LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • Barnwyr 17
  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

Braslun Barnwyr

      • Eilunod Micha a’i offeiriad (1-13)

Barnwyr 17:5

Troednodiadau

  • *

    Neu “duwiau teulu; eilunod.”

Barnwyr 17:10

Troednodiadau

  • *

    Neu “cynghorwr.”

  • Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
  • 1
  • 2
  • 3
  • 4
  • 5
  • 6
  • 7
  • 8
  • 9
  • 10
  • 11
  • 12
  • 13
Y Beibl—Cyfieithiad y Byd Newydd
Barnwyr 17:1-13

Barnwyr

17 Roedd ’na ddyn yn ardal fynyddig Effraim o’r enw Micha. 2 Dywedodd wrth ei fam: “A wyt ti’n cofio’r 1,100 darn o arian gafodd eu cymryd oddi wrthot ti? Gwnes i dy glywed di’n melltithio’r un wnaeth eu cymryd nhw. Mae’r arian gyda fi. Fi yw’r un wnaeth ei gymryd.” Gyda hynny, dywedodd ei fam: “Gad i Jehofa fendithio fy mab!” 3 Felly gwnaeth ef roi’r 1,100 darn o arian yn ôl i’w fam, ond dywedodd ei fam wrtho: “Gwna i sancteiddio fy arian i Jehofa. Rydw i eisiau i ti ei ddefnyddio i wneud eilun wedi ei gerfio a delw o fetel i ti dy hun. Felly rydw i’n rhoi’r arian yn ôl i ti.”

4 Ar ôl iddo ddychwelyd yr arian i’w fam, cymerodd ei fam 200 darn o arian a’u rhoi i’r gof arian. Gwnaeth ef eilun wedi ei gerfio a delw o fetel, a chawson nhw eu rhoi yn nhŷ Micha. 5 Roedd gan y dyn hwn, Micha, dŷ o dduwiau, a gwnaeth ef effod a delwau teraffim* a phenodi un o’i feibion i wasanaethu fel offeiriad iddo. 6 Bryd hynny, doedd ’na ddim brenin yn Israel. Roedd pawb yn gwneud beth oedd yn iawn yn ei olwg ei hun.

7 Nawr roedd ’na ddyn ifanc o Fethlehem yn Jwda oedd o deulu Jwda. Roedd yn Lefiad a oedd wedi bod yn byw yno am gyfnod. 8 Gwnaeth y dyn adael dinas Bethlehem yn Jwda i chwilio am rywle i fyw. Tra oedd ef ar ei daith, daeth i ardal fynyddig Effraim, at dŷ Micha. 9 Yna dywedodd Micha wrtho: “O le rwyt ti’n dod?” Atebodd: “Rydw i’n Lefiad o Fethlehem yn Jwda, ac rydw i ar y ffordd i chwilio am rywle i fyw.” 10 Felly dywedodd Micha wrtho: “Arhosa gyda fi a gwasanaethu fel tad* ac offeiriad imi. Gwna i roi deg darn o arian iti bob blwyddyn yn ogystal â’r dillad byddi di eu hangen a bwyd.” Ac aeth y Lefiad i mewn. 11 Cytunodd y Lefiad i aros gyda Micha, a daeth y dyn ifanc fel un o’i feibion. 12 Felly penododd Micha y Lefiad i wasanaethu fel offeiriad iddo, ac roedd yn byw yn nhŷ Micha. 13 Yna dywedodd Micha: “Nawr rydw i’n gwybod bydd Jehofa yn fy nhrin i’n dda, oherwydd mae fy offeiriad yn Lefiad.”

Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
Allgofnodi
Mewngofnodi
  • Cymraeg
  • Rhannu
  • Dewisiadau
  • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
  • Telerau Defnyddio
  • Polisi Preifatrwydd
  • Gosodiadau Preifatrwydd
  • JW.ORG
  • Mewngofnodi
Rhannu