LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • g24 Rhif 1 tt. 7-9
  • Beth Sydd Wedi Digwydd i Barch at Fywyd?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Beth Sydd Wedi Digwydd i Barch at Fywyd?
  • Deffrwch!—2024
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • PAM MAE PARCH AT FYWYD YN BWYSIG
  • BETH GALLWCH CHI EI WNEUD?
  • BETH RYDYN NI’N EI WNEUD?
  • Gwneud Neuaddau’r Deyrnas yn Saff yn Ystod COVID-19
    Sut Mae Eich Cyfraniadau yn Cael eu Defnyddio
  • Beth Dylwn i Ei Wybod am Smygu a Fêpio?
    Cwestiynau Pobl Ifanc
  • Beth Sydd Wedi Digwydd i Barch?
    Deffrwch!—2024
  • Cryfhau Eich Cymhelliad
    Deffrwch!—2010
Gweld Mwy
Deffrwch!—2024
g24 Rhif 1 tt. 7-9
Dyn ifanc yn gyrru ei gar tra bod ef a’i ffrindiau yn yfed alcohol.

Beth Sydd Wedi Digwydd i Barch at Fywyd?

PAM MAE PARCH AT FYWYD YN BWYSIG

Mae gweithredoedd sy’n dangos diffyg parch at fywyd yn gallu peryglu iechyd a diogelwch.

  • Mae smygu yn achosi canser a hefyd yn rhwystro gallu’r corff i frwydro yn ei erbyn. Mae tua 90 y cant o farwolaethau a achoswyd gan ganser yr ysgyfaint wedi dod o ganlyniad i smygu neu fwg ail-law.

  • Mae nifer mawr o bobl bob blwyddyn yn dioddef yn emosiynol oherwydd saethu torfol. Mae adroddiad gan Brifysgol Stanford yn dweud: “Mae ymchwil yn dangos bod hyd yn oed y rhai sy’n llwyddo i osgoi anafiadau corfforol [yn ystod saethu yn yr ysgol] yn cario creithiau emosiynol sy’n effeithio ar eu bywydau am flynyddoedd lawer.”

  • Pan mae pobl yn gyrru o dan ddylanwad alcohol neu gyffuriau, maen nhw’n peryglu gyrwyr eraill a cherddwyr. Drwy ddiystyru gwerth bywyd, maen nhw’n gwneud i bobl ddiniwed ddioddef.

BETH GALLWCH CHI EI WNEUD?

Gofalwch am eich iechyd. Dydy hi byth yn rhy hwyr i roi’r gorau i arferion fel smygu, fêpio, goryfed, neu gymryd cyffuriau. Mae pethau o’r fath yn niweidio eich bywyd ac yn dangos diffyg parch at fywydau pobl eraill, gan gynnwys eich teulu.

“Gadewch i ni lanhau ein hunain oddi wrth bob peth sy’n llygru cnawd.”—2 Corinthiaid 7:1.

Byddwch yn ofalus. Er mwyn osgoi damweiniau, cadwch eich tŷ a’ch car mewn cyflwr da. Gyrrwch yn ofalus. Peidiwch â gadael i eraill roi pwysau arnoch chi i wneud rhywbeth peryglus a all achosi niwed neu ladd rhywun.

“Wrth adeiladu tŷ newydd, rhaid i ti adeiladu wal isel o gwmpas y to. Wedyn os bydd rhywun yn syrthio oddi ar y to, nid dy fai di fydd e.”—Deuteronomium 22:8.a

Byddwch yn garedig. Mae parch at fywyd yn cynnwys sut rydyn ni’n teimlo am bobl o hil, cenedl, neu gefndir gwahanol. Wedi’r cwbl, rhagfarn a chasineb sydd wrth wraidd llawer o’r trais a’r rhyfeloedd rydyn ni’n eu gweld yn y byd.

“Mae’n rhaid ichi eich gwahanu eich hunain oddi wrth bob math o chwerwder maleisus, llid, dicter, sgrechian, a siarad cas, yn ogystal â phopeth niweidiol. Ond byddwch yn garedig wrth eich gilydd.”—Effesiaid 4:​31, 32.

BETH RYDYN NI’N EI WNEUD?

Mae Tystion Jehofa yn annog pobl i fyw yn iach. Mae ein cyrsiau Beiblaidd wedi helpu pobl i dorri’n rhydd o arferion dinistriol.

Rydyn ni’n glynu wrth safonau iechyd a diogelwch yn ein prosiectau adeiladu. Mae gynnon ni lawer o adeiladau sy’n cael eu defnyddio i gefnogi ein gwaith addysgol am y Beibl. Mae’r gwirfoddolwyr sy’n gweithio arnyn nhw wedi cael eu hyfforddi i osgoi damweiniau. Rydyn ni hefyd yn bwrw golwg dros ein hadeiladau yn aml er mwyn sicrhau eu bod nhw’n cydymffurfio â chyfreithiau diogelwch.

Rydyn ni’n rhoi cymorth ar ôl trychineb. O fewn un flwyddyn ddiweddar, ymatebon ni i tua 200 o drychinebau difrifol ar draws y byd a gwario bron i 12 miliwn o ddoleri er mwyn helpu rhai a oedd yn dioddef.

Pan oedd nifer mawr o achosion o Ebola yng Ngorllewin Affrica (2014) a Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo (2018), dysgon ni bobl sut i rwystro’r clefyd rhag lledaenu. Gwnaethon ni anfon cynrychiolwyr i siarad am y pwnc “Mae Ufudd-dod yn Achub Bywydau.” Gosodon ni fannau golchi dwylo tu allan i’n haddoldai a phwysleisio’r pwysigrwydd o olchi dwylo a chymryd camau eraill i atal y feirws.

Yn Sierra Leone, cafodd Tystion Jehofa eu canmol ar y radio am helpu Tystion ac eraill i osgoi dal y feirws.

Tystion Jehofa yn aros yn amyneddgar i olchi eu dwylo cyn myn mewn i Neuadd y Deyrnas.

Man golchi dwylo wrth ymyl Neuadd y Deyrnas tra bod Ebola ar led yn Liberia yn 2014

a Yn y Dwyrain Canol gynt, roedd y gorchymyn doeth hwn yn diogelu’r teulu ac eraill.

Óscar Serpas.

DYSGWCH FWY

Ar un adeg, roedd Óscar Serpas yn rhan o gang a doedd ef ddim yn parchu ei fywyd ei hun na bywydau pobl eraill. Dysgwch sut gwnaeth Tystion Jehofa ei helpu i newid. Chwiliwch am yr erthygl ar jw.org, “Roeddwn i’n Torri Bedd i Fi Fy Hun.”

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu