mae gan ein Tad nefol agwedd wahanol tuag at ei weision sy’n heneiddio. (Diar. 16:31) Mae’n eu cymharu nhw â choed sy’n ffynnu. (Darllen Salm 92:12-14.) Pam mae hyn yn gymhariaeth dda? Mae coed sy’n hen iawn yn aml yn brydferth oherwydd bod ganddyn nhw lawer o ddail a blodau. Un o’r coed mwyaf trawiadol ydy coeden geirios Japan. Mae’r rhai mwyaf prydferth wedi bod yn fyw am fwy na mil o flynyddoedd. Yn debyg i’r coed aeddfed hynny, mae rhai hŷn ffyddlon yn brydferth, yn enwedig yng ngolwg Duw. Mae Jehofa’n gweld yr unigolyn tu ôl i’r gwallt gwyn. Mae’n gwerthfawrogi rhinweddau hyfryd y rhai hŷn—eu dyfalbarhad a’u ffyddlondeb wrth Ei wasanaethu dros y blynyddoedd.

Cwpl hŷn yn eistedd ar fainc tu allan, o’u cwmpas mae coed ceirios yn blodeuo.

Yn union fel coed aeddfed sy’n hardd ac yn parhau i flodeuo, mae rhai hŷn ffyddlon yn brydferth ac yn parhau i ffynnu (Gweler paragraff 2)


3. Rho enghraifft o sut mae Jehofa wedi defnyddio rhai hŷn i gyflawni ei bwrpas.

3 Dydy henaint ddim yn golygu bod unigolyn yn llai gwerthfawr i Jehofa.a Mewn gwirionedd, mae Jehofa yn aml yn defnyddio rhai hŷn i gyflawni ei bwrpas. Er enghraifft, pan oedd Sara mewn oed, dywedodd Jehofa wrthi y byddai hi’n dod yn fam i genedl fawr ac yn un o hynafiaid y Meseia. (Gen. 17:15-19) Roedd Moses wedi heneiddio pan wnaeth Jehofa ei anfon i arwain yr Israeliaid allan o’r Aifft. (Ex. 7:6, 7) Roedd yr apostol Ioan hefyd yn ei henaint pan gafodd ei ysbrydoli gan Jehofa i ysgrifennu pump o lyfrau’r Beibl.

4. Yn ôl Diarhebion 15:15, beth all helpu rhai hŷn i ddyfalbarhau yn ystod treialon? (Gweler hefyd y llun.)

4 Mae rhai hŷn yn wynebu llawer o dreialon wrth iddyn nhw heneiddio. Dywedodd un chwaer: “Dydy heneiddio ddim i’r rhai gwan-galon.” Ond gall llawenyddb helpu rhai hŷn i ddyfalbarhau yn ystod y treialon sy’n dod gyda henaint. (Darllen Diarhebion 15:15.) Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n trafod pethau ymarferol gall rhai hŷn eu gwneud i gadw eu llawenydd. Byddwn ni hefyd yn ystyried sut gall eraill helpu brodyr a chwiorydd hŷn yn y gynulleidfa. Yn gyntaf, gad inni drafod sut gall gadw ein llawenydd fod yn anodd wrth inni heneiddio.

Y cwpl o’r llun cynt yn dal ei gilydd ac yn gwenu wrth iddyn nhw sefyll o dan goeden ceirios sy’n blodeuo.

Gall llawenydd helpu rhai hŷn i ddyfalbarhau yn ystod y treialon sy’n dod gyda henaint (Gweler paragraff 4)


SUT GALLAI HENAINT EFFEITHIO AR DY LAWENYDD

5. Beth all achosi i rai hŷn ddigalonni?

5 Beth all achosi iti deimlo’n ddigalon? Efallai dy fod ti wedi digalonni oherwydd nad wyt ti’n gallu gwneud gymaint ag oeddet ti ar un adeg. Efallai dy fod ti’n hiraethu am dy ieuenctid pan oedd gen ti iechyd gwell. (Preg. 7:10) Er enghraifft, mae chwaer o’r enw Ruby yn dweud: “Mae rhoi dillad ymlaen yn anodd imi oherwydd fy mod i mewn gymaint o boen a dydw i ddim yn gallu symud fel oeddwn i. Mae mor anodd gwneud rhywbeth mor syml â rhoi fy sanau ymlaen. Does gen i ddim teimlad yn fy nwylo ac maen nhw’n llawn arthritis, sy’n ei gwneud hi’n anodd imi wneud hyd yn oed pethau bach.” Mae Harold, a oedd yn gwasanaethu yn y Bethel, yn dweud: “Dydw i ddim yn adnabod fy hun bellach, ac rydw i’n teimlo’n rhwystredig ar adegau. Roeddwn i’n caru chwaraeon pan oeddwn i’n iau. Chwarae pêl fas oedd fy hoff beth i’w wneud. Byddai eraill yn dweud, ‘Rho’r bêl i Harold achos dydy ef byth yn methu.’ Ond nawr, dydw i ddim yn meddwl fy mod i hyd yn oed yn gallu taflu’r bêl.”

6. (a) Beth arall all gwneud i rai hŷn deimlo’n ddigalon? (b) Beth all helpu rhai hŷn i benderfynu parhau i yrru neu beidio? (Gweler yr erthygl yn y rhifyn hwn sy’n dwyn y teitl “A Ddylwn i Stopio Gyrru?”)

6 Efallai dy fod ti’n teimlo’n ddigalon oherwydd dy fod di wedi colli rhywfaint o annibyniaeth. Mae hyn yn enwedig o wir os oes rhaid iti gael help gan ofalwr neu symud mewn gydag un o dy blant. Neu efallai dy fod ti’n teimlo’n siomedig oherwydd bod dy iechyd neu lygaid wedi gwaethygu gymaint nes iti stopio gyrru a mynd i lefydd ar dy ben dy hun. Dyna drueni! Ond efallai bydd yn dy helpu di i gofio nad ydy ein gwerth i Jehofa ac eraill yn dibynnu ar ein gallu i ofalu am ein hunain, i fyw ar ein pennau ein hunain, neu i yrru car. Gallwn ni fod yn siŵr bod Jehofa’n deall ein teimladau. Y peth pwysicaf iddo ydy calon sy’n llawn cariad a gwerthfawrogiad ato ef a’n cyd-addolwyr.—1 Sam. 16:7.

7. Beth all helpu’r rhai sy’n teimlo’n drist oherwydd meddwl na fyddan nhw’n fyw i weld diwedd y system hon?

7 Efallai dy fod ti’n teimlo’n drist oherwydd meddwl na fyddi di’n byw i weld diwedd y system hon. Os wyt ti’n teimlo felly, beth all helpu? Ceisia gofio bod Jehofa’n aros yn amyneddgar cyn iddo ddinistrio’r byd drygionus hwn. (Esei. 30:18) Ond mae ’na reswm tu ôl i’w amynedd. Mae ei amynedd yn rhoi’r amser a’r cyfle i filiynau o bobl ddod i’w adnabod a’i wasanaethu. (2 Pedr 3:9) Felly pan wyt ti’n teimlo’n ddigalon, ceisia feddwl am faint o bobl fydd yn elwa o amynedd Jehofa cyn i’r diwedd ddod. Efallai bydd rhai o dy deulu di yn eu mysg.

8. Sut gall yr heriau sy’n dod o ganlyniad i heneiddio effeithio ar rai hŷn?

8 Ni waeth ein hoedran, pan nad ydyn ni’n teimlo’n dda, rydyn ni’n fwy tebygol o ddweud neu wneud pethau byddwn ni’n eu difaru. (Preg. 7:7; Iago 3:2) Er enghraifft, pan oedd y dyn ffyddlon Job yn dioddef, fe ddechreuodd “siarad yn fyrbwyll.” (Job 6:1-3) Hefyd, gall cyflwr meddygol achosi i rai hŷn ddweud neu wneud pethau sy’n groes i’w cymeriad. Wrth gwrs, fydden ni byth yn defnyddio ein hoedran na’n hiechyd fel esgus dros fod yn greulon neu ofyn gormod gan eraill. Os ydyn ni’n sylweddoli ein bod ni wedi dweud rhywbeth angharedig wrth rywun, dylen ni ymddiheuro heb oedi.—Math. 5:23, 24.

