LLYFRGELL AR-LEIN y Tŵr Gwylio
LLYFRGELL AR-LEIN
Y Tŵr Gwylio
Cymraeg
  • BEIBL
  • CYHOEDDIADAU
  • CYFARFODYDD
  • g24 Rhif 1 tt. 13-15
  • Beth Sydd Wedi Digwydd i Barch at Eich Hun?

Nid oes fideo ar gael o fewn y dewis hwn.

Sori, cododd gwall wrth lwytho'r fideo.

  • Beth Sydd Wedi Digwydd i Barch at Eich Hun?
  • Deffrwch!—2024
  • Isbenawdau
  • Erthyglau Tebyg
  • PAM MAE HUNAN-BARCH YN BWYSIG
  • BETH GALLWCH CHI EI WNEUD?
  • BETH RYDYN NI’N EI WNEUD?
  • Beth Sydd Wedi Digwydd i Barch yn y Teulu?
    Deffrwch!—2024
  • Sut Gall Cyfarfodydd Tystion Jehofa Eich Helpu?
    Mwynhewch Fywyd am Byth!—Cwrs Rhyngweithiol am y Beibl
  • Doethineb ar Gyfer Bywyd Bob Dydd ar JW.ORG
    Ein Bywyd a’n Gweinidogaeth Gristnogol—Gweithlyfr y Cyfarfodydd—2022
  • Mwy o Help ar Gyfer y Teulu
    Deffrwch!—2018
Gweld Mwy
Deffrwch!—2024
g24 Rhif 1 tt. 13-15
Dynes drist yn edrych ar ei hun mewn drych.

Beth Sydd Wedi Digwydd i Barch at Eich Hun?

PAM MAE HUNAN-BARCH YN BWYSIG

Mae pobl sy’n eu parchu eu hunain yn gallu wynebu heriau bywyd â hyder. Dydyn nhw ddim yn rhuthro i roi’r ffidil yn y to.

  • Mae ymchwil yn dangos bod pobl sydd ddim yn meddwl llawer am eu hunain yn aml yn dioddef o orbryder, iselder, ac anhwylderau bwyta. Ac maen nhw’n fwy tueddol o gamddefnyddio alcohol a chyffuriau.

  • Dydy rhai sydd â hunan-barch ddim yn cymharu eu hunain ag eraill. O ganlyniad, mae ganddyn nhw berthynas well ag eraill ac maen nhw’n gwneud ffrindiau da. Ar y llaw arall, mae gan rai sydd heb hunan-barch dueddiad i fod yn feirniadol, sy’n gallu niweidio eu perthynas ag eraill.

  • Mae pobl sy’n eu parchu eu hunain yn gallu bwrw ymlaen pan maen nhw’n wynebu problemau; does dim byd yn gallu eu stopio nhw rhag cyrraedd eu nod. Yn wahanol i hynny, mae rhai sydd â diffyg hunan-barch yn gwneud môr a mynydd o broblemau bach. Yna, mae’n anodd iddyn nhw ddal ati.

BETH GALLWCH CHI EI WNEUD?

Dewiswch ffrindiau cefnogol. Treuliwch amser gyda phobl sy’n barchus, sy’n wir yn gofalu amdanoch chi, ac sy’n adeiladol.

“Mae ffrind yn ffyddlon bob amser; a brawd wedi’i eni i helpu mewn helbul.” —Diarhebion 17:17.

Helpwch eraill. Pan ydych chi’n garedig ac yn gwneud pethau dros eraill heb ddisgwyl unrhyw beth yn ôl, byddwch chi’n profi’r hapusrwydd go iawn sy’n dod o roi. Bydd hynny’n wir hyd yn oed os nad ydy eraill yn sylwi ar beth rydych chi’n ei wneud.

“Mae mwy o hapusrwydd yn dod o roi nag o dderbyn.”—Actau 20:35.

Helpwch eich plant i feithrin hunan-barch. Un ffordd o wneud hyn ydy drwy adael iddyn nhw ddatrys eu problemau eu hunain yn ôl eu gallu. Mae hynny’n dysgu plant sut i ddelio ag anawsterau ac i weithio trwyddyn nhw. Bydd hyn yn codi eu hunan-barch ac yn eu helpu nhw wrth iddyn nhw dyfu i fyny.

“Dysga blentyn y ffordd orau i fyw, a fydd e ddim yn troi cefn arni pan fydd e’n hŷn.”—Diarhebion 22:6.

Un o Dystion Jehofa yn astudio gyda dynes mewn caffi.
Un o Dystion Jehofa yn astudio gyda dynes mewn caffi.

BETH RYDYN NI’N EI WNEUD?

Mae cyfarfodydd Tystion Jehofa a’n cwrs astudio’r Beibl yn helpu pobl i wella eu bywydau ac i feithrin hunan-barch.

EIN CYFARFODYDD WYTHNOSOL

Yn ein cyfarfodydd wythnosol, rydyn ni’n mwynhau gwrando ar anerchiadau Beiblaidd sydd fel arfer yn cynnwys awgrymiadau ar sut i feithrin hunan-barch. Mae mynediad i’n cyfarfodydd am ddim ac mae ’na groeso i bawb. Yn ein cyfarfodydd, byddwch chi’n dysgu . . .

  • pam rydych chi’n bwysig i Dduw

  • sut i gael pwrpas mewn bywyd

  • sut i adeiladu perthynas dda ag eraill

Byddwch chi hefyd yn gwneud ffrindiau â rhai sy’n wir yn gofalu am ei gilydd. —1 Corinthiaid 12:​25, 26.

I ddysgu mwy am ein cyfarfodydd, chwiliwch ar jw.org am y fideo byr Beth Sy’n Digwydd yn Neuadd y Deyrnas?

EIN CWRS BEIBLAIDD

Rydyn ni’n cynnig cwrs rhyngweithiol am y Beibl am ddim gan ddefnyddio’r llyfr Mwynhewch Fywyd am Byth! Mae’r llyfr astudio hwn yn cynnwys adnodau pwysig, rhesymu clir, cwestiynau effeithiol, fideos calonogol, a lluniau prydferth. Mae’r cwrs hwn yn rhoi urddas i bobl ac yn gwella eu bywydau.

I weld sut gall astudio’r Beibl gyda Thystion Jehofa eich helpu chi, chwiliwch ar jw.org am y fideo byr Pam Astudio’r Beibl?

Israel Martínez.

DYSGWCH FWY

Roedd Israel Martínez yn teimlo’n israddol oherwydd nad oedd ganddo lawer o arian nac addysg. Chwiliwch am yr erthygl “Dydw i Ddim yn Teimlo Cywilydd Mwyach” ar jw.org i ddysgu sut roedd mynychu cyfarfodydd Tystion Jehofa ac astudio’r Beibl yn ei helpu i ennill hunan-barch.

    Cyhoeddiadau Cymraeg (1986-2025)
    Allgofnodi
    Mewngofnodi
    • Cymraeg
    • Rhannu
    • Dewisiadau
    • Copyright © 2025 Watch Tower Bible and Tract Society of Pennsylvania
    • Telerau Defnyddio
    • Polisi Preifatrwydd
    • Gosodiadau Preifatrwydd
    • JW.ORG
    • Mewngofnodi
    Rhannu