HELP AR GYFER Y TEULU | MAGU PLANT
Plant a Ffonau Clyfar—Rhan 2: Dysgu Plant i Wneud Defnydd Doeth o Ffonau Clyfar
Mae ffôn clyfar yn debyg i tŵl trydanol—gall fod yn ddefnyddiol neu’n niweidiol, yn dibynnu ar sut mae’n cael ei ddefnyddio. Sut gallwch chi ddysgu eich plant i fod yn ofalus wrth ddefnyddio’r ddyfais bwerus hon? Er enghraifft, faint o amser sgrin sy’n rhesymol?a
Beth ddylech chi ei wybod?
Mae ffonau clyfar yn agor y drws i beryg. Fel dangosodd yr erthygl “Plant a Ffonau Clyfar—Rhan 1: A Ddylwn i Roi Ffôn Clyfar i Fy Mhlentyn?” mae ffôn clyfar yn rhoi mynediad i bopeth sydd ar gael ar y we—y da a’r drwg.
“Mae’n hawdd anghofio bod ffonau clyfar yn gadael i’n plant ddod ar draws pob math o bobl a syniadau peryglus.”—Brenda.
Mae plant angen arweiniad. Cafodd plant eu geni i fyd o dechnoleg, tra bod llawer o oedolion ond wedi dechrau ei defnyddio yn ddiweddar. Ond, dydy hynny ddim yn golygu does gan rieni ddim clem sut i ddefnyddio technoleg, nac yn golygu bod eu plant yn gwybod yn well sut a phryd i ddefnyddio eu ffonau.
Efallai fod eich plant yn gallu defnyddio ffonau clyfar yn well na chi, ond peidiwch â chymysgu gallu ag aeddfedrwydd. Mae hyd yn oed plant sy’n gwybod llawer am dechnoleg angen arweiniad eu rhieni er mwyn bod yn gyfrifol wrth ddefnyddio ffonau clyfar.
“Mae rhoi ffôn clyfar i dy blentyn heb hyfforddiant yn debyg i roi allwedd car iddo, gadael iddo eistedd o flaen yr olwyn, dechrau’r injan, a dweud ‘Plîs bydda’n ofalus’ heb roi gwersi gyrru iddo.”—Seth.
Beth allwch chi ei wneud?
Dysgwch beth gall ffôn eich plentyn ei wneud. Er mwyn helpu eich plentyn i ddefnyddio’r ffôn yn ddoeth, mae’n bwysig ichi ddod yn gyfarwydd â’i nodweddion. Er enghraifft:
Pa osodiadau sydd ar gael i rieni er mwyn cyfyngu defnydd y ffôn?
Oeddech chi’n gwybod dydy gosodiadau sy’n blocio deunydd anaddas ddim yn gweithio bob tro?
Os ydych chi’n dysgu mwy am ffôn clyfar eich plentyn, byddwch yn fwy parod i’w helpu ei ddefnyddio mewn ffordd gyfrifol.
Egwyddor o’r Beibl: ‘Mae person deallus yn ddylanwadol.’—Diarhebion 24:5.
Gosodwch derfynau. Penderfynwch beth byddwch yn ei ganiatáu a’i wahardd. Er enghraifft:
A fyddwch chi’n caniatáu i’ch plentyn ddod â’i ffôn i’r bwrdd cinio, neu ei ddefnyddio wrth ymweld â theulu neu ffrindiau?
A fyddwch chi’n caniatáu i’ch plentyn gadw ei ffon yn ei ystafell dros nos?
Pa apiau byddwch yn eu caniatáu?
Faint o amser sgrin sy’n ormod?
A fyddwch yn rheoli faint o amser mae’ch plentyn yn cael defnyddio’r ffôn bob diwrnod?
Gwnewch eich rheolau’n glir, a byddwch yn barod i ddisgyblu’ch plentyn os ydy’n torri’r rheolau.
Egwyddor o’r Beibl: “Paid bod ag ofn disgyblu dy blentyn.”—Diarhebion 23:13.
Monitro. Gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gwybod cyfrinair eich plentyn. Edrychwch ar ei ffôn yn ôl yr angen, gan gynnwys negeseuon, apiau, lluniau, a hanes y porwr gwe.
“Dywedon ni wrth ein merch y byddwn ni’n edrych ar ei ffôn bob hyn a hyn yn ddirybudd. Os byddai’n defnyddio’i ffôn yn anghyfrifol, bydden ni’n cyfyngu ei defnydd ohono.”—Lorraine.
Fel rhiant, mae gynnoch chi bob hawl i wybod sut mae’ch plentyn yn defnyddio’i ffôn.
Egwyddor o’r Beibl: “Mae’r ffordd mae person ifanc yn ymddwyn yn dangos ydy e’n gymeriad glân a gonest ai peidio.”—Diarhebion 20:11.
Dysgwch safonau. Helpwch eich plentyn i eisiau gwneud y peth iawn. Pam mae’n bwysig? Os ydy plentyn yn benderfynol o guddio rhywbeth, bydd yn ffeindio ffordd dim ots beth mae ei rieni yn ei wneud.b
Felly, dysgwch rinweddau da i’ch plentyn, fel gonestrwydd a hunanreolaeth, ac i deimlo’n gyfrifol am ei ymddygiad. Mae plentyn sydd â safonau moesol da yn fwy tebygol o ddefnyddio ffôn yn gall.
Egwyddor o’r Beibl: “Mae’r rhai sydd wedi tyfu i fyny . . . wedi dod i arfer gwahaniaethu rhwng y drwg a’r da.”—Hebreaid 5:14.
a Yn yr erthygl hon, mae’r term “ffôn clyfar” yn cael ei ddefnyddio i gyfeirio at ffonau symudol sy’n gallu mynd ar-lein. Yn syml, mae’n gyfrifiadur bach.
b Er enghraifft, mae rhai yn defnyddio ap sy’n ymddangos yn ddiniwed—efallai fel cyfrifiannell—er mwyn cuddio pethau dydyn nhw ddim eisiau i’w rhieni eu gweld.