-
Beth Fydd yn Eich Helpu Chi i Ddal Ati i Astudio’r Beibl?Mwynhewch Fywyd am Byth!—Cwrs Rhyngweithiol am y Beibl
-
-
5. Daliwch ati er gwaethaf gwrthwynebiad
Ar adegau, efallai bydd eraill yn ceisio eich perswadio chi i roi’r gorau i astudio’r Beibl. Sylwch ar esiampl Francesco. Gwyliwch y FIDEO, ac yna trafodwch y cwestiynau canlynol:
Yn y fideo, sut roedd teulu a ffrindiau Francesco yn ymateb pan soniodd am yr hyn yr oedd yn ei ddysgu?
Sut cafodd ei wobrwyo am ddal ati?
Darllenwch 2 Timotheus 2:24, 25, ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:
Sut mae eich teulu a’ch ffrindiau yn teimlo am yr hyn rydych chi’n ei ddysgu?
Yn ôl yr adnodau hyn, sut dylech chi ymateb pan fydd rhywun yn anhapus eich bod chi’n astudio’r Beibl? Pam?
-
-
Sut Gallwch Chi Rannu’r Newyddion Da?Mwynhewch Fywyd am Byth!—Cwrs Rhyngweithiol am y Beibl
-
-
Wrth rannu’r newyddion da, meddyliwch nid yn unig am beth i’w ddweud ond hefyd am sut i’w ddweud. Darllenwch 2 Timotheus 2:24 a 1 Pedr 3:15, 16, ac yna trafodwch y cwestiynau hyn:
Sut gallwch chi roi’r cyngor yn yr adnodau hyn ar waith wrth siarad ag eraill am y Beibl?
Efallai bydd rhai yn y teulu, neu rai o’ch ffrindiau, yn anghytuno â chi. Beth gallwch chi ei wneud? Beth na ddylech chi ei wneud?
Pam mae gofyn cwestiynau caredig yn well na dweud wrth bobl beth dylen nhw ei gredu?
-