PROSIECT ASTUDIO
Adeilada Hyder yng Ngallu Jehofa i Achub
Darllen Numeri 13:25–14:4 i weld diffyg ffydd yr Israeliaid yn Jehofa.
Ystyria’r cyd-destun. Pam dylai’r Israeliaid fod wedi cael hyder yng ngallu Jehofa i’w hachub nhw wrth iddyn nhw adael yr Aifft? (Salm 78:12-16, 43-53) Beth a wnaeth achosi iddyn nhw golli eu hyder yn Jehofa? (Deut. 1:26-28) Sut gwnaeth Josua a Caleb ddangos eu bod nhw’n ymddiried yn Jehofa?—Num. 14:6-9.
Cloddia’n ddyfnach. Beth byddai’r Israeliaid wedi gallu ei wneud i adeiladu eu hyder yn Jehofa? (Salm 9:10; 22:4; 78:11) Beth ydy’r cysylltiad rhwng ymddiried yn Jehofa a’i barchu?—Num. 14:11.
Meddylia am y gwersi. Gofynna i ti dy hun:
‘Pa sefyllfaoedd a all ei gwneud hi’n anodd imi ymddiried yn Jehofa’n llwyr?’
‘Sut galla i gryfhau fy hyder yn Jehofa nawr ac yn y dyfodol?’
‘Pa hyder sydd gen i wrth i’r trychineb mawr agosáu?’—Luc 21:25-28.