ERTHYGL ASTUDIO 27
CÂN 73 Dyro Inni Hyder
Bydda’n Ddewr Fel Sadoc
“[Roedd] Sadoc [yn] llanc dewr.”—1 CRON. 12:28, BCND.
PWRPAS
Sut gall esiampl Sadoc ein helpu ni i fod yn ddewr.
1-2. Pwy oedd Sadoc? (1 Cronicl 12:22, 26-28)
DYCHMYGA fod tyrfa fawr o dros 340,000 o ddynion wedi ymgasglu er mwyn coroni Dafydd yn Frenin ar Israel. Am dri diwrnod, roedd bryniau creigiog Hebron wedi bod yn llawn siarad, chwerthin, a chanu. (1 Cron. 12:39) Yn ôl pob tebyg, ni fyddai llawer wedi sylwi ar ddyn ifanc fel Sadoc ymysg y dyrfa. Ond, gwnaeth Jehofa sylwi arno, ac roedd Ef eisiau i ni wybod amdano hefyd. (Darllen 1 Cronicl 12:22, 26-28.) Pwy oedd Sadoc?
2 Roedd Sadoc yn offeiriad a oedd yn gweithio’n agos iawn â’r Archoffeiriad Abiathar. Roedd Duw wedi rhoi llawer o ddoethineb i Sadoc, yn ogystal â’r gallu i ddeall Ei ewyllys. (2 Sam. 15:27) O ganlyniad i hyn, roedd pobl yn troi ato pan oedden nhw angen cyngor. Ond, yn yr erthygl hon, byddwn ni’n canolbwyntio ar un o’i rinweddau eraill, ei ddewrder.
3. (a) Pam mae’n rhaid i Gristnogion fod yn ddewr? (b) Beth byddwn ni’n ei drafod yn yr erthygl hon?
3 Yn ystod y dyddiau olaf hyn, mae Satan yn ymosod ar bobl Dduw yn fwy byth. (1 Pedr 5:8) Mae’n rhaid inni ddangos dewrder wrth inni ddisgwyl am i Jehofa ddod â diwedd ar system ddrygionus Satan. (Salm 31:24) Gad inni ystyried tair ffordd gallwn ni efelychu dewrder Sadoc.
CEFNOGA DEYRNAS DDUW
4. Pam mae’n rhaid i bobl Dduw fod yn ddewr er mwyn cefnogi Teyrnas Dduw? (Gweler hefyd y llun.)
4 Rydyn ni, fel pobl Jehofa, yn cefnogi Teyrnas Dduw gyda’n holl galon. Ond yn aml, mae hynny’n gofyn am ddewrder. (Math. 6:33) Er enghraifft, mae’n gofyn am ddewrder i fyw yn ôl safonau Jehofa, i bregethu’r newyddion da, ac i aros yn niwtral. (Ioan 18:36; 1 Thes. 2:2) Mae llawer o bobl Dduw wedi cael eu brifo, eu carcharu, neu wedi profi problemau ariannol oherwydd gwrthod cael rhan mewn gwleidyddiaeth a rhyfeloedd.
Beth byddi di’n ei wneud pan fydd eraill yn cymryd ochrau yng ngwleidyddiaeth? (Gweler paragraff 4)
5. Pam roedd rhaid i Sadoc fod yn ddewr er mwyn cefnogi Dafydd?
5 A oedd Sadoc wedi mynd i Hebron er mwyn dathlu brenhiniaeth Dafydd yn unig? Nag oedd! Roedd Sadoc yn barod i ymladd, i ddilyn arweiniad Dafydd, ac i amddiffyn Israel. (1 Cron. 12:38) Efallai doedd Sadoc ddim yn filwr profiadol iawn, ond roedd yn hynod o ddewr.
6. Sut gwnaeth Dafydd osod esiampl dda i Sadoc? (Salm 138:3)
6 Sut gwnaeth offeiriad fel Sadoc ddysgu i fod mor ddewr? Mae’n siŵr bod esiamplau’r dynion cryf a dewr o’i gwmpas wedi bod o les iddo. Er enghraifft, roedd Dafydd yn wastad wedi dibynnu ar Jehofa am help, ac roedd wedi ennill parch a chefnogaeth y bobl drwy “arwain byddin Israel” yn ddewr. (1 Cron. 11:1, 2; Salm 28:7; darllen Salm 138:3.) Ar ben hynny, roedd Sadoc yn adnabod llawer o ddynion anhygoel eraill, fel Jehoiada a’i fab Benaia yn ogystal â 22 arweinydd a oedd yn cefnogi Dafydd yn ddewr.—1 Cron. 11:22-25; 12:26-28.
7. (a) Pa esiamplau modern o ddewrder gallwn ni eu dilyn? (b) Beth gwnest ti ei ddysgu oddi wrth esiampl y brawd Nsilu yn y fideo?
7 Mae myfyrio ar esiamplau pobl sydd wedi cefnogi teyrnasiad Jehofa yn rhoi cymaint o nerth a dewrder inni. Roedd ein Brenin, Iesu Grist, yn gwrthod pwysau i gael rhan yng ngwleidyddiaeth byd Satan tra oedd ar y ddaear. (Math. 4:8-11; Ioan 6:14, 15) Roedd ef yn wastad yn dibynnu ar Jehofa am nerth. Ar ben hynny, mae gynnon ni gymaint o esiamplau heddiw o ddynion ifanc sydd wedi gwrthod mynd i ryfel neu gael rhan mewn gwleidyddiaeth. Beth am ddarllen rhai o’u profiadau ar jw.org?a
HELPA DY FRODYR
8. Pryd bydd rhaid i henuriaid fod yn ddewr er mwyn helpu eu brodyr a’u chwiorydd?
8 Mae pobl Jehofa wrth eu boddau yn helpu ei gilydd. (2 Cor. 8:4) Ond, weithiau, gall hynny hefyd ofyn am ddewrder. Er enghraifft, pan mae rhyfel yn taro, mae henuriaid lleol yn gweld y pwysigrwydd o ofalu am anghenion emosiynol, ysbrydol, a materol eu brodyr a’u chwiorydd. Mae cariad yn eu cymell nhw i beryglu eu bywydau er mwyn helpu eu teulu ysbrydol. (Ioan 15:12, 13) Drwy wneud hynny, maen nhw’n dilyn esiampl ddewr Sadoc.
9. Yn ôl 2 Samuel 15:27-29, beth gwnaeth Dafydd ofyn i Sadoc ei wneud? (Gweler hefyd y llun.)
9 Roedd bywyd Dafydd yn y fantol. Roedd ei fab, Absalom, yn benderfynol o gipio’r orsedd. (2 Sam. 15:12, 13) Roedd rhaid i Dafydd adael Jerwsalem ar unwaith! Dywedodd wrth ei bobl: “Rhaid i ni ffoi, neu wnawn ni ddim dianc oddi wrth Absalom. Dewch!” (2 Sam. 15:14) Wrth i bawb ddechrau gadael, sylweddolodd Dafydd fod rhaid i rywun aros i ddysgu am gynllwynion Absalom. Felly, fe wnaeth anfon Sadoc ac offeiriaid eraill yn ôl i’r ddinas fel ysbïwyr. (Darllen 2 Samuel 15:27-29.) Roedd rhaid iddyn nhw fod yn ofalus. Roedd Dafydd wedi gofyn iddyn nhw wneud rhywbeth hynod o beryglus. Dychmyga beth fyddai dyn mor egotistaidd, cas, a bradwrus ag Absalom wedi ei wneud i Sadoc a’r offeiriaid eraill petasai wedi darganfod eu bod nhw ar ochr Dafydd!
Gwnaeth Dafydd anfon Sadoc ar aseiniad anodd (Gweler paragraff 9)
10. Sut gwnaeth Sadoc a’r rhai oedd gydag ef amddiffyn Dafydd?
10 Roedd gan Dafydd gynllun a oedd yn cynnwys Sadoc a Chwshai, ffrind ffyddlon arall iddo. (2 Sam. 15:32-37) Llwyddodd Chwshai i ennill hyder Absalom, ac i awgrymu strategaeth a fyddai’n rhoi amser i Dafydd baratoi am y frwydr i ddod. Nesaf, dywedodd Chwshai wrth Sadoc ac Abiathar beth roedd Absalom yn bwriadu ei wneud. (2 Sam. 17:8-16) Yna, roedd rhaid i’r dynion hynny anfon neges at Dafydd. (2 Sam. 17:17) Gyda help Jehofa, roedd Sadoc a’i gyd-offeiriaid yn gallu chwarae rôl bwysig ac amddiffyn Dafydd.—2 Sam. 17:21, 22.
11. Sut gallwn ni efelychu dewrder Sadoc wrth helpu ein brodyr?
11 Sut gallwn ni ddangos dewrder fel Sadoc os oes rhaid inni amddiffyn ein brodyr a’n chwiorydd yn ystod adegau peryglus? (1) Dilyna arweiniad. Mae’n hynod o bwysig inni fod yn unedig o dan amgylchiadau o’r fath, felly cydweithia ag arweiniad y gangen leol. (Heb. 13:17) Dylai henuriaid adolygu’r trefniadau lleol yn ogystal ag arweiniad y gyfundrefn ynglŷn â beth i’w wneud cyn ac yn ystod trychineb. (1 Cor. 14:33, 40) (2) Bydda’n ddewr ond yn ofalus. (Diar. 22:3) Bydda’n gall, a phaid â chymryd risgiau di-angen. (3) Dibynna ar Jehofa. Cofia fod Jehofa eisiau i ti a dy frodyr a dy chwiorydd fod yn saff. Gall Jehofa dy helpu di i helpu eraill mewn ffordd ddiogel.
12-13. Beth rwyt ti’n ei ddysgu oddi wrth brofiadau Viktor a Vitalii? (Gweler hefyd y llun.)
12 Ystyria brofiad Viktor a Vitalii, brodyr ysbrydol a wnaeth helpu i ddarparu bwyd a dŵr i’w gyd-addolwyr yn Wcráin. “Roedden ni’n chwilio ym mhobman am fwyd,” meddai Viktor. “Ac yn aml roedd pobl yn saethu o’n cwmpas ni. Cyfrannodd un brawd fwyd roedd ef wedi ei storio, ac fe wnaeth hynny helpu llawer o gyhoeddwyr am gyfnod. Pan oedden ni wrthi’n llenwi’r tryc, gwnaeth roced lanio tua 20 metr (66 tr) i ffwrdd ohonon ni. Drwy gydol y diwrnod, roeddwn i’n erfyn ar Jehofa am y dewrder roedd ei angen arna i er mwyn helpu’r cyhoeddwyr.”
13 “Roedd yn gofyn am gymaint o ddewrder,” meddai Vitalii. “Cymerodd fy nhaith gyntaf 12 awr, ac roeddwn i’n gweddïo ar Jehofa yr holl ffordd.” Dangosodd Vitalii ddewrder, ond roedd hefyd yn ofalus. Dywedodd: “Gweddïais yn ddi-baid ar Jehofa am ddewrder a gwyleidd-dra. Roeddwn i ond yn gyrru ar y ffyrdd roedd yr heddlu wedi eu cymeradwyo. Fe wnes i hefyd elwa o weld y brodyr a’r chwiorydd yn gweithio gyda’i gilydd. Roedden nhw’n clirio’r ffyrdd, yn casglu ac yn darparu nwyddau, ac yn rhoi inni fwyd a llefydd i gael gorffwys ar hyd y ffordd.”
Bydda’n ddewr ond yn ofalus wrth helpu dy frodyr yn ystod adegau peryglus (Gweler paragraffau 12-13)
ARHOSA’N FFYDDLON I JEHOFA
14. Sut rydyn ni’n teimlo pan mae rhywun rydyn ni’n ei garu yn gadael Jehofa?
14 Mae’n ein brifo ni i’r byw pan mae aelod o’n teulu neu ffrind agos yn gadael Jehofa, ac mae’n anoddach byth os ydyn ni’n agos iawn atyn nhw. (Salm 78:40; Diar. 24:10) Os wyt ti wedi teimlo poen o’r fath, gall esiampl Sadoc dy gryfhau di.
15. Pam roedd rhaid i Sadoc fod yn ddewr er mwyn aros yn ffyddlon i Jehofa? (1 Brenhinoedd 1:5-8)
15 Arhosodd Sadoc yn ffyddlon i Jehofa pan drodd ei ffrind agos, Abiathar, yn anffyddlon ar ddiwedd teyrnasiad Dafydd. Er bod Jehofa wedi addo’r frenhiniaeth i Solomon, ddim yn hir cyn i Dafydd farw fe wnaeth Adoneia geisio bod yn frenin. (1 Cron. 22:9, 10) Penderfynodd Abiathar gefnogi Adoneia. (Darllen 1 Brenhinoedd 1:5-8.) Drwy wneud hynny, cefnodd ar Dafydd a Jehofa! A elli di ddychmygu pa mor drist a siomedig fyddai Sadoc wedi teimlo? Roedd wedi gweithio’n agos ag Abiathar fel offeiriad am tua 40 mlynedd! (2 Sam. 8:17) Roedden nhw wedi gofalu am Arch Duw, cefnogi brenhiniaeth Dafydd, a gwneud llawer mwy gyda’i gilydd.—2 Sam. 15:29; 19:11-14.
16. Beth efallai a helpodd Sadoc i fod yn ddewr?
16 Arhosodd Sadoc yn ffyddlon i Jehofa er gwaethaf penderfyniad Abiathar, ac roedd Dafydd yn ei drystio’n llwyr. Pan ddaeth cynllwyn Adoneia i’r amlwg, gwnaeth Dafydd droi at Sadoc, Nathan, a Benaia i eneinio Solomon yn frenin. (1 Bren. 1:32-34) Mae’n siŵr bod treulio amser gyda gweision ffyddlon Jehofa fel Nathan a chefnogwyr eraill y Brenin Dafydd wedi rhoi nerth ac anogaeth i Sadoc. (1 Bren. 1:38, 39) Ar ben hynny, pan ddaeth Solomon yn frenin, dewisodd “Sadoc yr offeiriad i gymryd swydd Abiathar.”—1 Bren. 2:35.
17. Sut gelli di efelychu Sadoc petasai rhywun sy’n agos atat ti’n penderfynu gadael Jehofa?
17 Sut gelli di efelychu Sadoc? Petasai rhywun agos atat ti’n penderfynu gadael Jehofa, dangosa i Jehofa dy fod ti’n benderfynol o aros yn ffyddlon iddo. (Jos. 24:15) Bydd ef yn rhoi’r nerth a’r dewrder sydd eu hangen arnat ti. Dibynna arno mewn gweddi, ac arhosa’n agos i gyd-addolwyr ffyddlon. Mae Jehofa’n trysori dy ffyddlondeb, a bydd ef yn dy wobrwyo di am hynny.—2 Sam. 22:26.
18. Beth rwyt ti’n ei ddysgu oddi wrth brofiad Marco a Sidse?
18 Ystyria esiampl Marco a’i wraig, Sidse. Penderfynodd eu dwy ferch stopio gwasanaethu Jehofa. Dywedodd Marco: “Rwyt ti’n caru dy blant yn fawr iawn o’r eiliad maen nhw’n cael eu geni. Rwyt ti’n gwneud popeth posib i’w hamddiffyn nhw. Felly, mae’n wir yn torri dy galon pan maen nhw’n penderfynu gadael Jehofa. Ond, mae Jehofa wedi bod yn gefn inni. Mae wedi sicrhau pan ydw i’n teimlo’n wan, mae fy ngwraig yn gryf. A phan mae fy ngwraig yn teimlo’n wan, rydw i’n gryf.” Mae Sidse yn ychwanegu: “Fydden ni byth wedi gallu dyfalbarhau heb y nerth mae Jehofa wedi ei roi inni. Roeddwn i’n meddwl mai fi oedd ar fai. Felly, fe wnes i rannu fy nheimladau â Jehofa mewn gweddi. Gwelais chwaer doeddwn i ddim wedi ei gweld ers talwm. Daeth hi ata i, rhoi ei llaw ar fy ysgwydd, a dweud: ‘Cofia, Sidse! Paid â beio dy hun!’ Gyda help Jehofa, dwi wedi llwyddo i barhau i’w wasanaethu yn llawen.”
19. Beth rwyt ti’n benderfynol o’i wneud?
19 Mae Jehofa’n dymuno i bob un o’i weision fod yn ddewr fel Sadoc. (2 Tim. 1:7) Ond dydy Jehofa ddim eisiau inni ddibynnu ar ein nerth ein hunain; mae eisiau inni ddibynnu arno Ef. Felly, wrth iti ddod ar draws sefyllfa sy’n gofyn am ddewrder, tro at Jehofa. Gelli di fod yn hyderus y bydd Jehofa’n dy helpu di i fod yn ddewr fel Sadoc!—1 Pedr 5:10.
CÂN 126 Byddwch Effro, Byddwch yn Wrol!
a Gwylia’r fideo Mae Angen i Wir Gristnogion Fod yn Ddewr—I Aros yn Niwtral ar jw.org