LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • w25 Rhagfyr t. 31
  • Wyt Ti’n Cofio?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Wyt Ti’n Cofio?
  • Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2025
  • Erthyglau Tebyg
  • Rhan 1
    Mwynhewch Fywyd am Byth!—Cwrs Rhyngweithiol am y Beibl
Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2025
w25 Rhagfyr t. 31

Wyt Ti’n Cofio?

Wyt ti wedi darllen rhifynnau’r Tŵr Gwylio eleni yn ofalus? Wel, ceisia ateb y cwestiynau canlynol:

Beth sy’n ein cymell ni i anrhydeddu Jehofa?

Rydyn ni’n gwneud hynny oherwydd ein parch dwfn tuag ato. Rydyn ni hefyd yn ei anrhydeddu gan ein bod ni eisiau i eraill ddod i’w adnabod.—w25.01, t. 3.

Os ydy rhywun yn ein pechu ni, sut gallwn ni fod yn faddeugar?

Dydyn ni ddim yn anwybyddu ein teimladau; er hynny, gall stopio dal dig yn erbyn rhywun ein helpu ni i beidio â gadael i chwerwder effeithio ar y ffordd rydyn ni’n trin eraill.—w25.02, tt. 15-16.

Pam mae’r disgybl Marc yn esiampl dda i frodyr ifanc?

Roedd Marc yn barod i dderbyn aseiniad i wasanaethu eraill. Er ei bod hi’n debygol roedd wedi ei frifo a’i siomi oherwydd sefyllfa anodd, ni wnaeth roi’r gorau iddi. Fe wnaeth ddatblygu ei berthynas â Paul a Christnogion aeddfed eraill.—w25.04, t. 27.

Beth roedd Iesu’n ei olygu pan weddïodd: “Rydw i wedi rhoi gwybod iddyn nhw am dy enw di”? (Ioan 17:26)

Roedd ei ddisgyblion yn gyfarwydd ag enw Duw yn barod. Ond roedd Iesu wedi rhoi gwybod am y person y tu ôl i’r enw, gan gynnwys ei fwriadau, ei weithredoedd, a’i rinweddau.—w25.05, tt. 20-21.

Os ydyn ni’n ostyngedig, beth rydyn ni’n ei gydnabod?

Rydyn ni’n cydnabod nad ydyn ni’n gwybod rhai bethau. Er enghraifft, dydyn ni ddim yn gwybod pryd bydd y diwedd yn dod neu sut yn union bydd Jehofa’n gweithredu ar yr adeg honno. Dydyn ni hefyd ddim yn gwybod beth fydd yn digwydd yfory neu gymaint mae Jehofa’n ein hadnabod ni.—w25.06, tt. 15-18.

Beth all ein helpu ni i elwa o erthygl neu anerchiad cyhoeddus?

Gallwn ni ofyn i ni’n hunain: ‘Pa dystiolaeth sy’n cael ei defnyddio i resymu â phobl? Oes ’na eglureb effeithiol galla i ei defnyddio i ddysgu’r gwirionedd hwn i rywun? Pwy fyddai’n hoffi’r pwnc hwn, a phryd galla i rannu’r gwirionedd â’r person?’—w25.07, t. 19.

Beth gallwn ni ei ddysgu am faddeuant Duw o’r ffordd gwnaeth ddelio â Dafydd?

Er bod Dafydd wedi pechu’n ddifrifol, pan wnaeth edifarhau yn ddiffuant, fe wnaeth Jehofa faddau iddo. (1 Bren. 9:4, 5) Unwaith i Dduw faddau, dydy ef ddim yn dal pechodau rhywun yn ei erbyn nawr neu yn y dyfodol.—w25.08, t. 17.

Os ydy myfyriwr y Beibl yn cael trafferth deall rhywbeth, beth gelli di ei wneud?

Os ydy ef yn cael trafferth deall rhywbeth rwyt ti wedi ceisio ei esbonio’n dda o’r Beibl, symuda’r astudiaeth ymlaen ac adolyga’r pwynt hwnnw yn nes ymlaen.—w25.09, t. 24.

Mae’r Beibl yn dweud bod gan bechod “rym twyllodrus.” (Heb. 3:13) Sut felly?

Gall pechod ein denu ni i wneud pethau anghywir. Gallai hefyd achosi inni gael amheuon parhaol, fel amau cariad Jehofa tuag aton ni.—w25.10, t. 16.

Pa dri pheth all wella ein gweddïau?

(1) Gallwn ni fyfyrio ar rinweddau Jehofa. (2) Gallwn ni feddwl am beth rydyn ni’n ei wynebu a sôn amdano, fel os oes angen inni faddau i rywun. (3) Gallwn ni gymryd ein hamser wrth weddïo. Yna, byddwn ni’n fwy tebygol i fynegi ein teimladau.—w25.10, tt. 19-20.

Sut gallwn ni helpu rhai hŷn?

Gallwn ni alw ac ymweld â rhai hŷn. Gallwn ni hefyd mynd â nhw i apwyntiadau meddygol. Neu gallwn ni bregethu gyda rhai hŷn mewn ffyrdd gwahanol.—w25.11, tt. 6-7.

Pa bethau sy’n allweddol i gael seremoni priodas sy’n dod â chlod i Jehofa?

Dilyna unrhyw ofynion cyfreithiol. Gwna’n siŵr bod yr awyrgylch yn adlewyrchu ffrwyth ysbryd Duw. Bydda’n wylaidd wrth ddewis beth i’w wisgo a gwrthoda draddodiadau anysgrythurol. Ceisia gyfathrebu’n dda wrth drefnu’r priodas.—w25.12, tt. 21-24.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu