LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • w17 Medi tt. 21-26
  • “Mae Gair Duw . . . yn Cyflawni Beth Mae’n ei Ddweud”

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • “Mae Gair Duw . . . yn Cyflawni Beth Mae’n ei Ddweud”
  • Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2017
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • YN EIN BYWYDAU EIN HUNAIN
  • YN Y WEINIDOGAETH
  • WRTH DDYSGU O’R LLWYFAN
  • Sut i Elwa’n Fwy o Ddarllen y Beibl
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2023
  • ‘Gweithreda yn Unol â’r Gair’
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2024
  • Sut i Elwa’n Fwy ar Ddarllen y Beibl
    Mwynhewch Fywyd am Byth!—Cwrs Rhyngweithiol am y Beibl
  • Beth Mae’r Beibl yn ei Ddatgelu Inni am ei Awdur
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2023
Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2017
w17 Medi tt. 21-26
Dyn yn eistedd ar ei ben ei hun; Tystion Jehofa yn dod i’w ddrws ac yn pregethu iddo; y dyn yn mynd i gyfarfod

“Mae Gair Duw . . . yn Cyflawni Beth Mae’n ei Ddweud”

“Mae neges Duw yn fyw ac yn cyflawni beth mae’n ei ddweud.”—HEBREAID 4:12.

CANEUON: 96, 94

SUT GELLI DI ADAEL I RYM GAIR DUW WEITHIO . . .

  • yn dy fywyd dy hun?

  • yn dy weinidogaeth?

  • wrth iti ddysgu o’r llwyfan?

1. Pam rwyt ti’n credu’n gryf fod Gair Duw yn rymus? (Gweler y llun agoriadol.)

MAE pobl Jehofa yn credu’n gryf fod ei air, ei neges i fodau dynol, “yn fyw ac yn cyflawni beth mae’n ei ddweud.” (Hebreaid 4:12) Rydyn ni wedi gweld grym y Beibl ar waith yn ein bywydau ac ym mywydau pobl eraill. Cyn dod yn Dystion, roedd rhai pobl yn lladron, yn gaeth i gyffuriau, ac yn anfoesol yn rhywiol. Roedd gan eraill enwogrwydd ac arian ond eto roedden nhw’n teimlo bod rhywbeth ar goll yn eu bywydau. (Pregethwr 2:3-11) Da o beth fod llawer a oedd ar un adeg heb obaith ac ar goll wedi cael gobaith ac ystyr i’w bywydau bellach. Yn y Tŵr Gwylio, rydyn ni wedi darllen hanesion rhai o’r fath yn y gyfres o erthyglau “Mae’r Beibl yn Newid Bywydau.” A hyd yn oed ar ôl dod yn Gristnogion, mae’n rhaid i bobl barhau i atgyfnerthu eu perthynas â Jehofa gyda chymorth y Beibl.

2. Sut gwnaeth grym Gair Duw effeithio ar bobl yn y ganrif gyntaf?

2 Nid yw’n syndod fod llawer o bobl yn gwneud newidiadau mawr ar ôl dysgu’r gwirionedd. Roedd ein brodyr a’n chwiorydd eneiniog yn y ganrif gyntaf wedi gwneud newidiadau o’r fath. (Darllen 1 Corinthiaid 6:9-11.) Pan siaradodd Paul am y rhai na fyddai’n etifeddu Teyrnas Dduw, dywedodd: “A dyna sut bobl oedd rhai ohonoch chi ar un adeg.” Gair Duw a’i ysbryd glân a helpodd y bobl hynny i newid. Ond hyd yn oed ar ôl dod yn Gristnogion, gwnaeth rhai ohonyn nhw gamgymeriadau difrifol a effeithiodd ar eu perthynas â Jehofa. Er enghraifft, mae’r Beibl yn sôn am un brawd eneiniog a oedd yn gorfod cael ei ddiarddel. Yn ddiweddarach, newidiodd gymaint fel y gallai fod yn rhan o’r gynulleidfa Gristnogol unwaith eto. (1 Corinthiaid 5:1-5; 2 Corinthiaid 2:5-8) Calonogol iawn yw gweld bod ein brodyr a’n chwiorydd wedi gwneud cymaint o newidiadau o ganlyniad i rym Gair Duw.

3. Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?

3 Mae Gair Duw yn rymus iawn. Gan mai Jehofa sydd wedi ei roi inni, dylen ni sicrhau ein bod ni’n ei ddefnyddio’n effeithiol. (2 Timotheus 2:15) Bydd yr erthygl hon yn trafod yr hyn y gallwn ni ei wneud i ddefnyddio grym y Beibl (1) yn ein bywydau ein hunain, (2) yn ein gweinidogaeth, a (3) wrth inni ddysgu o’r llwyfan. Bydd dysgu am y pethau hyn yn ein helpu ni i ddangos ein cariad a’n diolchgarwch tuag at ein Tad nefol, yr un sy’n ein dysgu ni er ein lles.—Eseia 48:17.

YN EIN BYWYDAU EIN HUNAIN

4. (a) Er mwyn i Air Duw effeithio arnon ni, beth gallwn ni ei wneud? (b) Sut rwyt ti’n trefnu dy amser i ddarllen y Beibl?

4 Er mwyn i Air Duw effeithio arnon ni, mae’n rhaid inni ei ddarllen yn rheolaidd. Dylen ni geisio ei ddarllen bob dydd. (Josua 1:8) Mae’r rhan fwyaf ohonon ni’n byw bywydau prysur iawn ond ni ddylen ni adael i unrhyw beth, gan gynnwys ein cyfrifoldebau, ein stopio ni rhag darllen y Beibl. (Darllen Effesiaid 5:15, 16.) Gallwn ni neilltuo amser yn gynnar yn y bore, rywdro yn ystod y dydd, neu’n hwyrach ymlaen gyda’r nos. Rydyn ni’n cytuno â’r salmydd pan ddywedodd: “O, dw i wrth fy modd hefo dy ddysgeidiaeth di! Dw i’n myfyrio ynddi drwy’r dydd.”—Salm 119:97.

Ni ddylen ni adael i unrhyw beth, gan gynnwys ein cyfrifoldebau, ein stopio ni rhag darllen y Beibl bob dydd

5, 6. (a) Pam dylen ni fyfyrio? (b) Sut gall ein myfyrio fod yn effeithiol? (c) Sut mae darllen y Beibl a myfyrio arno wedi dy helpu di?

5 Fodd bynnag, dydy darllen y Beibl ddim yn ddigon. Mae’n rhaid myfyrio, neu feddwl yn ddwys, ar ei gynnwys. (Salm 1:1-3) Dim ond wedyn y byddwn ni’n gallu rhoi doethineb y Beibl ar waith yn ein bywydau. Felly, pan fyddwn ni’n darllen y Beibl ar ffurf brintiedig neu ar ddyfais electronig, dylen ni adael i Air Duw ein mowldio a’n hysgogi ni.

Un o Dystion Jehofa yn darllen y Beibl

6 Sut gallwn ni fyfyrio mewn ffordd effeithiol? Pan fyddwn ni’n darllen y Beibl, dylen ni oedi a gofyn i ni’n hunain: ‘Beth mae hyn yn ei ddweud wrthyf am Jehofa? Ym mha ffordd rydw i eisoes yn rhoi ar waith yn fy mywyd yr hyn rydw i’n ei ddarllen? Pa newidiadau sydd rhaid imi eu gwneud o hyd?’ Pan fyddwn ni’n myfyrio ar Air Duw ac yn gweddïo ynglŷn â’r hyn rydyn ni’n ei ddarllen, byddwn ni eisiau rhoi ei gyngor ar waith. Yna gallwn ni brofi grym y Beibl yn ein bywydau.—2 Corinthiaid 10:4, 5.

YN Y WEINIDOGAETH

7. Sut gallwn ni ddefnyddio Gair Duw yn fwy effeithiol yn y weinidogaeth?

7 Pwysig iawn yw defnyddio Gair Duw yn gyson wrth bregethu a dysgu. Dywedodd un brawd: “Petaset ti’n pregethu o dŷ i dŷ gyda Jehofa ei hun, fyddet ti’n gwneud y siarad i gyd, neu a fyddet ti’n gadael iddo Ef siarad hefyd?” Pan fyddwn ni’n darllen o’r Beibl i rywun, rydyn ni’n gadael i Jehofa siarad â’r unigolyn. Gall adnod sydd wedi ei dewis yn ofalus fod yn fwy grymus nag unrhyw beth y gallen ni ei ddweud. (1 Thesaloniaid 2:13) Pan fyddi di yn y weinidogaeth, a wyt ti’n ceisio darllen o’r Beibl gymaint ag y gelli di?

8. Pam mae’n rhaid inni wneud mwy na dim ond darllen adnodau yn y gwaith pregethu?

8 Fodd bynnag, dydy darllen adnod o’r Beibl i rywun yn y gwaith pregethu ddim yn ddigon. Dydy’r rhan fwyaf o bobl ddim yn deall y Beibl. Roedd hyn yn wir yn y ganrif gyntaf, ac mae’r un mor wir heddiw. (Rhufeiniaid 10:2) Ni ddylen ni gymryd yn ganiataol fod y deiliad yn deall yr adnod rydyn ni newydd ei darllen. Gallwn ni ei helpu drwy ailadrodd y prif eiriau neu syniadau sy’n dod o’r adnod ac yna esbonio’r hyn maen nhw’n ei olygu. Dyma sut mae Gair Duw yn cyffwrdd â chalon a meddwl pobl.—Darllen Luc 24:32.

9. Sut gallwn ni helpu pobl i barchu’r Beibl drwy’r hyn rydyn ni’n ei ddweud cyn inni ddarllen adnod? Rho esiampl.

9 Mae’r hyn rydyn ni’n ei ddweud cyn inni ddarllen adnod hefyd yn gallu helpu’r deiliad i barchu’r Beibl. Er enghraifft, gallwn ddweud: “Gadewch inni weld beth mae ein Creawdwr yn ei ddweud am y pwnc.” Neu os ydyn ni’n siarad â rhywun sydd ddim yn Gristion, gallen ni ddweud: “Gadewch inni weld beth mae’r Ysgrythurau Sanctaidd yn ei ddweud wrthyn ni.” Os ydyn ni’n cwrdd ag unigolyn heb unrhyw ddiddordeb mewn crefydd, gallen ni ofyn: “Ydych chi erioed wedi clywed am yr hen ddywediad yma?” Os ydyn ni’n cofio bod gan bob person ei gefndir a’i ddaliadau, byddwn ni’n gwneud popeth a allwn ni i gyflwyno’r gwirionedd mewn ffordd apelgar.—1 Corinthiaid 9:22, 23.

Tystion Jehofa yn defnyddio’r Beibl yn eu gweinidogaeth

10. (a) Beth ddigwyddodd i un brawd? (b) Ym mha ffordd rwyt ti wedi gweld grym Gair Duw ar waith yn dy weinidogaeth?

10 Mae llawer wedi gweld bod defnyddio Gair Duw yn gallu cael effaith bwerus iawn ar y bobl maen nhw’n pregethu iddyn nhw. Er enghraifft, aeth un brawd i weld hen ddyn a oedd wedi bod yn darllen ein cylchgronau am flynyddoedd. Un diwrnod, yn hytrach na rhoi’r Tŵr Gwylio diweddaraf iddo, penderfynodd y brawd ddarllen adnod. Darllenodd 2 Corinthiaid 1:3, 4, sy’n dweud: “Fe ydy’r Tad sy’n tosturio a’r Duw sy’n cysuro. Mae’n ein cysuro ni yng nghanol ein holl drafferthion.” Gwnaeth y geiriau hyn argraff fawr ar yr hen ddyn a dyma’n gofyn i’r brawd ddarllen yr adnodau eto. Yna, dywedodd y dyn fod angen dybryd am gysur arno ef a’i wraig. Oherwydd yr adnod hon, roedd eisiau gwybod mwy am y Beibl. Mae defnyddio Gair Duw yn y weinidogaeth yn hynod o rymus!—Actau 19:20.

WRTH DDYSGU O’R LLWYFAN

11. Pa gyfrifoldeb sydd gan y brodyr sy’n dysgu o’r llwyfan?

11 Rydyn ni wrth ein boddau yn mynd i’n cyfarfodydd, i’n cynulliadau, ac i’n cynadleddau. Y rheswm pennaf dros wneud hyn yw addoli Jehofa. Rydyn ni’n elwa hefyd ar yr hyn rydyn ni’n ei ddysgu. Am y rheswm hwn, mae gan y brodyr sy’n dysgu o’r llwyfan fraint fawr a chyfrifoldeb pwysig. (Iago 3:1) Dylen nhw sicrhau bod eu dysgu yn seiliedig ar Air Duw. Os wyt ti wedi derbyn y fraint hon, sut gelli di ddefnyddio grym y Beibl i annog y rhai sy’n gwrando arnat ti?

Brawd yn defnyddio’r Beibl i ddysgu o’r llwyfan

12. Sut gall siaradwr sicrhau bod ei anerchiad yn seiliedig ar yr Ysgrythurau?

12 Yr Ysgrythurau yw’r rhan bwysicaf o unrhyw anerchiad. (Ioan 7:16) Felly, bydda’n hynod o ofalus nad ydy’r ffordd rwyt ti’n traddodi dy anerchiad ynghyd â’r profiadau a’r eglurebau rwyt ti’n eu defnyddio yn denu mwy o sylw na’r Beibl. Hefyd, cofia nad ydy darllen o’r Beibl yr un fath â dysgu o’r Beibl. Yn wir, os wyt ti’n darllen gormod o adnodau, ni fydd y rhan fwyaf o bobl yn gallu eu cofio. Felly, dewisa’r adnodau rwyt ti am eu defnyddio yn ofalus. Wedyn, cymera dy amser i ddarllen ac esbonio’r adnodau. Hefyd defnyddia eglureb, a helpa’r gynulleidfa mewn ffordd effeithiol i wybod sut i roi’r adnodau ar waith. (Nehemeia 8:8) Pan fydd anerchiad wedi ei seilio ar amlinelliad, gwna’n siŵr dy fod ti’n astudio’r amlinelliad ynghyd a’r adnodau mae’n eu defnyddio. Mae’n bwysig iti geisio deall y cysylltiad rhwng yr amlinelliad a’r adnodau. Yna, defnyddia rai o’r adnodau hyn i bwysleisio’r pwyntiau a wneir yn yr amlinelliad. (Ceir awgrymiadau da ym mhenodau 21-23 y llyfr Benefit From Theocratic Ministry School Education.) Ac yn bwysicach na dim, gofynna i Jehofa am iddo dy helpu di i rannu ei feddyliau gwerthfawr o’r Beibl.— Darllen Esra 7:10; Diarhebion 3:13, 14.

13. (a) Sut cafodd un chwaer ei heffeithio pan glywodd hi adnod yn cael ei darllen mewn cyfarfod? (b) Sut mae’r ffordd y mae’r Beibl yn cael ei ddefnyddio yn y cyfarfodydd wedi effeithio arnat ti?

13 Pan oedd chwaer o Awstralia yn blentyn, digwyddodd llawer o bethau erchyll iddi ac er iddi ddod mewn amser i adnabod Jehofa, doedd hi ddim yn gallu credu’n llawn fod Jehofa yn ei charu hi. Mewn un cyfarfod, clywodd y chwaer adnod yn cael ei darllen a wnaeth argraff ddofn arni. Myfyriodd ar yr adnod a gwneud ychwaneg o ymchwil, a gwnaeth hyn ei hannog hi i ddarllen mwy o adnodau o’r Beibl. Daeth i gredu heb unrhyw amheuaeth o gwbl fod Jehofa yn ei charu hi.a (Gweler y troednodyn.) Wyt ti wedi clywed adnod yn cael ei darllen mewn cyfarfod, cynulliad, neu gynhadledd a effeithiodd arnat tithau yn yr un ffordd?—Nehemeia 8:12.

14. Sut gallwn ni ddangos ein bod ni’n trysori Gair Duw?

14 Onid ydyn ni’n hynod o ddiolchgar i Jehofa am ei Air ysgrifenedig y Beibl? Fe wnaeth Jehofa addo y byddai ei Air yn goroesi, ac mae Duw, heb unrhyw amheuaeth o gwbl, wedi cadw at yr addewid hwnnw. (1 Pedr 1:24, 25) Felly, dylai pob un ohonon ni wneud yn siŵr ein bod ni’n darllen y Beibl yn rheolaidd, yn ei roi ar waith yn ein bywydau personol, ac yn ei ddefnyddio i helpu pobl eraill. Pan fyddwn ni’n gwneud hyn, byddwn ni’n dangos cymaint rydyn i’n trysori’r Beibl ac, yn fwy na dim, yn caru ei Awdur, Jehofa Dduw.

a Gweler y blwch “Y Trobwynt.”

DEFNYDDIA RYM GAIR DUW

yn dy fywyd dy hun:

  • Darllena’r Beibl yn rheolaidd

  • Myfyria arno

  • Rho ar waith yr hyn rwyt ti’n ei ddysgu

yn y weinidogaeth:

  • Defnyddia’r Ysgrythurau’n rheolaidd

  • Tynna sylw at brif bwyntiau’r adnodau rwyt ti’n eu darllen a’u hesbonio

  • Cyflwyna adnodau o’r Beibl mewn ffordd sy’n helpu pobl i barchu Gair Duw

wrth ddysgu o’r llwyfan:

  • Sicrha mai’r Ysgrythurau yw canolbwynt dy anerchiad

  • Paid â gadael i brofiadau, eglurebau, na’r ffordd rwyt ti’n siarad gymryd mwy o sylw na’r Beibl

  • Cymera dy amser i esbonio, defnyddio eglureb, ac i ddangos sut i roi’r adnodau ar waith

“Y Trobwynt”

Am flynyddoedd lawer ar ôl i Victoria ddod i mewn i’r gwir, roedd hi’n teimlo nad oedd hi’n bosib i Dduw ei charu hi. Beth wnaeth ei pherswadio hi fod Duw yn ei charu hi go iawn? Dyma ei stori:

“Daeth y trobwynt tua 15 mlynedd ar ôl imi gael fy medyddio. Mewn anerchiad yn Neuadd y Deyrnas . . . , cyfeiriodd y siaradwr at Iago 1:23, 24. Roedd yr adnodau hynny yn cymharu Gair Duw â drych yr ydyn ni’n gallu ein gweld ein hunain ynddo fel y mae Jehofa yn ein gweld ni. Dechreuais feddwl a oedd yr hyn roeddwn i’n ei weld ynof fi fy hun yn wahanol i’r hyn roedd Jehofa yn ei weld. Ar y cychwyn, mi wnes i wfftio’r syniad newydd hwn. Roeddwn i’n dal i deimlo nad oeddwn i’n gallu disgwyl i Jehofa fy ngharu.

“Ychydig o ddyddiau yn ddiweddarach, darllenais adnod a newidiodd fy mywyd. Yr adnod oedd Eseia 1:18, lle mae Jehofa yn dweud: ‘Dewch, gadewch i ni ddeall ein gilydd . . . Os ydy’ch pechodau chi’n goch llachar, gallan nhw droi’n wyn fel yr eira.’ Roeddwn i’n teimlo fel petai Jehofa ei hun yn dweud wrthyf: ‘Tyrd rŵan Vicky, gad inni ddeall ein gilydd. Dw i’n dy adnabod di, dw i’n gwybod am dy bechodau, dw i’n gwybod beth sydd yn dy galon—a dw i’n dy garu di.’

“Roeddwn i’n troi a throsi’r noson honno. Yn dal i amau roeddwn i nad oedd Jehofa yn gallu fy ngharu i, ond dechreuais feddwl am aberth pridwerthol Iesu. Yn fwyaf sydyn, dyma hi’n gwawrio arna’ i, roedd Jehofa wedi bod mor amyneddgar efo fi am amser hir iawn, ac yn dangos imi ei fod yn fy ngharu i mewn cymaint o wahanol ffyrdd. Ond eto, roedd hi fel petawn i’n dweud wrtho: ‘Dydy dy gariad ddim yn ddigon mawr i fy nghyrraedd i. Dydy aberth dy Fab ddim yn ddigon i faddau imi fy mhechodau.’ Mewn ffordd, roeddwn i’n taflu’r pridwerth yn ôl at Jehofa. Ond, o’r diwedd, drwy fyfyrio ar y pridwerth, dechreuais deimlo bod Jehofa yn fy ngharu.”

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu