ERTHYGL ASTUDIO 48
CÂN 129 Dyfalbarhawn
Gall Llyfr Job Dy Helpu Di Pan Fyddi Di’n Dioddef
“Yn sicr, dydy Duw ddim yn gwneud drygioni.”—JOB 34:12, NWT.
PWRPAS
Yr hyn gallwn ni ei ddysgu o lyfr Job am pam mae Jehofa’n caniatáu inni ddioddef a sut gallwn ni ddyfalbarhau pan fydd hynny’n digwydd.
1-2. Am ba resymau y mae’n werth darllen llyfr Job?
A WYT ti wedi darllen llyfr Job yn ddiweddar? Er iddo gael ei ysgrifennu tua 3,500 o flynyddoedd yn ôl, mae’r llyfr hynafol hwn yn cael ei ystyried yn gampwaith ym myd llenyddiaeth. Yn sôn am ei gystrawen syml, ei arddull brydferth, a’i iaith llawn teimlad, mae un cyfeirlyfr yn galw’r awdur yn “athrylith lenyddol.” Moses oedd y dyn a ysgrifennodd y llyfr rhyfeddol hwn, ond Jehofa Dduw yw ei wir Awdur.—2 Tim. 3:16.
2 Mae llyfr Job yn rhan allweddol o’r Beibl. Pam? Am un peth, mae’n dangos yn glir y mater hollbwysig y mae pob person ac angel yn ei wynebu, sef sancteiddio enw Jehofa. Mae hefyd yn ein dysgu ni am rinweddau arbennig Jehofa, fel ei gariad, ei ddoethineb, ei gyfiawnder, a’i nerth. Er enghraifft, mae llyfr Job yn cyfeirio at Jehofa fel “yr Hollalluog” 31 o weithiau, mwy na gweddill yr Ysgrythurau gyda’i gilydd. Mae llyfr Job hefyd yn ateb llawer o gwestiynau bywyd, gan gynnwys un sy’n dal i boeni llawer: Pam mae Duw yn caniatáu dioddefaint?
3. Beth yw rhai o’r manteision o astudio llyfr Job?
3 Yn union fel mae sefyll ar gopa mynydd yn caniatáu inni weld beth sydd o’n cwmpas yn glir, mae llyfr Job yn ein helpu ni i weld problemau bywyd o safbwynt gwell, sef safbwynt Jehofa. Gad inni weld sut gall llyfr Job ein helpu ni pan ydyn ni’n dioddef. Byddwn ni’n dysgu sut gallai’r Israeliaid fod wedi elwa o hanes Job a sut gallwn ninnau heddiw hefyd. Byddwn ni hefyd yn dysgu sut i ddefnyddio’r hanes hwn o’r Beibl i helpu eraill.
GWNAETH DUW GANIATÁU I JOB DDIODDEF
4. Pa wahaniaeth amlwg oedd ’na rhwng Job a’r Israeliaid yn yr Aifft?
4 Ar yr adeg pan oedd yr Israeliaid yn gaethweision yn yr Aifft, roedd ’na ddyn o’r enw Job yn byw yng ngwlad Us, efallai i’r dwyrain o Wlad yr Addewid a rhywle yng ngogledd Arabia. Yn wahanol i’r Israeliaid a oedd wedi dechrau addoli eilunod yn yr Aifft, roedd Job yn gwasanaethu Jehofa yn ffyddlon. (Jos. 24:14; Esec. 20:8) Dywedodd Jehofa am Job: “Does ’na neb tebyg iddo ar y ddaear.”a (Job 1:8, NWT) Roedd Job yn gyfoethog iawn ac yn uchel ei barch—yn fwy nag unrhyw un arall yn y Dwyrain. (Job 1:3) Dychmyga pa mor flin oedd Satan wrth weld y dyn llwyddiannus a phwysig hwn yn gwasanaethu Jehofa yn ffyddlon!
5. Pam gwnaeth Jehofa ganiatáu i Job ddioddef? (Job 1:20-22; 2:9, 10)
5 Gwnaeth Satan honni y byddai Job yn cefnu ar addoliad pur petasai’n dioddef. (Job 1:7-11; 2:2-5) Er bod Jehofa’n caru Job yn fawr iawn, gwnaeth cyhuddiad Satan godi llawer o gwestiynau pwysig. Felly, caniataodd Jehofa i Satan geisio profi ei achos. (Job 1:12-19; 2:6-8) Gwnaeth Satan gymryd anifeiliaid Job oddi arno, achosi marwolaeth ei ddeg o blant, a’i daro â briwiau poenus o’i gorun i’w sawdl. Ond gwnaeth yr ymdrechion creulon hyn i dorri ffyddlondeb Job fethu. (Darllen Job 1:20-22; 2:9, 10.) Mewn amser, gwnaeth Jehofa adfer iechyd, cyfoeth, ac enw da Job, ac fe roddodd ddeg mwy o blant iddo. Fe wnaeth hefyd ehangu bywyd Job am 140 o flynyddoedd, yn ddigon hir iddo weld pedair cenhedlaeth o’i ddisgynyddion yn ffynnu. (Job 42:10-13, 16) Sut gallai’r hanes hwn fod wedi helpu rhai yn y gorffennol, a sut gallwn ni elwa ohono heddiw?
6. Sut gallai’r Israeliaid fod wedi elwa o wybod pam mae Duw yn caniatáu dioddefaint? (Gweler hefyd y llun.)
6 Sut gallai’r Israeliaid fod wedi elwa? Doedd bywyd ddim yn hawdd i’r Israeliaid yn yr Aifft. Er enghraifft, roedd Josua a Caleb yn gaethweision yn eu hieuenctid. Yna roedd rhaid iddyn nhw grwydro’r anialwch am 40 o flynyddoedd oherwydd anufudd-dod Israeliaid eraill. Byddai gwybod am dreialon Job a sut gwnaeth ei fywyd droi allan wedi helpu’r Israeliaid a’u disgynyddion i ddeall pwy sy’n wir yn gyfrifol am ddioddefaint. Byddan nhw hefyd wedi deall yn well pam mae Duw yn caniatáu dioddefaint a pha mor werthfawr yw’r rhai sy’n aros yn ffyddlon iddo.
Byddai’r Israeliaid, a oedd wedi bod yn gaethweision yn yr Aifft am flynyddoedd, wedi gallu elwa o ddysgu am hanes Job (Gweler paragraff 6)
7-8. Sut gall llyfr Job helpu’r rhai sy’n dioddef? Rho enghraifft.
7 Sut gallwn ni elwa? Yn drist iawn, mae llawer o bobl heddiw wedi colli ffydd yn Nuw oherwydd nad ydyn nhw’n gallu deall pam mae pethau drwg yn digwydd i bobl dda. Ystyria esiampl Hazelb o Rwanda. Roedd hi’n credu yn Nuw pan oedd hi’n ifanc. Ond yna, newidiodd bopeth. Gwnaeth ei rhieni ysgaru, ac o ganlyniad, cafodd hi ei magu gan ei llystad a oedd yn ei thrin hi’n wael. Cafodd hi ei threisio yn ei harddegau. Pan aeth Hazel i’w chyfarfodydd crefyddol, ni chafodd hi’r cysur roedd hi’n edrych amdano. Yn nes ymlaen, ysgrifennodd Hazel lythyr at Dduw yn cynnwys y geiriau hyn: “Dduw, rydw i wedi gweddïo arnat ti a cheisio gwneud da, ond rwyt ti wedi talu drwg am dda imi. Rydw i nawr yn dy adael di ac yn bwriadu gwneud beth bynnag sy’n fy ngwneud i’n hapus.” Mae ein calonnau yn torri wrth inni glywed am bobl fel Hazel sydd wedi cael eu camarwain i gredu bod Duw yn gyfrifol am eu dioddefaint!
8 Ond, rydyn ni wedi dysgu o hanes Job mai Satan sy’n gyfrifol am ddioddefaint, nid Duw! Rydyn ni hefyd wedi dysgu i beidio â chredu bod y rhai sy’n dioddef yn medi’r hyn maen nhw wedi ei hau. Mae’r Ysgrythurau yn dweud wrthon ni fod pethau annisgwyl yn gallu digwydd i unrhyw un ar unrhyw adeg. (Preg. 9:11; Job 4:1, 8) Rydyn ni hefyd wedi dysgu bod Jehofa’n gallu rhoi ateb i heriau Satan pan ydyn ni’n aros yn ffyddlon yn ystod treialon, ac mae hynny’n helpu i amddiffyn Ei enw da. (Job 2:3; Diar. 27:11) Dydyn ni ddim yn cymryd yr hyn rydyn ni wedi ei ddysgu yn ganiataol—mae’n ein helpu ni i wybod y gwir am pam rydyn ni a’r rhai rydyn ni’n eu caru yn dioddef. Yn hwyrach, astudiodd Hazel gyda Thystion Jehofa a dod i ddeall nad Duw oedd wedi achosi ei dioddefaint. Mae hi’n dweud: “Gweddïais ar Dduw eto o waelod fy nghalon ac esbonio nad oeddwn i wir eisiau ei adael, er fy mod i wedi dweud hynny. Wedi’r cwbl, doeddwn i ddim yn wir yn ei adnabod ar y pryd. Nawr rydw i’n deall bod Jehofa yn fy ngharu i. O’r diwedd, rydw i’n hapus ac yn fodlon.” Rydyn ni’n ddiolchgar iawn ein bod ni’n gwybod pam mae Jehofa’n caniatáu dioddefaint! Gad inni nawr ystyried sut gall hanes Job ein helpu ni’n bersonol yn ystod treialon.
SUT MAE HANES JOB YN EIN HELPU NI I DDYFALBARHAU
9. Disgrifia sefyllfa Job wrth iddo eistedd yn y lludw. (Iago 5:11)
9 Dychmyga Job yn eistedd ar ei ben ei hun yn y lludw gyda briwiau dros ei gorff ac mewn poen ddychrynllyd. Mae ei groen yn ddu oherwydd yr afiechyd ac yn tynnu i ffwrdd o’i ffrâm esgyrnog. Wedi ei lorio yn gorfforol, doedd Job ddim yn gallu gwneud unrhyw beth heblaw am grafu ei hun â darnau o grochenwaith a chwyno am ei sefyllfa anobeithiol. Ond, dyfalbarhau oedd Job, nid ymdopi yn unig. (Darllen Iago 5:11.) Beth oedd yn helpu Job i ddal ati?
10. Pa fath o berthynas oedd gan Job â Jehofa? Esbonia.
10 Mynegodd Job ei deimladau i Jehofa. (Job 10:1, 2; 16:20) Er enghraifft, mae pennod 3 yn dweud wrthon ni fod Job wedi cwyno’n chwerw am y pethau ofnadwy a oedd wedi digwydd iddo. Gwnaeth Job y camgymeriad o feddwl mai Jehofa a oedd wedi achosi’r pethau hyn. Yna mewn cyfres o ddadleuon gyda’i dri ffrind, fe wnaeth Job amddiffyn ei ffyddlondeb yn gryf, gan gyfeirio ei atebion yn aml at Jehofa. Mae geiriau Job yn awgrymu ei fod wedi ystyried ei hun yn fwy cyfiawn na Duw am gyfnod. (Job 10:1-3; 32:1, 2; 35:1, 2) Ond mewn gwirionedd, roedd yn cyfaddef ei fod wedi “siarad yn fyrbwyll” wrth geisio amddiffyn ei ffyddlondeb. (Job 6:3, 26, NWT) Ym mhennod 31, rydyn ni’n darllen bod Job eisiau i Dduw ei farnu’n gyfiawn. (Job 31:35) Wrth gwrs, doedd hi ddim yn iawn i Job fynnu bod Duw yn esbonio’r rheswm y tu ôl i’w ddioddefaint.
11. Ar ôl i Job siarad am ei ffyddlondeb, beth oedd ymateb Jehofa?
11 Wrth edrych yn ôl, rydyn ni’n gallu gweld bod apêl daer Job yn dangos ei ddefosiwn i Jehofa a’i obaith cadarn y byddai Duw yn cydnabod ei ffyddlondeb. Pan roddodd Jehofa ateb i Job o storm wynt, ni wnaeth fynd i fanylion am y rhesymau y tu ôl i ddioddefaint Job. Ni wnaeth gondemnio Job am gwyno nac am honni ei fod yn ddieuog chwaith. Yn hytrach, rhoddodd Jehofa hyfforddiant i Job fel y byddai tad gyda’i fab. Dyna’n union beth roedd ei angen. O ganlyniad, fe wnaeth Job gydnabod yn ostyngedig cyn lleied roedd yn ei wybod, ac fe wnaeth edifarhau am siarad yn ffôl. (Job 31:6; 40:4, 5; 42:1-6) Sut byddai’r hanes hwn wedi gallu helpu pobl yn y gorffennol a sut gallwn ni elwa heddiw?
12. Sut gallai’r Israeliaid fod wedi elwa o hanes Job?
12 Sut gallai’r Israeliaid fod wedi elwa? Byddai’r Israeliaid wedi gallu dysgu o beth ddigwyddodd i Job. Ystyria esiampl Moses. Fe wynebodd lawer o anawsterau, cafodd ei siomi, a chollodd ei hyder wrth iddo arwain cenedl Israel. Yn wahanol i’r Israeliaid gwrthryfelgar a oedd yn cwyno yn erbyn Jehofa yn aml, roedd Moses yn mynd â’i bryderon i Jehofa. (Ex. 16:6-8; Num. 11:10-14; 14:1-4, 11; 16:41, 49; 17:5) Roedd rhaid i Moses ddyfalbarhau pan gafodd ei gywiro gan Jehofa. Er enghraifft, pan oedd yr Israeliaid wedi gwersylla yn Cades, mwy na thebyg yn y 40fed flwyddyn o grwydro’r anialwch, fe wnaeth Moses “ddweud pethau byrbwyll” a methu rhoi’r clod i Jehofa. (Salm 106:32, 33) O ganlyniad, ni chaniataodd Jehofa i Moses fynd i mewn i Wlad yr Addewid. (Deut. 32:50-52) Mae’n rhaid bod y ddisgyblaeth wedi brifo Moses, ond fe wnaeth ei derbyn yn ostyngedig. Byddai hanes Job wedi gallu helpu’r Israeliaid am genedlaethau i oddef y treialon roedden nhw’n eu hwynebu. Drwy fyfyrio ar yr hanes hwn, byddai rhai ffyddlon wedi gallu dysgu sut i fynegi eu teimladau i Jehofa ac osgoi cyfiawnhau eu hunain o’i flaen. Byddan nhw hefyd wedi dysgu sut i dderbyn disgyblaeth gan Jehofa yn ostyngedig.
13. Sut gall hanes Job ein helpu ni i ddyfalbarhau? (Hebreaid 10:36)
13 Sut gallwn ni elwa? Fel Cristnogion, mae’n rhaid i ninnau hefyd ddyfalbarhau. (Darllen Hebreaid 10:36.) Er enghraifft, mae rhai ohonon ni’n ymdopi â phroblemau corfforol neu emosiynol, sefyllfa deuluol anodd, colli anwylyn, neu ryw broblem ddifrifol arall. Ar adegau, gall geiriau a gweithredoedd pobl eraill wneud y sefyllfa yn anoddach byth. (Diar. 12:18) Ond, mae llyfr Job yn ein dysgu ni ein bod ni’n gallu mynegi ein teimladau dyfnaf i Jehofa, yn hyderus y bydd yn gwrando arnon ni. (1 Ioan 5:14) Ni fydd yn ein condemnio ni os ydy ein herfyniadau yn swnio fel ein bod ni’n “siarad yn fyrbwyll,” fel y gwnaeth Job. Yn hytrach, bydd Duw yn rhoi inni’r nerth a’r doethineb sydd ei angen arnon ni i ddyfalbarhau. (2 Cron. 16:9; Iago 1:5) Efallai fe fydd yn ein cywiro ni yn ôl yr angen, fel y gwnaeth gyda Job. Mae llyfr Job hefyd yn ein dysgu ni sut i ddyfalbarhau os ydyn ni’n derbyn cyngor neu ddisgyblaeth gan Air Duw, Ei gyfundrefn, neu ffrindiau aeddfed. (Heb. 12:5-7) Yn union fel gwnaeth Job elwa o dderbyn cyngor yn ostyngedig, rydyn ni’n elwa pan ydyn ni’n caniatáu i ni’n hunain gael ein cywiro. (2 Cor. 13:11) Am wersi gwerthfawr rydyn ni’n eu dysgu o Job! Gad inni nawr ystyried sut gallwn ni ddefnyddio hanes Job i helpu eraill.
DEFNYDDIO LLYFR JOB I HELPU ERAILL
14. Sut gelli di resymu â rhywun yn y weinidogaeth i esbonio pam mae pobl yn dioddef?
14 A wyt ti erioed wedi cyfarfod rhywun yn y weinidogaeth sydd wedi gofyn iti pam mae pobl yn dioddef? Sut gwnest ti ateb ei gwestiwn? Efallai gwnest ti ddangos beth mae’r Beibl yn ei ddweud am y digwyddiadau yng ngardd Eden, gan esbonio bod Satan, ysbryd greadur drwg, wedi dweud celwydd wrth y cwpl cyntaf a wnaeth eu harwain nhw i wrthryfela yn erbyn Duw. (Gen. 3:1-6) Yna, efallai fe wnest ti esbonio bod y byd wedi cael ei lenwi â dioddefaint a marwolaeth ar ôl i Adda ac Efa wrthryfela. (Rhuf. 5:12) Yn olaf, byddet ti wedi gallu esbonio bod Duw yn caniatáu i ddigon o amser fynd heibio i ddinoethi celwydd Satan ac i ledaenu’r newyddion da y bydd pobl yn berffaith eto yn y dyfodol. (Dat. 21:3, 4) Mae hyn yn ffordd o resymu ar y cwestiwn hwnnw a all gael canlyniadau da.
15. Sut gallwn ni ddefnyddio llyfr Job i helpu rhywun sy’n gofyn pam mae pobl yn dioddef? (Gweler hefyd y lluniau.)
15 Ystyria ffordd arall gelli di resymu â rhywun, y tro hwn o lyfr Job. Gelli di ddechrau drwy ganmol y person am ofyn cwestiwn mor bwysig. Yna gelli di ddweud bod Job, dyn ffyddlon a wnaeth ddioddef yn ofnadwy, wedi meddwl rhywbeth tebyg. Efallai ei fod hyd yn oed wedi credu bod Duw yn gyfrifol am ei boen. (Job 7:17-21) Efallai bydd yr unigolyn yn synnu i ddysgu nad ef yw’r cyntaf i gael y safbwynt hwnnw. Nesaf, gelli di esbonio bod y Diafol, nid Duw, a wnaeth achosi dioddefaint Job. Fe wnaeth hynny er mwyn ceisio profi bod pobl yn gwasanaethu Duw am resymau hunanol yn unig. Efallai byddi di’n ychwanegu bod Duw wedi caniatáu dioddefaint Job, er nad oedd ef wedi ei achosi, ac roedd hynny’n dangos bod Duw yn trystio pobl ffyddlon i brofi bod Satan yn anghywir. Yn olaf, gelli di esbonio bod Duw wedi bendithio Job yn y pen draw am aros yn ffyddlon. Felly, gallwn ni gysuro eraill drwy sicrhau iddyn nhw nad Jehofa sydd y tu ôl i’w dioddefaint.
Sut gelli di ddefnyddio llyfr Job i ddangos i eraill nad ydy ‘Duw yn gwneud drygioni’? (Gweler paragraff 15)
16. Sut gall llyfr Job helpu rhywun sy’n dioddef? Rho enghraifft.
16 Ystyria sut gwnaeth llyfr Job helpu Mario. Un dydd yn 2021, roedd chwaer yn tystiolaethu dros y ffôn. Ar ei galwad gyntaf, gwnaeth hi rannu adnod o’r Beibl â Mario ac esbonio bod Duw’n gwrando ar ein gweddïau a hefyd yn cynnig gobaith am y dyfodol inni. Pan ofynnodd hi am ei farn, dywedodd Mario ei fod wrthi’n ysgrifennu nodyn hunanladdiad pan alwodd hi. Fe ddywedodd, “Rydw i’n credu yn Nuw, ond bore ’ma roeddwn i’n cwestiynu a ydy ef wedi fy ngadael i.” Gwnaeth yr ail alwad dros y ffôn arwain at drafodaeth am ddioddefaint Job. Penderfynodd Mario fod rhaid iddo ddarllen holl lyfr Job. Felly gwnaeth ein chwaer anfon linc ato i Cyfieithiad y Byd Newydd. Y canlyniad? Dechreuodd Mario astudio’r Beibl ac roedd yn awyddus i ddysgu mwy am y Duw cariadus a oedd yn dangos diddordeb ynddo.
17. Pam rwyt ti’n ddiolchgar i Jehofa am gynnwys llyfr Job yn Ei Air? (Job 34:12)
17 Mae’n glir bod gan Air Duw nerth aruthrol i helpu pobl, gan gynnwys y rhai sy’n dioddef. (Heb. 4:12) Rydyn ni mor ddiolchgar bod Jehofa wedi cynnwys hanes Job yn Ei Air ysbrydoledig! (Job 19:23, 24) Mae llyfr Job yn ein calonogi ni: “Yn sicr, dydy Duw ddim yn gwneud drygioni.” (Darllen Job 34:12, NWT.) Mae hefyd yn ein dysgu ni pam mae Duw yn caniatáu dioddefaint a sut gallwn ni ddal ati pan ydyn ni’n dioddef. Mae hefyd yn ein helpu ni i gysuro’r rhai sy’n dioddef. Bydd yr erthygl nesaf yn trafod gwersi eraill o lyfr Job, fel sut i roi cyngor effeithiol.
CÂN 156 Drwy Lygaid Ffydd
a Mae’n amlwg bod Job wedi byw rhwng y cyfnod pan fu farw’r dyn ffyddlon Joseff (1657 COG) a’r amser pan gafodd Moses ei benodi i arwain Israel (tua 1514 COG). Mae’n debyg bod y sgyrsiau rhwng Jehofa a Satan yn ogystal â threialon Job wedi digwydd yn ystod y cyfnod hwn.
b Newidiwyd rhai enwau.