LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • mrt erthygl 32
  • Amddiffynnwch Eich Hunan Rhag Camwybodaeth

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Amddiffynnwch Eich Hunan Rhag Camwybodaeth
  • Pynciau Eraill
  • Erthyglau Tebyg
  • Plant a’r Cyfryngau Cymdeithasol—Rhan 1: A Ddylai Fy Mhlentyn Ddefnyddio’r Cyfryngau Cymdeithasol?
    Help ar Gyfer y Teulu
  • Sut Mae’r Cyfryngau Cymdeithasol yn Effeithio Arna I?
    Cwestiynau Pobl Ifanc
  • Ydy’r Cyfryngau Cymdeithasol yn Niweidio Eich Plant?—Sut Gall y Beibl Helpu Rhieni?
    Pynciau Eraill
  • Gwylia Rhag Camwybodaeth
    Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2023
Gweld Mwy
Pynciau Eraill
mrt erthygl 32
Dyn yn ystyried gwybodaeth o lawer o wahanol ffynonellau.

Amddiffynnwch Eich Hunan Rhag Camwybodaeth

Heddiw, mae’n haws nag erioed i gael hyd i wybodaeth, gan gynnwys y fath sy’n eich helpu i gadw’n ddiogel ac yn iach. Ond wrth ichi chwilio, rhaid bod yn ymwybodol o wybodaeth anghywir, fel:

  • Newyddion camarweiniol

  • Adroddiadau ffug

  • Damcaniaethau am gynllwynion

Er enghraifft, yn ystod y pandemig COVID-19, rhybuddiodd ysgrifennydd cyffredinol y Cenhedloedd Unedig am epidemig peryglus o gamwybodaeth. “Mae cyngor iechyd niweidiol a thriniaethau meddygol twyllodrus ar gynnydd. Mae llawer o anwireddau i’w clywed ar y teledu a’r radio. Mae damcaniaethau gwyllt am gynllwynion yn rhemp ar y We. Mae casineb yn mynd ar led, mae’n beth cyffredin iawn i fynegi casineb a rhagfarn tuag at wahanol bobl a grwpiau.”

Wrth gwrs, dydy camwybodaeth ddim yn beth newydd. Ond, rhagfynegodd y Beibl ar gyfer ein dyddiau ni y byddai “pobl ddrwg a thwyllwyr yn mynd o ddrwg i waeth, yn twyllo pobl eraill ond wedi’u twyllo’u hunain yr un pryd.” (2 Timotheus 3:1, 13) Ac mae’r We yn gadael inni dderbyn—ac i ledaenu’n anfwriadol—newyddion ffug yn haws ac yn gynt nac erioed o’r blaen. O ganlyniad, gall ein e-byst, ein cyfryngau cymdeithasol, a’n cyflenwadau newyddion gael eu llenwi gyda ffeithiau wedi eu camliwio a hanner gwirioneddau.

Sut gallwch chi amddiffyn eich hun rhag gwybodaeth gamarweiniol a damcaniaethau am gynllwynion? Ystyriwch rai egwyddorion y Beibl a all helpu.

  • Dyn yn meddwl am bethau mae wedi eu gweld a’u clywed.

    Peidiwch â choelio popeth rydych chi’n ei weld neu ei glywed

    Mae’r Beibl yn dweud: “Mae’r twpsyn yn fodlon credu unrhyw beth; ond mae’r person call yn fwy gofalus.”—Diarhebion 14:15.

    Gallwn ni gael ein twyllo yn hawdd os nad ydyn ni’n ofalus. Ystyriwch, er enghraifft, lluniau gyda chapsiynau neu fideos byr sy’n cael eu lledaenu’n eang ar lein, yn enwedig drwy gyfryngau cymdeithasol. Yn aml, mae’r fath eitemau, a elwir memynnau neu memes, i fod yn ddoniol. Ond, mae hi’n ddigon hawdd i luniau a chlipiau fideo gael eu haddasu a’u cymryd allan o’u cyd-destun. Mae’n bosib heddiw i hyd yn oed greu fideos o bobl go iawn yn gwneud neu’n dweud pethau wnaethon nhw erioed mo’u gwneud na’u dweud.

    “Mae’r rhan fwyaf o’r gamwybodaeth mae ymchwilwyr yn dod ar ei thraws ar lwyfannau cymdeithasol yn cynnwys cyfryngau sy’n camliwio’r cyd-destun, fel memynnau.”—Axios Media.

    Gofynnwch i chi’ch hun: ‘Ydy’r cynnwys yn newyddion go iawn neu meme yn unig?’

  • Chwyddwydr.

    Meddyliwch yn ofalus am y ffynhonnell a’r cynnwys

    Mae’r Beibl yn dweud: “Rhowch brawf ar bob peth.”—1 Thesaloniaid 5:21, Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig.

    Cyn credu’r hanesyn neu ei anfon yn ei flaen, hyd yn oed un sy’n boblogaidd neu’n cael ei ailadrodd ar y newyddion, gwnewch yn siŵr ei fod yn wir. Sut?

    Sicrhewch fod y ffynhonnell yn ddibynadwy. Gall cwmnïau newyddion a chyfundrefnau eraill gamliwio adroddiad sy’n ymddangos yn y wasg oherwydd eu buddiannau masnachol neu eu daliadau gwleidyddol. Ar brydiau, gall ffrindiau heb yn wybod iddyn nhw, basio camwybodaeth ymlaen drwy negeseuon e-bost neu sylwadau ar gyfryngau cymdeithasol. Felly, peidiwch ag ymddiried mewn adroddiad newyddion oni bai eich bod chi’n gallu gwirio’r ffynhonnell wreiddiol.

    Sicrhewch fod y cynnwys yn gyfredol ac yn gywir. Edrychwch am ddyddiadau, ffeithiau sy’n bosib eu cadarnhau, a thystiolaeth gref i gefnogi beth sy’n cael ei ddweud. Byddwch yn arbennig o ofalus gyda gwybodaeth gymhleth sydd wedi ei gorsymleiddio neu adroddiad sydd wedi ei roi at ei gilydd i ennyn ymateb emosiynol.

    “Mae gwirio’r ffeithiau yn dod yr un mor bwysig â golchi dwylo.” Sridhar Dharmapuri, Uwch Swyddog Diogelwch Bwyd a Maeth y Cenhedloedd Unedig.

    Gofynnwch i chi’ch hun: ‘Ydy’r adroddiad newyddion yn cymylu’r llinell rhwng ffaith a barn neu’n cyflwyno un ochr y stori yn unig?’

  • Rhestr gwirio.

    Gadewch i’r ffeithiau eich arwain, nid eich dewis personol

    Mae’r Beibl yn dweud: “Mae trystio’r hunan yn beth twp i’w wneud.”—Diarhebion 28:26.

    Rydyn ni’n tueddu i ymddiried mewn gwybodaeth sy’n cefnogi’r hyn rydyn ni eisiau ei gredu. Yn aml, bydd cwmnïau Rhyngrwyd yn teilwra ein crynodebau newyddion a chyfryngau cymdeithasol ar sail ein diddordebau a hanes pori’r We. Ond, dydy’r hyn rydyn ni’n hoffi clywed ddim bob amser beth rydyn ni angen ei glywed.

    “Mae gan bobl y gallu i fod yn feddylgar a rhesymegol, ond mae ein dymuniadau, ein gobeithion, ein hofnau, a’n cymhellion yn aml yn gwneud inni dderbyn rhywbeth fel ei fod yn wir os ydy hwnnw’n cefnogi’r hyn rydyn ni eisiau ei gredu.” Peter Ditto, seicolegydd cymdeithasol.

    Gofynnwch i chi’ch hun: ‘Ydw i’n trystio’r wybodaeth dim ond am ei bod yr hyn dw i eisiau ei gredu?’

  • Gwybodaeth ffug yn cael ei thaflu i fin sbwriel.

    Stopiwch ledaenu camwybodaeth

    Mae’r Beibl yn dweud: “Paid hel straeon sydd ddim yn wir.”—Exodus 23:1.

    Cofiwch fod gan y wybodaeth a rannwch ag eraill y gallu i effeithio ar eu meddyliau a’u gweithredoedd. Hyd yn oed os ydych chi’n rhannu gwybodaeth anghywir yn anfwriadol, mae’r canlyniadau yn gallu bod yn niweidiol.

    “Y peth pwysicaf i’w wneud cyn rhannu gwybodaeth yw arafu, pwyllo a gofyn i chi’ch hun, ‘Ydw i’n ddigon siŵr am hyn i’w rannu ag eraill?’ Pe tai pawb yn gwneud hynny bydden ni’n gweld lleihad dramatig mewn camwybodaeth ar lein.” Peter Adams, un o is-lywyddion Prosiect Llythrennedd y Newyddion.

    Gofynnwch i chi’ch hun: ‘Ydw i’n rhannu’r wybodaeth hon am fy mod i’n gwybod ei bod yn wir?’

Y gwirionedd ynglŷn â damcaniaethau am gynllwynion

“Mae damcaniaethau am gynllwynion yn chwarae rôl fwy yn y ffordd mae pobl yn meddwl ac yn ymddwyn nac erioed o’r blaen,” meddai Shauna Bowes, seicolegydd ymchwil. Dyma beth rydych chi angen ei wybod ynglŷn â damcaniaethau am gynllwynion.

Beth yw damcaniaeth am gynllwyn? Mae damcaniaeth am gynllwyn yn honiad fod grwpiau drygionus a grymus wedi cynllwynio’n gyfrinachol i achosi digwyddiad trawiadol neu drychinebus.

Pam maen nhw’n beryglus? Gall damcaniaethau am gynllwynion danseilio ffydd mewn ffynonellau dibynadwy o wybodaeth, a gall rhai achosi i bobl wrthod cyngor iechyd neu ddiogelwch. Mae’r fath damcaniaeth yn gallu hyrwyddo rhagfarn a thrais yn erbyn y grŵp mae pobl yn meddwl sydd y tu ôl i’r cynllwyn.

Pam maen nhw mor boblogaidd? Mae damcaniaethau am gynllwynion yn cynyddu yn ystod “cyfnodau o bryder, ansicrwydd, neu galedi eang,” meddai’r Encyclopaedia Britannica, fel “yn ystod rhyfeloedd, dirwasgiadau economaidd ac ar ôl trychinebau naturiol fel tswnamïau, daeargrynfeydd a phandemigau.” Ar adegau ansefydlog fel y rhain, mae pobl yn derbyn damcaniaethau am gynllwynion oherwydd eu bod nhw’n cefnogi’r hyn maen nhw’n ei gredu neu’n eu helpu nhw deall pam mae pethau drwg yn digwydd.

Sut gall y Beibl eich helpu i amddiffyn eich hunan rhag damcaniaethau am gynllwynion? Mae’r Beibl yn rhoi cyngor ymarferol a all ein helpu i reoli ein pryder yn ystod adegau anodd. Mae’n datgelu beth sydd yn achosi’r problemau sy’n bodoli yn ogystal â sut bydd y problemau hynny’n cael eu datrys. I ddysgu mwy, gwyliwch y fideo Pam Astudio’r Beibl?

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu