Genesis
33 Nawr gwelodd Jacob fod Esau yn dod, ac roedd 400 o ddynion gydag ef. Felly rhannodd y plant rhwng Lea, Rachel, a’r ddwy forwyn. 2 Rhoddodd y morynion a’u plant yn y blaen, Lea a’i phlant y tu ôl iddyn nhw, a Rachel a Joseff yn olaf. 3 Yna, aeth Jacob ei hun o’u blaenau nhw, ac ymgrymu ar y llawr saith gwaith wrth iddo nesáu at ei frawd.
4 Ond rhedodd Esau i’w gyfarfod, a’i gofleidio a’i gusanu, a dyma’r ddau yn dechrau crio. 5 Pan edrychodd Esau a gweld y merched* a’r plant, dywedodd: “Pwy ydy’r rhain sydd gyda ti?” Atebodd Jacob: “Y plant mae Duw wedi bod yn ddigon caredig i’w rhoi i dy was.” 6 Gyda hynny, daeth y morynion a’u plant ymlaen ac ymgrymu. 7 Daeth Lea a’i phlant ymlaen hefyd, ac ymgrymu. Yna, daeth Joseff a Rachel ymlaen ac ymgrymu.
8 Dywedodd Esau: “Pam gwnest ti anfon yr holl bobl a’r anifeiliaid yma i fy nghyfarfod i?” Atebodd: “Er mwyn dy blesio di, fy arglwydd.” 9 Yna dywedodd Esau: “Mae gen i lawer iawn o bethau, fy mrawd. Cadwa di beth sy’n perthyn i ti.” 10 Ond dywedodd Jacob: “Na, plîs, os ydw i wedi dy blesio di, mae’n rhaid iti dderbyn fy anrheg o fy llaw, oherwydd des i â hi er mwyn imi gael gweld dy wyneb. Ac mae gweld dy wyneb di fel gweld wyneb Duw, am dy fod ti wedi bod mor hapus i fy ngweld i. 11 Plîs cymera’r anrheg* rydw i wedi ei rhoi iti, oherwydd mae Duw wedi fy mendithio i ac mae gen i bopeth rydw i ei angen.” A pharhaodd i erfyn arno nes iddo ei chymryd.
12 Yn hwyrach ymlaen, dywedodd Esau: “Dewch inni fynd, a gad i mi fynd o dy flaen di.” 13 Ond dywedodd Jacob wrtho: “Fy arglwydd, rwyt ti’n gwybod bod y plant yn ifanc, a fy mod i’n gofalu am ddefaid a gwartheg sy’n magu rhai bach. Os byddan nhw’n cael eu gyrru yn rhy galed am un diwrnod, bydd y praidd cyfan yn marw. 14 Felly plîs, dos di o flaen dy was, fy arglwydd, ac mi wna i barhau ar y daith yn araf deg, yn ôl gallu fy anifeiliaid a’r plant, nes imi gyfarfod fy arglwydd yn Seir.” 15 Yna dywedodd Esau: “Plîs, gad imi adael rhai o fy mhobl gyda ti.” I hynny, dywedodd: “Does dim angen gwneud hynny. Mae dy blesio di, fy arglwydd, yn ddigon imi.” 16 Felly ar y diwrnod hwnnw, cychwynnodd Esau ar y daith yn ôl i Seir.
17 A theithiodd Jacob i Succoth, ac adeiladodd dŷ iddo’i hun a chytiau i’w braidd. Dyna pam gwnaeth ef alw’r lle yn Succoth.*
18 Ar ôl teithio o Padan-aram, cyrhaeddodd Jacob ddinas Sichem yng ngwlad Canaan yn ddiogel, a gwersylla yn agos at y ddinas. 19 Yna, prynodd ran o’r cae lle roedd ef wedi bod yn gwersylla oddi wrth feibion Hamor, tad Sichem, am 100 darn o arian. 20 Cododd allor yno a’i henwi Duw, Duw Israel.