‘Cadw Undod yr Ysbryd’
DYWEDODD yr apostol Paul wrth Gristnogion yn Effesus am barhau i ‘oddef ei gilydd mewn cariad, gan wneud pob ymdrech i gadw undod yr ysbryd drwy’r heddwch sy’n ein clymu ni wrth ein gilydd.’—Eff. 4:2, 3.
Mae’r “undod” rydyn ni’n ei fwynhau yn dod o ganlyniad i ysbryd glân Duw. Ond, fel dywedodd Paul, mae’n gofyn am ymdrech i gadw ein hundod. Gan bwy? Mae’n rhaid i bob Cristion wneud ei ran i “gadw undod yr ysbryd.”
I egluro, dychmyga fod rhywun yn rhoi car newydd iti. Pwy sy’n gyfrifol am ofal y car? Mae’r ateb yn amlwg. Os nad wyt ti’n gofalu am y car, elli di ddim rhoi’r bai ar y person a roddodd yr anrheg iti pan fydd yn torri i lawr.
Mewn ffordd debyg, er bod ein hundod Cristnogol yn rhodd oddi wrth Dduw, mae gan bob un ohonon ni’r cyfrifoldeb o’i gadw. Os nad oes gynnon ni berthynas heddychlon â brawd neu chwaer, dylen ni ofyn i ni’n hunain, ‘A ydw i’n ceisio datrys y mater ac felly gwneud fy rhan i i gadw undod yr ysbryd?’
‘GWNEUD POB YMDRECH I GADW UNDOD’
Fel dywedodd Paul, efallai ar adegau bydd rhaid inni weithio’n galed i gadw undod yr ysbryd, yn enwedig os ydy brawd neu chwaer wedi ein pechu ni. A ydy cadw undod yn golygu bod rhaid inni siarad â’r person am y broblem? Nid o reidrwydd. Gofynna i ti dy hun, ‘Petaswn i’n dweud rhywbeth, a fyddai hynny’n hyrwyddo undod neu’n achosi mwy o broblemau?’ Weithiau, y peth gorau i’w wneud ydy maddau i’r person neu anghofio am y mater.—Diar. 19:11; Marc 11:25.
Gofynna i ti dy hun: ‘Petaswn i’n dweud rhywbeth, a fyddai hynny’n hyrwyddo undod neu’n achosi mwy o broblemau?’
Ysgrifennodd yr apostol Paul at Gristnogion i ‘oddef ei gilydd mewn cariad.’ (Eff. 4:2) Mae un cyfeirlyfr yn dweud gall yr ymadrodd hwn gael ei gyfieithu “eu derbyn nhw fel y maen nhw.” Mae hyn yn golygu bod rhaid inni gydnabod bod ein cyd-gredinwyr yn bechadurus, yn union fel rydyn ni’n bechadurus. Wrth gwrs, rydyn ni’n ceisio rhoi amdanon ni’r “bersonoliaeth newydd.” (Eff. 4:23, 24) Ond, dydy’r un ohonon ni ddim yn gallu gwneud hynny’n berffaith. (Rhuf. 3:23) Os ydyn ni’n derbyn y ffaith honno, byddai’n haws inni oddef ein gilydd, i faddau i’n gilydd, ac yna i “gadw undod yr ysbryd.”
Pan ydyn ni’n maddau i eraill ac yn anghofio beth maen nhw wedi ei wneud i’n pechu ni, byddwn ni’n parhau i brofi’r “heddwch sy’n ein clymu ni wrth ein gilydd.” Mae’r gair Groeg sy’n cael ei gyfieithu “clymu” yn Effesiaid 4:3 yn cael ei gyfieithu fel “gewynnau” yn Colosiaid 2:19. Mae gewynnau yn ddarnau cryf o feinwe sy’n dal esgyrn wrth ei gilydd. Mewn ffordd debyg, mae heddwch, yn ogystal â chariad at ein brodyr, yn ein helpu ni i gadw’n agos at ein gilydd er gwaethaf unrhyw wahaniaethau rhyngon ni.
Felly, pan fydd cyd-grediniwr yn dy frifo di, dy ypsetio di, neu fynd ar dy nerfau di, ceisia fod yn dosturiol yn lle bod yn feirniadol. (Col. 3:12) Oherwydd bod pawb yn amherffaith, mae’n debyg dy fod ti hefyd yn brifo eraill ar adegau. Bydd cofio hynny’n dy helpu di i wneud dy orau i “gadw undod yr ysbryd.”