-
Beth Mae’n ei Olygu i Fod yn Berson Ysbrydol?Y Tŵr Gwylio (Rhifyn Astudio)—2018 | Chwefror
-
-
BETH YW PERSON YSBRYDOL?
3. Sut mae’r Beibl yn disgrifio’r gwahaniaeth rhwng person ysbrydol ac un corfforol?
3 Mae’r apostol Paul yn ein helpu ni i ddeall y gwahaniaeth rhwng pobl ysbrydol a rhai corfforol. (Darllen 1 Corinthiaid 2:14-16.) Dydy person corfforol “ddim yn derbyn beth mae Ysbryd Duw yn ei ddweud—maen nhw’n gweld y cwbl fel nonsens pur. Dydyn nhw ddim yn gallu deall am fod angen dirnadaeth ysbrydol i ddeall.” I’r gwrthwyneb, “mae’r cwbl yn gwneud sens” i berson ysbrydol oherwydd iddo “weld pethau o safbwynt y Meseia,” sy’n golygu ei fod yn ymdrechu i feddwl fel y mae Crist yn meddwl. Mae Paul yn ein hannog ni i fod yn bobl ysbrydol. Ym mha ffyrdd eraill y mae pobl ysbrydol yn wahanol i bobl gorfforol?
-
-
Beth Mae’n ei Olygu i Fod yn Berson Ysbrydol?Y Tŵr Gwylio (Rhifyn Astudio)—2018 | Chwefror
-
-
6. Sut gallwn ni adnabod person ysbrydol?
6 Yn wahanol i berson corfforol, mae person ysbrydol yn trysori ei berthynas â Jehofa. Mae’n caniatáu iddo ef ei hun gael ei arwain gan ysbryd glân Duw ac mae’n ymdrechu i efelychu Jehofa. (Effesiaid 5:1) Mae’n gweithio’n galed i ddysgu am sut mae Jehofa yn meddwl ac i weld pethau fel mae Jehofa yn eu gweld. Mae Duw yn real iddo. Yn groes i berson corfforol, mae person ysbrydol yn parchu safonau Jehofa ym mhob agwedd ar ei fywyd. (Salm 119:33; 143:10) Dydy person ysbrydol ddim yn ildio i’r “natur bechadurus” ond yn ceisio meithrin ffrwyth yr ysbryd. (Galatiaid 5:22, 23) Er mwyn deall yn well beth mae bod yn berson ysbrydol yn ei feddwl, meddylia am y gymhariaeth hon: Mae rhywun sy’n llwyddo yn y byd busnes yn cael ei alw’n ddyn busnes da, ac mae rhywun sy’n meddwl o ddifri am y ffordd y mae’n addoli Duw yn cael ei alw’n berson ysbrydol da.
7. Beth mae’r Beibl yn ei ddweud am bobl sydd â meddylfryd ysbrydol?
7 Dywedodd Iesu fod pobl sydd â meddylfryd ysbrydol yn hapus. Yn Mathew 5:3, rydyn ni’n darllen: “Gwyn eu byd y rhai sy’n dlodion yn yr ysbryd, oherwydd eiddynt hwy yw teyrnas nefoedd.” (BCND) Mae Rhufeiniaid 8:6 yn esbonio bod ein bywydau yn dibynnu ar feddwl fel mae Jehofa yn meddwl: “Os mai’r hunan sy’n eich rheoli chi, byddwch chi’n marw. Ond os ydy’r Ysbryd Glân yn eich rheoli chi, mae gynnoch chi fywyd a heddwch perffaith gyda Duw.” Felly, os ydyn ni’n bobl ysbrydol, gallwn ni gael heddwch â Duw, heddwch mewnol, a gobaith am fywyd tragwyddol.
-