LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • ijwbq erthygl 115
  • Beth Yw’r Trychineb Mawr?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Beth Yw’r Trychineb Mawr?
  • Atebion i Gwestiynau am y Beibl
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • Ateb y Beibl
  • Arhosa’n Ffyddlon Trwy’r Gorthrymder Mawr
    Y Tŵr Gwylio yn Cyhoeddi Terynas Jehofa (Rhifyn Astudio)—2019
Atebion i Gwestiynau am y Beibl
ijwbq erthygl 115
Rhai sy’n goroesi’r trychineb mawr yn gafael yn ei gilydd

Beth Yw’r Trychineb Mawr?

Ateb y Beibl

Y trychineb mawr fydd yr amser mwyaf anodd erioed i bobl ar y ddaear. Yn ôl proffwydoliaethau yn y Beibl, bydd yn digwydd yn ystod “y dyddiau olaf” neu “amser y diwedd.” (2 Timotheus 3:1; Daniel 12:4, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig) Bydd y trychineb hwnnw’n rhywbeth “sydd ddim wedi digwydd o ddechrau creadigaeth Duw hyd yr amser hwnnw, ac na fydd yn digwydd byth eto.” ​—Marc 13:19; Daniel 12:1; Mathew 24:21, 22.

Digwyddiadau yn ystod y trychineb mawr

  • Dinistrio gau grefydd. Bydd gau grefydd yn cael ei dinistrio a hynny’n sydyn ac yn annisgwyl. (Datguddiad 17:​1, 5; 18:​9, 10, 21) Bydd grymoedd gwleidyddol y byd, sy’n cael eu cynrychioli gan y Cenhedloedd Unedig, yn cyflawni ewyllys Duw drwy wneud hyn.​—Datguddiad 17:​3, 15-​18.a

  • Ymosod ar wir grefydd. Bydd cynghrair o genhedloedd, sy’n cael ei disgrifio yn llyfr Eseciel fel “Gog o dir Magog,” yn ceisio dinistrio pawb sy’n dilyn y gwir grefydd. Ond bydd Duw yn amddiffyn ei addolwyr.​—Eseciel 38:​1, 2, 9-​12, 18-​23.

  • Barnu trigolion y ddaear. Bydd Iesu yn barnu pawb ar y ddaear ac “yn gwahanu pobl, un oddi wrth y llall, yn union fel y mae bugail yn gwahanu’r defaid oddi wrth y geifr.” (Mathew 25:31-​33) Sail ei farnedigaeth fydd y ffordd mae unigolion wedi cefnogi, neu fethu cefnogi, “brodyr” Iesu, sef y rhai a fydd yn llywodraethu gydag ef yn y nefoedd.​—Mathew 25:34-​46.

  • Casglu’r rhai a fydd yn llywodraethu yn y Deyrnas. Bydd rhai ffyddlon sydd wedi cael eu dewis i reoli gyda Christ yn gorffen eu bywydau ar y ddaear, ac yn cael eu hatgyfodi i’r nefoedd.​—Mathew 24:31; 1 Corinthiaid 15:50-​53; 1 Thesaloniaid 4:​15-​17.

  • Armagedon. Mae “rhyfel dydd mawr Duw’r Hollalluog” hefyd yn cael ei alw’n ‘ddydd Jehofa.’ (Datguddiad 16:14, 16; 2 Pedr 3:​12; Eseia 13:9) Bydd y rhai sy’n cael eu barnu’n anffafriol gan Iesu yn cael eu dinistrio. (Seffaneia 1:​18; 2 Thesaloniaid 1:​6-​10). Bydd trefn wleidyddol y byd cyfan, sy’n cael ei darlunio yn y Beibl fel bwystfil gwyllt â saith pen iddo, yn cael ei dinistrio.​—Datguddiad 19:19-​21.

Digwyddiadau ar ôl y trychineb mawr

  • Rhwymo Satan a’r cythreuliaid. Bydd angel pwerus yn hyrddio Satan a’r cythreuliaid “i mewn i’r dyfnder,” sydd yn symbol o gyflwr anweithredol, tebyg i farwolaeth. (Datguddiad 20:​1-3) Bydd sefyllfa Satan yn y dyfnder yn debyg i fod yn y carchar; heb allu dylanwadu ar neb.​—Datguddiad 20:7.

  • Dechrau’r Mileniwm. Bydd Teyrnas Dduw yn rheoli am fil o flynyddoedd, a bydd hynny yn dod â llawer o fendithion i’r ddynolryw. (Datguddiad 5:​9, 10; 20:​4, 6) Bydd ‘tyrfa fawr’ ddi-rif yn “dod allan o’r trychineb mawr,” a goroesi i weld dechrau’r Mileniwm ar y ddaear.​—Datguddiad 7​:9, 14; Salm 37:9-​11.

a Yn llyfr Datguddiad, mae gau grefydd yn cael ei darlunio fel Babilon Fawr, ”y butain fawr.” (Datguddiad 17:​1, 5) Mae’r bwystfil gwyllt ysgarlad, sy’n dinistrio Babilon Fawr, yn symbol o gyfundrefn ryngwladol sy’n ceisio uno a chynrychioli cenhedloedd y byd. Enw gwreiddiol y gyfundrefn hon oedd Cynghrair y Cenhedloedd; yr enw arni heddiw yw’r Cenhedloedd Unedig.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu