LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • g17 Rhif 2 tt. 10-11
  • Ymweld â Seland Newydd

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Ymweld â Seland Newydd
  • Deffrwch!—2017
Deffrwch!—2017
g17 Rhif 2 tt. 10-11
Milford Sound, Seland Newydd

Milford Sound

GWLEDYDD A PHOBLOEDD

Ymweld â SELAND NEWYDD

Seland Newydd ar fap y byd

TUA 800 mlynedd yn ôl, teithiodd llwythau’r Maori filoedd o filltiroedd ar draws y môr i ymgartrefu yn Seland Newydd. Yno, gwnaethon nhw ddarganfod tiroedd a oedd yn hollol wahanol i ynysoedd trofannol Polynesia, sef eu hen gartref. Dyma wlad o fynyddoedd a rhewlifoedd, tarddellau thermol, ac eira. Daeth grŵp arall o ymsefydlwyr i Seland Newydd tua phum canrif yn ddiweddarach, o Ewrop bell y tro hwn. Heddiw, mae’r rhan fwyaf o bobl Seland Newydd yn cydnabod eu traddodiadau Eingl-Sacsonaidd a Pholynesaidd. Mae bron i 90 y cant o’r boblogaeth yn byw mewn dinasoedd. Yr hyn sy’n arwyddocaol am Wellington yw mai hithau yw’r brif ddinas fwyaf deheuol yn y byd.

Pyllau mwd berwedig ar Ynys y Gogledd yn Seland Newydd

Pyllau mwd berwedig ar Ynys y Gogledd

Oherwydd harddwch rhyfeddol ac amrywiol y golygfeydd, does dim syndod fod tua thair miliwn o bobl yn ymweld â Seland Newydd bob blwyddyn er gwaethaf ei lleoliad anghysbell.

Coedrhedyn arian

Gall coedrhedyn arian dyfu i dros 30 troedfedd

Y takahe dihediad

Hyd at 1948, roedd pobl yn meddwl bod y takahe dihediad yn ddiflanedig

Mae gan Seland Newydd gymysgfa ryfedd o fywyd gwyllt, gyda mwy o rywogaethau o adar sydd ddim yn gallu hedfan nag unrhyw le arall yn y byd. Mae’n gartref i’r tuatara, ymlusgiad sy’n debyg i fadfall ac sy’n gallu byw hyd at 100 o flynyddoedd! Yr unig famaliaid brodorol ydy’r ychydig o rywogaethau o ystlumod, a rhai mamaliaid dyfrol mawr, gan gynnwys morfilod a dolffiniaid.

Mae Tystion Jehofa wedi bod yn pregethu yn Seland Newydd am 120 o flynyddoedd bron. Maen nhw’n dysgu am y Beibl mewn o leiaf 19 o ieithoedd, gan gynnwys ieithoedd Polynesia, fel y Niweeg, y Raratongeg, y Samöeg, a’r Tongeg.

Y Maori yn perfformio cân

Y Maori yn perfformio cân wedi ei choreograffu mewn gwisg draddodiadol

OEDDECH CHI’N GWYBOD?

Mae’r enw Seland Newydd yn dod o Zeeland, ardal yn yr Iseldiroedd. Mae’r enw Maori Aotearoa yn golygu “Gwlad y Cwmwl Gwyn Hir.”

Er bod y rhan fwyaf o bobl Seland Newydd yn siarad Saesneg, mae’r iaith frodorol, Maori, ar gynnydd ac mae’n cael ei dysgu yn yr ysgolion bellach. Mae gwefan swyddogol Tystion Jehofa, jw.org, ar gael yn yr iaith Maori.

  • POBLOGAETH: 4.7 MILIWN

  • PRIFDDINAS: WELLINGTON

  • TIR: MAE YNYS Y GOGLEDD YN ADNABYDDUS AM WEITHGAREDD FOLCANIG A THERMAL. MAE GAN YNYS Y DE FILOEDD O REWLIFOEDD

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu