ERTHYGL ASTUDIO 47
CÂN 38 Bydd Ef yn Dy Gryfhau
Rwyt Ti’n Werthfawr Iawn!
“Rwyt ti’n sbesial iawn”—DAN. 9:23.
PWRPAS
I helpu’r rhai sy’n teimlo’n ddi-werth i ddeall eu gwir werth yng ngolwg Jehofa.
1-2. Sut gallwn ni ddod i ddeall ein bod ni’n werthfawr i Jehofa?
YMYSG gweision annwyl Jehofa, mae ’na rai sydd ddim yn meddwl llawer ohonyn nhw eu hunain. Efallai fod rhywun wedi eu trin nhw fel nad ydyn nhw’n werthfawr iawn. Ai dyna dy brofiad di? Os felly, sut gelli di fod yn hyderus bod Jehofa’n dy drysori di?
2 Efallai bydd yn dy helpu di i ystyried hanesion o’r Beibl sy’n dangos sut mae Jehofa eisiau i bobl gael eu hystyried a’u trin. Roedd ei Fab, Iesu, yn trin pobl ag urddas a pharch. Drwy wneud hynny, fe ddangosodd fod ef a’i Dad yn wir yn trysori’r rhai gostyngedig sy’n teimlo’n ddi-werth. (Ioan 5:19; Heb. 1:3) Yn yr erthygl hon, byddwn ni’n ystyried: (1) sut roedd Iesu’n helpu pobl i gydnabod eu gwerth a (2) sut gallwn ni berswadio ein hunain ein bod ni’n wir yn werthfawr yng ngolwg Duw.—Hag. 2:7.
SUT ROEDD IESU’N HELPU POBL I GYDNABOD EU GWERTH
3. Sut gwnaeth Iesu drin y Galileaid a oedd yn troi ato am help?
3 Pan oedd Iesu’n pregethu yng Ngalilea, daeth llawer o bobl ato er mwyn gwrando arno a chael eu hiacháu. Gwnaeth Iesu sylwi “eu bod nhw wedi cael eu cam-drin a’u taflu ar hyd y lle fel defaid heb fugail.” (Math. 9:36; gweler y nodiadau astudio.) Doedden nhw ddim o bwys o gwbl i’r arweinwyr crefyddol a wnaeth eu galw nhw’n bobl “o dan felltith.” (Ioan 7:47-49; nodyn astudio) Ond fe wnaeth Iesu eu trin nhw gydag urddas drwy gymryd amser i’w dysgu nhw a’u hiacháu nhw o’u hafiechydon. (Math. 9:35) Hefyd, er mwyn helpu mwy o bobl, fe wnaeth hyfforddi ei apostolion i gael rhan yn y gwaith pregethu ac fe roddodd iddyn nhw’r awdurdod i iacháu afiechydon a salwch.—Math. 10:5-8.
4. Beth rydyn ni’n ei ddysgu o’r ffordd roedd Iesu’n trin ei wrandawyr gostyngedig?
4 Drwy drin ei wrandawyr gydag urddas a charedigrwydd, fe ddangosodd Iesu ei fod ef a’i Dad yn trysori’r rhai sydd fel arfer yn cael eu hystyried yn ddibwys gan eraill. Os wyt ti’n gwasanaethu Jehofa ond yn amau dy werth, meddylia am sut roedd Iesu’n rhoi sylw i bobl ostyngedig a oedd eisiau dysgu ganddo. Bydd gwneud hynny’n dy helpu di i weld dy werth o safbwynt Jehofa.
5. Disgrifia amgylchiadau’r ddynes o Galilea a wnaeth gwrdd ag Iesu.
5 Yn ogystal â dysgu tyrfaoedd o bobl, fe wnaeth Iesu hefyd roi sylw i unigolion. Er enghraifft, yn ystod ei weinidogaeth yng Ngalilea, fe wnaeth Iesu gwrdd â dynes a oedd wedi bod yn dioddef o waedlif anarferol am 12 mlynedd. (Marc 5:25) Oherwydd ei bod hi’n aflan yn ôl y Gyfraith, byddai unrhyw un a oedd yn cyffwrdd â hi yn aflan hefyd. Felly mae’n debyg ei bod hi wedi treulio llawer o amser ar ei phen ei hun. Ar ben hynny, doedd hi ddim yn gallu ymuno ag eraill wrth addoli Jehofa neu wrth ddathlu gwyliau. (Lef. 15:19, 25) Does dim amheuaeth ei bod hi wedi dioddef yn gorfforol ac yn emosiynol.—Marc 5:26.
6. Sut cafodd y ddynes â’r gwaedlif ei hiacháu?
6 Roedd y ddynes hon a oedd yn dioddef gymaint eisiau i Iesu ei hiacháu hi. Ond ni wnaeth hi fynd ato yn uniongyrchol. Pam ddim? Efallai fod ei chyflwr yn gwneud iddi deimlo cywilydd. Neu efallai ei bod hi’n ofni y byddai Iesu’n ei hanfon hi i ffwrdd oherwydd ymuno â’r dyrfa tra oedd hi’n aflan. Felly dim ond cyffwrdd â’i ddillad a wnaeth hi, yn sicr y byddai hynny’n ei gwella. (Marc 5:27, 28) Cafodd ei ffydd hi ei gwobrwyo a chafodd hi ei hiacháu. Yna gofynnodd Iesu pwy oedd wedi ei gyffwrdd, a dyma hi’n cyffesu. Sut gwnaeth Iesu ei thrin hi?
7. Sut gwnaeth Iesu drin y ddynes hon a oedd yn dioddef gymaint? (Marc 5:34)
7 Gwnaeth Iesu drin y ddynes gyda charedigrwydd a pharch. Fe welodd ei bod hi “wedi dychryn ac yn crynu.” (Marc 5:33) Drwy feddwl am ei theimladau, fe siaradodd â hi yn gysurlon. Fe wnaeth hyd yn oed ei galw hi “fy merch”—ni ddywedodd Iesu’r geiriau hynny i fod yn gwrtais yn unig, ond er mwyn bod yn garedig ac yn dyner. (Darllen Marc 5:34.) Mae’r nodyn astudio ar gyfer y term hwn yn dweud mai “dyma’r unig achos sydd wedi ei gofnodi lle mae Iesu’n cyfeirio at ddynes fel ‘merch,’ efallai oherwydd ei sefyllfa fregus hi ac oherwydd ei bod hi’n ‘crynu.’” Dychmyga sut byddai hi wedi teimlo! Petasai Iesu wedi siarad â hi heb garedigrwydd, gallai hi fod wedi cerdded i ffwrdd wedi ei hiacháu yn gorfforol ond yn teimlo o dan faich euogrwydd. Yn lle hynny, fe wnaeth Iesu ei helpu hi i weld y gwir amdani hi ei hun, sef ei bod hi’n ferch werthfawr i Dad nefol cariadus.
8. Pa heriau roedd un chwaer o Brasil yn eu hwynebu?
8 Heddiw, mae rhai o weision Duw yn dioddef oherwydd problemau iechyd sy’n effeithio arnyn nhw’n emosiynol. Cafodd Maria,a arloeswraig llawn amser o Brasil, ei geni heb goesau na llaw chwith. Mae hi’n esbonio: “Roedd eraill yn yr ysgol yn chwerthin am fy mhen drwy’r adeg oherwydd fy anabledd ac yn fy ngalw i’n enwau. Roedd hyd yn oed fy nheulu fy hun yn fy nhrin i’n ddi-werth.”
9. Beth helpodd Maria i weld bod Jehofa’n ei gwerthfawrogi hi?
9 Beth wnaeth helpu Maria? Pan ddaeth hi’n un o Dystion Jehofa, gwnaeth brodyr a chwiorydd ei chysuro hi a’i helpu hi i weld ei hun fel mae Jehofa’n ei gweld hi. Mae hi’n dweud: “Does ’na ddim digon o dudalennau yn fy llyfr nodiadau i sôn am bawb sydd wedi fy helpu i! Rydw i’n diolch i Jehofa â fy holl galon am roi teulu ysbrydol arbennig imi.” Roedd brodyr a chwiorydd ysbrydol Maria yn ei helpu hi i wybod ei bod hi’n wir yn werthfawr yng ngolwg Duw.
10. Beth oedd yn achosi i Mair Magdalen ddioddef? (Gweler hefyd y lluniau.)
10 Ystyria sut gwnaeth Iesu helpu unigolyn arall—Mair Magdalen. Roedd ’na saith cythraul ynddi! (Luc 8:2) Mwy na thebyg roedd y cythreuliaid yn gwneud iddi ymddwyn mewn ffordd ryfedd, ac o ganlyniad, roedd eraill yn ei hosgoi hi. Yn ystod y cyfnod ofnadwy hwnnw o’i bywyd, mae’n rhaid ei bod hi wedi teimlo’n unig, yn ansicr, ac yn ddiobaith. Mae’n debyg bod Iesu wedi bwrw’r cythreuliaid allan ohoni, ac fe ddaeth hi’n ddisgybl ffyddlon. Ym mha ffordd arall gwnaeth Iesu helpu Mair Magdalen i ddeall pa mor werthfawr oedd hi yng ngolwg Duw?
Sut gwnaeth Iesu dangos i Mair Magdalen ei bod hi’n werthfawr i Jehofa? (Gweler paragraffau 10-11)
11. Beth a wnaeth Iesu i ddangos i Mair Magdalen ei bod hi’n werthfawr i Dduw? (Gweler hefyd y lluniau.)
11 Gwnaeth Iesu wahodd Mair Magdalen i deithio gydag ef wrth iddo bregethu o un lle i’r llall.b O ganlyniad, roedd hi’n parhau i elwa wrth wrando arno yn dysgu eraill. Gwnaeth Iesu hefyd ymddangos iddi ar ddiwrnod ei atgyfodiad. Hi oedd un o’r disgyblion cyntaf i siarad â Iesu ar y diwrnod hwnnw. Gwnaeth Iesu hyd yn oed ei haseinio hi i ddweud wrth yr apostolion ei fod wedi cael ei atgyfodi. Am dystiolaeth bwerus ei bod hi’n wir yn werthfawr i Jehofa!—Ioan 20:11-18.
12. Beth roedd yn gwneud i Lidia deimlo’n ddi-werth?
12 Yn union fel Mair Magdalen, mae llawer heddiw yn teimlo na all unrhyw un eu caru nhw. Mae chwaer o Sbaen o’r enw Lidia yn dweud bod ei mam hi wedi meddwl am gael erthyliad cyn i Lidia gael ei geni. Mae hi’n cofio sut roedd ei mam yn ei hanwybyddu hi ac yn dweud pethau creulon iawn iddi, hyd yn oed fel plentyn bach. Mae hi’n dweud: “Y cwbl roeddwn i eisiau mewn bywyd oedd i bobl eraill fy nerbyn i a fy ngharu i. Roeddwn i’n ofni na fydda i byth yn haeddu cariad o’r fath oherwydd bod fy mam wedi fy mherswadio i fy mod i’n berson drwg.”
13. Beth wnaeth helpu Lidia i weld bod Jehofa’n ei thrysori hi?
13 Ar ôl i Lidia ddysgu’r gwir, gwnaeth gweddi ac astudiaeth bersonol yn ogystal â geiriau a gweithredoedd caredig Cristnogion eraill ei helpu hi i ddeall ei bod hi’n werthfawr yng ngolwg Jehofa. Mae hi’n dweud: “Mae fy ngŵr yn dweud wrtho i’n aml gymaint mae’n fy ngharu i. Dro ar ôl tro, mae’n fy atgoffa i o fy rhinweddau da, ac mae ffrindiau annwyl eraill wedi gwneud yr un peth.” A oes ’na rywun gelli di ei helpu i ddeall pa mor werthfawr ydy ef neu hi yng ngolwg Jehofa?
SUT I WELD EIN HUNAIN DRWY LYGAID JEHOFA
14. Sut mae 1 Samuel 16:7 yn ein helpu ni i weld ein hunain o safbwynt Jehofa? (Gweler hefyd y blwch “Pam Mae Jehofa’n Trysori Ei Bobl?”)
14 Cofia nad ydy Jehofa’n dy weld di yn y ffordd y mae’r byd yn dy weld di. (Darllen 1 Samuel 16:7.) Dydy ef ddim yn penderfynu pa mor werthfawr wyt ti ar sail dy olwg, dy statws cymdeithasol, neu dy addysg seciwlar. (Esei. 55:8, 9) Felly yn lle mesur dy werth yn ôl safonau’r byd, asesa dy werth ar sail safonau Jehofa. Gelli di ddarllen hanesion o’r Beibl sy’n dangos bod Jehofa’n trysori’r rhai a oedd yn amau eu gwerth ar adegau, fel Elias, Naomi, a Hanna. Gelli di hefyd nodi unrhyw brofiadau rwyt ti wedi eu cael sy’n dangos bod Jehofa’n wir yn dy garu di ac yn dy drysori di. Ar ben hynny, gwna ymchwil ar hunan-werth yn ein cyhoeddiadau.c
15. Pam roedd Jehofa’n ystyried Daniel fel dyn “sbesial iawn”? (Daniel 9:23)
15 Bydda’n siŵr bod dy ffyddlondeb yn dy wneud di’n werthfawr yng ngolwg Jehofa. Ar un adeg, efallai yn ei 90au hwyr, roedd y proffwyd Daniel wedi ei ‘lethu’n llwyr’ a’i ddigalonni. (Dan. 9:20, 21) Sut gwnaeth Jehofa ei annog? Fe anfonodd yr angel Gabriel i atgoffa Daniel ei fod yn ddyn “sbesial iawn” a’i fod wedi gwrando ar ei weddïau. (Darllen Daniel 9:23.) Pam roedd Daniel mor werthfawr i Dduw? Ymysg ei rinweddau eraill, roedd yn ddyn ffyddlon iawn a oedd yn caru cyfiawnder. (Esec. 14:14) Gwnaeth Jehofa gofnodi’r hanes yn ei Air er mwyn ein cysuro ni. (Rhuf. 15:4) Mae Jehofa hefyd yn gwrando ar dy weddïau ac yn dy werthfawrogi di oherwydd dy fod ti’n caru beth sy’n iawn ac yn ei wasanaethu yn ffyddlon.—Mich. 6:8; Heb. 6:10.
16. Beth all dy helpu di i weld Jehofa fel Tad cariadus?
16 Ceisia weld Jehofa fel Tad sy’n dy garu di. Mae eisiau dy helpu di, nid gweld bai arnat ti. (Salm 130:3; Math. 7:11; Luc 12:6, 7) Mae myfyrio ar hyn wedi helpu llawer sy’n stryglo â’u hunan-werth. Er enghraifft, ystyria Michelle, chwaer o Sbaen a oedd yn teimlo’n ddi-werth ac yn dda i ddim ar ôl i’w gŵr ei bychanu hi am flynyddoedd. Mae hi’n dweud: “Pan ydw i’n teimlo’n dda i ddim, rydw i’n ceisio dychmygu Jehofa yn fy nghario i yn ei freichiau, yn dangos cariad ata i, ac yn fy amddiffyn i.” (Salm 28:9) Mae Lauren, chwaer o Dde Affrica, yn ei hatgoffa ei hun, “Os ydy Jehofa wedi fy nenu i’n garedig â thennyn cariad, wedi fy nghadw i’n agos ato dros y blynyddoedd, ac wedi hyd yn oed fy nefnyddio i i ddysgu eraill, mae’n rhaid ei fod yn fy ystyried i fel rhywun sy’n werthfawr ac yn ddefnyddiol iddo.”—Hos. 11:4.
17. Beth all dy helpu di i fod yn hyderus bod gen ti gymeradwyaeth Jehofa? (Salm 5:12) (Gweler hefyd y llun.)
17 Bydda’n hyderus bod gen ti gymeradwyaeth Jehofa. (Darllen Salm 5:12.) Dywedodd Dafydd fod cymeradwyaeth Jehofa “fel tarian fawr” sy’n amddiffyn pobl gyfiawn. Gall gwybod bod gen ti gymeradwyaeth a chefnogaeth Jehofa dy amddiffyn di rhag cael dy lethu gan hunanamheuaeth. Sut gelli di wybod bod gen ti gymeradwyaeth Jehofa? Fel rydyn ni wedi gweld, mae Jehofa’n cryfhau dy hyder drwy ei Air. Hefyd, mae’n defnyddio henuriaid, ffrindiau agos, ac eraill i dy atgoffa di dy fod ti’n werthfawr iddo. Sut dylet ti ymateb i anogaeth o’r fath?
Gall gwybod bod Jehofa wedi ein cymeradwyo ni ein helpu ni i beidio â theimlo’n ddi-werth (Gweler paragraff 17)
18. Pam dylet ti gredu geiriau o gymeradwyaeth?
18 Paid â gwrthod canmoliaeth ddiffuant oddi wrth y rhai sy’n dy adnabod di ac sy’n dy garu di. Cofia, gall Jehofa eu defnyddio nhw i dy helpu di i ddeall bod gen ti ei gymeradwyaeth. Mae Michelle, a ddyfynnwyd ynghynt, yn dweud: “Gam wrth gam, rydw i’n dysgu i dderbyn ac i gredu geiriau caredig gan eraill. Mae’n anodd iawn imi, ond rydw i’n gwybod dyma beth mae Jehofa eisiau imi ei wneud.” Mae ymdrechion cariadus yr henuriaid wedi helpu Michelle, ac mae hi nawr yn gwasanaethu fel arloeswraig ac yn gweithio i’r Bethel o bell.
19. Pam gelli di fod yn hyderus dy fod ti’n werthfawr i Dduw?
19 Mae Iesu’n ein hatgoffa ni yn garedig ein bod ni’n bwysig i’n Tad nefol. (Luc 12:24) Felly gallwn ni fod yn siŵr bod Jehofa’n ein trysori ni. Paid byth ag anghofio’r ffaith honno! Gad inni wneud ein gorau glas i helpu eraill i weld pa mor werthfawr ydyn nhw yng ngolwg Duw!
CÂN 139 Dy Weld Dy Hun yn y Byd Newydd
a Newidiwyd rhai enwau.
b Roedd Mair Magdalen ymysg y merched a oedd yn teithio gyda Iesu. Roedd y merched hyn yn gofalu am anghenion Iesu a’r apostolion o’r pethau oedd ganddyn nhw.—Math. 27:55, 56; Luc 8:1-3.
c Er enghraifft, gweler pennod 24 y llyfr Draw Close to Jehovah a darllena’r adnodau a’r hanesion o’r Beibl y cyfeirir atyn nhw o dan y pwnc “Amheuon” yn y llyfr Adnodau ar Gyfer Bywyd Cristnogol.