SUT I AROS YN LLAWEN

Cangen coeden geirios sy’n blodeuo; mae’r lluniau bach yn dangos ffyrdd gwahanol gall brodyr a chwiorydd aros yn llawen yn eu henaint. Mae’r digwyddiadau yn y lluniau bach hyn yn cael eu dangos eto ym mharagraffau 9-13.

Sut gelli di aros yn llawen er gwaetha’r heriau sy’n dod o ganlyniad i heneiddio? (Gweler paragraffau 9-13)


9. Pam dylet ti dderbyn help gan eraill? (Gweler hefyd y lluniau.)

9 Cael help gan eraill. (Gal. 6:2) Efallai bydd hynny’n anodd iti ar y dechrau. Mae chwaer o’r enw Gretl yn dweud: “Weithiau mae’n anodd imi dderbyn help oherwydd teimlo fy mod i’n faich ar eraill. Mae wedi cymryd amser imi newid fy meddwl a chydnabod yn ostyngedig fod angen help arna i.” Pan wyt ti’n derbyn help gan eraill, rwyt ti’n eu helpu nhw i deimlo’r llawenydd sy’n dod o roi. (Act. 20:35) Bydd gweld gymaint mae eraill yn dy garu di ac yn gofalu amdanat ti yn dy wneud di’n hapus hefyd.

Chwaer hŷn yn dal braich chwaer ifanc wrth iddyn nhw siopa am fwyd gyda’i gilydd.

(Gweler paragraff 9)


10. Pam dylet ti gofio dangos diolchgarwch? (Gweler hefyd y llun.)

10 Dangosa ddiolchgarwch. (Col. 3:15; 1 Thes. 5:18) Pan fydd eraill yn gwneud pethau da ar ein cyfer ni, mae’n bosib inni deimlo’n ddiolchgar ond anghofio ei ddangos. Ond, os ydyn ni’n gwenu ac yn dweud diolch, bydd ein ffrindiau’n teimlo ein bod ni’n eu gwerthfawrogi nhw. Mae Leah, sy’n gofalu am rai hŷn yn y Bethel, yn dweud: “Mae un o’r chwiorydd rydw i’n gofalu amdani yn gadael nodiadau bach i ddiolch imi. Dydyn nhw ddim yn hir iawn, ond maen nhw mor hyfryd. Rydw i’n caru’r nodiadau hyn, ac mae’n fy ngwneud i’n hapus i wybod ei bod hi’n fy ngwerthfawrogi i.”

Chwaer hŷn yn ysgrifennu cerdyn i ddiolch i rywun.

(Gweler paragraff 10)


11. Sut gelli di helpu eraill? (Gweler hefyd y llun.)

11 Ceisia helpu eraill. Pan fyddi di’n defnyddio dy amser a dy egni i helpu eraill, byddi di’n llai tebygol o ganolbwyntio ar dy broblemau dy hun. Mae ’na ddihareb o Affrica sy’n cymharu rhai hŷn â llyfrgell sydd wedi ei llenwi â llyfrau sy’n llawn doethineb. Ond, mae llyfrau sy’n cael eu gadael ar y silff yn dysgu dim byd i neb. Felly, bydda’n agored a rhanna dy wybodaeth a dy brofiad â rhai ifanc. Gofynna gwestiynau iddyn nhw, ac yna gwranda arnyn nhw. Dysga iddyn nhw pam mai byw yn ôl safonau Jehofa yw’r ffordd orau a hapusaf o fyw. Byddi di’n siŵr o deimlo’n llawen pan wyt ti’n cysuro ac yn cryfhau dy ffrindiau iau.—Salm 71:18.

Brawd hŷn yn gwrando tra bod brawd ifanc siarad yn agored ag ef.

(Gweler paragraff 11)


12. Yn ôl Eseia 46:4, beth mae Jehofa’n addo ei wneud ar gyfer rhai hŷn? (Gweler hefyd y llun.)

12 Gweddïa ar Jehofa am nerth. Hyd yn oed os wyt ti wedi dy lethu yn gorfforol neu’n emosiynol, dydy Jehofa “byth yn blino.” (Esei. 40:28) Sut mae Jehofa’n defnyddio ei nerth diddiwedd? Un ffordd ydy drwy gryfhau ei weision ffyddlon hŷn. (Esei. 40:29-31) Mewn gwirionedd, mae’n addo eu helpu nhw. (Darllen Eseia 46:4.) Ac mae Jehofa’n wastad yn cadw ei addewidion. (Jos. 23:14; Esei. 55:10, 11) Pan wyt ti’n gweddïo ac yna’n teimlo cariad a chefnogaeth Jehofa, byddi di’n siŵr o deimlo’n llawen.

Brawd hŷn yn gweddïo.

(Gweler paragraff 12)


13. Yn ôl 2 Corinthiaid 4:16-18, beth dylen ni ei gadw mewn cof? (Gweler hefyd y llun.)

13 Cofia mai dros dro ydy dy sefyllfa. Mae’n haws wynebu sefyllfa anodd pan ydyn ni’n gwybod y bydd yn dod i ben. Mae’r Beibl yn ein sicrhau inni na fydd henaint nac iechyd gwael yn para am byth. (Job 33:25; Esei. 33:24) Felly gelli di gael llawenydd o wybod bod dy ddyddiau gorau o dy flaen di, nid y tu ôl iti. (Darllen 2 Corinthiaid 4:16-18.) Ond beth gall eraill ei wneud i helpu?

Chwaer hŷn mewn cadair olwyn yn darllen y Beibl. Mae hi’n dychmygu ei hun yn y Baradwys fel dynes ifanc yn cerdded i ffwrdd o’i chadair olwyn.

(Gweler paragraff 13)


SUT GALL ERAILL HELPU

14. Pam mae’n bwysig inni alw rhai hŷn ac ymweld â nhw?

14 Galwa frodyr a chwiorydd hŷn ac ymweld â nhw yn aml. (Heb. 13:16) Gall rhai hŷn deimlo’n unig. Mae brawd o’r enw Camille sy’n gaeth i’w dŷ yn dweud: “Mae’n rhaid imi aros yn y tŷ drwy’r dydd. Felly, rydw i’n diflasu’n hawdd. Weithiau, rydw i’n teimlo fel hen lew mewn cawell—yn nerfus ac yn rhwystredig.” Pan ydyn ni’n ymweld â rhai hŷn, rydyn ni’n dangos eu bod nhw’n bwysig inni ac ein bod ni’n eu caru nhw. Mae’n debyg ein bod ni i gyd yn gallu cofio adeg pan oedden ni’n bwriadu galw neu ymweld â rhywun hŷn yn y gynulleidfa, ond ni wnaethon ni. Mae bywydau pob un ohonon ni’n brysur. Felly, beth all ein helpu ni i wneud yn siŵr o beth yw’r “pethau mwyaf pwysig,” sy’n cynnwys ymweld â rhai hŷn? (Phil. 1:10) Gallai rhoi nodyn yn dy galendr dy atgoffa di i anfon neges at rai hŷn yn dy gynulleidfa neu i’w galw nhw. Gelli di hefyd neilltuo amser i ymweld â nhw; paid â gadael y sefyllfa i hap a damwain.

15. Beth gall rhai hŷn a rhai ifanc ei wneud gyda’i gilydd?

15 Os wyt ti’n berson ifanc, efallai dy fod ti’n poeni am beth i siarad amdano neu beth i’w wneud gyda rhai hŷn. Ond, paid â gorfeddwl, ceisia fod yn ffrind da. (Diar. 17:17) Gwna ymdrech i siarad â rhai hŷn cyn ac ar ôl y cyfarfodydd. Efallai gelli di ofyn iddyn nhw am eu hoff adnod neu atgofion doniol o’u plentyndod. Gelli di hefyd eu gwahodd nhw i wylio rhaglen JW Broadcasting® â ti. Beth am eu helpu nhw mewn ffyrdd ymarferol? Er enghraifft, beth am wneud yn siŵr bod eu dyfeisiau wedi eu diweddaru, neu eu helpu nhw i lawrlwytho’r cyhoeddiadau astudio diweddaraf? Mae chwaer o’r enw Carol yn dweud: “Gwahodda rai hŷn i wneud pethau rwyt ti’n eu mwynhau. Er fy mod i’n hŷn, rydw i’n dal eisiau mwynhau fy mywyd. Rydw i’n hoffi siopa, bwyta allan, a threulio amser ym myd natur.” Mae chwaer o’r enw Maira yn dweud: “Mae un o fy ffrindiau yn 90 mlwydd oed. Mae ’na 57 mlynedd rhyngon ni. Ond rydw i’n anghofio hynny’n aml oherwydd ein bod ni’n chwerthin ac yn gwylio ffilmiau gyda’n gilydd. A phan ydyn ni’n wynebu problemau, rydyn ni’n helpu ein gilydd.”

16. Sut gall mynd gyda rhai hŷn i’w hapwyntiadau meddygol eu helpu nhw?

16 Mynd â nhw i apwyntiadau meddygol. Gelli di eu cymryd nhw i’w hapwyntiadau, ond hefyd wneud yn siŵr bod y doctor neu’r nyrs yn eu trin nhw’n dda ac yn rhoi’r help sydd ei angen arnyn nhw. (Esei. 1:17) Efallai byddi di’n gallu helpu drwy nodi beth mae’r doctor yn ei ddweud. Mae chwaer hŷn o’r enw Ruth yn dweud: “Yn aml, pan ydw i’n mynd i apwyntiadau meddygol ar fy mhen fy hun, dydy’r doctor ddim yn fy nghymryd i o ddifri. Gall doctoriaid ddweud pethau fel, ‘Mae dy broblem yn seicolegol; mae yn dy ben.’ Ond pan fydd rhywun yn dod gyda fi, mae’n gwneud byd o wahaniaeth i’r ffordd mae’r doctor yn fy nhrin i. Rydw i’n ddiolchgar am fy mrodyr a fy chwiorydd sy’n defnyddio eu hamser i ddod gyda fi.”

17. Ym mha ffyrdd gwahanol gelli di bregethu gyda rhai hŷn?

17 Gweithia gyda nhw yn y weinidogaeth. Nid oes gan rhai mewn oed y nerth i bregethu o ddrws i ddrws. A elli di, er enghraifft, wahodd chwaer hŷn i dystiolaethu’n gyhoeddus â ti ar y troli? Gelli di hyd yn oed ddod â chadair er mwyn iddi eistedd yn agos at y troli. Neu a elli di gynnig cymryd brawd hŷn ar astudiaeth Feiblaidd, gan hyd yn oed gynnal yr astudiaeth yn ei gartref? Gall henuriaid drefnu i gael grwpiau ar gyfer y weinidogaeth yng nghartrefi rhai hŷn er mwyn iddyn nhw ymuno yn haws. Mae’n werth pob ymdrech i wneud popeth yn ein gallu i anrhydeddu rhai hŷn.—Diar. 3:27; Rhuf. 12:10.

18. Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl nesaf?

18 Fel rydyn ni wedi cael ein hatgoffa, mae Jehofa’n caru ac yn trysori rhai hŷn, ac rydyn ni fel cynulleidfa yn teimlo’r un ffordd! Mae heneiddio yn heriol, ond gyda help Jehofa, gelli di aros yn llawen. (Salm 37:25) Mae mor galonogol i wybod bod dy ddyddiau gorau o dy flaen ni, nid y tu ôl iti! Beth am y rhai ohonon ni sy’n gofalu am aelod hŷn y teulu, plentyn, neu ffrind sy’n sâl? Sut gelli di aros yn llawen? Byddwn ni’n trafod yr ateb i’r cwestiwn hwnnw yn yr erthygl nesaf.

SUT BYDDET TI’N ATEB?

  • Pa sefyllfaoedd a all achosi i frodyr a chwiorydd hŷn golli eu llawenydd?

  • Sut gall rhai hŷn aros yn llawen?

  • Sut gallwn ni gefnogi rhai hŷn yn y gynulleidfa?

CÂN 30 Fy Nhad, Fy Nuw a’m Ffrind

a Gweler y fideo Older Ones—You Have an Important Role ar jw.org ac yn JW Library®.

b ESBONIAD: Mae llawenydd yn rhinwedd sy’n rhan o ffrwyth ysbryd Duw. (Gal. 5:22) Sylfaen gwir lawenydd ydy cael perthynas agos â Jehofa.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu