-
Pam Rydyn Ni’n Gwisgo’n Smart ar Gyfer Ein Cyfarfodydd?Pwy Sy’n Gwneud Ewyllys Jehofa Heddiw?
-
-
GWERS 8
Pam Rydyn Ni’n Gwisgo’n Smart ar Gyfer Ein Cyfarfodydd?
Gwlad yr Iâ
Mecsico
Gini-Bisaw
Ynysoedd y Philipinau
Ydych chi wedi sylwi ar ba mor smart yw gwisg Tystion Jehofa yn y lluniau sydd yn y llyfryn hwn? Pam rydyn ni’n rhoi sylw i’r ffordd rydyn ni’n gwisgo?
I ddangos parch tuag at ein Duw. Mae’n wir fod Duw yn gweld y tu hwnt i’r hyn sydd ar y tu allan. (1 Samuel 16:7) Er hynny, wrth inni ddod at ein gilydd i addoli, rydyn ni’n awyddus i ddangos parch at Dduw ac at ein cyd-addolwyr. Pe baen ni’n sefyll o flaen barnwr mewn llys, mae’n debyg y bydden ni’n gwisgo’n smart i ddangos parch tuag at ei swydd. Yn yr un modd, mae gwisgo’n smart yn ein cyfarfodydd yn dangos parch tuag at Jehofa, “Barnwr yr holl ddaear,” ac at y lle rydyn ni yn Ei addoli ef.—Genesis 18:25.
I ddangos ein gwerthoedd. Mae’r Beibl yn annog Cristnogion i fod yn “wylaidd a diwair” yn eu gwisg. (1 Timotheus 2:9, 10) Mae hynny’n golygu ein bod ni’n osgoi gwisgo mewn ffordd sy’n tynnu sylw aton ni’n hunain, sy’n bryfoclyd, neu sy’n dangos gormod o gnawd. Hefyd, mae’n ein helpu ni i ddewis dillad deniadol a pharchus yn hytrach na dillad sydd yn flêr neu sy’n dilyn ffasiynau eithafol. Heb ddweud yr un gair, gall gwisgo’n ddeniadol addurno “athrawiaeth Duw” a’i “ogoneddu.” (Titus 2:10; 1 Pedr 2:12) Mae gwisgo’n smart ar gyfer ein cyfarfodydd yn gwneud gwahaniaeth i agwedd pobl eraill tuag at addoli Jehofa.
Bydd croeso cynnes ichi yn y cyfarfodydd hyd yn oed os nad ydych chi’n medru gwisgo’n ffurfiol. Nid oes angen gwisgo’n ddrud nac yn ffansi i’ch dillad fod yn addas, yn lân, ac yn daclus.
Pa mor bwysig yw ein gwisg wrth addoli Duw?
Pa egwyddorion sy’n effeithio ar ein dewisiadau ynglŷn â’n gwisg?
-
-
Beth Yw’r Ffordd Orau o Baratoi ar Gyfer y Cyfarfodydd?Pwy Sy’n Gwneud Ewyllys Jehofa Heddiw?
-
-
GWERS 9
Beth Yw’r Ffordd Orau o Baratoi ar Gyfer y Cyfarfodydd?
Cambodia
Wcráin
Os ydych chi’n astudio’r Beibl ag un o Dystion Jehofa, mae’n debyg eich bod chi’n edrych dros y deunydd o flaen llaw. Er mwyn elwa’n llawn ar y cyfarfodydd, peth da fyddai paratoi yn yr un modd. Bydd astudio’n gyson yn dwyn ffrwyth ichi.
Penderfynwch pa bryd y gallwch astudio ac ym mha le. Pa bryd yw’r amser gorau ichi ganolbwyntio? Ai’n gynnar yn y bore, cyn mynd i’r gwaith neu gyda’r nos ar ôl i’r plant fynd i’w gwelyau? Hyd yn oed os nad ydych chi’n gallu astudio am gyfnod hir, penderfynwch faint o amser y gallwch ei roi o’r neilltu a pheidiwch â gadael i bethau eraill dorri ar eich traws. Dewiswch rywle distaw a diffoddwch y radio, y teledu, y ffôn symudol neu unrhyw beth arall a allai dynnu eich sylw. Bydd gweddïo cyn astudio yn eich helpu chi i anghofio am eich pryderon ac i ganolbwyntio ar Air Duw.—Philipiaid 4:6, 7.
Ysgrifennwch nodiadau a byddwch yn barod i gyfrannu. Dechreuwch drwy fwrw bras olwg dros y deunydd. Ystyriwch deitl yr erthygl neu’r bennod a’r ffordd mae’r isbenawdau’n cysylltu â’r thema. Edrychwch ar y lluniau a’r cwestiynau adolygu i weld beth yw’r prif bwyntiau. Yna, darllenwch bob paragraff a chwiliwch am yr atebion i’r cwestiynau. Darllenwch yr adnodau y cyfeirir atyn nhw, ac ystyriwch sut maen nhw’n cefnogi’r hyn sy’n cael ei ddweud. (Actau 17:11) Ar ôl dod o hyd i’r ateb, tanlinellwch ychydig o eiriau neu ambell frawddeg allweddol a fydd yn dwyn yr ateb yn ôl i’ch cof. Wedyn, fe allwch chi godi eich llaw yn y cyfarfod a gwneud sylw byr yn eich geiriau eich hun.
Bydd astudio’r pynciau sy’n cael eu trafod yn ein cyfarfodydd yn cyfrannu at eich ‘trysorfa’ o wybodaeth Feiblaidd.—Mathew 13:51, 52.
Sut gallwch drefnu eich amser er mwyn paratoi’n rheolaidd ar gyfer y cyfarfodydd?
Sut gallwch chi baratoi er mwyn gwneud sylw yn y cyfarfodydd?
-
-
Beth Yw Addoliad Teuluol?Pwy Sy’n Gwneud Ewyllys Jehofa Heddiw?
-
-
GWERS 10
Beth Yw Addoliad Teuluol?
De Corea
Brasil
Awstralia
Gini
Mae Jehofa bob amser wedi annog teuluoedd i dreulio amser gyda’i gilydd er mwyn eu cryfhau eu hunain yn ysbrydol. (Deuteronomium 6:6, 7) Dyna pam mae Tystion Jehofa yn neilltuo amser bob wythnos i addoli fel teuluoedd. Mewn awyrgylch anffurfiol, maen nhw’n trafod pynciau ysbrydol sydd wedi eu teilwra ar gyfer anghenion y teulu. Hyd yn oed os ydych chi’n byw ar eich pen eich hun, gallwch agosáu at Dduw drwy ddewis prosiect Beiblaidd i’w astudio.
Mae’n gyfle i nesáu at Jehofa. “Nesewch at Dduw, ac fe nesâ ef atoch chwi.” (Iago 4:8) Rydyn ni’n dod i adnabod Jehofa yn well drwy ddysgu am ei bersonoliaeth a’i weithgareddau yn ei Air, y Beibl. Ffordd hawdd o ddechrau’r addoliad teuluol yw darllen rhan o’r Beibl yn uchel drwy ddilyn efallai raglen Cyfarfod Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth. Gellir aseinio rhai adnodau i bob aelod o’r teulu, a thrafod wedyn yr hyn rydych wedi ei ddysgu.
Mae’n gyfle i glosio at ein gilydd fel teulu. Pan fydd teuluoedd yn astudio’r Beibl, bydd y berthynas rhwng gwŷr a gwragedd, a rhwng rhieni a phlant yn cael ei chryfhau. Dylai’r amser hwn fod yn hapus a heddychlon ac yn rhywbeth y mae pawb yn edrych ymlaen ato. Gall rhieni ddewis pynciau sydd yn ymarferol ac yn addas i oedran eu plant, efallai drwy ddefnyddio erthyglau o’r Watchtower a’r Awake! neu o’n gwefan jw.org. Mae’n gyfle ichi drafod unrhyw broblemau sydd wedi codi yn yr ysgol, a sut i ddelio gyda nhw. Ydych wedi meddwl am wylio rhaglen oddi ar JW Broadcasting (tv.jw.org) ac wedyn ei thrafod fel teulu? Braf fyddai ymarfer efallai rai o’r caneuon ar gyfer y cyfarfodydd, a chael rhywbeth i’w fwyta ar ôl ichi orffen.
Mae’r amser rydyn ni’n ei dreulio bob wythnos yn addoli Jehofa fel teulu yn ein helpu ni i fwynhau astudio Gair Duw. Mae Jehofa yn sicr o fendithio eich ymdrechion!—Salm 1:1-3.
Pam rydyn ni’n neilltuo amser bob wythnos ar gyfer yr addoliad teuluol?
Sut gall rhieni sicrhau bod yr addoliad teuluol yn brofiad hapus i bawb?
-